Ciw-restr

Absalom Fy Mab

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 492)

(1, 0) 1 Golygfa:
(1, 0) 2 ~
(1, 0) 3 Y Neuadd yn Llys Dafydd Frenin yng Nghaersalem.
(1, 0) 4 Symlrwydd llwyd-galchog sy'n nodweddu'r parwydydd ond fe dorrir trwyddynt gan dri phorth artistig.
(1, 0) 5 Ni cheir drysau i'r pyrth namyn llenni coeth o grimswn, weithiau'n gaeëdig, weithiau'n agored, yn ôl fel y bo'r galw.
(1, 0) 6 Ar hyn o bryd mae'r llenni'n agored yn y porth mawr sydd ar y dde yn y cefn; (de a chwith o safbwynt yr actor).
(1, 0) 7 Trwyddo gan hynny fe gawn gip ar yr ardd frenhinol tan heulwen bore teg o haf.
(1, 0) 8 Trwy'r porth hwn y daw pob cymeriad o'r byd oddi allan i'r Plas.
(1, 0) 9 ~
(1, 0) 10 Mae'r ail borth ychydig yn llai.
(1, 0) 11 Saif yntau yn y pared cefn, ychydig i'r chwith o'r canol; ac uwch ei fwa peintiwyd arwyddlun coron Israel a Jwda, canys hwn yw'r porth sy'n arwain i ystafell wely ac ystafelloedd preifat y Brenin.
(1, 0) 12 ~
(1, 0) 13 Yn y pared chwith, ac yn lled agos i flaen y llwyfan, y saif y trydydd porth—y lleiaf o'r tri.
(1, 0) 14 Hwn sy'n arwain i stafelloedd y gwragedd a'r plant, yr Harîm brenhinol.
(1, 0) 15 ~
(1, 0) 16 O'r tu hwnt i'r porth hwn rhed esgynlawr ar hanner tro hyd at bwynt yn y pared cefn, i'r dde o'r ail borth (sy'n arwain i stafelloedd y Brenin).
(1, 0) 17 Bydd dau ris yn esgyn o lawr y neuadd i'r esgynlawr hwn yr holl ffordd o amgylch yr hanner tro.
(1, 0) 18 Ar yr esgynlawr, ac yng nghornel chwith y neuadd gosodwyd gorseddfainc y Brenin.
(1, 0) 19 Ar hon y bydd yn eistedd i farnu Israel, pan ddygir cyngaws ger ei fron.
(1, 0) 20 Byddai gorseddfainc y Brenin hyd yn oed mor fore â hynny yn gelfyddydwaith wych, wedi ei haddurno ag aur ac ifori, ac yn gorffwys megis ur ddau lew goreurog.
(1, 0) 21 Nid yw'r gwychder hwnnw yn hanfodol i'r chwarae.
(1, 0) 22 Y mae troedfainc i'r chwith o'r orseddfainc.
(1, 0) 23 ~
(1, 0) 24 Syml yw'r gweddill o'r dodrefn.
(1, 0) 25 Mainc ar y pared de ar wyler eirchiaid a fo'n disgwyl wrth y Brenin; mainc lai ar y pared chwith rhwng porth y gwragedd a blaen y llwyfan.
(1, 0) 26 Bwrdd bychan ar y pared cefn, yn y gornel dde.
(1, 0) 27 Ar y bwrdd bydd llestri arian yn dwyn amryfal ffrwythau; bwrdd arall, llai, ar yr esgynlawr, ac ar y chwith i'r orseddfainc, yn dwyn costrelau gwin a ffiolau aur.
(1, 0) 28 ~
(1, 0) 29 Ar y pared chwith, rhwng porth y gwragedd a'r orseddfainc, croga telyn Dafydd yn segur ar yr hoel.
(1, 0) 30 Ar y pared de gosodwyd cleddyf Goleiath y Philistiad, cleddyf a ddefnyddiwyd gan Ddafydd yntau pan oedd ar ffo rhag cynddaredd Saul.
(1, 0) 31 Felly, er ei fod yn gleddyf cawr, ni ddylai fod yn hwy na rhyw bedair troedfedd.
(1, 0) 32 Ar y pared uwch y cleddyf ac ar y pared y tu ôl i'r orseddfainc, crogwyd tarianau'r cedyrn a orchfygwyd mewn rhyfel gan Ddafydd.
(1, 0) 33 ~
(1, 0) 34 Bydd y tarianau hirsgwâr hyn bob un yn celu ffenestr hirgul, gastellog.
(1, 0) 35 Dadlennir y rhain yn y tyrau wedi'r newid cyflym o'r Olygfa Neuadd i'r Olygfa ar Fur Dinas Mahanaim yn Act III.
(1, 0) 36 ~
(1, 0) 37 Pan gyfyd y llen gwelwn ddau o brif gynghorwyr y Brenin, sef Hŵsai ac Ahitoffel, wedi bod yn disgwyl ers amser am ei ymddangosiad o'i ystafell wely.
(1, 0) 38 Y mae Hŵsai yn eistedd yn dawel, amyneddgar, ar y fainc sydd yn ochr chwith y neuadd, (de a chwith o safbwyni yr actor), ac Ahitoffel â'i gefn atom yn edrych allan yn bur aflonydd trwy Borth yr Ardd.
(1, 0) 39 Hynafgwr corffol, rhadlon, pwyllog yw Hŵsai, ac y mae ei wên dirion a'i lais caredig yn ein hargyhoeddi o'r cychwyn paham y gelwir ef yn "Gyfaill Dafydd."
(1, 0) 40 Hynafgwr tra gwahanol yw Ahitoffel, gŵr henffel, cyfrwys, tenau, llym ei wynepryd, aflonydd ar ei draed, sydyn ei ysgogiadau, cyflym ei benderfyniadau, byr ei amynedd, brathog ei eiriau.
(1, 0) 41 ~
(1, 0) 42 Gwelwn wrth guriadau ei ddwylo y tu ôl i'w gefn yn awr fod ei amynedd ar ballu o'r hir ddisgwyl hwn am y Brenin.
(1, 0) 43 O'r diwedd dyna'r geiriau'n ffrwydro wrth iddo droi at Hŵsai ar ôl clywed caniad.
(1, 0) 44 Corn Hanner Dydd yn y pellter o Dŷ'r Osgordd.
 
(1, 0) 74 Croesir y llwyfan o'r ardd gan gaethferch yn cario cawellaid o flodau i stafelloedd y gwragedd.
 
(1, 0) 188 Ffarweliant trwy gydio y naill yn arddwrn y llall.
 
(1, 0) 193 Myned o'r ddau trwy borth y brenin.
(1, 0) 194 ~
(1, 0) 195 Bron cyn gynted ag yr elont o'r golwg, daw Joab ac Abisâg i'r golwg o'r chwith ym Mhorth yr Ardd, ac o'r tu ôl iddynt Hen Fugail yng ngofal Cŵsi, caethwas du Joab.
(1, 0) 196 Gŵr talgryf, cydnerth barfog, canol-oed, yw'r Cadfridog Joab, lled arw ei ddull, sydyn a chwta ei barabl, er hynny'n drwsgl garedig wrth y neb a gâr.
(1, 0) 197 Rhyfelwr, bob modfedd ohono, a'i wedd rychiog yn dywyll gan haul a gwynt llawer rhyfelgyrch ar ran ei ewythr y Brenin.
(1, 0) 198 ~
(1, 0) 199 Llances deg iawn a gosgeiddig yw Abisâg.
(1, 0) 200 Y mae ei llygaid yn loyw a deallus a charedig, a'i llais yn llawn mwynder a miwsig.
(1, 0) 201 ~
(1, 0) 202 Saif yr Hen Fugail y tu hwnt i'r Porth â'i bwys ar ei fuseilffon hir.
(1, 0) 203 Gŵr tal ond bod ei ysgwyddau wedi crymu dros ei fugeilfon.
(1, 0) 204 Mae'n gwisgo mantell ddu, hirllaes, ag iddi, gwfl yn codi dros y pen, bron fel cwcwll mynach.
(1, 0) 205 Tan y cwfl mae gorchudd o liain gwyn yn cuddio'r rhan isaf o'r wyneb yn null y byrnŵs (burnoose) Arab.
(1, 0) 206 ~
(1, 0) 207 Gŵr ifanc cyhyrog, cawraidd, pump ar hugain oed yw Cŵsi yr Ethiop du.
(1, 0) 208 Noeth yw ei goesau a'i freichiau a'i ysgwydd dde.
(1, 0) 209 Gwisga wregys o liain o amgylch ei lwynau, ond prif addurn ei wisg yw'r croen llewpart sy'n rhedeg dros ei ysgwydd chwith ac yn cau o dan ei fraich dde.
(1, 0) 210 Ar ei ysgwydd dde mae'n cario cleddau noeth,—cleddau llydan, troellog ac addurnedig (scimitar).
(1, 0) 211 Mae'n amlwg ei fod yn falch iawn o'r arf anrhydedd hwn fel cludydd arfau ei Feistr a'i Gadfridog, ac fe'i defnyddia'n seremonïol, â'r llafn ar draws ei dalcen mewn saliwt, wrth ymateb i alwad neu orchymyn Joab.
(1, 0) 212 ~
(1, 0) 213 Tra bo Joab ac Abisâg yn croesi'r trothwy saif Yr Hen Fugail a Cŵsi ychydig yn ôl ar lwybr yr ardd.
(1, 0) 214 Deil Joab gwr y llen ar y dde i'r Porth i Abisâg basio heibio i'r neuadd.
 
(1, 0) 264 Cerdda Abisâg heibio i Joab i'r dde a sefyll, ar fedr syllu ar y cleddau mawr.
(1, 0) 265 Try Joab yn y Porth ab Cŵsi i'w gyfarwyddo'n gyfrinachol a phwyntio'r deildy iddo ef a'r Hen Fugail.
(1, 0) 266 Ond yn ddisymwth fe ddarganfu llygad Abisâg delyn Dafydd sy'n crogi ar yr hoel ar y chwith, ac o'r foment honno darfu ei diddordeb yn y cledd.
(1, 0) 267 Goleua ei hwyneb megis â heulwen addolgar a thynnir hi trosodd i'r ochr chwith i'r neuadd, megis gan dynfaen anorfod.
(1, 0) 268 Â'i dwylo ymhleth ar ei mynwes, saif o flaen telyn Dafydd fel pererin o flaen ei eilun.
(1, 0) 269 Wedi ymgolli yn yr olwg gyntaf ar delyn enwog ei harwr nid yw hi'n ymglywed bellach â dim sy'n digwydd wrth y Porth.
(1, 0) 270 Fe gychwyn Cŵsi hebrwng yr Hen Fugail ymaith i gyfeiriad y deildy, a bwyntiwyd allan gan Joab i lawr llwybr yr ardd.
(1, 0) 271 Cama Joab dros y trothwy, ond try'n sydyn ar ei sawdl i roddi ei gyfarwyddyd olaf i Cŵsi: gan daflu allan ei law i atal symudiad y caethwas a'r Hen Fugail, fe eilw:
 
(1, 0) 281 Ymgryma'r Hen Fugail hefyd i Joab, ac fêi hebryngir o'r golwg i'r chwith gan y caethwas, yn ôl gorchymyn ei feistr.
(1, 0) 282 Try Joab at Abisâg.
 
(1, 0) 293 Greddf gyntaf y llances yw estyn ei dwylo i'w derbyn, ond yn sydyn meddiennir hi gan arswyd cyffwrdd â chrair mor gysegredig yn ei golwg, a thyn ei dwylo'n ôl.
 
(1, 0) 300 O'r diwedd fe dderbyn Abisâg y delyn ac eistedd ar risiau'r esgynlawr i'w chywewio ar ei glin, bron fel mam yn maldodi baban.
(1, 0) 301 Wrth iddi ei chyweirio fe sieryd yn dyner wrthi, ac ymhell cyn diwedd ei haraith bydd ei bysedd yn teimlo'r delyn am gordiau sy'n gyfeiliant i amrywiol foddau ei brawddegau).
 
(1, 0) 319 Erys ennyd mewn gweddi â'i phen yn ymgrymu ar y delyn.
(1, 0) 320 Torrir yn ddisymwth ar y tawelwch gan her y gwyliwr Cŵsi o'r ardd, ac ateb Beneia, Capten y Gŵyr o Gard.
 
(1, 0) 327 Ymddengys Meffiboseth a'r Capten Beneia trwy'r Porth o'r ardd.
(1, 0) 328 Bachgen tua 18 oed yw Meffiboseth.
(1, 0) 329 Mae'n gloff o'i ddeudroed ac ymlwybra'n llafurus ar ddwy faglan.
(1, 0) 330 Syml a glân yw ei wisg ond carpiog yw ei glog.
(1, 0) 331 Y mae ei urddas tawel, ei leferydd mwyn a chwrtais, a'i wyneb glân a hawddgar yn ei gyhoeddi'n eglur yn wir bendefig o'r hen gyff brenhinol.
(1, 0) 332 Ar hyn o bryd mae ei lygaid yn rhedeg yn bryderus o amgylch yr ystafell ac yna'n gorffwys ar y Cadfridog Joab, oherwydd cred mai er mwyn ei ddienyddio y cyrchwyd ef —yr olaf o Dŷ Saul—i Lys y Brenin.
(1, 0) 333 ~
(1, 0) 334 Gŵr tal, tua deg ar hugain oed, yw Beneia, Capten y Gwŷr o Gard.
(1, 0) 335 Math o filwr hollol wahanol i'r Cadfridog, ac wedi ei wisgo'n fwy ysblennydd nag ef.
(1, 0) 336 Gŵr gerwin a phlaen ei ymadrodd yw Joab; gŵr llys, llyfn ei ymadrodd a llaes ei foes yw Beneia.
(1, 0) 337 Eto, o dan ei lyfnder a'i foesgarwch arwynebol llecha'r sinig sbeitlyd o'r llofrudd parod, a "ruthrodd" ar Joab yn y diwedd a'i ladd wrth gyrn yr allor.
(1, 0) 338 Ar hyn o bryd y mae'r ddau'n lled foesgar a gochelgar tuag at ei gilydd; eithr ni thwyllir Joab.
(1, 0) 339 Gŵyr o'r gorau fod y Capten Beneia yn dirgel chwennych ei safle anrhydeddus ef fel Cadfridog y Llu, a'i fod yn un o'r gwŷr llys hynny sydd wedi bwrw eu coelbren o blaid olyniaeth Solomon, ac o'r herwydd yn derbyn gras a ffafr y Frenhines Bathseba.
(1, 0) 340 Ar hyn o bryd, oeraidd a dirmygus yw agwedd Beneia tuag at ei garcharor Meffiboseth, fel pob bwli tuag at y diamddiffyn a'r di-gefn.
(1, 0) 341 Mae'n ddig oherwydd darfod ei atal ef, Gapten yr Osgordd, gan Cŵsi yn yr ardd; ac yn ystod yr ymddiddan sy'n dilyn gadewir i'r bachgen cloff sefyll yn flinedig ar ei faglau yn y Porth.
 
(1, 0) 374 Fe symud at Abisâg, a gadael, Meffiboseth yn sefyll o hyd yn ŷ porth.
(1, 0) 375 Mae'n edmygu eu thegwch, a hithau'n dal i eistedd fel delw â'i phen yn crymu ar y delyn.
 
(1, 0) 427 Gedy Abisâg y delyn ar yr esgynlawr a mynd at Meffiboseih a'i arwain yn dyner i'r fainc hir ar y dde.
(1, 0) 428 Ni faidd na Beneia na Joab ei rhwystro, er rhyfeddu ati.
 
(1, 0) 435 Wedi eistedd, gesyd ei faglau ar lawr tan y fainc, o'r ffordd, ac yna tyn ei law dros ei dalcen.
(1, 0) 436 Cyrch Abisâg swp o rawnwin iddo.
 
(1, 0) 456 Cyn bod cynddaredd Beneia wedi ffrwydro armi am y sarhad, daw Solomon i mewn trwy Borth y Gwragedd.
(1, 0) 457 Bachgen tua 17 oed ydy, wedi ei wisgo mewn maniell fraith, orwych.
(1, 0) 458 Delir ei wallt mewn cylchyn arian cul, ysgafn, lywysogaidd.
(1, 0) 459 Wrth ei wregys mae'n cario tabledi pren, gorchuddiedig â chŵyr, a phin o ddur, sef offer sgrifennw'r cyfnod.
(1, 0) 460 ~
(1, 0) 461 Bachgen gwybodus, ond preplyd ei barabl, a'i ragaeddfedrwydd braidd yn ddiflas gan bobl hŷn.
(1, 0) 462 Mae'n dra sicr ohono'i hun ac yn dra ymwybodol o'i safle fel tywysog, ac (yn ôl pob argoel) fel olynydd Dafydd.
(1, 0) 463 ~
(1, 0) 464 Ymgryma Joab a Beneia iddo ar ei ddyfodiad i'r neuadd.
(1, 0) 465 ~
(1, 0) 466 Ymgrymiad pen, bychan a ffurfiol, gan yr hen gadfridog, ymgrymiad llaes, o'r wasg, gan Beneia.
(1, 0) 467 Cyfyd Abisâg hithau i ymgrymu a phlygu glin (cyrtsi).
(1, 0) 468 Erys Meffiboseth ar ei eistedd gan na fedr gael at ei faglau tan y fainc, heibio i'r fan lle'r ymgryma Abisâg.
 
(1, 0) 545 Edmygedd sydd yn llygaid Beneia wrth foes-ymgrymu i'r Orsedd; diflasiod yn llygaid Joab wrth droi oddi wrth yr Orsedd at y Porth.
(1, 0) 546 Daw'r Frenhines Bathseba i mewn trwy Borth y Gwragedd a saif mewn dychryn o weled rhyfyg annhymig ei bachgen.
(1, 0) 547 ~
(1, 0) 548 Gwraig dal ac urddasol, tua deugain oed, yw Bathseba, ac er ei bod hi'n awr wedi ymfrasáu gwelir ynddi o hyd olion yr harddwch a ddenodd Dafydd gynt.
(1, 0) 549 ~
(1, 0) 550 Y mae ei cherddediad yn rheiol a'i hystum yn osgeiddig, o ferch mor drom.
(1, 0) 551 Dwfn a llawn nwyd yw ei llais; ac at alw gall fod yn awdurdodol.
(1, 0) 552 Dwfn hefyd ei natur; gall feddwl yn gyflym a chyfrwys, a gweld ymhell.
(1, 0) 553 Cyfarwydd ydyw â holl ystryw politicaidd y llys, ac nid er dim y rhestrwyd hi ymhlith cynghorwyr y Brenin.
(1, 0) 554 ~
(1, 0) 555 Fflam loyw ei chorff a dynnodd Dafydd ati ar y cyntaf, fel gwyfyn at gannwyll; ond fflam loyw ei meddwl a enillodd iddi le arhosol yn ei barch—fel ei frenhines a'i ddoeth gynghorwr uwchlaw ei wragedd oll.
(1, 0) 556 Solomon, wrth gwrs, yw cannwyll ei llygad, ac fe ganolbwyntiodd hi ei holl fryd a'i holl ewyllys a'i
(1, 0) 557 holl adnoddau ar ddiogelu iddo'r olyniaeth.
(1, 0) 558 Mae Solomon yn ei haddoli.
(1, 0) 559 ~
(1, 0) 560 Y mae ei gwisg liwus, ysblennydd, a'i thlysau lawer, a fflach ei choroned ysgafn, emog, yn wrthgyferbyniad llwyr i symlrwydd hyfryd gwisg Abisâg.
(1, 0) 561 ~
(1, 0) 562 Esgus o gerydd sydd yn ei llais yn awr wrth gyfarch ei mab, gan sylweddoli wrth agwedd cefn Joab fod Solomon y tro yma wedi mynd yn rhy bell.
 
(1, 0) 634 Cerdda'r Frenhines at yr eneth sydd ar ei gliniau'n ymbil o hyd.
(1, 0) 635 Cymer ei gwddf rhwng ei dwylo a'i hanner-dagu.
 
(1, 0) 659 Yn edifeiriol iawn, y mae Bathseba, yn cymryd pen y llances yn dyner rhwng ei dwylo ac yn edrych yn nwfn ei llygaid.
 
(1, 0) 728 Y mae pawb ohonynt yn canolbwyntio'u holl sylw arni, tan swyn ei dull o ganw'r alarnad,—Beneia, Bathseba a Solomon ar yr ochr chwith iddi wrth Borth y Gwragedd, Joab ar y dde iddi wrth Borth yr Ardd, Meffiboseth i'r dde yn gorffwys ar ei faglau ger ei fainc, gan syllu i lawr arni, a'i wyneb yn goleuo o wrando am wrhydri ei dad.
(1, 0) 729 ~
(1, 0) 730 Ni sylwodd neb ohonynt fod Dafydd a'i ddau Gynghorwr erbyn diwedd yr ail bennill wedi cyrraedd hyd Borth y Brenin.
(1, 0) 731 Saif yno fel delw, â'i fraich ar yr ystlysbost de, wedi ei gyfareddu gan y gân, a'i wyneb cuchiog, cymylog, dan deimlad dwys.
(1, 0) 732 Saif Hŵsai ac Ahitoffel ychydig y tu ôl iddo wrth yr ystlysbost chwith.
(1, 0) 733 Er ei heneiddio, mae'r Brenin yn ei gario'i hun ag urddas.
(1, 0) 734 Yn ystod y gân cilia'r cuwch yn raddol o'i wedd.
(1, 0) 735 ~
(1, 0) 736 Ar ddiwedd y gân, fe eistedd Abisâg yn dawel yn ei hagwedd
(1, 0) 737 nodweddiadol, â'i phen yn crymu ar y delyn.
(1, 0) 738 ~
(1, 0) 739 Y Frenhines yw'r gyntaf i ddeffro o'r cyfaredd, ac i sylwi fod y Brenin yno, ac i dorri ar y dwys ddistawrwydd.
 
(1, 0) 741 Ysguba i lawr mewn cyrtsi isel iddo.
(1, 0) 742 Felly hefyd Abisâg, gan roi'r delyn i lawr a throi i'w wynebu.
(1, 0) 743 ~
(1, 0) 744 Ymgryma'r meibion eu pennau mewn parch.
(1, 0) 745 Yn araf cerdda Dafydd i'w orseddfainc ac eistedd arni'n drwm a gostwng ei ben, a chuddio'i wyneb â'i ddwylo.
(1, 0) 746 Saif Hŵsai ac Ahiloffel ychydig yn ôl, y naill ar y dde a'r llall ar yr aswy i'r orseddfainc.
(1, 0) 747 ~
(1, 0) 748 Distawrwydd.
(1, 0) 749 ~
(1, 0) 750 Pan ostwng y Brenin ei ddwylo a dyrchafu ei wyneb, y mae pob argoel o'r cwmwl wedi cilio.
(1, 0) 751 Bron nad oes arlliw o wên ar ei wedd wrth gyfarch Bathseba.
 
(1, 0) 771 Dwg Joab ef i astedd ar fainc yr eirchiaid ar y dde, a dychwel i'w le ger Porth yr Ardd.
(1, 0) 772 Rhydd yntau ei faglau tan y fainc, a cheisio cuddio'r tyllau yn ei glog rhag llygad y Brenin.}
 
(1, 0) 788 Ymgryma iri o'r swyddogion iddo ar unwaith, a phrysura Beneia—tan lygad y Brenin—i ddilyn eu hesiampl.
(1, 0) 789 Gwena Dafydd yn garuaidd.
 
(1, 0) 869 Yn ystod yr ymddiddan uchod, bw'r lleill yn ymateb yn nodweddiadol.
(1, 0) 870 Beneia, Solomon a Bathseba, yn ffurfio yn un grŵp â sgwrs dawel rhyngddynt.
(1, 0) 871 Joab a Meffiboseth yn ffurfio un arall, ond bod llygad a chlust Joab yr un pryd ar bob datblygiad o'r ymddiddan wrth yr Orsedd, megis y mae'n amlwg bod llygad a chlust y Ddau Gynghorwr o'r cychwyn.
(1, 0) 872 Fel y bo'r ymddiddan am y wobr yn dyrchafu i'w huchafbwyni, atelir pob sgwrs arall.
(1, 0) 873 Ac y mae sioc y gair gwaharddedig "Absalom" fel sioc saeth i ganol ystafell dawel.
(1, 0) 874 Braidd na chlywn ni hwy'n llyncu anadl yn frawychus yn y saib.
(1, 0) 875 Yna, â'r eneth rhagddi mor ddi-droi'n ôl â Thynged.
(1, 0) 876 Yn wir, onid offeryn Tynged yw?
 
(1, 0) 882 Try'r Brenin ei ben yn araf am ymateb y ddau Gynghorwr a Joab.
(1, 0) 883 Penliniant, hwythau gan estyn eu dwylo mewn ymbil.
 
(1, 0) 887 Oddi wrth tableau y grŵp ymbilgar hwn try'r Brenin ei olygon i'r chwith lle mae'r Frenhines wedi gafael am Solomon yn ddiffynnol, a Beneia'n barod i'w gwarchod.
 
(1, 0) 906 Ymateb cynhyrfus gan blaid y Frenhines.
(1, 0) 907 Llawenydd ar wedd y ddau Gynghorwr.
 
(1, 0) 925 Try Joab ai y Porth ac wedi galw Cŵsi," fe amneidia arno ddwyn yr hen fugail i'r neuadd.
(1, 0) 926 Tra bônt yn dod i lawr llwybr yr ardd, eglura Joab i'r brenin beth arall am yr hen fugail.
 
(1, 0) 929 Ymddengys Cŵsi a'r Hen Fugail ym Mhorth yr Ardd.
(1, 0) 930 Saif Cŵsi ynghanol y Porth fel gwyliwr, a'i gleddau noeth o'i flaen; dygir y Bugail ymlaen at yr Orsedd gan Joab.
(1, 0) 931 Ymgrymant i'r Brenin.
 
(1, 0) 933 Cymer ei ffon fugail oddi arno.
(1, 0) 934 Amneidia'r Brenin arno ddyfod i fyny grisiau'r esgynlawr.
 
(1, 0) 945 Fe estyn y Brenin ei fodrwy yntau i'r Hen Fugail, sy'n gwyro'i ben i'w chusanu, ac yna'n troi am y Porth i ymadael.
(1, 0) 946 Ond cyn iddo gyrraedd o'r esgynlawr i lawr y Neuadd fei hatelir gan genadwri olaf y Brenin.
 
(1, 0) 950 Eiliad, ac fe chwipia'r Hen Fugail y fantell laes a'r cwfl yn gyflym oddi amdano gan droi o gylch i wynebu'r gynulleidfa.
(1, 0) 951 O'n blaen fe saif y Tywysog Absalom yn ei holl harddwch talgryf â'i hirwallt gloyw, a'i wisg dywysogaidd.
(1, 0) 952 ~
(1, 0) 953 Wedi ennyd o sioc, y mae pob un yn ymateb yn ei ffordd bersonol yn ôl ei blaid, a rhed y sibrwd "Absalom" trwy'r holl neuadd.
(1, 0) 954 Mae'r Brenin ar ei draed, yn gwegian fel petai'n methu coelio tystiolaeth ei lygaid ei hun.
(1, 0) 955 Llais ei fab sy'n torri argae olaf ei deimladau.
 
(1, 0) 960 LLEN
(2, 1) 961 Yr un, rai misoedd yn ddiweddarach.
(2, 1) 962 Bore teg arall.
(2, 1) 963 Saif y delyn wrth y droedfainc ger yr Orsedd.
(2, 1) 964 Solomon a Meffiboseth, y ddau mewn gwisgoedd tywysogaidd, ar fainc yr eirchiaid ar y dde i'r neuadd, yn chwarae gwyddbwyll.
(2, 1) 965 ~
(2, 1) 966 Solomon â'i gefn at Borth yr Ardd.
 
(2, 1) 999 Erbyn hyn daeth Absalom i mewn o'r ardd y tu ôl i Solomon, a saif i wylio'r chwarae heb i'r ddau fachgen sylwi arno.
(2, 1) 1000 Yn ei law y mae chwip cerbydwr, ac y mae ei wisg yn orwych.
 
(2, 1) 1068 A'r tri thywysog yn ymdoddi fel hyn mewn chwerthin cyfeillgar, daw'r Brenin o'i ystafell gyda'i ddau Gynghorwr.
(2, 1) 1069 Fe edrych yn llawen o'r esgynlawr ar y darlun hapus hwn.
(2, 1) 1070 Ymgryma'r tywysogion ynghŷd iddo, ac Absalom o hyd â'i freichiau am ysgwyddau'r ddau arall.
 
(2, 1) 1123 Daw Joab i mewn trwy borth yr ardd. Ymgryma i'r Brenin.
 
(2, 1) 1152 O ddechrau ei sôn am Gaersalem fel Prifddinas Crefydd y mae'r lleill tan gyfaredd ei huodledd yn dechrau ei borthi'n frwd, ac yn torri allan. mewn cefnogaeth orfoleddus ar "Dinas y Brenin
(2, 1) 1153 Mawr".
(2, 1) 1154 O ddechrau ei gyfeiriadau at Deml, bu Solomon yn cymryd nodiadau ac yn cynllunio Teml ar ei dabled.
 
(2, 1) 1264 Ymgryma i'r Brenin ac ymedy trwy borth yr ardd.
(2, 1) 1265 Dyna'r meirch yng ngherbyd Absalom yn gweryru eto o weled gŵr yn dod i lawr llwybr yr ardd.
(2, 1) 1266 Gwrendy Solomon a Meffiboseth yn eiddgar, gan edrych drwy'r porth.
 
(2, 1) 1280 Ymgryma'r ddau dywysog bach i'r Brenin gan wenu a phrysurant allan i'r cerbyd.
 
(2, 1) 1287 Daw Abisâg i'r neuadd trwy Borth y Brenin.
(2, 1) 1288 Ar ei braich chwith fe ddwg fantell y brenin, ac yn ei llaw dde gwpan arian yn llawn gwin llysieuog, meddygol.
 
(2, 1) 1313 Rhed Ahimâs, mab Sadoc yr offeiriad, i mewn trwy Borth yr Ardd yn bennoeth.
(2, 1) 1314 Gŵr ifanc hawddgar 20 oed ydyw, yn gwisgo math o kilt wen rhedegwr.
(2, 1) 1315 Mae ei gorff yn lluniaidd, athletig; —corff pencampwr sy'n ymgodymu â llanciau Joab ac yn ym-
(2, 1) 1316 ryson yn eu rhedegfeydd.
(2, 1) 1317 Fe ddisgyn ar ei lin o flaen y Brenin.
 
(2, 1) 1340 Cymer yniawr cwpanaid o ddwfr.
(2, 1) 1341 Ymgryma ai y Brenin ac at Abisâg, ac yna yf.
 
(2, 1) 1383 Cyfyd y Brenin o'i orsedd i ddiosg ei goron a'i gosod ar y bwrdd vw chwith.
(2, 1) 1384 Rhydd Abisâs y fantell amdano gan godi'r cwfl dros ei ben.
 
(2, 1) 1388 Cerdda allan trwy borth yr ardd â'i law ar ysgwydd Abisâg.
(2, 1) 1389 Hebryngir hwy o'r tu ôl gan Hŵsai ac Ahimâs.
(2, 1) 1390 Ymgryma Absalom ac Ahitoffel yn isel i'r Brenin ar ei ymadawiad.
 
(2, 1) 1392 Wedi i'r Brenin gilio, cyfyd Ahitoffel y brenin-gwyddbwyll yn ei law oddi ar y clawr.
 
(2, 1) 1512 LLEN
(2, 2) 1513 Yr un,—bythefnos yn ddiweddarach.
(2, 2) 1514 Yn hwyr brynhawn.
(2, 2) 1515 Cadwyni o flodau lliwus a gerlantau yn addurno'r neuadd.
(2, 2) 1516 ~
(2, 2) 1517 Gyfyd y llen ym miwsig a llonder dawns ddwyreiniol synhwyrus, ac y mae llawr y neuadd wedi ei glirio ar gyfer y Ddawns hon gan y Gordderchau o flaen y Brenin a'i westeion.
(2, 2) 1518 O'r deg Gordderch, bydd rhai yn eistedd ar risiau'r esgynlawr tan ganu eu hoffer cerdd a'r gweddill yn
(2, 2) 1519 dawnsio.
(2, 2) 1520 Gyfodwyd y fainc hir i fyny ar yr esgynlawr, ar osgo, i'r dde o'r orseddfainc, a'r fainc fer i'r chwith.
(2, 2) 1521 ~
(2, 2) 1522 Fe eistedd y Brenin ar yr Orseddfainc; ac ar ei dde fe eistedd yn y drefn hon: Bathseba, Solomon, Meffiboseth a Hŵsai.
(2, 2) 1523 Ar chwith ar y droedfainc Abisêg (gyda'r delyn); ac ar y fanc fer, Joab.
(2, 2) 1524 Gerlantau am bennau pawb ond y Brenin.
(2, 2) 1525 Ffiolau a chostrelau gwin gan y cwmni, a chaethferch yn gweini arnynt gan weled nad erys ffiol neb yn wag.
(2, 2) 1526 Pawb yn eu dillad gŵyl.
(2, 2) 1527 Y Brenin yn gwisgo mantell ysgafn liwus.
(2, 2) 1528 Coron o flodau am ben Abisâg.
(2, 2) 1529 Joab, wedi diosg ei lurig a'i helm, a'i gleddyf yng nghornel y neuadd, er ymlacio mewn
(2, 2) 1530 gloddesi a gwin.
(2, 2) 1531 Efallai ei fod ef a Hŵsai eisioes braidd "dan ddylanwad"; nid yn feddw ond bod eu gerlaniau wedi disgyn braidd ar osgo!
(2, 2) 1532 ~
(2, 2) 1533 Pawb o'r cwmni llawen yn cymeradwyo'n frwd ar derfyn y ddawns,—a'r dawns-wragedd yn encilio trwy Borth y Gwragedd.
(2, 2) 1534 ~
(2, 2) 1535 (Dyna'r agoriad delfrydol, ond oni cheir digon o adnoddau yn y cwmni i gyflwyno'r ddawns uchod, fe ellid cyflwyno rhan o ysbryd y peth gan un ddawnsreg yn unig i ganlyn record addas o fiwsig Dwyreiniol.)
 
(2, 2) 1562 Yfant eto—ond nid Bathseba.
(2, 2) 1563 Cuwch sydd ar ei hwyneb hi.
 
(2, 2) 1584 Yn ddisymwth torrir ar draws y salm gan lef gyffrous Cŵsi ynrhedeg drwy'r ardd tua'r neuadd. Fferrwyd y gân ar wefusau Abisâg a throes pawb tua'r porth.
 
(2, 2) 1605 Cyffro mawr drwy'r Llys.
(2, 2) 1606 Bathseba'n gafael am Solomon.
(2, 2) 1607 Pawb ar eu traed ond y Brenin a Meffiboseth.}
 
(2, 2) 1610 Cyfyd Gŵsi i ufuddhau.
(2, 2) 1611 Teifl Joab ddwfr oer tros ei wyneb i lwyr sobri, ar ôl bwrw i'r llawr yn ddirmygus y gerlant flodau
(2, 2) 1612 a oedd am ei ben, a'i sathru'n ddig).
 
(2, 2) 1617 Wedi estyn ei arfau o'r gornel i Joab, a gadael ar Abisâg ei arwisgo, rhuthra Cŵsi trwy Borth yr Ardd, ac yna o'r golwg tyn wrth raff y Gloch Alarwm—tinciadau cyflym, cyffrous, haearnaidd.
(2, 2) 1618 ~
(2, 2) 1619 Feu hatebir gan Utgorn Alarwm o dŷ y Gwŷr o Gard.
(2, 2) 1620 O'r pellter clywir sŵn cyffro a llefau'r ymgynnull.
(2, 2) 1621 ~
(2, 2) 1622 Dychwel Cŵsi i Borth yr Ardd â'i gleddyf yn ei law.
(2, 2) 1623 Rhuthra'r Gordderchau i Borth y Gwragedd yn frawychus i wybod achos yr alarwm a'r cyffro, a safant yno'n un twr ofnus.
 
(2, 2) 1630 Gwna'r Gordderchau le iddi basio rhyngddynt i Dŷ'r Gwragedd i'w chyrchu).
(2, 2) 1631 Ymddengys Beneia trwy Borth yr Ardd tan lawn arfogaeth.
 
(2, 2) 1675 Ac wedi'r saliwt try ymaith ar ei sawdl.
(2, 2) 1676 ~
(2, 2) 1677 Dwg Solomon helm a tharian a chleddyf ei dad, ac erbyn hyn bydd wedi gadael ei gerlant yn stafell y brenin.
(2, 2) 1678 Diosg y brenin ei fantell ysgafn, liwus, a'i gollwng ar yr orsedd.
(2, 2) 1679 Cynorthwya Abisâg Solomon i arwisgo'i dad.
 
(2, 2) 1709 Gwasga'r Brenin ei ysgwydd mewn gwerthfawrogiad o'i ffyddlondeb.
(2, 2) 1710 ~
(2, 2) 1711 Daw Bathseba trwy Borth y Gwragedd tan ddwyn mentyll cynhesach i'r Brenin a Solomon a hithau. Syrth ei llygad mewn syndod ar y goron a adawyd ar yr orsedd.
 
(2, 2) 1725 Gorffwys llaw'r Brenin ar ei phen mewn bendith.
(2, 2) 1726 Rhed Ahimâs i mewn trwy Borth yr Ardd a disgyn ar ei lin o flaen y Brenin.
 
(2, 2) 1753 Croesa yntau ati a chymryd ei llaw gan syllu'n fud i'w llygaid.
(2, 2) 1754 O'r pellter clywir eto'r Utgorn Alarwm.
 
(2, 2) 1758 Fe gychwyn Meffiboseth gydag ef ar ei ffyn baglau.
(2, 2) 1759 Saif Dafydd gan edrych arno'n syn a sychu deigryn o'i lygaid.
 
(2, 2) 1781 Estyn Meffiboseth gist fechan, gywrain, gerfiedig, oddi tan y fainc a'i rhoi yn nwylo Dafydd mewn distawrwydd.
(2, 2) 1782 Mae'r dagrau'n treiglo i lawr gruddiau'r ddau.
 
(2, 2) 1793 Wedi i'r Brenin ei basio i gyfeiriad Porth yr Ardd, fe ddisgyn Meffiboseth ar ei wyneb ar hyd y fainc gan guddio'i wyneb yn ei freichiau mewn ymdrech i atal llefain allan.
(2, 2) 1794 Er ei fod yn beichio wylo, a'i ysgwyddau'n tonni gan ing, ni chlywn ddim cri o'i enau, ond ambell igian dwys.
(2, 2) 1795 ~
(2, 2) 1796 Fe â pawb allan ond Meffiboseth, sy'n dal i wylo ar ei wyneb ar y fainc.
(2, 2) 1797 Y Brenin a Joab ar y blaen: Bathseba, Solomon a Hŵsai'n dilyn.
(2, 2) 1798 Wrth fynd drwy'r Porth cyfyd Joab faner Dafydd o'i soced ger y Porth, a'i chario allan yn ddyrchafedig.
(2, 2) 1799 Ennyd ar eu holau, Abisâg yn cario'r delyn.
(2, 2) 1800 Ahimâs yn ei hebrwng.
(2, 2) 1801 Wrth basio heibio i Meffiboseth rhoes hi ei llaw'n dyner ar eí ysgwydd mewn cydymdeimlad; eithr ni chododd ef mo'i ben.
 
(2, 2) 1812 Yn dyner, ddiarwybod bron, am y tro cyntaf cusana yntau ei hwyneb estynedig tros ei hysgwydd.
(2, 2) 1813 Dring ei llaw hithau mewn anwes al ei wallt.
(2, 2) 1814 Yna try Ahimâs yr eneth â'i hwyneb ato.
(2, 2) 1815 Yn ddisymwth gesyd hithau ei thelyn i lawr, ac y maent ym mreichiau ei gilydd mewn cusan hir. Gwahanant; cyfyd Abisâg y delyn ag ochenaid.
(2, 2) 1816 Yna, mewn distawrwydd dwys, cerddant allan. law-yn-llaw fel plant.
(2, 2) 1817 ~
(2, 2) 1818 A'r llwyfan wedi bod yn wag am ennyd, oddieithr am Meffiboseth sy'n dal i wylo yn ddistaw ar ei wyneb ar y fainc, wedi ei lapio'i hun yn ei glog, dychwel Bathseba yn wyllt a llechwrus.
(2, 2) 1819 Wedi, edrych o'i chwmpas yn ofnus, cerdda'n lledradaidd at yr orseddfainc heb i Meffiboseth ei chlywed; cifia gist y goron oddi yno, ac wedi ei chelu tan ei mantell llithra allan yn gyflym a
(2, 2) 1820 distaw trwy'r ardd.
(2, 2) 1821 ~
(2, 2) 1822 Clywir Utgorn Beneia yn wan yn y pellter, yna wyla Meffiboseth ei ing allan fel un â'i galon bellach wedi torri.
(2, 2) 1823 ~
(2, 2) 1824 LLEN
(2, 3) 1825 Yr un, mhen dwyawr, sef ar awr y machlud.
(2, 3) 1826 ~
(2, 3) 1827 Cyfyd y llen mewn disiawrwydd ar Meffiboseth wedi syrthio i gysgu ar y fainc yn ei ddagrau, a'i glog drosto.
(2, 3) 1828 ~
(2, 3) 1829 Mae yn y cysgod braidd gan fod yr haul ar oledd yn taflu pwll o oleuni oraens trwy Borth yr Ardd, a bydd hwnnw'n graddol droi yn bwll lliw gwaed ar drothwy'r neuadd.
(2, 3) 1830 ~
(2, 3) 1831 Rhuthra Absalom i'r neuadd trwy Borth yr Ardd mewn llawn arfogaeth, a'i gleddyf noeth yn estynedig.
(2, 3) 1832 Fe'i dilynir gan Ahitoffel, wedi ymarfogi yntau, yn dwyn lluman Absalom yn ei law chwith a chleddyf
(2, 3) 1833 estynedig yn ei law dde.
(2, 3) 1834 ~
(2, 3) 1835 Edrychant o'u cwmpas yn ochelgar.
(2, 3) 1836 Gwelant y cwpanau gwin hyd lawr a phob argoel fod Dafydd a'i Lys wedi ffoi yn frysiog.
(2, 3) 1837 ~
(2, 3) 1838 Rhed Absalom i ystafelloedd dirgel y Brenin tra saif Ahitoffel i warchod Porth yr Ardd.
(2, 3) 1839 ~
(2, 3) 1840 Dychwel Absalom trwy Borth y Brenin.
 
(2, 3) 1851 Rhed Ahitoffel ato i fyny'r esgynlawr a'i ysgwyd i'w ddeffro, gan ei droi ar wastad ei gefn.
(2, 3) 1852 Deil flaen ei gledd wrth ei wddf.
 
(2, 3) 1947 Bloedd llais unigol o'r stryd yn y pellter: Byw fyth fo'r Brenin Absalom!
(2, 3) 1948 Tyrfa o'r dinasyddion yn ymateb: Hosanna!
 
(2, 3) 1951 Bloedd unigol arall: Gwyn fyd yr hwn sy'n dyfod yn enw'r Arglwydd.
(2, 3) 1952 Y Dyrfa'n ymateb: Hosanna i Absalom! Hosanna i fab Dafydd!
 
(2, 3) 1961 Saif Hŵsai ym mhorth yr ardd ac ymgrymu tua'r orsedd.
 
(2, 3) 1984 Deil Absalom ei law ato.
(2, 3) 1985 Fe esgyn yntau at yr orsedd a phenlinio i'w chusanu.
 
(2, 3) 2150 Ymgryma Absalom ei ben mewn caniatâd.
(2, 3) 2151 Ymgryma Ahitoffel iddo yntau ar y trothwy.
(2, 3) 2152 Yna try ar ei sawdl a myned allan.
 
(2, 3) 2211 Clywir ysgrech arswydus gan Meffiboseth ger Porth yr Ardd a rhuthra'r bachgen i mewn ar ei faglau trwy bwll coch y machlud, gan lefain eto, wedi ei ddychryn o'i synhwyrau bron.
(2, 3) 2212 Fe ddisgyn â'i fasged ar risiau'r esgynlawr â'i wyneb mewn parlys o ofn.
 
(2, 3) 2219 Cyfyd Hiŵsai, ac o ystlysbost nesaf Porth yr Ardd fe edrych allan a gwêl yr hyn a ddychrynodd Meffiboseth.
(2, 3) 2220 Delwir yntau dro, ac yna llefara.
 
(2, 3) 2223 Rhuthra Absalom i ystlysbost pellaf y porth ac edrych allan, a'r machlud gwaedlyd yn lliwio'i wedd.
(2, 3) 2224 Am ennyd mae yntau'n fud.
(2, 3) 2225 Yna llefara'n ddwys.
 
(2, 3) 2227 Bloeddiadau'r dyrfa eto o bellter y stryd: Hosanna i Absalom! Hosanna i Fab Dafydd!
 
(2, 3) 2231 LLEN
(3, 1) 2232 Tri mis yn ddiweddarach, ar doriad dydd.
(3, 1) 2233 ~
(3, 1) 2234 Ar ben mur llydan dinas gaerog Mahanâim, rhwng y ddau borth.
(3, 1) 2235 ~
(3, 1) 2236 Yny rhan dde ôl o'r mur adeiladwyd Disgwylfa ar hanner cylch, megis tŵr isel, agored, canllawog, a dau ris yn esgyn iddo.
(3, 1) 2237 Cyfyd luman-bren ohoni yn dwyn lluman—y Llew o Lwyth Jwda.
(3, 1) 2238 ~
(3, 1) 2239 Yn nes i flaen y llwyfan, ar yr ochr hon, y mae pen y grisiau cerrig sy'n disgyn i Borth Mawr y ddinas ac ystafell y Gwŷr o Gard.
(3, 1) 2240 ~
(3, 1) 2241 Ar eithaf chwith y llwyfan cyfyd Tŵr y Brenin o'r mur, a drws derw yn arwain i'w risiau troellog.
(3, 1) 2242 Er bod copa'r tŵr hwn o'n golwg, heibio i'r faner sy'n cyhwfan arno, gallwn weled pan gyfyd y llen, y golau'n tywynnu trwy ffenestr ei lofft gyntaf, lle bu'r Brenin a Joab trwy'r nos yn trafod cynlluniau'r frwydr sydd ar ddyfod.
(3, 1) 2243 ~
(3, 1) 2244 Ar hyd cefn y llwyfan, o'r Ddisgwylfa i Dŵr y Brenin, rhed canllaw castellog y mur (|battlements|).
(3, 1) 2245 Yn y gornel a ffurfir rhwng y canllaw castellog a Thŵr y Brenin saif y delyn, a chostrel win a ffiolau gerbron eisteddfa faen.
(3, 1) 2246 ~
(3, 1) 2247 Yr ydym ni yn y gynulleidfa fel pe baem yn edrych i fyny i'r mur o'r tu mewn i'r ddinas.
(3, 1) 2248 Gan hynny, ni allwn weled y wlad tu hwnt i'r mur,—dim ond yr wybren.
(3, 1) 2249 Yn ystod y chwarae bydd yn hanfodol i liwiau'r wybren honno newid o doriad dydd hyd ddyfodiad nos; gan hynny, rhaid wrth seiclorama wedi ei goleuo'n briodol.
(3, 1) 2250 ~
(3, 1) 2251 Cyfyd y llen ar olygfa o ddistawrwydd ar doriad dydd.
(3, 1) 2252 Y mae'r Capten Beneia ar ei ddisgwylfa'n edrych allan, a'i lantern gyneuedig ar y canllaw gerllaw iddo.
(3, 1) 2253 Wrth ben y grisiau cerrig o'r Porth Mawr saif Cŵsi tan arfau.
(3, 1) 2254 Yn y gornel gerllaw'r delyn, â'i lantern ar lawr o'i blaen, fe eistedd Abisâg a'i phen ar fynwes ei chariad Ahimâs.
(3, 1) 2255 ~
(3, 1) 2256 Wrth weled bod y wawr wedi torri a'i bod hi bellach yn dyddhau'n gyflym, fe gymer Beneia ei lantern a chroesi at ddrws Tŵr y Brenin.
(3, 1) 2257 Tery ar hwnnw'n drwm deirgwaith â charn ei gleddyf noeth.
(3, 1) 2258 ~
(3, 1) 2259 Yn nechrau'r olygfa sy'n dilyn bydd hi'n goleuo yn lled gyflym.
 
(3, 1) 2262 Symud y goleuni o ffenestr y Tŵr i'w risiau troellog fel y daw'r Brenin a Joab i lawr â lanternau yn eu dwylo.
(3, 1) 2263 Ymwahana Ahimâs ac Abisâg â chusan hir, ac fe saif Ahimâs gerllaw Cŵsi i dderbyn y Brenin â saliwt.
(3, 1) 2264 ~
(3, 1) 2265 Ymddengys y Brenin a Joab gan ddwyn lanternau.
(3, 1) 2266 Bydd Joab yn cario hefyd tan ei fraich chwith sgrôl ac arni fath o blan neu fap o faes y frwydr.
 
(3, 1) 2268 Mae llais y Brenin erbyn hyn yn gadarn, ei osgo'n fywiog, ei feddwl yn llym, a'i eiriau'n bendant.
 
(3, 1) 2314 Egyr Joab y plan allan ar ganllaw'r mur a phwyntio oddi wrtho brif nodweddion yr olygfa a welant.
 
(3, 1) 2356 O'i Ddisgwylfa amneidia Beneia i lawr ar Ringyll y Gwŷr o Gard o'n golwg wrth y Porth Mawr, a seinia hwnnw'r Reveille Hebreig i holl filwyr y brenin y tu fewn a'r tu allan i'r ddinas.
(3, 1) 2357 Atebir gan wahanol utgyrn pell ac egwan o wahanol gyfeiriadau, a chlywir sŵn byddin yn deffro ac ymharneisio.
 
(3, 1) 2379 Esgyn Dafydd i'r Ddisgwylfa a chyfyd y fyddin fanllef fawr o'i ganfod yno, banllef yn terfynu â'r floedd "Duw gadwo'r Brenin."
(3, 1) 2380 Amneidia'r Brenin â'i law am ddistawrwydd ac yna annerch ei wŷr.
 
(3, 1) 2391 Banllef fawr eto, "Dafydd am byth!", "Ymlaen i'r fuddugoliaeth fawr!", "Ymlaen!"
(3, 1) 2392 ~
(3, 1) 2393 Disgyn Dafydd o'r Ddisgwylfa wedi codi'r lluman brenhinol o'i soced yno, ac fe'i cyflwyna i ofal Ahimâs.
 
(3, 1) 2406 Gan fartsio rhwng y ddau i lawr y grisiau am y Porth.
(3, 1) 2407 Wedi saliwtio'r Brenin troant hwythau ill dau i ddilyn eu Cadfridog.
(3, 1) 2408 ~
(3, 1) 2409 Rhed Abisâg trosodd at Ahimâs i ben y grisiau gan rwygo ymaith y broets aur sydd ar ei bron a'i hestyn iddo.
 
(3, 1) 2414 Cyn gynted ag y cyrhaedda'r Cadfridog i'r Porth Mawr, clywir llef utgyrn, gweryriad meirch yn y cerbydau rhyfel, bloeddio gorchmynion milwrol o bell, ac yna sŵn pib a drwm a martsio pell wrth i'r llu gychwyn tua'r frwydr.
(3, 1) 2415 ~
(3, 1) 2416 Fe esgyn Dafydd eto i'r Ddisgwylfa, a sefyll yno â'i ddwylo'n estynedig mewn bendith dros ei filwyr wrth iddynt ymdeithio i ffwrdd.
(3, 1) 2417 ~
(3, 1) 2418 Fel y gwanhao'r sŵn yn y pellter, y mae'r Brenin yn gwegian.
(3, 1) 2419 Daeth yr adwaith arno, gorff ac ysbryd, a buasai wedi syrthio yn ei wendid oni bâi fod Beneia ac Abisâg wedi sylwi arno a rhedeg mewn pryd i'w gynorthwyo a'i roddi i eistedd ar risiau'r
(3, 1) 2420 Ddisgwylfa.
(3, 1) 2421 Yna rhed Abisâg i'r gornel gyferbyn i gyrchu cwpanaid o win a'i godi at ei wefusau, tra bo Beneia'n cynnal ei ben.
(3, 1) 2422 Dadebra'r Brenin, ond y mae ei lais bellach yn wan a chrynedig.
 
(3, 1) 2454 Gan bwyso'n drwm ar fraich Beneia fe â'r Brenin i fyny'r grisiau troellog i'w ystafell wely.
(3, 1) 2455 Wrth basio Abisâg fe orffwys ei law ennyd ar ei hysgwydd mewn diolch â chysgod o wên ar ei wyneb gwelw.
(3, 1) 2456 Mae ffenestr yr ystafell wely yn agored.
(3, 1) 2457 ~
(3, 1) 2458 Cyweiria Abisâg y delyn gan eistedd yn y gornel dde tan y ffenestr.
(3, 1) 2459 Cyn ei bod wedi dechrau canu, fe ddychwel Beneia i ddrws y tŵr, ac wedi ei gau ar ei ôl fe guchia'n wawdlyd i gyfeiriad ffenestr y Brenin.
(3, 1) 2460 ~
(3, 1) 2461 Sieryd tan ei anadl gan ddynwared yn goeglyd orchymyn olaf y Brenin ynghylch Absalom.
 
(3, 1) 2468 Ni thâl Abisâg ragor o sylw iddo ond cymryd y delyn i'w chôl a chanŵn dawel gyda'r tannau.
 
(3, 1) 2494 Ac mor dawel â diweddglo'r salm, a'r wybren erbyn hyn yn las ddigwm«wl, yn araf fe gaeir y
(3, 1) 2495 ~
(3, 1) 2496 LLEN
(3, 2) 2497 Yr un, ar ôl machludiad haul yr un diwrnod.
(3, 2) 2498 Dim ond am funud neu ddau y gostyngwyd y Llen y iro yma, er dynodi pasio'r oriau "o godiad haul hyd fachlud hwn."
(3, 2) 2499 ~
(3, 2) 2500 Ar sedd o faen yn y gornel rhwng y Tŵr a chanllaw'r mur, y mae Abisâg wedi syrthio i gysgu ger ei thelyn, ar ôl straen a blinder ei hir syllu allan am redegwr o'r frwydr, ond deil llygaid profiadol y Gapten Beneia i graffu tua'r gorwel o hyd o'r Ddisgwylfa.
(3, 2) 2501 O bryd i bryd mae'n cysgodi ei lygaid blin â'i law gan fod y goleuni ar oledd o'r Gorllewin.
(3, 2) 2502 ~
(3, 2) 2503 Llithrodd y Brenin i drymgwsg lluddedig yn ei stafell wely o'r pryd y bu clywed Salm y Bugail fel balm i'w ysbryd blin ar ôl teirnos ddi-gwsg.
(3, 2) 2504 ~
(3, 2) 2505 Mae hi'n ddistaw iawn, ond torrir ar y distawrwydd gan ochenaid uchel, flinedig, y Capten wrth ymestyn a dylyfu gên.
(3, 2) 2506 Wrth y sŵn deffry Abisâg, a llamu ar ei thraed a syllu'n eiddgar dros ganllaw'r mur, tua'r gorwel.
 
(3, 2) 2554 Rhed Abisâg i fyny grisiau'r Tŵr i ddeffro'r Brenin.
(3, 2) 2555 Geilw Beneia ar Geidwad y Porth i lawr y grisiau gyferbyn.
 
(3, 2) 2562 Daw'r Brenin allan ar y mur ag Abisâg yn ei ddilyn.
 
(3, 2) 2592 Cyffro mawr a banllefau llawen o'r Porth.
(3, 2) 2593 Rhed Ahimâs i fyny'r grisiau â lluman y Brenin yn oblygedig tan ei fraich.
(3, 2) 2594 Erbyn hyn nid yw'n gwisgo helm nac arfau.
(3, 2) 2595 Fe ddisgyn ar lin o flaen y Brenin, a saif ris yn uwch nag ef, ar yr esgynlawr.
 
(3, 2) 2608 Ni all Ahimâs edrych yn llygaid y Brenin wrth ateb y cwestiwn, ac y mae'n rhy addfwyn i adrodd y caswir wrtho).
 
(3, 2) 2625 Am funud syfrdanwyd y Brenin gan gais mor annisgwyl, fel un na ddaeth i'w amgyffred fod carwriaeth rhwng y ddau, nac y gallai ei delynores fod wedi ymddiddori mewn dyn ifanc.
 
(3, 2) 2652 Cyffro eto islaw a banllefau llawen.
(3, 2) 2653 Rhed Cŵsi i fyny'r grisiau a disgyn ar ei lin o flaen y Brenin yn yr un fan ag y buasai Ahimâs yn penlinio.
(3, 2) 2654 Y mae ei gleddau (|scimitar|) o hyd yn ei ddeheulaw.
 
(3, 2) 2666 Try'r Brenin oddi wrtho wedi ffieiddio, a cherdda heibio i Ahimâs ac Abisâg gan syllu allan i'r cyfnos dros ganllaw'r mur mewn distawrwydd a'i gefn atom.
(3, 2) 2667 Toc gwelwn ei ysgwyddaw'n dechrau tonni, ac o'r diwedd, dyn hi'r gri galonrwygol.
 
(3, 2) 2670 Yn ddall gan ddagrau, fe ymlwybra trwy'r ddôr am Dŵr y Brenin a'i thynnu'n dynn ar ei ôl.
(3, 2) 2671 Eithr clywn o hyd trwy ffenestr ei stafell ei gri ingol wrth ddringo'r grisiau ac wrth ei fwrw ei hun ar y gwely.
 
(3, 2) 2673 Tosturi mawr sydd yn llygaid Ahimâs ac Abisâg.
(3, 2) 2674 Gydiant yn ei gilydd mewn cydymdeimlad dwys.
(3, 2) 2675 Gwên lwynogaidd, fodlon, sydd ar wyneb Beneia ar ei Ddisgwylfa.
(3, 2) 2676 Deil Gŵsi i rythu i gyfeiriad y ddôr gaeêdig gan fethu dirnad pam yr oedd yn rhaid i'w eiriau plaen am ddiwedd bradwr gyffroi cymaint ar y Brenin.
 
(3, 2) 2713 Clywir llais Dafydd elo'n llefain trwy'r ffenestr fel un a fu'n gwrando yntau ar y stori.
 
(3, 2) 2722 O'r pellter, yn raddol clywn y fyddin fuddugoliaethus yn dynesu yn sain utgyrn, pibau a drymiau... Erbyn hyn mae hi'n nosi.
(3, 2) 2723 Cipia Beneia luman y Brenin o law Ahimâs a'i osod eto yn ei soced ar y Ddisgwylfa).
 
(3, 2) 2730 Estynnir ffacl gyneuedig iddo.
(3, 2) 2731 Gesyd yntau hi i sefyll mewn soced arall ar flaen y Ddisgwylfa fel y bo'i fflam yn goleuo Baner y Brenin.
(3, 2) 2732 Banllef gan y fyddin o'r pellter wrth ei gweled.
(3, 2) 2733 Wrth glywed y fanllef orfoleddus honno, fe lefa'r Brenin eto â'i galon ar dorri.
 
(3, 2) 2744 Y mae awgrym ei gariad yn ddigon iddo.
(3, 2) 2745 Rhed allan.
(3, 2) 2746 Deil sŵn yr utgyrn, a'r pibau a'r drymiau i gynyddu o hyd fel y daw'r fyddin yn nes, nes; a deil yr wybren i dywyllu.
(3, 2) 2747 Wrth glywed y rhialtwch dyna'r Brenin yn llefain yn uwch eto.
 
(3, 2) 2765 Rhwng ei chydymdeimlad angerddol â phoen y Brenin a'i ffyrnigrwydd at ddideimladrwydd Beneia, fe ruthra'n hanner-gorffwyll i fyny grisiau'r Ddisgwylfa, eithr rhwystrir hi gan y Capten.
(3, 2) 2766 Hyrddia'r eneth ei hun yn ofer yn erbyn grym cyhyrog y Swyddog, mewn ymdrech angerddol.
(3, 2) 2767 A hwythau'n siglo'n enbyd ar y grisiau yn yr ymrafael, yn sydyn hollol distawa pob sŵn y tu allan
(3, 2) 2768 i'r muriau,—mor sydyn yn wir nes peri i'r ddau ymatal a thorri ymaith oddi wrth ei gilydd mewn syndod.
(3, 2) 2769 Rhed Abisâg i'w lle arferol wrth y canllaw a syllu allan.
 
(3, 2) 2782 Yn sydyn clywir llais grymus Joab yn gweiddi'n chwyrn o waelod grisiaw'r Porth, a daw'r Cadfridog i fyny'n frochus â ffagl gyneuedig yn ei law chwith.
(3, 2) 2783 Y mae rhwymyn gwyn o amgylch clwyf y saeth ar ei glun, ac y mae braidd yn gloff eu gerddediad.
 
(3, 2) 2801 Ymddengys Bathseba a Solomon yn eu mentyll gorau a'u tlysau ym mhen y grisiau o'r Porth.
(3, 2) 2802 Cŵsi sy'n eu hebrwng gan ddwyn ffagl o'u blaen.
(3, 2) 2803 Ymgryma pawb.
(3, 2) 2804 O dan fraich Bathseba y mae Cist y Goron, a wnaed gan Meffiboseth.
 
(3, 2) 2810 Croesa Joab at y Tŵr, ac â charn ei gledd dyry dair ergyd drom ac araf ar y ddôr dderw.
(3, 2) 2811 Gwrendy pawb yn astud, ond nid oes ateb.
(3, 2) 2812 Rhydd Joab dair ergyd drom arall.
(3, 2) 2813 Yna fe symud i weiddi tan ffenestr y Brenin.
 
(3, 2) 2815 Yn araf agorir y drymddor, ac yno saif Brenin Israel,—yn hen ŵr loredig a chystuddiedig ei ruddiau a'i enau'n segian, a'i lygaid yn wag a phŵl.
(3, 2) 2816 Mae'n sioc i bawb ohonynt ei weled.
(3, 2) 2817 Eithr nid digon yr olwg druenus arno i'w arbed rhag cerydd Joab yn ei ddigofaint.
 
(3, 2) 2853 Fe'i cynhelir gan Joab i fyny'r grisiau i'r Ddisgwylfa lle saif rhwng y ffagl oleuedig a'r faner.
(3, 2) 2854 Gedy Joab ef yno fel delw lonydd o dristwch, a daw i lawr ei hun hyd ganol canllaw'r mur.
(3, 2) 2855 Rhyngddo a grisiau'r Ddisgwylfa saif Beneia.
(3, 2) 2856 Rhwng Tŵr y Brenin a chanllaw'r mur saif Abisâg a braich.Ahimâs yn dynn am ei hysgwyddau i'w chynnal.
(3, 2) 2857 Ger grisiau'r Porth saif Cŵsi, a'i ffagl yn goleuo Bathseba a Solomon ar y gris.
(3, 2) 2858 Gwaedda Joab ar y fyddin dros ganllaw castellog y mur, â ffagl yn ei law chwith ynlau.
 
(3, 2) 2876 Gyda'r gorchymyn "Ymlaen" mae'n chwifio'i ffagl yn uchel: clywir taranfloedd o gymeradwyaeth, a chwery'r utgyrn a'r pibau a'r drymiau fiwsig yr orymdaith.
(3, 2) 2877 ~
(3, 2) 2878 Try'r wybren (ar y seiclorama) yn fflamdanllyd gan y miloedd ffaglau buddugoliaethus.
(3, 2) 2879 ~
(3, 2) 2880 Fel y daw corff y fyddin yn agos, fe arwain Bathseba Solomon at y canllaw gerllaw Beneia, a Chŵsi yn dal i'w goleuo o hyd.
(3, 2) 2881 Gesyd y Frenhines y gist addurnedig ar lawr wrth y canllaw a thynnu Coron Israel allan ohoni.
(3, 2) 2882 Yna, fe rydd Beneia help i Solomon ddringo ar ben y gist a chwyfio'i law ar y milwyr wrth iddynt fartsio i mewn drwy'r Porth.
(3, 2) 2883 Yn sydyn, deil y Frenhines Goron Israel i fflachio uwchben ei mab.
(3, 2) 2884 ~
(3, 2) 2885 Wrth weled hynny fe gyrraedd gorfoledd y fyddin ei crescendo, a chlywn y banllefau croch.
 
(3, 2) 2888 Yn y gorfoledd newydd hwn mid oes neb bellach yn cofio am Ddafydd, Pêr-ganiedydd Israel gynt a'i gwaredwr rhag y Philistiaid, na neb yn edrych arno ond Ahimâs ac Abisâg.
(3, 2) 2889 ~
(3, 2) 2890 Pan ddisgyn y Llen, fe saif y Brenin yno'n ffigur unig, crymedig, pathetig, nad yw'r holl rialtwch hwn yn golygu dim iddo, am fod ei galon wedi ei chladdu yng ngwaelod ffos ddofn o dan y coed yng nghanol Fforest Effraim.
(3, 2) 2891 ~
(3, 2) 2892 LLEN