Ciw-restr

Deufor-Gyfarfod

Llinellau gan Gwen (Cyfanswm: 93)

 
(1, 0) 43 Feddylias i ariod pan adewais iddi fynd lawr i Lantrisant y byswn yn gweld cymaint o'i hisha hi.
(1, 0) 44 Wrth gwrs fysa ddim yn deg ifi 'i chatw hi a nwnta'n dishgwl babi yno cyn pen doufish.
 
(1, 0) 46 Nid 'mod i'n teimlo'r gwaith yn ormodd ifi, cofia, ond mae'n od yn y tŷ yma hepthi rywsut.
 
(1, 0) 51 Wyt ti wedi cwpla'r llythyr at Myfanwy, John?
 
(1, 0) 56 A fe wetast fod Gwilym yn cychwyn miwn pump wthnos?
 
(1, 0) 59 Wn i ddim yn y byd shwd y galla' i fatal ag e.
(1, 0) 60 Peth ofnadw yw ffarwelio ag e fel hyn a finna'n fam iddo.
(1, 0) 61 Rwy'n ffaelu diall, John, pam mae'r Brenin Mawr yn doti dynon gita'i gilydd os yw E am 'u gwahanu nhw wetyn.
 
(1, 0) 66 Wel, fe fydd yn lwc i Myfanwy idd 'i gal e hed.
(1, 0) 67 Pwy allai gatw cownts y fferm yn well nag e, ag ynta'n sgrifennu shwd ddarna bach pert o farddoniaeth yn Sisnag yn gystal a Chymrag?
(1, 0) 68 Fe ddotast yn y llythyr am dano'n ennill y wobor yn Steddfod Mountain Ash, spo?
 
(1, 0) 70 A dim ond pump wthnos cyn y bydd e'n mynd.
(1, 0) 71 Dwy' i ddim am sefyll ar 'i ffordd e, ond, O, mae'n ofnadw idd 'i golli e mor gynnad.
 
(1, 0) 75 Ia, ia, John, fe wn i hynny!
(1, 0) 76 Dyna'r ffordd rwy'n cisho perswato'm hunan o hyd.
(1, 0) 77 Dyna i gyd rwy'n ofyn gan y Brenin Mawr─ifi gal byw i weld Gwilym ni yn cal 'i iechyd nol eto.
(1, 0) 78 Tyswn i ddim ond cal byw i weld hynny─idd 'i weld e'n gryf a hoyw a gwrid iechyd yn 'i wynab e─unwaith, dim ond unwaith cyn marw, rwy'n cretu y gallwn i fatal â'r hen fyd yma dan ganu.
 
(1, 0) 82 "Endeavouring"?
(1, 0) 83 Aros funad 'nawr.
(1, 0) 84 Dyna'r Christian Endeavour Society ontefa?
(1, 0) 85 E-n-d─wn i yn y byd.
(1, 0) 86 Bysa'n llawar rhwyddach iti sgrifennu yn Gymrag, John bach.
 
(1, 0) 95 Sgwn i shwd bydd e'n dishgwl.
 
(1, 0) 98 Gwilym ni, pan ddaw e nol yn gryf ac iach.
 
(1, 0) 100 Mae'n beth mawr, John, i fenyw ddishgwl ar 'i phlant a'u gweld nhw i gyd bob un yn ddynon cryf, mor gryfad fel y gallsan' nhw 'i lladd hi a'u dwylo noth, a'r dwylo hynny heb ariod gwrdd â hi ond mewn serch a charedigrwydd.
(1, 0) 101 Ond mae yna rwpath obeutu plentyn gwannaidd hed─alla' i ddim esbonio─mae yna rwpath sy'n 'i gatw e'n acos iawn at galon 'i fam.
(1, 0) 102 Mae fel tysa genti un sy heb dyfu lan fel y lleill, un sy'n gofyn am 'i gofal hi'n wastod.
 
(1, 0) 106 Wel otw i ddim yn fam iddyn' nhw?
(1, 0) 107 Wyddost ti, John, alla' i lai na chretu fod Gwilym yn colli blas at fwyd y dyrnota dwetha yma.
(1, 0) 108 Dyna'r gwaetha o'r hen dywydd twym yma!
(1, 0) 109 Fel y gwetas i amser brecwast, tyswn i ddim ond yn gallu dod o hyd i ffowlyn bach, byswn yn gwneud diferyn bach o gawl tastus idd 'i ddenu fe i fyta.
(1, 0) 110 Ond mae ffowlyn yn costi ticyn, a does dim gormodd gita ni i sgwaro y dyddia yma rhwng y streic a chisho cynilo i hela Gwilym i Australia.
 
(1, 0) 115 Dyw e ddim yn rhoi hen gownt i neb nawr.
(1, 0) 116 Fe gollws gymant yn y streic ddwetha.
 
(1, 0) 123 Ond mae'n siwr gen i, John, y gallwn i gal pishyn bach o ben gora'r rhag i wneud diferyn o gawl iddo.
 
(1, 0) 125 Rhaid i ni grynhoi pob cinog yr wthnosa nesa yma er mwyn cal mwy o betha iddo fe.
 
(1, 0) 129 Crotan ryfadd oedd Myfanwy─'roedd hi'n llawn bywyd ac yn dân ac yn deimlad i gyd.
(1, 0) 130 O'r annwl! fel y byddai hi'n canu!
(1, 0) 131 Rwy' i bron cretu bod John Henry ni'n tyfu yr un ffunud a'i fotryb Myfanwy.
 
(1, 0) 134 A mae fe rwpath yn depig obeutu 'i drwyn a'i ên hed.
(1, 0) 135 Ddotast ti air am dano yn y llythyr?
 
(1, 0) 139 |University|, John, |University|!
 
(1, 0) 145 Y Parch. John Henry Price, B.A.
 
(1, 0) 150 Allsem ni ddim gwneud, John, a Gwilym druan mor wannaidd.
(1, 0) 151 Mae wedi bod yn ddicon calad arnom ni er inni gal Sam i lodgo yma.
 
(1, 0) 155 Wel, John, wyt ti'n gweld, mae 'i fab 'i hunan, William Ewart, yn paratoi i fod yn bregethwr hed, a falle na alla neb ddishgwl iddo fod yn rhyw wresog iawn.
 
(1, 0) 157 Fe wetast wrth Myfanwy am yr alwad i Horeb, spo?
(1, 0) 158 Fe fydd hynny yn ddiddorol, a hitha wedi arfadd ishta yn y cornal wrth yr harmonium o'r dydd y bedyddiwyd hi.
 
(1, 0) 162 Otw, John, otw.
 
(1, 0) 166 A fe allai fyw yn nhre gita ni a fe allwn i ofalu am 'i ddillad e.
(1, 0) 167 Ta beth, fe fydd John Henry yma hyd fish Hydre'.
(1, 0) 168 Mae hynny'n rhyw gysur; achos fe fydd yr hen dŷ yma'n od iawn ar ol i Gwilym druan fynd dros y dŵr.
 
(1, 0) 170 Pump wthnos, dim ond pump wthnos.
 
(1, 0) 173 Alla' i ddim help, John bach.
(1, 0) 174 Dyna fel y gnath y Brenin Mawr fi.
(1, 0) 175 Mae rhyw ofan arno'i rywsut, ofan yr aros a'r dishgwl, yn meddwl am dano ddydd a nos, ag ynta 'mhell o dre yn y gwletydd pell yna.
(1, 0) 176 Fe fydda' i'n gallu gweld 'i wynab e bob awr o'r dydd, dim ond ifi gauad 'n llyced, a fe fydda' i'n clwad 'i laish e'n wastod wrth fynd ar hyd y tŷ a mas yn yr ardd wrth 'i wely blota fe.
 
(1, 0) 180 Wel, tawn i fyth o'r fan yma, dyma Gwilym a Sam yn dod lan o'r |Crossing| a dyma fi heb gymant a doti'r llestri ar y ford!
 
(1, 0) 182 Dyna un ofnadw i glepran wyt ti, John!
 
(1, 0) 184 Does gen i gynnig i'r bechgyn ddod sha thre a phetha ddim yn barod.
(1, 0) 185 Gall menyw ddim dishgwl catw gafal ar 'i phlant os na fydd hi'n gwneud petha dicyn yn gyfforddus iddyn' nhw.
 
(1, 0) 187 Trueni hed na fysa Lizzie Ann yma!
(1, 0) 188 Mae hi'n ddicon twp; rwy' i wastod yn gweyd wrthi na fu hi ariod ym mhen draw'r ffwrn─
 
(1, 0) 190 ─ond mae hi'n handi, a rwy'n lico gweld 'i hen wynab hi obeutu'r tŷ.
(1, 0) 191 A fe ferwa'i ddiferyn bach o gawl iddo fe erbyn swpar.
 
(1, 0) 213 Ble buast ti mas yna'r holl amsar, boi bach, a hitha mor dwym yn yr houl?
 
(1, 0) 216 Ista lawr, nghalon i.
(1, 0) 217 Fe gei dy dê miwn wincad.
 
(1, 0) 233 Ble buast ti, Gwilym?
 
(1, 0) 238 Bara 'menyn, Sam?
 
(1, 0) 241 Dewch miwn.
 
(1, 0) 245 A!
(1, 0) 246 Shwd ych-chi, Isaac Pugh?
(1, 0) 247 Dewch miwn.
 
(1, 0) 251 Otyn, otyn.
(1, 0) 252 Dewch chi miwn.
 
(1, 0) 254 Gymrwch chi ddishglad o dê gita ni?
 
(1, 0) 261 Mae yma ddicon o groeso, cofiwch chi.
 
(1, 0) 291 Eitha gwir.
(1, 0) 292 Dyw hi ddim fel oedd hi, pan oen' nhw'n gorffod dod â'r meincia mas o'r festri acha nos Sul.
 
(1, 0) 294 Cymrwch honna yn 'ch llaw fanna nawr, Isaac Pugh.
 
(1, 0) 300 Ych-chi'n siwr nawr na chymrwch chi ddim tamad o fara 'menyn?
(1, 0) 301 Dyna bishyn bach neis tena i chi.
 
(1, 0) 304 Rych chitha, fel ninna, Isaac Pugh, yn dishgwl ymlan at 'u gweld nhw'n dod sha thre o'r coleg, spo?
 
(1, 0) 310 Dim ond cwpwl o bicture-postcards yr wthnosa dwetha yma, ond 'dym ni ddim yn poeni o achos hynny am 'i fod e wrthi yn gwitho erbyn yr |examination|.
(1, 0) 311 Petha ofnadw yw'r hen |examinations| yma.
(1, 0) 312 Rwy'n gobitho fod y fenyw lle mae fe'n lodgo yn dishgwl ar 'i ol e, ond rhaid ifi weyd, i fi'n 'i chal hi'n fenyw fach ddicon teidi, er bod hi'n perthyn i'r eclws.
 
(1, 0) 329 Dyna ti, John.
(1, 0) 330 Ond wetas i wrthot ti?
(1, 0) 331 Ag ynta ddim ond yn betar-ar-ddeg yn gatal yr ysgol!
(1, 0) 332 Ond doedd dim modd 'i atal e.
(1, 0) 333 Bant â fe i'r ysgol nos bob gaea.
(1, 0) 334 A'r llyfra roedd e'n brynu ag ynta ddim ond coliar bach!