Ciw-restr

Dyrchafiad Arall i Gymro

Llinellau gan John (Cyfanswm: 95)

 
(1, 0) 16 Morris yn dyfod i lawr yn nhraed ei sanau, gyda channwyll oleu yn un llaw, a'i goler yn y llall.
(1, 0) 17 Dengys ei lodrau gwynion mai chwarelwr ydyw, chwarelwr yn byw ar dyddyn, y math perffeithiaf o werinwr a allodd gwareiddiad Cymru ei godi eto; dyn distaw penderfynol, ac ôl diwylliant nid bychan ar ei iaith a'i foes.
(1, 0) 18 Gwasged gordoroy werdd, a chôt frethyn lychlyd am dano.
(1, 0) 19 Dyry ei esgidiau am ei draed yn bwyllog, ac yna, cyfyd i fyny ei freichiau i ymestyn.
(1, 0) 20 Saif fel pe bai rhwng dau feddwl am funud, a dyry ochenaid ddofn, ond â allan yn araf drwy'r drws, a daw'n ol ymhen munud neu ddau, gyda choed tân yn un llaw, a glo mewn bwced yn y llall; penlinia o flaen y tân, gan ddechreu ei osod.
(1, 0) 21 ~
(1, 0) 22 Yna daw Catrin Morris i lawr, gwraig ieuanc brydweddol, serchog yr olwg, dan glymu ei barclod o'r tu ol.
(1, 0) 23 Cymer lamp oddiar y dresel i'w goleu, ac wrth siarad a'i gŵr, y mae'n paratoi'r bwrdd at bryd.
 
(1, 0) 26 Mae o'n ddigon cyndyn y bore yma, beth bynnag─well i chi gael y fegin, neu ynte ferwith y tecell yma byth.
 
(1, 0) 32 Nag oes, dim; beth wnaeth i chwi feddwl hynny?
 
(1, 0) 35 Beth, meddwch chi?
 
(1, 0) 38 Nagê, wir, Catrin, doeddwn i ddim yn meddwl o gwbwl am yr hen fargen, ac mae yma ddigon o bobol ar y Rhos yma yn cael llai nac hyd yn oed deirpunt, fel gês i'r mis dwytha.
 
(1, 0) 47 Catrin, faint sy ers pan yden ni wedi priodi, deudwch?
 
(1, 0) 49 le, chwe blynedd, a faint o wylia yden ni wedi gael drwy'r chwe blynedd yna?
 
(1, 0) 53 Nage,─sawl diwrnod gollis i o'r chwarel?
 
(1, 0) 57 Wn i ddim, neno'r tad annwyl.
(1, 0) 58 Rydw i'n dechra blino ar yr hen chwarel yna; ydw wir.
(1, 0) 59 Mi fydda i'n meddwl weithia am fynd oddiyma i Awstralia neu rywle arall─yn ddigon pell, lle caiff rhywun dâl gonest am i waith...
(1, 0) 60 Mae Tomos ych brawd yn cadw sŵn o hyd arna'i fynd hefo fo.
 
(1, 0) 63 Wyddoch chi'n iawn y mod i'n hapus yma, Catrin─ar ych cownt chi ag Ifan yr ydw i'n poeni.
(1, 0) 64 Rydw i'n câl digon o bopeth sy arna i eisio, ond mi fyddai'n ama weithia y byddwch chi ag Ifan bach yn byw ar wynt a dŵr pan fyddai yn y chwarel...
(1, 0) 65 Wel, wir, waeth imi dewi.
(1, 0) 66 Fedrwn i byth adael yr hen le yma debig, er mor gandryll ydi o─hen aelwyd y nhad a mam─y siambar lle buon nhw i gyd farw, a'r hen gapel lle ces i'r olwg gynta...
(1, 0) 67 Ar hen lwybra yma lle buon ni'n caru ystalwm...
(1, 0) 68 Does arna i fawr o eisio bwyd y bore yma.
 
(1, 0) 71 Wel?
 
(1, 0) 73 Newch chi ddim ond chwerthin am y mhen i, mi wn, dawn i'n deud wrthoch chi.
(1, 0) 74 Ydi Mr. Jones y scŵl yn sôn am godi Ifan i'r |First Class| y tro yma?
 
(1, 0) 77 Steddwch i lawr, Catrin, a mi dreia i ddeud a wrthoch chi, os peidiwch chi a chwerthin am y mhen i.
 
(1, 0) 80 Hen freuddwyd câs gês i neithiwr.
(1, 0) 81 Mi fuom i bron a'ch deffro chi, i ddeud owrthoch chi, ond mi feddylis y basa'n well peidio, wedyn, ac mae'n debig imi huno tipin rhwng rhyw gwsc ac effro wedyn.
 
(1, 0) 83 Mae'n gâs genni feddwl am dano fo, na'i ddeud o.
 
(1, 0) 86 Fyddwch chi'n credu mewn breuddwydion, deudwch?
 
(1, 0) 88 Mi fyddai'n meddwl weithia fod yna ryw synnwyr ymhob dyn wedi mynd ar goll, rhywbeth sy gan yr anifeiliaid nag sy gynnon ni, a phan fydd y synwyra erill yn cysgu, mi fydd hwnnw'n cael i gyfle i ddeud gair weithia.
(1, 0) 89 Ydech chi'n y nghofio i'n sôn am Sion y Muria rywdro?
 
(1, 0) 91 la, dyna fo─y creadur meddwa yn yr holl sir, heb ddim dowt..
(1, 0) 92 Mi fethodd y capal, ag mi fethodd y jêl, mi fethodd i wraig o a'i blant i droi o,─fydda fo byth yn sobor.
(1, 0) 93 Ond mi freuddwydiodd ryw noson i fod o wedi lladd i wraig a'i blant bach yn i ddiod, a phan ddeffrodd o yn y bore, mi aeth ar i union cyn brecwast at Mr. Huws, Sardis, i seinio dirwest, a chyffyrddodd o â dafn byth wedyn.
(1, 0) 94 Mae o'n coelio hyd heddiw tasa fo wedi meddwi unwaith wedyn y basa fo wedi gneud fel yr oedd o'n breuddwydio.
(1, 0) 95 Mae ambell un yn medru gweld yng ngola llwyd i freuddwyd yr hyn na feder o weld yn llygad haul pan yn effro; mae'r gola yn i ddallu o.
 
(1, 0) 97 Gweld drwy amser, Catrin, heb len o gwbl.
(1, 0) 98 Mae yna ddwy len o'n cylch ni, un o'n hola ni, sef llen y gorffennol, ac un o'n blaena, sef llen y dyfodol.
(1, 0) 99 Mae'r co yn medru gweld drwy'r llen gynta, ac mae yna ryw synnwyr arall yn medru gweld drwy'r llall, pan fyddwn ni'n breuddwydio.
 
(1, 0) 103 Wel, mi welwn fy hunan wrthi hi'n tyllu ar wyneb y graig, a Tomos ych brawd, fel arfer, yn taro imi.
(1, 0) 104 Mi fuon ni wrthi hi yn ddygyn am oria, debygwn i, a phan oedden ni ar ddarfod, dyma'r corn yn canu, a ninna'n codi i fynd at y trên i ddwad adre, ond cyn y mod i wedi rhoi fy nghôt am dana, mi welwn ddyn ar ben y clogwyn yn galw arna i wrth f'enw, ac yn gwaeddi |wâr|, a chyn i fod o wedi tewi, mi welwn y graig wrth yn penna ni yn gwegian ac yn plygu drosodd, ac i lawr a hi am yn penna ni.
(1, 0) 105 Mi welwn blyg mawr yn taro Tomos yn i ben, a wedyn dyma'r cwbwl i lawr, am danon ni...
(1, 0) 106 Mi ddeffris yn chwys oer drosta'i gyd, ac yn crynu fel deilen...
(1, 0) 107 Catrin, wyddoch chi pwy oedd y dyn oedd yn gwaeddi |wâr| arnai?
 
(1, 0) 111 Yr hen Huw Lewis y Buarth,─hwnnw gafodd i ladd pan syrthiodd y Clogwyn Mawr ystalwm.
 
(1, 0) 116 le, rydw i fel Joseph yn breuddwydio ar y mwya, bob amser─ond breuddwyd hollol ddisynnwyr oedd hwnnw.
 
(1, 0) 118 Ond dyma i chi rwbeth mwy rhesymol.
(1, 0) 119 Rydw i dest a pheidio mynd i'r chwarel─heblaw fod arnon ni eisio arian i orffen pen y flwyddyn yn y capel, dawn i ddim chwaith.
 
(1, 0) 122 Ie, dim iws rhoi coel ar bopeth─esgus dyn diog ydi peth felly yn amal.
(1, 0) 123 Rhaid imi fynd i molchi.
 
(1, 0) 144 Hylo, Twm, ti sy'na?
(1, 0) 145 Sut mae hi'n canu?
(1, 0) 146 Beth wyt ti'n neud yma mor fora?
 
(1, 0) 151 Beth! ddim am fynd i'r chwarel?
(1, 0) 152 A hitha'n ben y mis?
(1, 0) 153 Wyt ti'n wael?
 
(1, 0) 155 Bedi'r rheswm?
(1, 0) 156 Wyt ti'n mynd i briodi, dwad?
(1, 0) 157 Ynte wyt ti'n mynd i riteirio a byw'n ŵr bonheddig?
 
(1, 0) 162 Eh!
(1, 0) 163 Breuddwyd?
(1, 0) 164 Beth odd o?
 
(1, 0) 169 Ddaru ti ddal sylw ar y dyn oedd yn gweiddi |wâr|?
 
(1, 0) 171 Pwy oedd o?
 
(1, 0) 175 Wel, dyma'r peth rhyfedda glywis i erioed.
(1, 0) 176 Wyddost ti beth?
(1, 0) 177 Mi freuddwydis inna 'r un breuddwyd yn union neithiwr.
 
(1, 0) 179 Ia, yr un breuddwyd yn union, air am air, a mi glywis yr hen Huw Lewis yn galw |wâr| a phopeth fel y deudisti.
 
(1, 0) 186 Ia, dyden ni ddim i fynd i'r chwarel heddiw, mae hynny'n amlwg ddigon.
 
(1, 0) 189 Aros funud!
(1, 0) 190 Faint well fyddwn ni wedi aros adre?
(1, 0) 191 Doedd y breuddwyd ddim yn deud pa bryd yr oedd y ddamwain i fod,─hwyrach mai fory neu'r wythnos nesa, neu'r flwyddyn nesa...
 
(1, 0) 194 Wn i ddim, na wn i wir...
 
(1, 0) 196 Dyna hi'r trên wrth Gefn y Gwyndy.
 
(1, 0) 198 O'r gore.
(1, 0) 199 Mi adwn ni iddi hi yn y fan yna ynte...
(1, 0) 200 Dydw i ddim yn mynd.
 
(1, 0) 203 Mae'r hogyn bach yna wedi cael annwyd ofnadwy yn rhywle...
(1, 0) 204 Rhaid ini gymryd gofol hefo fo, neu mae o'n siwr o droi yn rhywbeth gwaeth arno fo.
 
(1, 0) 208 Catrin! sana pwy ydi'r rhain?
 
(1, 0) 211 Y mae nhw'n lyb dyferu!
 
(1, 0) 213 Ia, teimlwch nhw...
(1, 0) 214 Does dim rhyfedd fod y peth bach wedi cael annwyd...
(1, 0) 215 Rhowch imi weld i sgidia fo.
 
(1, 0) 217 Wel, edrychwch ar i sgidia fo... ond tydyn nhw'n dwll drwadd!...
(1, 0) 218 Oes gynno fo bâr arall?
 
(1, 0) 223 Faint o arian sydd yma yn y ty?
 
(1, 0) 225 Oes coel i gael gan gryddion y Dre?
 
(1, 0) 229 Wel, dyna ben arni hi.
(1, 0) 230 Fedra i ddim aros adra i ddiogi ag lfan bach heb sgidia am i draed...
(1, 0) 231 Cadwch o yn i wely heddiw.