Ciw-restr

Absalom Fy Mab

Llinellau gan Cŵsi (Cyfanswm: 57)

 
(1, 0) 280 Clywaf ac ufuddhaf.
 
(1, 0) 322 Sefwch! Dim cam ymhellach heb roi'r gair!
 
(1, 0) 326 Ewch ymlaen eich dau.
 
(2, 2) 1585 Brad! Brad!! Brad!!!
 
(2, 2) 1589 Cyhoeddi Absalom yn Frenin Jwda.
 
(2, 2) 1591 Mae Absalom eisoes yn teyrnasu yn Hebron,
(2, 2) 1592 Calon gwŷr Jwda a aeth ar ei ôl.
 
(2, 2) 1594 Barn Duw a'i hyso! Ef yw tad y drwg.
(2, 2) 1595 Bradwr! Rhagrithiwr! Cythraul o lwynog ffals!
 
(2, 2) 1597 O ydyw, F'arglwydd, mae'n dychwelyd heddiw.
 
(2, 2) 1599 Ar flaen eu byddin y daw Ahitoffel,
(2, 2) 1600 Tan gario baner teyrn-fradwriaeth Absalom.
 
(2, 2) 1604 Rhedais bob cam... Cyrhaeddant hwy 'mhen dwyawr.
 
(3, 2) 2651 Buddugoliaeth!
 
(3, 2) 2655 Gwrando fy nghenadwri innau, arglwydd;
(3, 2) 2656 Myfi a anfonwyd gyntaf... Dial gwaedlyd
(3, 2) 2657 Heddiw a fu ar bawb o'r bradwyr budron.
(3, 2) 2658 Miloedd o'u cyrff fydd 'fory'n fwyd i frain
(3, 2) 2659 Tan farn y duwiau..
 
(3, 2) 2663 Fel hyn... a hyn...a hyn, boed i bob bradwr
(3, 2) 2664 A godo i'th erbyn... Felly y bu i'r llanc
(3, 2) 2665 Sydd heno'n gelain gegrwth...
 
(3, 2) 2678 Pob parch i'w dad. Thraethais-i ddim ond y gwir
(3, 2) 2679 Am ddiwedd bradwr.
 
(3, 2) 2681 Yn awr y fuddugoliaeth, a'n gelynion
(3, 2) 2682 Yn rhusio bendramwnwgwl drwy'r coed,
(3, 2) 2683 Safodd fy Meistr i dynnu saeth o'i glun
(3, 2) 2684 A golchi ei glwyf; a daeth picellwr ato
(3, 2) 2685 Gan ddweud mewn arswyd: "Fy Nghadfridog Joab,
(3, 2) 2686 Ganllath oddi yma gwelais olygfa syn—
(3, 2) 2687 Mae Absalom yn hongian wrth ei hirwallt
(3, 2) 2688 Tan dewfrig derwen, a'i anifail mud
(3, 2) 2689 Gerllaw'n ei ffroeni, wedi colli ei farchog
(3, 2) 2690 Oddi ar ei gefn wrth rusio o dan y gangen...
(3, 2) 2691 Mae'r llanc yn fyw!... "O, ynfyd!" medd fy Meistr,
(3, 2) 2692 ~
(3, 2) 2693 "Paham na threwaist ef ac ennill gennyf
(3, 2) 2694 Wregys anrhydedd a deg o siclau arian?"
(3, 2) 2695 ~
(3, 2) 2696 "Na," meddai yntau, "cofia air y Brenin!
(3, 2) 2697 Er mil o siclau byth nis lladdwn ef."
(3, 2) 2698 ~
(3, 2) 2699 Yna'r Cadfridog, o gawell arfau'r gŵr
(3, 2) 2700 A gipiodd yn ei lid dair o'i bicellau
(3, 2) 2701 A gwaeddodd arnom, "Hai! Dilynwch fi!"
(3, 2) 2702 ~
(3, 2) 2703 Ac â'r tair picell, ac Absalom eto'n fyw
(3, 2) 2704 Yn hongian felly, brathodd ef trwy'i galon.
(3, 2) 2705 A gwaeddodd ar ei lanciau oll i'w daro
(3, 2) 2706 A'i roi o'i boen... Felly y trengodd ef.
(3, 2) 2707 ~
(3, 2) 2708 A chan nad oedd ei gorff dan yr holl glwyfau
(3, 2) 2709 Yn gymwys i'w ddwyn adref at ei dad,
(3, 2) 2710 Fe'i claddwyd mewn ffos ddofn o dan y coed,
(3, 2) 2711 A gosod arno garnedd gerrig fawr;
(3, 2) 2712 Ac felly y darfyddo am bob bradwr!
 
(3, 2) 2720 'Rwy'n deall, Gapten. Gwnaf yn ôl dy air.