Ciw-restr

Estron

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 295)

(0, 1) 1 Fflat mewn dinas. Soffa, bwrdd coffi, laptop, teledu ac ati.
(0, 1) 2 ~
(0, 1) 3 Ar y wal gefn, tafluniad mawr o gynnwys sgrin y laptop: dogfen newydd, wag ar brosesydd geiriau.
(0, 1) 4 ~
(0, 1) 5 Nodir: Mae testun mewn ffont 'Courier' yn dynodi geiriau sydd yn ymddangos ar y sgrin pan mae ALUN yn teipio.
(0, 1) 6 ~
(0, 1) 7 Mae ALUN yn eistedd mewn tawelwch, yn syllu ar sgrin y laptop. Jîns, crys-t, trainers.
(0, 1) 8 Dyma'r olygfa sydd yn croesawu'r gynulleidfa wrth iddynt gyrraedd ac ymgartrefu yn eu seddau.
(0, 1) 9 ~
(0, 1) 10 DAEARGRYN.
(0, 1) 11 ~
(0, 1) 12 Diffoddir y goleuadau nes bod dim ar ôl ond yr hyn sydd yn dod o sgrin y laptop.
(0, 1) 13 ~
(0, 1) 14 Saib hir.
(0, 1) 15 ~
(0, 1) 16 O'r diwedd, mae ALUN yn dechrau teipio.
 
(0, 1) 20 Mae ALUN yn dileu "hwyr" ac yn teipio "canol" yn ei le.
(0, 1) 21 ~
(0, 1) 22 Mae'n parhau i deipio.
 
(0, 1) 28 Saib.
 
(0, 1) 30 Mae ALUN yn edrych at y drws.
(0, 1) 31 ~
(0, 1) 32 Saib.
(0, 1) 33 ~
(0, 1) 34 Mae ALUN yn dileu popeth sydd wedi ei deipio hyd yn hyn.
(0, 1) 35 Mae'n cau'r laptop.
(0, 1) 36 ~
(0, 1) 37 Tywyllwch.
(0, 2) 38 Sŵn y byd, y bydysawd a phopeth sydd ynddo.
(0, 2) 39 Popeth sydd wedi bod a phopeth sydd i ddod.
(0, 2) 40 ~
(0, 2) 41 Trwy'r tywyllwch, daw llais.
 
(0, 3) 55 Cerddoriaeth uchel.
(0, 3) 56 ~
(0, 3) 57 Mae ALUN yn mynd ati i greu ei fflat.
(0, 3) 58 Wrth i'r ddrama fynd yn ei blaen, dylid teimlo fel petai byd y llwyfan yn tyfu, yn esblygu ac yn dirywio trwy ddwylo ALUN.
(0, 3) 59 ~
(0, 3) 60 Mae ALUN yn gafael mewn tun mawr o 'Quality Street'.
(0, 3) 61 Y caead wedi ei gau'n dynn.
(0, 3) 62 ~
(0, 3) 63 Y gerddoriaeth yn dod i ben.
 
(0, 3) 101 Mae HAN yn ymddangos ar y sgrin mewn sgwrs 'Skype'.
 
(0, 3) 104 Erbyn hyn, mae ALUN yn eistedd o flaen y laptop.
 
(0, 3) 126 Daw HAN i'r llwyfan yn cario bag sy'n dal dwy croissant.
 
(0, 3) 140 Daw'r sgwrs 'Skype' i ben.
 
(0, 3) 145 Mae HAN yn rhoi cwtsh i ALUN.
 
(0, 3) 169 Mae ALUN yn mynd ati i wneud dau fwg o de.
 
(0, 3) 190 Mae ALUN yn chwerthin.
 
(0, 3) 198 Mae ALUN yn dod at y bwrdd coffi gyda'r dau fwg o de.
 
(0, 3) 202 Mae HAN yn gafael mewn dau fat ar gyfer y diodydd.
(0, 3) 203 Mae ALUN yn rhoi'r mygiau ar y matiau.
 
(0, 3) 205 Mae ALUN yn gafael mewn dau blât.
 
(0, 3) 220 Saib.
(0, 3) 221 Mae'r ddau yn bwyta eu croissants ac yn yfed eu te yn araf.
 
(0, 3) 235 Saib.
(0, 3) 236 Bwyta.
(0, 3) 237 Yfed.
 
(0, 3) 248 Saib.
 
(0, 3) 269 Saib.
(0, 3) 270 Bwyta.
(0, 3) 271 Yfed.
 
(0, 3) 281 Tywyllwch.
(0, 4) 282 Dogfen wag ar y prosesydd geiriau.
(0, 4) 283 ~
(0, 4) 284 Mae ALUN yn teipio ar y laptop.
 
(0, 4) 288 Saib.
 
(0, 4) 290 Saib.
 
(0, 4) 292 Mae ALUN yn codi o'r ddesg ac yn mynd i flaen y llwyfan.
(0, 4) 293 Mae'n siarad gyda'r gynulleidfa.
 
(0, 4) 307 Mae ALUN yn teimlo'r ddaeargryn yn codi.
(0, 5) 308 'Incoming call' oddi wrth HAN ar Skype.
(0, 5) 309 Y dôn yn canu am amser hir.
(0, 5) 310 Mae'n dod i ben.
(0, 5) 311 ~
(0, 5) 312 'Incoming call' eto.
(0, 5) 313 Y dôn yn canu.
(0, 5) 314 Yn y diwedd, mae ALUN yn ateb.
(0, 5) 315 ~
(0, 5) 316 Mae ALUN yn eistedd wrth ei laptop.
 
(0, 5) 368 Mae HAN yn ymddangos ar y llwyfan.
 
(0, 5) 370 Mae ALUN yn awr wedi ei ddal mewn sgwrs rhwng HAN ar Skype a HAN yn y fflat.
(0, 5) 371 Mae'n symud yn ôl ac ymlaen o'r laptop.
(0, 5) 372 Ei feddyliau'n cymysgu.
 
(0, 5) 476 Mae'r HAN ar y sgrin yn gwenu'n garedig.
 
(0, 5) 485 Mae ALUN yn gwenu'n ysgafn.
 
(0, 5) 497 Saib.
(0, 5) 498 ~
(0, 5) 499 Mae ALUN yn edrych i'r HAN ar Skype, yna at HAN yn yr ystafell fyw.
 
(0, 5) 501 Saib.
(0, 5) 502 ~
(0, 5) 503 Mae HAN yn mynd at y tun o 'Quality Street' sydd ar y bwrdd coffi.
(0, 5) 504 Yr HAN ar y sgrin yn gwylio.
 
(0, 5) 508 Mae HAN yn mynd at y tun.
 
(0, 5) 511 Mae hi'n mynd i agor y tun.
 
(0, 5) 514 Mae ALUN yn rhuthro'n grac at HAN ac yn ei thynnu o'r tun cyn iddi godi'r caead.
 
(0, 5) 517 Tywyllwch.
(0, 5) 518 ~
(0, 5) 519 Unwaith eto, mae ALUN yn teimlo'r ddaeargryn yn codi.
(0, 5) 520 Mae'n ymladd yn ei herbyn – yn gwthio'r ddaeargryn i lawr i'r dyfnderoedd, allan o'r ffordd.
(0, 6) 521 Y gerddoriaeth yn uchel iawn.
(0, 6) 522 ~
(0, 6) 523 Mae ALUN a HAN wedi meddwi.
(0, 6) 524 Mae gan HAN bentwr o wydrau shot plastig a photel o Tequila.
(0, 6) 525 Mae hi'n arllwys shot o Tequila yr un iddynt.
 
(0, 6) 527 Mae'r ddau yn yfed.
(0, 6) 528 Mae HAN ar fin arllwys eto.
 
(0, 6) 538 Mae ALUN yn cyfeirio at y gynulleidfa.
 
(0, 6) 540 Mae HAN yn chwerthin.
 
(0, 6) 554 Mae HAN yn chwerthin.
(0, 6) 555 Mae ALUN yn chwerthin.
 
(0, 6) 562 Mae ALUN yn cymryd y pentwr o wydrau shot ac yn dechrau eu dosbarthu i'r gynulleidfa.
(0, 6) 563 Mae HAN yn dilyn gyda'r botel o Tequila ac yn llanw'r gwydrau.
(0, 6) 564 Y ddau'n gofyn i'r aelodau o'r gynulleidfa sydd â shot i beidio ag yfed eto.
(0, 6) 565 Pan mae'r shots wedi'u dosbarthu, mae ALUN a HAN yn cymryd un hefyd.
 
(0, 6) 569 Mae hi'n cyfeirio at y rheolwr llwyfan i ddiffodd y gerddoriaeth.
(0, 6) 570 Y gerddoriaeth yn dod i ben.
 
(0, 6) 594 Y ddau yn yfed.
(0, 6) 595 Y gynulleidfa'n yfed hefyd gobeithio – ALUN a HAN yn annog, efallai.
 
(0, 6) 610 Mae ALUN yn chwydu.
(0, 6) 611 Mae HAN yn cwympo i'r llawr yn chwerthin.
 
(0, 6) 614 Mae HAN, sydd yn dal i chwerthin, yn gafael mewn gwydraid o ddŵr.
 
(0, 6) 618 Mae ALUN yn chwydu eto.
(0, 6) 619 Mae HAN yn rhoi'r gwydraid ar y bwrdd coffi.
 
(0, 6) 622 Mae HAN yn gwneud.
 
(0, 6) 627 Mae ALUN yn mynd at y bwrdd coffi.
 
(0, 6) 657 Mae ALUN yn parhau fel hyn nes bod y gynulleidfa'n ymateb.
 
(0, 6) 659 Y gynulleidfa'n ymateb.
 
(0, 6) 661 Y gynulleidfa'n ymateb.
 
(0, 6) 671 Mae ALUN yn cwympo i'r soffa.
(0, 6) 672 ~
(0, 6) 673 Saib.
 
(0, 6) 731 Mae ALUN mynd ati i droi'r teledu ymlaen.
 
(0, 6) 743 Mae HAN yn ymddangos ar 'Skype'.
(0, 6) 744 Unwaith eto, mae ALUN wedi ei ddal rhwng yr HAN ar y llwyfan a'r HAN ar y sgrin.
 
(0, 6) 824 Yn ofalus, mae ALUN yn codi'r caead oddi ar y tun.
(0, 6) 825 Mae HAN yn edrych i mewn.
 
(0, 7) 827 Sŵn bywyd a'r bydysawd.
 
(0, 8) 848 Mae ALUN wrth y laptop yn teipio.
 
(0, 8) 897 Tywyllwch.
(0, 9) 898 Y gerddoriaeth yn uchel iawn.
(0, 9) 899 ~
(0, 9) 900 Mae ALUN yn codi'r caead oddi ar y tun 'Quality Street' yn araf a pharchus.
(0, 9) 901 Yn yr un ffordd, mae'n codi'r eitem sydd y tu mewn i'r tun: sffêr wen.
(0, 9) 902 Dyma LEIA.
(0, 9) 903 Mae ALUN yn codi LEIA i'r awyr yn ddefodol, cyn ei rhoi i orffwys ar y bwrdd coffi.
(0, 9) 904 ~
(0, 9) 905 Y gerddoriaeth yn diffodd.
 
(0, 9) 982 Saib.
 
(0, 9) 1037 Saib.
 
(0, 9) 1080 Mae HAN yn mynd i adael.
 
(0, 9) 1091 Mae HAN wedi gadael.
(0, 9) 1092 ~
(0, 9) 1093 Saib.
 
(0, 9) 1097 Saib.
 
(0, 9) 1099 Saib.
 
(0, 9) 1110 Saib.
 
(0, 9) 1113 Saib.
 
(0, 9) 1118 Saib.
 
(0, 9) 1122 Saib.
 
(0, 9) 1125 Tywyllwch.
(0, 9) 1126 ~
(0, 9) 1127 Cerddoriaeth.
(0, 10) 1128 Yn ofalus, mae ALUN yn codi LEIA yn ei law.
(0, 10) 1129 Fel Hamlet â phenglog Yorick.
(0, 10) 1130 Y mae'n aros fel hyn yn edrych arni.
 
(0, 10) 1176 Yn araf ac yn betrus, mae ALUN yn rhoi cwtsh hir i LEIA.
(0, 10) 1177 ~
(0, 10) 1178 Saib.
 
(0, 10) 1191 Saib.
 
(0, 10) 1227 Tywyllwch.
(0, 11) 1228 Golau i fyny ar ALUN wrth ei laptop.
(0, 11) 1229 ~
(0, 11) 1230 Mae'n agor y prosesydd geiriau.
(0, 11) 1231 ~
(0, 11) 1232 Rydym yn teimlo'r ddaeargryn yn codi unwaith eto, a'r pwysau'n gwasgu ar ALUN.
 
(0, 11) 1236 Mae ALUN yn dileu "Mae profiadau eithafol".
 
(0, 11) 1238 Mae ALUN yn dileu "Pan mae pethau eithafol yn digwydd".
 
(0, 11) 1240 Mae ALUN yn dileu "Yn ystod adegau anodd yn ein bywydau".
 
(0, 11) 1243 Mae ALUN yn dileu'r cyfan.
(0, 11) 1244 Mae'n eistedd yn ôl yn ei gadair.
(0, 11) 1245 ~
(0, 11) 1246 Tywyllwch.
(0, 12) 1247 Llais yn y tywyllwch.
 
(0, 12) 1249 Saib.
 
(0, 12) 1275 Y golau'n codi yn araf iawn.
(0, 12) 1276 Mae ALUN ar flaen y llwyfan yn siarad gyda'r gynulleidfa.
 
(0, 12) 1296 Mae ALUN yn teimlo'r ddaeargryn yn adeiladu y tu mewn iddo.
(0, 12) 1297 Unwaith eto, mae'n ceisio'i gwthio allan o'i ben ond yn methu.
(0, 12) 1298 Mae'r ddaeargryn yn rhy gryf.
(0, 12) 1299 Mae ALUN yn fanig, yn wyllt, yn gweiddi, sgrechian, ei egni'n ffrwydro mewn moment ffyrnig o unigrwydd ac anallu i gyfathrebu.
(0, 12) 1300 Mae'n dinistrio'r byd y mae wedi'i greu ar y llwyfan wrth iddo geisio ymladd yn erbyn yr anochel.
(0, 12) 1301 ~
(0, 12) 1302 Pan nad oes unrhyw egni ar ôl ganddo, mae ALUN yn cwympo i'r llawr.
(0, 13) 1303 'Meddygfa.'
 
(0, 14) 1307 Mae ALUN yn gafael mewn iogwrt.
(0, 14) 1308 Mae'n tynnu'r caead oddi ar y potyn ac yn ei lyfu.
(0, 14) 1309 Mae ALUN yn mynd ati i fwyta'r iogwrt o'r potyn.
(0, 14) 1310 Yn araf.
(0, 14) 1311 Myfyrgar.
(0, 14) 1312 Holl bwysau'r byd ym mhob llwyaid o iogwrt.
(0, 14) 1313 Y mae'n edrych yn unig, bregus yn y foment hon.
 
(0, 14) 1365 Mae HAN yn ymddangos ar 'Skype'.
 
(0, 14) 1370 Mae ALUN yn ôl o flaen ei laptop.
 
(0, 14) 1413 Mae'r signal 'Skype' yn dechrau gwanhau.
 
(0, 14) 1420 Saib.
 
(0, 14) 1432 Mae HAN yn diflannu am eiliad.
 
(0, 14) 1442 Mae ALUN yn nodio.
 
(0, 14) 1445 Mae HAN yn diflannu am eiliad arall.
 
(0, 14) 1450 Mae HAN yn gwenu.
 
(0, 14) 1452 Mae HAN yn diflannu'n gyfangwbl.
 
(0, 14) 1454 Mae ALUN yn sylwi bod HAN wedi mynd.
(0, 14) 1455 Mae'n syllu ar y sgrin.
(0, 14) 1456 Yn syllu i'r gofod lle'r oedd HAN yn eistedd eiliadau ynghynt.
(0, 14) 1457 ~
(0, 14) 1458 Statig ar y sgrin.
(0, 14) 1459 ~
(0, 14) 1460 Tywyllwch.
(0, 15) 1461 Sŵn bywyd a'r bydysawd.
 
(0, 15) 1485 Y llais yn diflannu'n araf, fel petai'n teithio'n bellach...
 
(0, 15) 1487 ...ac yn bellach i ffwrdd...
 
(0, 15) 1489 ...i fannau pella'r bydysawd.
(0, 16) 1490 Mae ALUN yn eistedd o flaen y laptop.
(0, 16) 1491 ~
(0, 16) 1492 Saib.
(0, 16) 1493 ~
(0, 16) 1494 Mae'n teipio.
 
(0, 16) 1496 Saib.
(0, 16) 1497 ~
(0, 16) 1498 Mae'n dileu'r cyfan ac yn teipio "Ffarwelio".
 
(0, 16) 1500 Mae ALUN yn dechrau newid ei ddillad: crys gwyn, tei du, trowsus du, belt ddu, siaced siwt ddu ac esgidiau du.
(0, 16) 1501 Mae'n gadael ei ddillad gwreiddiol yn anniben dros y llawr.
 
(0, 16) 1565 Saib.
(0, 16) 1566 ~
(0, 16) 1567 DAEARGRYN.
(0, 16) 1568 ~
(0, 16) 1569 Y sain yn atseinio ar draws y bydysawd, yna'n setlo.
(0, 16) 1570 Tawelwch ar ôl y twrw.
(0, 16) 1571 ~
(0, 16) 1572 Mae'r bydysawd wedi siarad – y ddaeargryn yn arwydd i ALUN ei fod yn gorfod wynebu'r angladd.
 
(0, 16) 1577 Mae'n agor y tun ac yn darganfod ei fod yn wag.
(0, 16) 1578 Mae LEIA wedi mynd.
(0, 16) 1579 ~
(0, 16) 1580 Mae ALUN yn gollwng y tun ar y llawr.
(0, 16) 1581 ~
(0, 16) 1582 Mae geiriau yn ymddangos ar y sgrin:
(0, 16) 1583 ~
(0, 16) 1584 Dyn. Siwt, tei ac ati. Ugeiniau canol.
(0, 16) 1585 ~
(0, 16) 1586 Hwn yw ALUN. Mae'n sefyll mewn tawelwch. Wrth ei draed, tun gwag.
(0, 16) 1587 ~
(0, 16) 1588 Saib.
(0, 16) 1589 ~
(0, 16) 1590 Mae ALUN yn edrych at y drws.
(0, 16) 1591 ~
(0, 16) 1592 Yn araf, mae'n cerdded ato.
(0, 16) 1593 ~
(0, 16) 1594 Saib.
(0, 16) 1595 ~
(0, 16) 1596 Mae ALUN yn agor y drws ac yn gadael y llwyfan.
(0, 17) 1597 Cerddoriaeth.
(0, 17) 1598 ~
(0, 17) 1599 Ar y sgrin, ALUN.
(0, 17) 1600 Siwt, tei ac ati.
(0, 17) 1601 ~
(0, 17) 1602 Y camera'n dilyn ALUN wrth iddo gerdded allan o'i fflat.
(0, 17) 1603 Mae'n cerdded tua'r stryd fawr.
(0, 17) 1604 Heibio'r Tesco Metro.
(0, 17) 1605 Heibio'r heidiau o bobl.
(0, 17) 1606 Y mae'n croesi heol neu'n defnyddio lôn danffordd.
(0, 17) 1607 Yn cerdded trwy barc, efallai.
(0, 17) 1608 Yn pasio cannoedd o bobl.
(0, 17) 1609 Pob un ar drywydd gwahanol, unigryw.
(0, 17) 1610 ~
(0, 17) 1611 Ac ALUN yn ei fyd bach ei hun.
(0, 17) 1612 ~
(0, 17) 1613 Yn ystod yr uchod, mae ALUN yn mynd i eistedd gyda'r gynulleidfa. Mae'n gwylio'r ffilm.
(0, 17) 1614 ~
(0, 17) 1615 Ar y sgrin, mae ALUN yn dod i stop mewn man prysur.
(0, 17) 1616 Canol y ddinas, efallai.
(0, 17) 1617 Mae'n troi i wynebu'r camera.
(0, 17) 1618 Yn hollol lonydd.
(0, 17) 1619 Mae'r ffilm yn cyflymu.
(0, 17) 1620 Mae'r byd yn parhau i symud o'i amgylch.
(0, 17) 1621 Yn gyflym.
(0, 17) 1622 Fel bod popeth yn symud yn gyflym iawn ac ALUN yn y canol yn llonydd ac yn syllu'n syth at y camera.
(0, 17) 1623 ~
(0, 17) 1624 Ac mae ALUN yn gwylio yn y theatr.
(0, 17) 1625 Yn rhan o'r gynulleidfa.
(0, 17) 1626 ~
(0, 17) 1627 Ar ôl tipyn, mae'r ffilm yn arafu.
(0, 17) 1628 Yn dychwelyd i gyflymder naturiol y byd.
(0, 17) 1629 ~
(0, 17) 1630 Mae ALUN yn troi ei sylw at yr awyr. Yn edrych i fyny at y gofod anferth, diderfyn uwch ei ben.
(0, 17) 1631 ~
(0, 17) 1632 Ac mae ALUN yn gwenu.