| (2, 2) 1020 | Nag wyt, gyfaill. |
| (2, 2) 1021 | Wrth gwrs nag wyt ti. |
| (2, 2) 1022 | A nid dy fai di yw hynny. |
| (2, 2) 1023 | Mi wyt yn un â'r lleng. |
| (2, 2) 1024 | Mi wyt - drwy hap a hapus ddamwain – yn rhan o'r llif. |
| (2, 2) 1025 | Dwyt ti erioed wedi sefyll – wedi gorfod sefyll - yn ei erbyn. |
| (2, 2) 1026 | Dwyt ti erioed wedi profi grym y canol hollbwerus yn amsugno'r ymylon anystywallt at beiriant mawr grym ac ufudd-dod. |
| (2, 2) 1027 | Dwyt ti ddim yn anghydffurfiwr. |
| (2, 2) 1028 | Dwyt ti ddim – hyd yn hyn, beth bynnag – yn wrthdystiwr. |
| (2, 2) 1029 | ~ |
| (2, 2) 1030 | ~ |
| (2, 2) 1031 | A'm calon innau'n llawn ystormus lid |
| (2, 2) 1032 | A siomedigaeth, weled gwywo gwrid |
| (2, 2) 1033 | Gobeithion gloywon ac ymdeithion oes – |
| (2, 2) 1034 | Nid ufudd oeddwn oddi tan y groes. |
| (2, 2) 1035 | ~ |
| (2, 2) 1036 | [Y Trydydd – T Gwynn Jones] |
| (2, 2) 1038 | Esgusodwch fi. Lle anodd yw'r tŷ hwn. Lle anodd iawn. |
| (2, 9) 1426 | Am hynny cas gennyf einioes, canys blin gennyf y gorchwyl a wneir dan haul; canys... |
| (2, 9) 1428 | ... a gorthrymder ysbryd... |