Ciw-restr

Beddau'r Proffwydi

Llinellau gan Emrys (Cyfanswm: 34)

 
(1, 0) 226 O'r gore, nain—ond 'rhoswch chi yn y lle rydech chi.
(1, 0) 227 Sut rydech chi heno, Miss Vaughan?
(1, 0) 228 Mi fum i acw yn yr Hafod hefo'ch tad drwy'r ddechreunos.
 
(1, 0) 234 Adda... ag Efa!
 
(1, 0) 239 Llonydd i mi gael gair i fewn, neno'r tad.
(1, 0) 240 Nid yn aml y bydd y Sgellog Fawr yn gwledda ar fraster y wlad, aie?
(1, 0) 241 Wel, er mwyn i chi glywed y stori i gyd—mi cês nhw fel y cafodd y Sgweier i dir—i cymryd nhw.
(1, 0) 242 Yr oeddwn i'n tanio mhibell wrth glawdd y winllan, ac wrth oleu'r fatsian, mi welwn y pâr ifanc ar y clawdd, a chyn y basa hyd yn oed y nhad yn medru deud "carreg a thwll" mi sylwis fod y ddau yn y mhoced i.
(1, 0) 243 Rhaid i chitha gael côt fel hon, nhad; welsoch chi 'rioed gymaint o hwyl gaech chi hyd y caeau na: mi dalith mam am y |game licence| hefo pres y menyn.
 
(1, 0) 249 Twt, twt,—cymrwch yr hyn y mae'r duwiau yn i anfon i chi heb holi gormod.
(1, 0) 250 Mi wnân ginio fory.
 
(1, 0) 260 |Agitator|?
(1, 0) 261 Ydw,—os ca i fy nghyfle, mi leiciwn i daro un ergid neu ddwy dros y werin yma....
(1, 0) 262 Rhaid i chi f'esgusodi i, Miss Vaughan, mi fydda i'n i cael nhw fel hyn weithia.
 
(1, 0) 270 Wel, Miss Vaughan, gan na fedrwch chi ddim aros, mi ddoi hefo chi dros y gors.
 
(1, 0) 274 Mynd i'ch gwely ydi gore i chi, nain bach.
 
(1, 0) 319 Rhoswch funud.
(1, 0) 320 Lle'r oeddech chi'n deud ichi adael y ddau ffesant, Roberts?
 
(1, 0) 323 Wel, y ddau ffesant, siwr—y—y—hynny yw, y gêm.
(1, 0) 324 Roedd yno ddau, on'd oedd?
 
(1, 0) 328 Meddwl ddarum i ych bod chi'n deud fod yno ddau.
 
(1, 0) 335 Dim o'ch busnes chi, Roberts.
(1, 0) 336 Ymddygwch fel gŵr bonheddig, neu mi tafla i chi allan.
(1, 0) 337 Peidiwch a thorsythu o mlaen i—
 
(1, 0) 339 —Pah! Cwrw a gwêr!
(1, 0) 340 Ddyn glân, 'rydech chi'n feddal fel pwdin!
 
(1, 0) 353 Gwna, yn neno'r tad, os medrwch chi sgrifennu.
(1, 0) 354 Mi welis ddau ddyn yn sefyll fel dau lechgi—un yn las drosto fel pry baw, lwmp hyll o ddyn tew ffoglyd, ac un arall wrth i ochor o hefo locsyn coch.
(1, 0) 355 Mi feddylis i ar y cynta mai dau fwgan brain wedi'u codi gan ddyn dall oedd yno—ond mi sylweddolis yn y diwedd mai plisman a chipar oedden nhw.
 
(1, 0) 381 Wel, rhag i chi orweithio'r ddau chwarter pen yna sy gynnoch chi ddim pellach, mi ddeuda wrthoch chi mewn ychydig eiriau sut y bu hi.
(1, 0) 382 Gweld y ddau dderyn yma ar ochor y clawdd ddarum i wrth ola mhibell, ag mae hawl gan bawb i'r hyn welan nhw ar y ffordd fawr, debig gen i?
 
(1, 0) 403 Beth sy arnoch chi, Ann?
 
(1, 0) 420 Wel, dydi hyn ddim byd—mwy na dŵr ar gefn chwiaden.
(1, 0) 421 Fedrwch chi ddim mynd adre'ch hun.