Ciw-restr

Yr Hen Deiliwr

Llinellau gan Scweier (Cyfanswm: 41)

 
(1, 0) 47 Llai o sŵn, John; ma tafod ti rhy hir.
(1, 0) 48 Cerwch mlân, Jenkins.
 
(1, 0) 54 Very good, very good.
(1, 0) 55 A fi'n cynnyg 'nawr, Mr. Chairman, fod ni'n câl report John a Dafi am y ffordd.
(1, 0) 56 Well i ti, Dafi, siarad, mi fydd John ding-dong, ding-dong drw'r nos yn gweyd 'i stori, a ma ladi yn disgwyl fi catre i cinio.
 
(1, 0) 64 Very good, Dafydd, a chi'n gweyd y gwir bob gair.
(1, 0) 65 Rown i ar cefen y cel glâs mas yn hela, ac wrth croesi yr hen ffordd y jafol 'na mi a'th troed y cel bach i hen twll, a finne tros i ben e' i'r mwt, nes o'dd cot fi'n plastar, ac wedi spwylo altogether.
 
(1, 0) 67 Helo, Siaci Felin, be sy arnat ti, gwêd?
 
(1, 0) 77 A fi'n synnu atat ti, Siaci, yn dod 'ma i weyd hen stori baganaidd fel 'na.
(1, 0) 78 Pam na chi, Jenkins, Ffeirad, peidio pregethu yn erbyn hen trash fel'na?
(1, 0) 79 Cŵn bendith y mamau, wir, digon tebyg mai haid o llygod ffrenig welest ti, ar 'i ffordd i whilio ydlan newy'.
(1, 0) 80 Os o'nhw'n mynd i'r Plâs, mi ro'i y cipar, a'r fferets, a'r tarriers ar 'u hol nhw, a mi 'na i |short work| o'r scamps.
 
(1, 0) 86 Jolly rot, I say.
(1, 0) 87 You are paid to knock this nonsense out of them, and see that you do it.
 
(1, 0) 106 O'dd Jac ddim yn potcher, Nansi, a'r bobol yn gweyd celwy ie.
(1, 0) 107 Wen i wedi specto 'rhen Jac os llawer dy' a fi a'r cipar yn 'i watcho fe, y scamp, a d'odd dim ishe gwell evidens na ges i.
(1, 0) 108 A fi yn paso tŷ ti, Nansi, un diwarnod, a 'ma fi yn dachre smelo, smelo.
(1, 0) 109 Ma cawl gweningen yn tŷ Nansi, medde fi.
 
(1, 0) 113 Paid ti bod mor smart, Nansi.
(1, 0) 114 Ro'dd Carlo bach gyda fi, a ma' Carlo bach yn dachre smelo, a 'ma fe yn mynd miwn i gardd ti, Nansi, a 'ma fe'n dod 'nol â asgwrn gweningen yn 'i ben e'.
(1, 0) 115 A ma fe'n sefyll o mlan i ac yn edrych arna i, ac fel yn gweyd, Mistir, ma' fi wedi dala Jac Potcher o'r diwedd.
(1, 0) 116 Ie, Nansi, hen dyn drwg yw Jac, a hen potcher mowr hefyd, a fi'n falch fod e' yn y jâl.
 
(1, 0) 131 Dyma hi o'r diwedd.
(1, 0) 132 A fi a nhad a nhacu wedi tendo Festri Llansilio am ugeine o flynydde, a dyma fi, Scweier y plwy, yn gorffod grondo ar insults fel hyn 'da hen teilwr.
(1, 0) 133 Dyma be sy'n bod, Jenkins, Ffeirad, o câl hen deilwr i ddod i cymysgu â ffarmwyrs respectablyn y Festri.
(1, 0) 134 A fi dim yn aros rhagor, a fi'n mynd catre at y ladi, a cofia di, Dafi teilwr, cei di dim gwinio stitch mwy i'r Plâs, a ma ishe dillad newy' ar y cotchman a'r bwtler 'nawr.
(1, 0) 135 A fi'n mynd.
 
(1, 0) 142 Na, na, 'ma fi'n mynd.
 
(1, 0) 158 Dyma hi o'r diwedd.
(1, 0) 159 Mae'r byd ar ben; mae'r byd ar ben!
(1, 0) 160 Twm Cotchman, dere mlaen, tyn dy hat lawr, a gwêd wrth y Festri be' sy wedi hapno mewn plwy respectabl fel Llansilio.
(1, 0) 161 Tyn dy hat lawr a paid sefyll fel post fan 'na.
(1, 0) 162 Gwêd dy stori.
 
(1, 0) 165 Dyna result dy hen tafod ti, Dafi teilwr, a fi'n gweyd yn blaen os clywa i fod un o tenants y Plâs yn y busnes hyn, "Notis to quit" fydd hi at once.
(1, 0) 166 Cer ymlaen â dy stori, Twm, yn lle sefyll fel mwlsin fan 'na.
 
(1, 0) 172 Dyna ddigon, dyna ddigon, mae'r byd ar ben.
(1, 0) 173 Mi fyddan yn dod i'r Plas nesa a hala ofn ar ladi, a llosgi y tai, a lladd y pheasants a'r gweningod, ond mi hala i yn straight at y Government i gal y soldiers lawr, a mi nawn cwnstebli newy'.
(1, 0) 174 A cofia di, Dafi teilwr, os clwa i dy fod ti yn torri y cyfreth mi cei di summons yn y fan.
(1, 0) 175 Mi dy ddysga i di i weyd hwre am fod Beca a'r set 'na yn gneud drwg.
(1, 0) 176 Ac os cei di dau neu dri diwarnod yn y stocs, falle na fydd dy hen dafod ti mor hir.
(1, 0) 177 Dere, Twm, rhaid i fi alw y justices at i gily' i neud cwnstebli.