Ciw-restr

Epa yn y Parlwr Cefn

Llinellau gan Llais (Cyfanswm: 47)

 
(1, 4) 407 Ddim er y mwyn i Mami,
(1, 4) 408 Gormod o ffafre wy di ga'l, gormod o help.
(1, 4) 409 Hol fi o Lunden. Helpu fi gico'r arfer.
(1, 4) 410 Fydden'n i'n farw nawr, onibai...
(1, 4) 411 Yn freichie i'n fyw o dwlle.
(1, 4) 412 Rhai diweddar, yn whysu gwa'd tene,
(1, 4) 413 Rhai hen. Dan grofen frwnt o greithie.
(1, 4) 414 Hôl fi wrtho fe.
(1, 4) 415 Dim gwythienne glân ar ôl dan i gron e.
(1, 4) 416 Erbyn chi ddod odd e'n injecto gwyn i lyged.
(1, 4) 417 Rhacsan y bedsit, rhacsan i gorff, rhacsan i ben.
(1, 4) 418 Se'r heroin ddim di'n lladd i, mi fydde fe.
(1, 4) 419 A peth o'r amser o'n i'n edrych mlân at 'ny.
(1, 4) 420 Pidwch breuddwydo Mam. Dim am y dyfodol.
(1, 4) 421 Dim da fi yndo fe. Fydda i ddim ma.
(1, 4) 422 Newch be chi'n neud, breuddwydwch am be chi moyn
(1, 4) 423 Er mwyn rhywbeth a rhywun arall.
(1, 4) 424 Mae'n rhy hwyr i fi nawr, Mami.
(1, 4) 425 Rhy hwyr ers pan es i bant, yn fourteen.
(1, 4) 426 Peder blynedd a bywyd cyfan yn ôl.
(1, 4) 427 A rwbryd pry'ny, âth pob dyfodol ar goll.
 
(2, 1) 1047 Sai'n meddwl wela i byth mo'r haul yn codi 'to.
(2, 1) 1048 Sai'n meddwl goda i o fan hyn byth 'to.
(2, 1) 1049 Dan y nghefen i'n o'r da whys.
(2, 1) 1050 Trw'r nos fel clwtyn yn ca'l i wasgu'n glwme bach,
(2, 1) 1051 Ma pob ffycin gwely yn ffycin bedd.
(2, 1) 1052 Liverpool yn gwitho ar Hope Street, Llunden yn gwitho ar Brewer Street.
(2, 1) 1053 Wastod yn gwitho ar, byth yn byw yn....
(2, 1) 1054 Tynnu'r spync mas o'u prics nhw fel ca'l puss i sithu mas o bolleth. Ca'l gwagad.
(2, 1) 1055 Dim pleser. Felse dod yn boendod. Hen ysfa tu fiwn 'u penne a'u coce nhw.
(2, 1) 1056 Tuchan fel ffycin anifeilied.
(2, 1) 1057 Baglu miwn i ddillad, edrych yn grac, yn wyllt, ond byth i fyw yn llygad i.
(2, 1) 1058 A nôl mas i deimlo'n grac wrth y byd, i simro a ffrwtian nes i'r bolleth godi 'to.
(2, 1) 1059 Nes iddyn nhw yfed digon o hen gwrw brwnt i ddod a gwasgu 'u drewdod yn drwn.
(2, 1) 1060 Dros rhyw ferch arall a tasgu stribedi o hen ddolur llidus miwn i gorff menyw ddiarth.
(2, 1) 1061 Hope Street, Lime Street, Brewer Street, Poland Street, Eversholt Street, Berwick Street.
(2, 1) 1062 A popeth wy'n gofio am bob un yn gwmws run ffycin peth.
(2, 1) 1063 Pob un â pafin hir yn arwen at ffau yr anifel gwyllt.
 
(2, 2) 1975 A ma'r farwolaeth nawr
(2, 2) 1976 Tu fiwn i fi, gwitho'i ffordd trwyddo i,
(2, 2) 1977 O's rhaid i fi weud Mam?
(2, 2) 1978 Yn agosach, wedi gafel nawr,
(2, 2) 1979 Ddim trw goce'r diawled ond trw'r nodwydde.
(2, 2) 1980 Chi yn gwybod Mam, chi yn,
(2, 2) 1981 Yr hunlle chi di bod yn arswydo
(2, 2) 1982 Wedi dod gatre, i llofft Debs fach i glwydo...
(2, 2) 1983 Ma nhw wedi'n lladd i Mami!