Ciw-restr

Noson o Farrug

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 27)

(1, 0) 1 GOLYGFA.
(1, 0) 2 ~
(1, 0) 3 Cegin mewn ffermdy bychan.
(1, 0) 4 Gyferbyn â'r edrychwyr saif y lle tân.
(1, 0) 5 Ar y chwith mae drws yn cau ar y grisiau sy'n arwain i'r llofft, a drws arall ar y dde yn agor i'r buarth.
(1, 0) 6 Trefner hen soffa lwydaidd ar hyd yr ochr chwith i garreg yr aelwyd â'i chefn at ddrws y llofft, a chadair freichiau yr ochr arall wrth y pentan â'i chefn at ddrws y buarth.
(1, 0) 7 Saif y bwrdd rhwng y gadair freichiau a drws y buarth, a gofaler fod carreg yr aelwyd yn weladwy i'r edrychwyr.
(1, 0) 8 Dodrefner yn y dull mwyaf syml a chyffredin heb ddim gwychter.
(1, 0) 9 Croger almanac uwchben y lle tân.
(1, 0) 10 Pan y cyfyd y llen, gwelir ELIN HUWS mewn cap a shôl yn eistedd yn y gadair freichiau ac yn syllu yn synfyfyriol i'r tân.
(1, 0) 11 Mae ELIN tua 70 mlwydd oed ac yn wannaidd iawn ei hiechyd, a sieryd mewn llais go gwynfanus, fel un wedi hir ddioddef cystudd.
(1, 0) 12 Gwelir ei merch JANE yn smwddio ar y bwrdd ac yn mynd at y tân i newid yr haearn yn awr ac eilwaith.
(1, 0) 13 Mae JANE oddeutu 40 mlwydd oed, ac yn tueddu i fod yn oer a chaled ei natur.
(1, 0) 14 Mae profiad y blynyddoedd wedi ei suro i fesur.
 
(1, 0) 44 Distawrwydd.
 
(1, 0) 64 Daw'r Tad i mewn gyda rhaw a bwcedaid o datws: gesyd hwy yn y gongl y tu ol i'r soffa, ac yna daw at y tân i ymdwymo.
(1, 0) 65 Mae tua 70 mlynedd oed, yn ŵr penderfynol, ac i bob golwg yn stoicaidd ei natur.
 
(1, 0) 105 Gwna JANE felly ac wedyn eistedd ar y soffa gyferbyn â'i mam.
(1, 0) 106 Tyn y tad y spectol o'r câs, glanha hi, a gesyd hi ar ei lygaid.
(1, 0) 107 Chwilia am y bennod a dechreua ddarllen.
 
(1, 0) 111 Clywir curo gwan ar y drws.
 
(1, 0) 115 Curir eilwaith dipyn yn drymach.
 
(1, 0) 117 Tyn JANE y follt ac egyr y drws.
 
(1, 0) 119 DIC yn dyfod i mewn drwy'r drws a golwg llwm a chystuddiol arno, fel pe'n rhy wan i gerdded.
(1, 0) 120 Sieryd mewn llais bloesg a blinir ef gan beswch trwm.
 
(1, 0) 143 Goleua JANE y gannwyll ac â'r tad at y cloc sy ar y dresal i'w weindio.
 
(1, 0) 152 A Dic ar ei liniau o flaen y tân wrth liniau ei fam, a gwelir hi'n teimlo'i ddwylo.