Ciw-restr

Dewis Anorfod

Llinellau gan Maggie (Cyfanswm: 53)

 
(1, 0) 27 Camsyniad wnest ti.
 
(1, 0) 30 'Roedd e'n hwyr yn codi.
 
(1, 0) 34 Brecwast!
(1, 0) 35 Ar ol cinio'r Clwb neithiwr?
 
(1, 0) 51 Beth gawn ni ddangos i chi y bore 'ma, Mr. Prosser?
 
(1, 0) 54 Cadw siop yw'n busnes ni, wyddoch, ac felly allwn ni ddim gadael i bobl fynd a dod yma heb brynu dim.
 
(1, 0) 57 Beth yw "size" eich sgidiau chi?
 
(1, 0) 63 Na; ond hynny sy'n penderfynnu "size" y sgidiau.
 
(1, 0) 65 Eisteddwch, Mr. Prosser.
 
(1, 0) 69 Mae'n bryd i chi gael pâr o sgidiau newydd.
(1, 0) 70 Mae y rhain yn rhy hên a diolwg i ŵr o'ch safle chi.
(1, 0) 71 Estyn bâr o "eights" imi o'r silff yna, Vickey, os gweli di'n dda.
(1, 0) 72 ALICE
 
(1, 0) 74 Nid i brynu sgidiau y daeth Mr. Prosser yma, Maggie.
 
(1, 0) 76 'Sgwn i pam mae e'n dod i'r siop yma mor aml?
 
(1, 0) 80 A ydych yn treulio pâr o gareiau bob dydd?
(1, 0) 81 Mae'n rhaid eich bod yn gryf ofnadwy.
 
(1, 0) 84 A nawr bydd gennych sgidiau newydd i fynd gyda'r careiau, Mr. Prosser.
(1, 0) 85 Sut mae honna'n teimlo?
 
(1, 0) 87 Treiwch chi ar eich sefyll.
 
(1, 0) 90 Gadewch imi wisgo'r llall i chi.
 
(1, 0) 93 Eisteddwch, Mr. Prosser.
(1, 0) 94 Allwch chi ddim mynd allan i'r stryd felna, un hên esgid sâl ac un esgid newydd, smart, am eich traed.
 
(1, 0) 97 Punt.
 
(1, 0) 99 Ond mae nhw'n sgidiau da, Mr. Prosser.
(1, 0) 100 Ac ni bydd rhaid i chi dalu am gareiau heddiw.
(1, 0) 101 Fe gewch bâr o gareiau newydd yn y fargen, careiau rhawn, bid siwr.
 
(1, 0) 103 Ond gan eich bod mor gryf ac yn torri cynifer, falle bydd yn well gennych gael careiau lledr.
(1, 0) 104 Gallwch eu cael, wrth gwrs, ond fe gostia rheiny ddwy geiniog yn rhagor i chi.
 
(1, 0) 106 O'r gora; a gwell i chi adael yr hên bâr yma i'w cywiro.
(1, 0) 107 Danfonaf hwynt i'ch ty chi fory gyda'r bil.
 
(1, 0) 113 Nid ydych wedi gwastraffu punt, coeliwch fi.
(1, 0) 114 Fe bery'r sgidiau yna'n hir, cewch weld.
(1, 0) 115 Bore da, Mr. Prosser.
 
(1, 0) 121 Dyna wers iddo gadw oddiyma am dipyn.
(1, 0) 122 Mae ganddo ormod o amser i'w wastraffu.
 
(1, 0) 124 Gwn y dylai dalu rhent am gael treulio cymaint o amser yma.
(1, 0) 125 Nid yw pris un pâr o gareiau yn hanner digon.
(1, 0) 126 Dod yma i syllu'n wirion arnat ti y mae e.
(1, 0) 127 Rwy'i wedi diflasu ar 'i weld e'.
 
(1, 0) 130 Os yw e am dy briodi di, pam na wnaiff e hynny?
 
(1, 0) 132 Does dim rhaid iddi fod felly.
 
(1, 0) 134 Weli di'r bwcwl mawr gloyw ar yr esgid fach yma?
(1, 0) 135 Mae caru fel y bwcwl yma, merch i; rhywbeth gloyw ond hollol ddiangenrhaid.
 
(1, 0) 144 O'r gora, nhad; ond peidiwch â bod yn ddiweddar i ginio.
(1, 0) 145 Afu sydd yma i ginio heddiw,
 
(1, 0) 148 Os arhoswch chi fwy nag awr yn Y Bedol, fe fyddwch yn ddiweddar.
 
(1, 0) 165 Rwy'n siwr fod Mr. Heeler yn aros am danoch yn Y Bedol, nhad.
 
(1, 0) 180 Faint o gyflog ydych chi'n roi inni?
 
(1, 0) 219 Nhad, nid yn Y Bedol rydych chi 'nawr.
 
(1, 0) 243 Mae gennych lawer i'w ddweyd wrth Vickey ac Alice, nhad.
(1, 0) 244 Beth am dana' i?
 
(1, 0) 247 Os ydych yn dewis gwŷr iddyn' nhw, oes gennych un mewn golwg imi?