| (1, 0) 266 | Nos dda Mrs. Jones. |
| (1, 0) 269 | Nos dda, Mr. Jones. |
| (1, 0) 272 | Na, eistedda i ddim, diolch ichi. |
| (1, 0) 273 | Mae genni neges arbennig yma heno a rwy mewn tipyn o frys, gan fod genni sawl man arall i fynd iddo. |
| (1, 0) 275 | le? |
| (1, 0) 282 | Yn ara bach, Mr. Jones, yn ara bach. |
| (1, 0) 283 | Nid y chi na'r wraig rwy wedi ddodi yn yr adran Saesneg i ddysgu Cymraeg, ond Tomi. |
| (1, 0) 285 | Fe all hynny fod, ond 'd yw e'n deall dim nag yn medru siarad dim Cymraeg ond yr hyn y mae e wedi ei ddysgu yn yr ysgol. |
| (1, 0) 287 | Ie, ie: Cymro yw Tomi. |
| (1, 0) 288 | Pan gychwynwyd dysgu Cymraeg yn yr ysgol roedd genni broblem ddyrus iawn i'w hwynebu. |
| (1, 0) 289 | Roedd genni rai plant yn medru siarad Cymraeg yn rhydd ac yn rhwydd. |
| (1, 0) 290 | Yr oedd yna ereill yn deall yr iaith ond heb fedru ei siarad hi. |
| (1, 0) 291 | Roedd yna nifer wedyn yn Gymry o ran gwaed, a Tomi yn eu plith, heb fedru siarad na deall Cymraeg, a Saeson bach uniaith oedd y gweddill o aelwydydd hollol Saesneg. |
| (1, 0) 292 | Doedd genni ddim i'w wneud ond casglu'r plant oedd yn medru siarad neu ddeall yr iaith at ei gilydd a gwneud dosbarth ohonynhw, a gosod y gweddill, yn Gymry ac yn Saeson mewn adran arall. |
| (1, 0) 294 | Y mae hynny yn dibynnu i raddau mawr arnoch chi a Mrs. Jones. |
| (1, 0) 295 | Rwy am wneud bargen â chi'ch dau heno. |
| (1, 0) 296 | Y mae genni rai degau o blant yn dod o aelwydydd tebig i hon, a phob un ohonynhw mewn adran Saesneg. |
| (1, 0) 297 | Rwy wedi bod eisoes yn gweld rhai o'r rhieni a gwneud cytundeb â nhw. |
| (1, 0) 298 | Siaradwch chi Gymraeg â Thomi ar yr aelwyd, ac ymhen y flwyddyn, neu lai na hynny falle, mwy na thebig y galla'i ddodi Tomi mewn adran Gymraeg. |
| (1, 0) 304 | Ni gydnabyddwn i'r ysgol fod ar fai, ar fai mawr hefyd, ond ar yr un pryd, 'd allwch chi'ch dau ddim dweud eich bod chi'n hollol rydd, oherwydd y mae yna rieni, heb fod yn ddim gwell Cymry na chi, sydd wedi llwyddo i gadw'r iaith ar yr aelwyd. |
| (1, 0) 310 | Ydych chi'n sylweddoli beth ddywedsoch chi nawr wrth Tomi? "Put them sticks by there." |
| (1, 0) 312 | Tommy, get me your home-work book. |
| (1, 0) 313 | I want to see that exercise I marked for you this morning. |
| (1, 0) 315 | Gwrandewch: Dyma frawddeg o stori fach a ysgrifennodd Tomi neithiwr, "And the fairy told the little girl, 'Don't leave them flowers by there'." |
| (1, 0) 321 | Oh, y mae'r ddau air wedi'u spelio'n iawn. |
| (1, 0) 323 | Wyddoch chi ddim? |
| (1, 0) 326 | Fe'ch creda i chi'n rhwydd. |
| (1, 0) 327 | Petawn i'n sgrifennu brawddeg Gymraeg anghywir fan hyn nawr, mwy na thebig y gallech chi ei chywiro hi, heb fedru rhoi llawer o reswm dros hynny, ond fe fyddech yn teimlo ei bod hi'n anghywir a gwybod beth fydde'n iawn. |
| (1, 0) 328 | Welwch chi, y mae yna un peth nad ych chi'ch dau erioed wedi ei sylweddoli, sef yw hynny, bod eich Cymraeg chi'n ddigon gwell na'ch Saesneg chi. |
| (1, 0) 330 | Ydi, yn anrhaethol well. |
| (1, 0) 331 | Gwrandewch nawr o ddifri. |
| (1, 0) 332 | Y mae yna ddigon o Saesneg gwael yn yr ardal yma gan bobl heb fedru yr un gair o Gymraeg, 'd oes mo'r help am hynny—ond pan fo Cymry glân fel chi yn llabyddio'r Saesneg yng nghlyw'r plant ar yr aelwyd, y mae hynny'n fwy na alla i ei ddal. |
| (1, 0) 333 | Nid felly y mae hi bob amser, mi wn, ond dyna'r gwir yn aml iawn. |
| (1, 0) 335 | Falle mod i, ond dwy i ddim yn anheg. |
| (1, 0) 336 | Siaradwch chi Gymraeg â Thomi ar yr aelwyd a fe wnewch ddwy gymwynas bwysig â mi. |
| (1, 0) 337 | Yn gyntaf, fe fyddwch yn help i'r athro sy'n ceisio dysgu Cymraeg iddo, ac yn help mawr hefyd. |
| (1, 0) 338 | Yn ail, fe fydd gyda ni lai o waith yn yr ysgol i gywiro a diddymu gwallau mewn Saesneg y mae Tomi yn eu codi yma ar yr aelwyd gyda chi. |
| (1, 0) 339 | 'R wyn mynd nawr, ond beth am y fargen yna? |
| (1, 0) 341 | A chithe Mrs. Jones? |
| (1, 0) 343 | Diolch yn fawr i chi. |
| (1, 0) 345 | O do, fu hi yma? |
| (1, 0) 348 | Does dim rhaid i chi ofni'r hen wraig, Mrs. Jones, os daw hi yma. |
| (1, 0) 349 | Mwy na thebig y daw hi, oherwydd y mae hi wedi fy nilyn i i lawer man yn ddiweddar. |
| (1, 0) 350 | Peidiwch â'i gwrthod hi. |
| (1, 0) 351 | Y mae hi'n hofl iawn o blant. |
| (1, 0) 352 | Nos dda nawr. |