Ciw-restr

Yr Arth

Llinellau gan Lwca (Cyfanswm: 58)

 
(1, 0) 5 Thâl hyn ddim o gwbwl, mistras.
(1, 0) 6 'R ydych chi'n lladd eich hun.
(1, 0) 7 Mae'r forwyn a'r cwc wedi mynd i hel mefus, a phawb yn siriol, hyd yn oed y gath, mi ŵyr hi be di be; dacw hi'n rhodio yn y buarth yn dal adar, a chithe yn eiste' yn y tŷ o fore tan nos, fel taech chi mewn |confent|!
(1, 0) 8 Wedi colli blas ar y byd a bywyd!
(1, 0) 9 Wel, wir, pan gysidra i, fuoch chi ddim allan o'r tŷ ers blwyddyn agos iawn.
 
(1, 0) 14 Rŵan, rŵan, mi fyddai'n well gin i beidio clywed geiriau fel'na.
(1, 0) 15 Mae Nicolai Michaelofits wedi marw, debyg iawn, dyna ewyllys yr Arglwydd, nefoedd i'w enaid o!
(1, 0) 16 'R ydych chithau wedi galaru ar ei ôl, wrth gwrs; ond cofiwch yr hen air "Nid da rhy o ddim".
(1, 0) 17 Ddylai neb grio a gwisgo du yn dragywydd.
(1, 0) 18 Mi gladdais innau'r hen ddynas yn fy nydd, hefyd.
(1, 0) 19 Ond beth am hynny?
(1, 0) 20 Mi fuom i'n crio am fìs cyfa' a dyna ddigon iddi hi.
(1, 0) 21 'Tawn i'n dal i swnian hyd fy medd, be fyddai'r iws?
(1, 0) 22 'D oedd yr hen gryduras ddim yn werth hynny.
 
(1, 0) 24 Dyna chi wedi anghofio'ch cymdogion i gyd.
(1, 0) 25 'Fyddwch chi byth yn mynd allan, a cheith neb ddŵad i'r tŷ.
(1, 0) 26 Ac mae'r lle'n llawn dop dyn o fyddigions.
(1, 0) 27 Dyna'r |regiment| yn Rublofa, a'r |officers|, rel nobs, mae'n iechyd calon edrach arnyn nhw.
(1, 0) 28 A |ball| yn y camp bob dydd Gwener, a'r |bands| yn canu bob dydd dros ein pennau ni.
(1, 0) 29 O mistras bach, 'r ydych chi'n ifanc ac yn glws fel pictiwr, mae'n hen bryd i chi ddechrau byw a chael tipyn o hwyl.
(1, 0) 30 'D ydi pryd a gwedd ddim yn para am byth.
(1, 0) 31 Ymhen deng mlynedd mi fydd arnoch chithau isio sgwario o flaen yr |officers|, ond mi fydd yn rhy hwyr.
 
(1, 0) 39 Yn lle siarad fel yna, mi fyddai'n well o lawer i chi fynd am dro yn yr ardd a gofyn iddyn nhw rhoi Tobi a Ciaptan wrth y cerbyd i chi gael mynd i rodio a gweld eich ffrindiau.
 
(1, 0) 43 Mistras bach, be sy'n bod?
(1, 0) 44 Nefoedd fawr!
 
(1, 0) 51 O'r gora, mym.
 
(1, 0) 56 Gna, mym.
 
(1, 0) 64 Mistras, mae'na rywun yna isio'ch gweld chi.
 
(1, 0) 66 Do, mi ddeudais hynny, ond chymith o mo'i apad.
(1, 0) 67 Mae o'n deud fod gynno fo neges bwysig!
 
(1, 0) 69 Dyna ddeudais i, ond mae o fel y coblyn ei hun... yn rhegi fel cath ac yn gwthio ei hun i mewn ar draws popeth, mae o yn y dining-room.
 
(1, 0) 143 Be sy'n bod?
 
(1, 0) 155 Mae mistras yn wael, fedr hi weld neb.
 
(1, 0) 180 Wel?
 
(1, 0) 189 Yr ydych yn mentro yn arw, syr.
 
(1, 0) 192 Dim byd... d o'n i ddim ond yn...
 
(1, 0) 196 Y gŵr drwg ei hun ddoth â hwn yma i'n poeni.
 
(1, 0) 312 Syr, byddwch cystal â mynd allan, gan eu bod nhw'n gofyn i chi.
(1, 0) 313 Waeth i chi heb ag aros yma i...
 
(1, 0) 319 Seintiau glân wrth yr orsedd fry!
 
(1, 0) 321 O, 'r ydw i'n sâl!
(1, 0) 322 Fedra i ddim cael fy ngwynt.
 
(1, 0) 327 Och, mae nhw i gyd wedi mynd i hel mefus!...
(1, 0) 328 Neb yn y tŷ!...
(1, 0) 329 'R ydw i mor sâl!...
(1, 0) 330 Dŵr!
 
(1, 0) 345 Seintiau glân wrth yr orsedd fry!
(1, 0) 346 Dŵr!
 
(1, 0) 369 Annwyl barchedig syr!
 
(1, 0) 371 Byddwch drugarog, byddwch dosturiol wrth hen ŵr fel fi.
(1, 0) 372 Ewch i ffwrdd.
(1, 0) 373 Wedi fy nychryn hyd angau, dyma chi rŵan yn mynd i saethu.
 
(1, 0) 384 Annwyl barchedig syr, ewch i ffwrdd; cewch ran yn fy ngweddïau tra byddwyf byw.
 
(1, 0) 390 Annwyl barchedig syr, ewch i ffwrdd!
 
(1, 0) 399 Arglwydd annwyl, gwared ni a bydd drugarog!
(1, 0) 400 Mi â i nôl y gardner a'r coitsman.
(1, 0) 401 Beth yn y byd mawr ddaeth â'r fath bla ar ein pennau ni?
 
(1, 0) 517 Seintiau glân!