Cuesheet

Coroni Heddwch

Lines spoken by Y Wyryf (Total: 28)

 
(1, 0) 13 Fy mam, rhaid i ni gredu.
(1, 0) 14 Oni ddywedasant hwy, os ai'r dynion ieuainc ar yr hynt hon, y doent o hyd iddi?
(1, 0) 15 Ac y maent wedi mynd.
 
(1, 0) 44 Byddwn, yr un bach.
(1, 0) 45 Byddwn innau'n ddedwydd.
(1, 0) 46 Awn am dro gyda'm cariad gyda'r hwyr.
(1, 0) 47 Gwelwn oleuni yn ei lygaid pan ddown i yn agos.
(1, 0) 48 Dewiswyd ni y naill ar gyfer y llall.
(1, 0) 49 Byddem ein dau yn ffyddlon ac yn ymddiried i'n gilydd.
(1, 0) 50 Ni wyddem ni ddim beth a ddigwyddai i ni, ond nid ofnem.
(1, 0) 51 Nid tywyliwch oedd yn cuddìo ein ffordd, ond rhyw niwl â lamp wen yn tywynnu ynddo.
(1, 0) 52 O! chwerw fu'r amser i gariadon, ac y mae llawer fel finnau heb ddim bellach ond atgof.
 
(1, 0) 59 Dyma un yr adwaenom ei wyneb.
 
(1, 0) 80 Ai felly y lleferwch yn y farchnadfa?
(1, 0) 81 Cymylu'r awyr a wnewch pan edrychom at yr haul.
(1, 0) 82 O, yr Amheuwr, oni bydd eto ddigon o ddagrau?
(1, 0) 83 Oni welwch chwi y mynnai'r bobl hi yn Frenhines dros byth?
 
(1, 0) 89 Lleisiau, lleisiau llawen lawer.
 
(1, 0) 93 O, pedfai 'r Frenhines!
 
(1, 0) 103 Tyrfa o wŷr a gwragedd; ac y maent yn llawen.
 
(1, 0) 108 Rhywun mewn gwisg wen; a'i hwyneb yn dawel a phrydferth.
(1, 0) 109 Tyrrant o'i hamgylch.
(1, 0) 110 Dacw hi yn gwenu, ac─O─y mae bendith yn ei gwên.
 
(1, 0) 114 O Dduw, diolchwn iti yn awr, nyni, a'u câr, ac a garant.
 
(1, 0) 118 Rhywun yn ei harwain gerfydd ei llaw at yr orsedd.
 
(1, 0) 121 Dyn ieuanc, yn lluddedig a gwael, a gwisg milwr amdano,
 
(1, 0) 145 O dyro i ni eto'n ôl y dyddiau hyfryd hynny yr oedd eu gwynfyd yn fwy nag a wyddem.
 
(1, 0) 164 O, gariad rhyw eneth unig, pa beth a roddwn ninnau, nad ydym unig mwy?