Ciw-restr

Faust

Llinellau gan Faust (Cyfanswm: 135)

 
(0, 3) 158 Astudiais, och! Ffilosoffi,
(0, 3) 159 A chyfraith, do, a Meddyginiaeth,
(0, 3) 160 A Diwinyddiaeth—gwae fyfi!—
(0, 3) 161 Drwy lafur mawr a garw driniaeth.
(0, 3) 162 A dyma fi, 'r ynfytyn plaen,
(0, 3) 163 Cyn ddoethed bob tipyn ag oeddwn o'r blaen!
(0, 3) 164 Fe'm gelwir yn Athro a Doethur, mae'n wir,
(0, 3) 165 A minnau ers deng mlynedd hir
(0, 3) 166 Yn tynnu 'nisgyblion ar hyd ac ar draws
(0, 3) 167 Gerfydd eu trwyn, heb fod ronyn haws,
(0, 3) 168 I weld nad oes dim y gallwn ei wybod!—
(0, 3) 169 Mae hynny agos a llosgi 'nghydwybod.
(0, 3) 170 'Rwyf lawn cyn ddoethed â'r crach ysgolorion,
(0, 3) 171 Athrawon, Meistriaid, Offeiriaid, Llenorion;
(0, 3) 172 'Does wendid nac ameu a bair im ffaelu,
(0, 3) 173 Ac nid wyf yn ofni na diawl na'i deulu.
(0, 3) 174 Collais drwy hynny bob rhyw sirioldeb;
(0, 3) 175 Am wybod dim a fyddai fuddioldeb,
(0, 3) 176 Neu beth i'w ddysgu, ni waeth heb ffugio,
(0, 3) 177 Er gwella dynion na'u diwygio;
(0, 3) 178 At hynny, 'does imi nac aur na chlud,
(0, 3) 179 Na pharch na diddanwch yn y byd;
(0, 3) 180 Ni ddaliai gi ddim yn hwy mo'r driniaeth,
(0, 3) 181 O'r herwydd, ymroddais at Ddewiniaeth,
(0, 3) 182 Rhag na bo ambell bwnc i'w drafod
(0, 3) 183 Na ddeuai'n glir drwy bwyll a thafod,
(0, 3) 184 Fel na bo rhaid, drwy chwys a phendroni,
(0, 3) 185 Im draethu'r ddysg na wn i moni,
(0, 3) 186 Ac fel y gwypwyf beth yw'r byd
(0, 3) 187 A'r hyn a gynnwys oll i gyd,
(0, 3) 188 A gweld ei had a'i rym i'w eigion
(0, 3) 189 Yn lle rhyw ddelio mewn geiriau gweigion!
(0, 3) 190 ~
(0, 3) 191 O loergan leuad, a weli di,
(0, 3) 192 Am yr olaf waith, fy llafur i?
(0, 3) 193 Dydi, a welais i mor dlos
(0, 3) 194 Uwchben fy nesg aml hanner nos;
(0, 3) 195 O blith papurau a llyfrau lu,
(0, 3) 196 Gyfeilles brudd, y'th wyliwn fry!
(0, 3) 197 Och! na chawn fynd i gopa'r bryn
(0, 3) 198 Ynghanol dy oleuni gwyn;
(0, 3) 199 Crwydro gydag ysbrydion lu
(0, 3) 200 Drwy ogofeydd y creigiau fry,
(0, 3) 201 Hofran yn dy hanner goleu
(0, 3) 202 I'w canlyn hwy uwchben y dolau;
(0, 3) 203 Poen meddwl wedi'i lwyr anghofio,
(0, 3) 204 A mi'n dy wlith yn nwyfus nofio!
(0, 3) 205 Gwae! yma'r wy'n y carchar cau,
(0, 3) 206 Felltigaid, dywyll bared ffau,
(0, 3) 207 Lle rhaid i wawl y nefoedd wiw
(0, 3) 208 Ryw dorri'n llwyd trwy wydryn lliw,
(0, 3) 209 A fforchi yn y llyfrdy, fo
(0, 3) 210 A gny pryfetach, tan ei lwch;
(0, 3) 211 A'i bared yntau, hyd y to,
(0, 3) 212 A phapur myglyd trosto'n drwch;
(0, 3) 213 Gwydrau ac estyll ym mhob cwrr,
(0, 3) 214 Ac offer lu ar draws a hyd,
(0, 3) 215 Hynafol ddodrefn, ddidrefn dwrr—
(0, 3) 216 Dy fyd, y peth a elwi'n fyd!
(0, 3) 217 A fynni dithau holi pam
(0, 3) 218 Y rhydd dy galon ynot lam?
(0, 3) 219 Paham y daw rhyw ofid mud
(0, 3) 220 I darfu gwerth dy yrfa i gyd?
(0, 3) 221 Yn lle bod gyda Natur fyw,
(0, 3) 222 I lonni dyn, a luniai Duw,
(0, 3) 223 Bod yma yn y mwg a'r staen,
(0, 3) 224 Rhwng ysgerbydau ac esgyrn braen!
(0, 3) 225 Ffo! ymaith dos i'r wlad sy draw
(0, 3) 226 A'r llyfr, sy lawn o bethau cudd,
(0, 3) 227 Gwaith Nostradamus[1] tan ei law,
(0, 3) 228 I'th arwain, onid digon fydd?
(0, 3) 229 Pan ddysger di gan Natur hithau,
(0, 3) 230 Ti adnabyddi hynt y bydoedd,
(0, 3) 231 A daw yr enaid rym i tithau.
(0, 3) 232 Megys y sieryd yr ysbrydoedd;
(0, 3) 233 Ofer, tra byddo pŵl deimladau,
(0, 3) 234 I'r Arwydd roddi Datguddiadau—
(0, 3) 235 Ysbrydion, sydd o'm hamgylch i,
(0, 3) 236 O'm clywoch, doed eich ateb chwi!
 
(0, 3) 238 Ha! pa ryw wynfyd sydd yr ennyd hon
(0, 3) 239 Ar unwaith trwy bob synnwyr yn ehedeg?
(0, 3) 240 Mae pur lawenydd bywyd ieuanc llon
(0, 3) 241 Drwy bob gwythïen fawr a bach yn rhedeg!
(0, 3) 242 Ai Duw oedd ef, a wnaeth y Daflen hon,
(0, 3) 243 Sydd yn tawelu ynof bob blinderau,
(0, 3) 244 Gan lenwi'r druan galon â mwynderau,
(0, 3) 245 Ac â rhyw ddirgel egni, ger fy mron,
(0, 3) 246 Sy'n agor nerthoedd Natur i'w dyfnderau?
(0, 3) 247 Ai duw wyf innau? Mwy, ysgafned wyf!
(0, 3) 248 Mi welaf Natur yma yn ei nwyf
(0, 3) 249 Yn gorwedd ger bron f'enaid i yn noeth,
(0, 3) 250 A gwn yn awr holl ystyr geiriau'r Doeth:
(0, 3) 251 "Nid ydyw byd yr ysbryd tan ei glo,
(0, 3) 252 Dy deimlad ti, a'th galon farw, y sydd;
(0, 3) 253 Fyfyriwr, dos yn llawen yn dy dro,
(0, 3) 254 A golch dy farwol fron yng ngwawl y dydd!"
 
(0, 3) 256 Mae'r cyfan drwy ei gilydd megys gwe,
(0, 3) 257 A'r naill drwy'r llall yn bod a llenwi ei le;
(0, 3) 258 Egnïon nef, yn uwch ac is, esgynnant,
(0, 3) 259 A'r cwpan aur, i'w gilydd yr estynnant!
(0, 3) 260 O'r nef a thros y ddaear y disgynnant,
(0, 3) 261 Gan hidlo bendith o'u hadanedd,
(0, 3) 262 A'r cwbl i gyd trwy'r cyfan yn gynghanedd!
(0, 3) 263 Pa chwarae! Eto, dim ond chwarae yw!
(0, 3) 264 Ddi derfyn Natur, sut y'th ddaliaf di?
(0, 3) 265 Dy fronnau, ble? Dy ffrwd sy fythol fyw,
(0, 3) 266 Y crog y nef a'r ddaear wrthi hi,
(0, 3) 267 Y cyrch i'w chyrraedd bob rhyw fynwes wyw,
(0, 3) 268 A lleibio'i llif—ai ofer gwanc i mi?
 
(0, 3) 270 Y mae i'r Arwydd yma amgen rhin!
(0, 3) 271 Ysbryd y Ddaear, 'r wyt yn agoshau,
(0, 3) 272 Mae f'egni ynof eisoes yn cryfhau,
(0, 3) 273 Mae ias i'm ysu, megys newydd win;
(0, 3) 274 Mae arnaf awydd yn y byd anturio,
(0, 3) 275 A phrofi bydol arial a dolurio,
(0, 3) 276 Yn erbyn yr ystormydd ymgyndynnu,
(0, 3) 277 A bod, pan dorro'r llong, heb unwaith grynu!
(0, 3) 278 Tywylla uwch fy mhen—
(0, 3) 279 Fe gudd y lloer ei lliw—
(0, 3) 280 Gwelwa goleuni'r lamp!
(0, 3) 281 Diffydd!—gwing rhyw belydr coch
(0, 3) 282 O gylch fy mhen;—a syrth
(0, 3) 283 Rhyw ias or neni lawr
(0, 3) 284 A gafael ynof!
(0, 3) 285 Mi a'i gwn, O, ysbryd taer, gerllaw'r wyt ti!
(0, 3) 286 Amlyga di dy hun!
(0, 3) 287 Ha! fel yr ymgynhyrfa 'nghalon i!
(0, 3) 288 A newydd iasau'n ysu,
(0, 3) 289 Y mae fy holl synhwyrau'n ymddyrysu!
(0, 3) 290 Y mae fy nghalon iti'n llwyr yn plygu,
(0, 3) 291 Pe costiai 'mywyd, dyred i'th amlygu!
 
(0, 3) 296 Erchyll yw dy ddrych!
 
(0, 3) 300 Gwae! Ni allaf fod lle bych!
 
(0, 3) 313 Y fflamgi! pam y ciliwn rhagot tu?
(0, 3) 314 Myfi yw, a'th gydradd dithau, Faust wyf i!