Ciw-restr

Dyrchafiad Arall i Gymro

Llinellau gan Tomos (Cyfanswm: 46)

 
(1, 0) 127 Sut rwyt ti, Catrin?
(1, 0) 128 Lle mae John?
 
(1, 0) 133 Galw arno fo; mae genni rwbeth pwysig i ddeud wrtho fo.
 
(1, 0) 139 Catrin bach, mae'n ddrwg iawn genni, ydi wir.
(1, 0) 140 Mi rois y chweigien i ddwytha oedd gen i neithiwr i orffen cownt y capel─daset ti wedi gofyn yn gynt imi, mi faswn wedi i chadw ond mi dreia i gael benthig un i ti gan John Ellis y Siop─mae o'n un reit barod.
 
(1, 0) 147 Eisio dy weld ti.─
(1, 0) 148 Wyddost ti beth─dydw ì ddim am fynd i'r chwarel heddiw.
 
(1, 0) 154 Nag ydw i, ond pen y mis neu beidio, dydw i ddim am fynd.
 
(1, 0) 158 Mi riteiria i o'r byd yma os â i i'r chwarel heddiw, rydw i'n ddigon siwr o hynny.
 
(1, 0) 160 Wel, dyma fo─ac mi gei ditha chwerthin, os leici di, ond dydw i ddim yn mynd i wrando dim arnat...
(1, 0) 161 Mi ges hen freuddwyd cas iawn neithiwr.
 
(1, 0) 165 Wel, mi welwn fy hun yn taro iti ar wyneb y graig, a thitha'n dal yr ebill.
(1, 0) 166 Wedi bod wrthi hi drwy'r pnawn, debygwn i, dyma'r corn yn canu, a ninna'n codi i fynd at y trên, ond cyn ini roi'n cotia am danon, dyma rywun o ben y clogwyn yn galw |wâr|, a chyn ini fedru symud, dyma'r clogwyn i gyd yn ysgwyd ac yn disgyn arnon ni'n dau... a wedyn mi ddeffris...
(1, 0) 167 Dydw i ddim yn mynd i'r chwarel heddiw.
 
(1, 0) 170 Do.
 
(1, 0) 172 Wel, rhyw frith atgo sy genni am dano fo; ond roeddwn i'n meddwl mai'r hen Huw Lewis y Buarth oedd o,─dyna dychrynodd fi gymint.
 
(1, 0) 178 Yr un breuddwyd, beth wyt ti'n feddwl?
 
(1, 0) 181 Felly wir.
(1, 0) 182 O ia!
 
(1, 0) 187 Ydi─roeddwn i'n ddigon siwr o hynny cyn dwad yma, ond dawn i ddim yno rwan wedi clywed y peth glywis pe cawn i'r chwarel i gyd yn aur am fynd.
 
(1, 0) 197 Gwna dy feddwl i fyny, ngwas i, i aros adre bellach...
 
(1, 0) 226 Nag oes, dim perig.
(1, 0) 227 Rhaid iti dalu arian parod am bopeth.
 
(2, 0) 363 Rydw i'n gofyn ych pardwn chi'ch dau am ych styrbio chi fel hyn gefn trymedd y nos.
(2, 0) 364 Ond mi ddois i bob cam o gartre heddiw, a mi fuom yn crwydro am oria yn chwilio am y ty yma.
(2, 0) 365 Wedi imi ddeud fy neges, mi a i i'r stesion eto i aros am y trên nesa i fynd yn ol.
 
(2, 0) 372 Mae dy fam a finna'n ddigon iach, ond mae pawb acw cyn dloted ag y mae posib iddyn nhw fod.
(2, 0) 373 Mae'r hen le acw, yn bentra, ac yn ysgol, ac yn gapal, yn marw dan yn dwylo ni,─mi ddarun y nanfon i yma i siarad hefo ti, Ifan.
 
(2, 0) 377 Nag oes, machgen i, nid teulu i gael ffortiwn yden ni.
(2, 0) 378 Ond rydw i'n dwad yma i gynnig ffortiwn arall i ti─ffortiwn nad oes ond ychydig iawn yn medru i hel hi weldi, ond roedd Iesu Grist yn i plith nhw, a dy dad titha...
 
(2, 0) 383 Nage, machgen i.
(2, 0) 384 Does arna i na neb arall eisio bysnesu hefo dy grefydd di─os oes gan aelodau seneddol grefydd pan fyddan nhw'n byw yn Llundan.
(2, 0) 385 Mi ddyla fod, o ran hynny, mae yna ddigon o bregethwyr yn i mysg nhw...
(2, 0) 386 Ond dyma'r ffortiwn oedd genni i gynnig iti─aberth.
 
(2, 0) 391 Mi wyddost, beth rydw i'n geisio ddeud wrthyt ti, ond mod i'n flêr, yn bystachu fel hen gaseg mewn cors, wrth geisio'i ddeud o.
(2, 0) 392 Mae arnon ni eisio iti fynd ymlaen hefo bil y cyflog.
 
(2, 0) 396 Gwrando arna i, machgen i.
(2, 0) 397 Dwyt ti ddim wedi ystyried y mater, neu ynte fuasa mab John Morris ddim yn gwrthod y cyfle i dalu tipyn bach yn ol o'r hen ddlêd.
(2, 0) 398 Mi laddwyd dy dad, er iddo fo gael i rybuddio gan freuddwyd rhag mynd i'r chwarel; yr oedd dy dad yn ffit arwr i sefyll gyda'r seintia mwya...
 
(2, 0) 400 Do, mi fu farw ym mloda 'i ddyddia─rydw i'n cofio mynd i nol o, a dwad a fo i lawr ar elor o'r chwarel, a thitha'n hogyn bach yn rhythu ar ben y drws ac yn methu sylweddoli beth oedd yn bod.
(2, 0) 401 Wyt ti wedi sylweddoli erbyn hyn?
 
(2, 0) 404 Ie, dyna'r plant─dyna ddeudodd dy dad y bora hwnnw pan aeth o i'r Chwarel.
(2, 0) 405 Dyden ni wedi sôn fawr am y peth hyd yn hyn rhag dy boeni.─
(2, 0) 406 Ond wyddost ti pam yr aeth o i'r Chwarel y bore hwnnw?
 
(2, 0) 408 Ie, roedden ni yn dau wedi penderfynu peidio mynd.
(2, 0) 409 Roeddet ti'n hogyn bach yn y siambar yn yr hen dy,─yn pesychu yn dy wely─ac mi glywodd dy dad ti.