Cuesheet

Coroni Heddwch

Lines spoken by Y Tad (Total: 37)

 
(1, 0) 8 Ni fedrwn ni ddim dywedyd.
(1, 0) 9 Buom yn disgwyl yn hir.
(1, 0) 10 Gwelwch fod yr Orsedd yn wag.
 
(1, 0) 17 Na ddont, ni ddont i gyd yn eu holau.
 
(1, 0) 19 Dynion a'i gyrrodd i ffwrdd.
 
(1, 0) 24 Yr oedd fy mab yn gweithio gyda mi.
(1, 0) 25 Yr oeddwn i yn hen ac yn gwybod pethau, ac yntau yn ieuanc ac yn gryf.
(1, 0) 26 Gweithiem ein dau gyda'n gilydd.
(1, 0) 27 Daw llawenydd mawr i ddynion fo'n gweithio.
(1, 0) 28 A'r llawenydd yw, gweled y peth fo yn eu meddwl o'r diwedd yn cymryd ffurf yng ngwaith eu dwylaw.
(1, 0) 29 Weithiau, byddwn i yn blino, ac yn cofio bod yn rhaid i'm dyddiau gweithio ddyfod i ben, ond byddwn yn edrych ar fy mab, ac yn dywedyd wrthyf fy hun "Pan gymerer fi oddiwrth y dasg, bydd ef yn aros a'i fab ar ei ôl yntau."
(1, 0) 30 Ac yna, byddwn yn gwenu, canys byddwn fodlon.
(1, 0) 31 Peth mawr i ddynion yw gwybod na adewir mo waith y byd heb ei wneuthur.
(1, 0) 32 A chlyw dithau, 'r un bach, pan fo'r orsedd yn wag, bydd dynion yn drist, am fod yn rhaid iddynt ddinistrio.
 
(1, 0) 56 Nac ydynt, yr un bach, dim ond eu bod yn dymuno bod felly.
(1, 0) 57 Weithiau, bydd Balchter yn rhodio yn eu mysg, mewn clog aur, ac yn llefaru geiriau chŵyddedig ac yna, dyna ddiwedd ar ddaioni a doethineb.
 
(1, 0) 60 Ie; un fydd yn cerdded mewn lleoedd cyhoeddus.
 
(1, 0) 64 Syr, da y boch.
 
(1, 0) 76 Oni ddont â hi, ni bydd yfory ond megis doe.
(1, 0) 77 Ni bydd diwedd ar golled, ac ofer a fydd gwaith dynion yn dragywydd.
 
(1, 0) 91 Gwelwch dyrfa ar y ffordd.
 
(1, 0) 100 Pwl yw fy ngolwg i.
 
(1, 0) 106 Dywedwch─
(1, 0) 107 Pwy sy'n cerdded o'u blaenau?
 
(1, 0) 111 Y Frenhines yw hi.
 
(1, 0) 115 O Dduw, diolchwn iti yn awr, nyni sy'n adeiladu'r byd yn Deml wrth dy gynllun Di.
 
(1, 0) 117 Pwy sy'n cerdded yn ochr y Frenhines?
 
(1, 0) 135 Hebot ti, nid ŷm ni ddim, ac nid yw gwaith ein dwylaw ond llwch.
 
(1, 0) 143 O, Frenhines dawel, fwyn, dyma ni'n dysgu unwaith eto.
 
(1, 0) 162 O, Ŵr Ieuanc o'r ffordd chwerw, pa beth a rydd yr hen wŷr iti, fel y deui yn dy ôl o'th hynt?
 
(1, 0) 169 Gofynnwch a fynnoch.
(1, 0) 170 Dywedwch yn awr pa beth a ddymunech gennym.
 
(1, 0) 174 Nid ydych yn gofyn digon.
(1, 0) 175 (Wrth y DYRFA.)
(1, 0) 176 Gyfeillion, ai dyna'r cwbl a haeddodd ef?
 
(1, 0) 179 Aethoch ar hyd ffordd gofidiau a chawsoch ein Brenhines.
(1, 0) 180 Bellach gofynnwch y peth a ewyllysio 'ch calon.