Ciw-restr

Cwm Glo

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 44)

(1, 1) 1 YR ACT GYNTAF
(1, 1) 2 ~
(1, 1) 3 GOLYGFA I
(1, 1) 4 ~
(1, 1) 5 Partin tan-ddaear.
(1, 1) 6 Amser brecwast.
(1, 1) 7 ~
(1, 1) 8 Pethau a ddigwydd bob dydd, ym mhob "Cwm Glo" yn y Sowth, yw defnydd y chwarae hwn.
(1, 1) 9 Y cwbl a ofynnir yw cyfnod o bedair blynedd, i hadau'r ddwy olygfa gyntaf brifio: aeddfedant i'w priod ffrwyth yn ddiymod.
(1, 1) 10 ~
(1, 1) 11 Pan gyfyd y llen y mae'r llwyfan mewn tywyllwch a llwch glo mân, ond bod un lamp glôwr, sydd yn hongian wrth un fraich pâr o goed yn agos î ganol y llwyfan, yn creu cylch clir o olau, fel gnotai, am ben y glôwr hwnnw.
(1, 1) 12 Wrth i'r llygaid gynefino â'r tywyllwch gallwn ninnau amgyffred yn well mai partin tan-ddaear sydd o'n blaen a bod pâr o reilffyrdd gloyw yn rhedeg ar draws y llwyfan o'r chwith uchaf i'r dde isaf.
(1, 1) 13 Rhed ohonynt ddeubar arall i mewn tua'r ffos sydd yn rhywle ar y dde.
(1, 1) 14 ~
(1, 1) 15 Cliria'r llwch a gwelwn mai DAI DAFIS, gŵr ar ei ganol oed, sydd yn eistedd wrth droed y coler coed, a'i fod yn bwyta ac yn ceisio darllen papur yr un pryd.
(1, 1) 16 ~
(1, 1) 17 Heb godi ei ben o'r papur, estyn ei law i'r tomi bocs ac at y jac bob yn ail, ac ni newidia ei osgo ddim pan glywn ninnau ei lais:
 
(1, 1) 26 Ymhen ennyd daw RICHARD IFANS o'r twnnel isaf.
(1, 1) 27 Gŵr tua 6o oed yw, a chanddo wyneb rhadlon, pryfoclyd bron.
(1, 1) 28 Gwisg ei got amdano wrth ddod ymlaen.
(1, 1) 29 Daw IDWAL, bachgen ifanc iua 30 oed, o'r un man ag ef, ond try yn ei ôl i dynnu ei got oddi ar hoelen mewn coler arall a'i thaflu tros ei ysgwyddau.
(1, 1) 30 Daw BOB, crwtyn 16 oed, o'r twnnel uchaf ac â ar ei union i'r man lle y mae DAI a DIC yn eistedd.
 
(1, 1) 38 Wrth fod Bob yn paratoi i eistedd atelir ef a'i gael ar ei ddeulin.
(1, 1) 39 Saif #Idwal
(1, 1) 40 wrth y coler â'i gefn ai y lleill.
 
(1, 1) 42 Cyfyd DIC ei law ar osgo cyhoeddi bendith, a thry DAI ddalen o'i bapur yn ddigon stwrllyd.
 
(1, 1) 125 Sylwa nad yw IDWAL ddim yn gwrando arno.
(1, 1) 126 Y mae hwnnw, tra fu DAI yn clebran, wedi tynnu sialc o'i boced, ac ar focs glo yn ei law wedi torri diagram theorem Pythagoras.
(1, 1) 127 Edrydd y theorem wrtho'i hun gan ddilyn y llinellau, weithiau â'i fys trwy'r awyr, weithiau â'r sialc ar y diagram.
(1, 1) 128 Croesa BOB ato, a sylwi yn ddistaw arno.
(1, 1) 129 Pan wêl ei fod yn methu mynd ymlaen, ar yr un munud ag y bydd DAI yn gofyn am y swllt, gofyn iddo:
 
(1, 1) 139 Enwer y llythrennau bob tro yn Saesneg.
 
(1, 1) 205 Edrych y tri yn syn arno, ac yna tery DIC ei law yn ôl chwap ar draws ei geg, nes bwrw'r bibell i'r llawr a chael gafael ynddi, a'i dal i fyny ennyd.}
 
(1, 1) 269 Nid yw DAI yn symud.
(1, 1) 270 Neidia BOB o'r ffordd i roi lle i'r ymladd y carai ef ei weld.
 
(1, 1) 283 Â BOB yn ôl at ei waith a chlywir ef yn cynghori IDWAL, sydd yn hongian ei got a chrynhoi ei bethach.
 
(1, 1) 364 Daw yn ôl at y dram lo, a chwalu'r talpau ar ei phen hi â'i law: edrych yn fwy craffus arni: dyd ei law i mewn rhwng y talpau, a chodi dernyn o slag i'r golwg a'i daflu i'r llawr.
(1, 1) 365 Y mae DAI yn myned heibio iddo yn ôl i'w ffâs.
 
(1, 1) 367 Daw ei law ar draws telpyn arall o slag a gesyd ef ar ymyl y dram, yn y golwg.
(1, 1) 368 Wrth iddo alw ar DAI â heibio i du blaen y dram a sefyll ar yr ochr isaf iddi.
(1, 1) 369 Pan ddaw DAI allan saif ef lle safasai MORGAN LEWIS.
 
(1, 1) 382 Dyd ei law i mewn ym mherfedd y dram a thyn allan ddyrnaid o lo mân gwlyb, a'i gario yn ei law i ganol y llwyfan.
(1, 1) 383 Mae llygaid DAI yn ei ganlyn ac y mae ansicrwydd yn ei wedd.
 
(1, 1) 466 LLEN