|
|
|
|
(0, 2) 90 |
Ai dyna'r cwbl oedd gennyt i'w lefaru? |
(0, 2) 91 |
A ddôi di fyth i achwyn a galaru? |
(0, 2) 92 |
A oes ar wyneb daear ddim yn iawn? |
|
|
(0, 2) 96 |
Ai hysbys iti Faust? |
|
|
(0, 2) 98 |
Ie, fy ngwas! |
|
|
(0, 2) 107 |
Os croes yw ei wasanaeth ef a'i ffyrdd, |
(0, 2) 108 |
Cyn hir fe'i dygaf i'r goleuni drwyddyn; |
(0, 2) 109 |
Fe ŵyr y garddwr, pan fo'r pren yn wyrdd, |
(0, 2) 110 |
Y daw y ffrwyth yn dâl am lafur blwyddyn. |
|
|
(0, 2) 114 |
Cyd ag y byddo fyw'n y byd efô, |
(0, 2) 115 |
Cyhyd ni byddi dithau waharddedig. |
(0, 2) 116 |
Tra brwydro dyn, fe dripia ambell dro. |
|
|
(0, 2) 122 |
O'r goreu! bydded iddo fel y mynni! |
(0, 2) 123 |
Dwg di yr ysbryd hwn o'i darddell gynt, |
(0, 2) 124 |
Ac arwain yntau gyda thi, os ffynni, |
(0, 2) 125 |
I rodio ymaith ar dy ddewis hynt, |
(0, 2) 126 |
 gwêl, gan gywilyddio, yn dy dro, |
(0, 2) 127 |
Fod pob dyn da'n adnabod ffordd uniondeb, |
(0, 2) 128 |
Er brithed fydd ei dueddiadau fo. |
|
|
(0, 2) 135 |
Bydd rydd it ddyfod yma ac ymado, |
(0, 2) 136 |
Cans ni chasëais i mo'th debyg di; |
(0, 2) 137 |
O'r holl ysbrydion hynny ar a wado, |
(0, 2) 138 |
Y castiog ydyw'r lleia'i bwys i mi. |
(0, 2) 139 |
Bydd galiu dyn yn fuan yn dihoeni, |
(0, 2) 140 |
Câr lwyr ddiogi, ac am hyn y bu |
(0, 2) 141 |
Roi iddo ef gydymaith fyth y sy |
(0, 2) 142 |
Yn synnu a swyno, ac, megys diawl, yn poeni. |
(0, 2) 143 |
Ond llawen fyddoch chwi, wir feibion Duw, |
(0, 2) 144 |
Ynghanol y prydferthwch uchel ryw! |
(0, 2) 145 |
Y grym, sy'n gweithio ac yn byw'n ddi baid, |
(0, 2) 146 |
Yn nedwydd rwymyn cariad a'ch llehäo, |
(0, 2) 147 |
Â'r peth a rithlyd wibio ar ei naid, |
(0, 2) 148 |
Gosodwch mewn meddyliau a barhäo! |