Ciw-restr

Faust

Llinellau gan Blank (Cyfanswm: 35)

 
(0, 1) 2 Ledrithion gwelwon! wele chwi'n dynesu,
(0, 1) 3 Oedd hoff i'm golwg dwys ym more byd,
(0, 1) 4 A geisiaf nau eilwaith eich anwesu,
(0, 1) 5 A blyg fy nghalon eto dan yr hud?
(0, 1) 6 Ymdyrrwch yna ynteu, ac ymresu,
(0, 1) 7 Megys y dowch o darth a niwl ynghŷd;
(0, 1) 8 Yn ieuanc eto, cryn fy nghalon hithau
(0, 1) 9 O dan yr hud a ddaw pan ddeloch chwithau.
(0, 1) 10 ~
(0, 1) 11 I'ch canlyn, fe ddaw cof am ddyddiau mwynion,
(0, 1) 12 A chyfyd llun rhai annwyl mwy nad ynt;
(0, 1) 13 Fel rhyw hen ramant hanner mud, daw swynion
(0, 1) 14 Y cariad cyntaf a'r gyfeillach gynt;
(0, 1) 15 Daw gofid hefyd, ac atseinia gŵynion
(0, 1) 16 Bywyd ei hunan a'i drofâog hynt,
(0, 1) 17 Ac enwa imi lawer hoff gydymaith
(0, 1) 18 O'm blaen o'i ddedwydd awr a gipiwyd ymaith.
(0, 1) 19 ~
(0, 1) 20 Ni chlywant hwy mo'r newydd gân, y rheiny
(0, 1) 21 Y canwn iddynt gerddi'r bore llon;
(0, 1) 22 Ar wasgar, mwy, yr aeth y mwyn gwmpeini, a
(0, 1) 23 A'r atsain gyntaf, bellach, mud yw hon;
(0, 1) 24 Fy nghân, yn awr, i estron dorf y seini,
(0, 1) 25 A'u clod ei hun sydd megys braw i'm bron;
(0, 1) 26 A'r sawl o'm cân a gaffo ddim diddigrwydd,
(0, 1) 27 Os ceir, drwy'r byd y crwydra mewn unigrwydd.
(0, 1) 28 ~
(0, 1) 29 A mi, rhyw ryfedd hiraeth mwy a'm tery
(0, 1) 30 Am dawel fyd di boen yr ysbryd fry;
(0, 1) 31 A nawf fy sisial gân, fel chwa pan chwery
(0, 1) 32 Drwy dannau telyn, yn ddilafar su;
(0, 1) 33 Rhed iasau drwof, dagrau li'n goferu,
(0, 1) 34 A'r galon gref, yn wan a masw y try;
(0, 1) 35 A feddaf, megys draw ymhell y gwelaf,
(0, 1) 36 A'r peth a aeth, sydd, eto, ddiogelaf.