Ciw-restr

Dau Dylwyth

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 20)

1 Yr un yw'r olygfa drwy'r ddrama—cegin fawr Gwmhelyg.
2 Hen ddodrefn derw sydd ynddi; bwrdd yn y canol, rhai cadeiriau derw o'i amgylch, cadair freichiau ger y lle tân ar y chwith a dreser yn y cefn ar y dde.
3 Yng nghanol y cefn y mae ffenestr.
4 Y mae drws ar y chwith yn arwain i'r gegin fach ac i'r llaethdy; hwn yw'r drws a ddefnyddir i fynd i mewn ac allan o'r buarth.
5 Y mae drws arall ar y dde yn arwain i'r gweddill o'r tŷ.
6 Uwchben y lle tân y mae rhestl i'r dryll ac y mae'r pethau arferol ar y silff-ben-tân.
7 ~
8 Gan fod pymtheng mlynedd rhwng y prolog ac Act I rhaid newid ychydig ar y llwyfan rhyngddynt.
9 Tebyg y bydd newid y lliain bwrdd a llenni'r ffenestr yn ddigon.
10 Gorau i gyd po leiaf o amser a gymerir wrth y gwaith hwn.
 
12 Pan gyfyd y llen, gwelir Mrs. LLOYD yn glanhau cyllyll â bocs a bricsen wrlh y bwrdd.
13 Benyw tua 35 oed ydyw, eithr y mae gofid wedi gwneud ei ôl ar ei hwyneb yn barod.
14 Daw WILLIAM i mewn yn araf o'r chwith.
15 Er ei fod tua 60 oed, y mae'n heini ei osgo.
 
111 Clywir llais DAFYDD yn gweiddi "Mam", yna rhuthra i mewn—bachgen oddeutu 10 mlwydd oed.
 
118 Ei fam yn codi ac yn ei arwain oddi wrth eì dadcu ac yna yn eistedd drachefn ger y bwrdd gan gadw DAFYDD wrth ei hochr.
 
193 WILLIAM a DAFYDD yn mynd.
194 MRS LLOYD yn eistedd ger y bwrdd.
195 ~
196 LLEN