Ciw-restr

Absalom Fy Mab

Llinellau gan Meffiboseth (Cyfanswm: 118)

 
(1, 0) 431 O! Duw a dalo
(1, 0) 432 Dy fwynder im, arglwyddes... Wedi'r daith
(1, 0) 433 Hyd yma gyda'r Capten 'rwyf mor flin,
(1, 0) 434 A'r haul fel gwayw tanbaid trwy fy mhen.
 
(1, 0) 440 Diolch, arglwyddes—ond nid tywysog wyf.
 
(1, 0) 444 Na minnau'n arglwydd, ond ar gerfio coed.
 
(1, 0) 446 Llun carw a ddihangodd rhac y cŵn
(1, 0) 447 At draed bugeiles deg, tan ddail y gwinwydd,
(1, 0) 448 Ac a orweddodd yno heb ofni angau
(1, 0) 449 O deimlo'i thyner law ar gur ei ben...
(1, 0) 450 Arglwyddes Telyn, a gaf i wneud it gist?
 
(1, 0) 480 Maddau im, Dywysog,
(1, 0) 481 Yr wyf yn gloff o'm deudroed, a'm dwy faglan
(1, 0) 482 O'm cyrraedd tan y fainc. Crymais fy mhen
(1, 0) 483 I gyfarch mab y brenin. Ni allwn fwy.
 
(1, 0) 509 Nid ymleddais i.
(1, 0) 510 Ac ni bu cweryl rhwng fy nhad a'th dad.
 
(1, 0) 512 Yng nghanol rhyfel
(1, 0) 513 Y cwympodd-ô, ar bentwr cyrff Philistiaid,
(1, 0) 514 A phedair saeth trwy'i fron.
 
(1, 0) 524 Ei enw, Fab y Brenin, ydoedd Jonathan.
 
(1, 0) 529 Ni ddysgwyd imi grefft ond cerfio coed
(1, 0) 530 Yn ddail a blodau...
 
(1, 0) 533 Petai 'nhad...
 
(1, 0) 599 Trugarha,
(1, 0) 600 Frenhines hawddgar, nid oes ynof golyn,
(1, 0) 601 Na gwenwyn at dy fab, na chwant gorseddfainc,
(1, 0) 602 Na had gwrthryfel. Edrych ar fy nhraed.
(1, 0) 603 Pwy a'm cyfodai i i arwain byddin?
(1, 0) 604 Tosturia wrthyf!
 
(1, 0) 607 Nage, arglwyddes:—Maddau 'mod i'n eistedd
(1, 0) 608 I ddweud fy stori wrthyt—Wedi brwydr
(1, 0) 609 Mynydd Gilboa, pan gwympodd Saul a Jonathan,
(1, 0) 610 Rhuthrodd yr haid Philistaidd hyd at blas
(1, 0) 611 Fy nhad i ladd a llosgi ac ysbeilio.
(1, 0) 612 Fe ffodd fy mamaeth gyda minnau'n faban
(1, 0) 613 A'r fflamau'n lliwio'r nos; ond yn ei brys
(1, 0) 614 A'i dychryn fe'm gollyngodd ar y cerrig;
(1, 0) 615 Torrwyd fy fferau. Cawsom loches gudd
(1, 0) 616 Yn nhŷ Machir, un o dyddynwyr Saul.
(1, 0) 617 Eithr o ddiffyg meddyg yn ein cuddfan
(1, 0) 618 Asiodd fy fferau'n gam. Ni cherddais byth
(1, 0) 619 Heb help ffyn baglau.
 
(1, 0) 679 O, Frenhines Rasol,
(1, 0) 680 Yn fy ngweddïau beunydd cofiaf di...
(1, 0) 681 Yn fy rhyfeddod 'mod i eto'n fyw.
(1, 0) 682 Rhoed Duw i'r Brenin estyn edau f'einioes.
 
(1, 0) 684 Mae ar gardotyn efrydd eisiau byw!
 
(1, 0) 760 Trugaredd, Frenin grasol!
 
(1, 0) 766 O Frenin mawr a grasol, beth wyf fi
(1, 0) 767 It edrych ar gi marw, cloff, o'm bath?
 
(1, 0) 791 Tad pob amddifad tlawd a dalo iti.
(1, 0) 792 Gwelodd fy llygaid heddiw fawredd Dafydd,
(1, 0) 793 A Duw a sicrha dy orsedd byth.
 
(2, 1) 970 Pam? Pa beth a wnaeth?
 
(2, 1) 973 Gŵr celfydd yw,
(2, 1) 974 A noddwr i wŷr celfydd; ato y tyn
(2, 1) 975 Talentau newydd y genhedlaeth ifanc
(2, 1) 976 Yn reddfol, fel y darnau dur at dynfaen,
(2, 1) 977 — Penseiri, cerfwyr, a dodrefnwyr gwych,
(2, 1) 978 Rhoes Absalom siawns iddynt...
(2, 1) 979 — Ti sy i fynd.
 
(2, 1) 989 Gwêl,—mi symudaf i
(2, 1) 990 Fy marchog.
 
(2, 1) 996 Campus! A'r Brenin
(2, 1) 997 Yn ymfalchïo'n llon fod ei etifedd
(2, 1) 998 Yn arwr cenedl.
 
(2, 1) 1013 Gwarchod dy frenin!
 
(2, 1) 1015 'Wyt ti am symud?
 
(2, 1) 1018 Tsiec! Rhy wyllt
(2, 1) 1019 Oedd dy symudiad.
 
(2, 1) 1041 'Faint glywodd f'arglwydd dwysog
(2, 1) 1042 O'n siarad gwag?
 
(2, 1) 1115 Tegwch bro, a serch ei llwythau'n clymu
(2, 1) 1116 Fel y winwydden am y tegwch hwn,—
(2, 1) 1117 Ei choed, ei bryniau, ei hafonydd clir.
(2, 1) 1118 Y tad yn dysgu i'w fab ar gân ei charu,
(2, 1) 1119 A'r fam yn dysgu i'r ferch,—a'r gân a'r iaith
(2, 1) 1120 A'r tegwch yn ymdoddi'n un dreftadaeth,
(2, 1) 1121 Mor gyfrin, o genhedlaeth i genhedlaeth,
(2, 1) 1122 Fe fyddai'n wiw gan ddyn gael marw drosti.
 
(2, 1) 1167 O rhowch i minnau'r fraint o gerfio'i chedrwydd
(2, 1) 1168 Yn gnapïau addurn ac yn flodau lili.
 
(2, 2) 1765 O, Frenin mawr a thirion,
(2, 2) 1766 Pa beth a wnaf os collaf wedd dy wyneb?
(2, 2) 1767 Heb wên y gŵr fu'n codi'r tlawd o'r llwch
(2, 2) 1768 Syrthiodd yr haul o'r wybren. Beth a wnaf?
 
(2, 2) 1770 Mae'n rhy hwyr!
 
(2, 2) 1778 Taw! Bellach mae'n rhy hwyr.
 
(2, 2) 1792 Ffarwel, fy Nhad!
 
(2, 3) 1855 O! lleddwch fi!
(2, 3) 1856 Paham y byddaf byw i weld eich gwarth,
(2, 3) 1857 Y bradwyr? Lleddwch fi wrth orsedd Dafydd.
 
(2, 3) 1863 O! paham
(2, 3) 1864 Y rhoddaist glust, fy mrawd, i'r dyn drwg hwn?
 
(2, 3) 1866 Ni allaf i benlinio; a phe gallwn
(2, 3) 1867 Ni phlygwn namyn i Eneiniog Duw.
 
(2, 3) 1874 Hi a fu'n pledio drosof.
 
(2, 3) 1877 O mor ddaionus ydoedd trigo o frodyr
(2, 3) 1878 Ynghŷd yn Llys y Brenin.
 
(2, 3) 1882 Mi wn hyn,
(2, 3) 1883 Mai Dafydd yw fy mrenin i, a'm tad.
 
(2, 3) 1889 Nes dychwelo ef.
 
(2, 3) 1892 Yr oedd hi yma cyn imi syrthio i gysgu.
 
(2, 3) 1896 Nid oes dim celwydd ynof, fel tydi:
(2, 3) 1897 Yr oedd hi yma cyn imi syrthio i gysgu,
(2, 3) 1898 Ac fe ddiflannodd.
 
(2, 3) 1900 Dim mwy. Mi gerfiais gist o dderw i'w chadw.
(2, 3) 1901 Diflannodd hi a'r gist; ond sut ni wn.
 
(2, 3) 1904 Os yw'n fy ngallu, heb wneud drwg i'r Brenin.
 
(2, 3) 1908 Fynni-di win?
 
(2, 3) 1911 Nid ydyw gwenwyn yn un o arfau Dafydd.
(2, 3) 1912 Edrychwch.
 
(2, 3) 1922 Mi af, wrth gwrs.
(2, 3) 1923 Ni fynnai'n Tad fod croeso'i fab yn brin.
 
(2, 3) 2216 Acw...yn yr ardd...
(2, 3) 2217 Rhedais i'w erbyn... 'Roedd yr haul wrth fachlud
(2, 3) 2218 Yn dallu fy llygaid... Rhedais i'w erbyn... O!