Ciw-restr

Ffrois

Llinellau gan William (Cyfanswm: 134)

 
(1, 0) 162 Oti-ddi wedi mynd?
 
(1, 0) 165 Fyswn-i wedi dod lawr ond {braidd yn sarhaus} allswn-i ddim dod o hyd i'm |dressing-gown|.
 
(1, 0) 167 Beth wetas-i'n gas?
 
(1, 0) 171 Otych-chi'n mynd mas?
 
(1, 0) 174 'Rych chi'n dishgwl yn daclus iawn heno.
 
(1, 0) 179 Wyr y grotan 'na byth ble ma hi'n gatal dim byd.
 
(1, 0) 182 Y bendith mawr─ucian munad i saith, a dyma fi heb hannar gwisgho.
(1, 0) 183 Ble ma'n scitsha-i, otyn nhw'n lân?
 
(1, 0) 188 'Rych-chi wedi bratu'r hen blant 'na, Martha.
(1, 0) 189 Dos 'ma ddim i'w glwad o fora tan nos ond "Mam, ble ma'r peth hyn?" a "Mam, ble ma'r peth arall?"
 
(1, 0) 192 Nawr, ble ma'n spectol i?
 
(1, 0) 195 Ma gen-i gant a mil o betha i feddwl am danyn nhw heno.
(1, 0) 196 Seiat bwysig iawn─'dych chi ddim yn dod?
 
(1, 0) 198 'Rych chi'n colli cwrdda'r wthnos yn amlach nag och chi, Martha.
 
(1, 0) 200 Henant, 'llwn feddwl, henant.
 
(1, 0) 203 Dyna hi eto!
 
(1, 0) 206 Ti a dy ribana!
(1, 0) 207 Shwt gall dyn feddwl a thrio cofio, a thitha'n gwiddi bob yn ail funad.
 
(1, 0) 211 Nawr, dyna bapur aelotath morwn Mrs. Morgan.
(1, 0) 212 Rwy'n cretu i fi ddoti-a yn y llyfyr hymna.
 
(1, 0) 226 A dyna bapur cyfrifon te-parti'r plant.
 
(1, 0) 232 'Dos gen-i ddim amsar i farnu dresses nawr.
 
(1, 0) 234 Nagw-i, ble cesoch-chi ddi?
 
(1, 0) 241 Alli-di ddim gatal dy fam yn llonydd?
(1, 0) 242 Fe gymrat i phen hi tsa hynny o ryw ddipan i ti.
 
(1, 0) 256 Wyt ti'n wilia'n gwmws fel tsa ti ddim yn folon i weld pilyn decha am dy fam.
 
(1, 0) 259 'Dych chi'r plant ariod wedi rhoi llawar o gyfla iddi─Beth andras sy ar y bwtwn 'ma─Martha!
 
(1, 0) 264 Dyna fe, dyna ddicon o dy dafod di.
 
(1, 0) 272 Wel, ar y ngair i, am wn i nag w inna hefyd.
 
(1, 0) 275 Martha, fe wyddoch o'r gora fod cystlad gen i weld platad o ffrois at y ford a dim.
(1, 0) 276 A pheth arall, ma hi'n siwr o fod yn bryd i rywun gâl pen 'i flwydd yn y tŷ 'ma!
 
(1, 0) 279 Wel, wel, wel, wel─wel dyma beth diarth o ryfadd, 'rwy wedi gwishgo 'nhrwsis dŷ Sul.
(1, 0) 280 Nawr, shwt ma hyn yn bod?
 
(1, 0) 282 Ar bost y gwely y ceso-i a.
 
(1, 0) 285 Ryfadd yn wir!
(1, 0) 286 Beth gynllwn sy'n bod 'ma heno?
 
(1, 0) 288 Odd y trwsis hyn ddim ar bost y gwely y bora ma.
 
(1, 0) 290 A mwy na hynny, odd y petha hyn yn yn nrwsis dwetydd i ddo.
 
(1, 0) 294 Ia, ond nid wrth wishgo'm dillad Sul acha noswath waith y ceso i'r tai 'na cofia.
 
(1, 0) 296 Na, 'dwy-i ddim yn mynd i wishgo rheina.
 
(1, 0) 298 Na 'na.
 
(1, 0) 300 Wel, pam?
 
(1, 0) 304 Ma 'na rwpath ymhell o'i le yn y tŷ 'ma heno.
 
(1, 0) 308 Ho─parsal arall!
 
(1, 0) 311 Folon, wel am otw-─ond rhowch gyfla i'r ferch i hunan i fod yn fam idd 'i phlant.
 
(1, 0) 313 Welas-i ariod o'ch tepyg chi, Martha.
(1, 0) 314 Tsa chi'n câl ych ffordd, fe roisach fwyd, dillad, a moddion i holl blant y Cwm, a chelsa dim un fenyw arall ddod yn acos iddyn nhw.
 
(1, 0) 316 Beth yw hon?
 
(1, 0) 323 Do, am wn-i'n wir.
 
(1, 0) 338 Nawr, Martha, fe addawsoch y tro dwetha y celsa Gomar hela'i ddillad i'r golch yn Aberystwyth fel rhyw fachgan arall.
 
(1, 0) 342 Pryd smwddsoch-chi rheina?
 
(1, 0) 345 Nawr merch-i, fe'u smwddsoch nhw nithwr ar ol i fi fynd i'r gwely, ag odd-hi wedi un ar ddeg prynny.
 
(1, 0) 348 Os aiff rhywun i'r nefodd, Martha, fe ewch chi, ond os na fydd 'na fashîn gwinio, twbin golchi, a phar o heyrn smwddo, fyddwch chi ddim wrth ych bodd.
 
(1, 0) 361 A dyma fi'n bratu'm hamsar man hyn pan y dylswn-i fod ar y ffordd i'r capal.
(1, 0) 362 Nawr, y papyra na─
 
(1, 0) 364 Dyna un.
 
(1, 0) 366 Dyna ddou.
(1, 0) 367 A ma 'na un arall eto.
 
(1, 0) 369 Beth odd hwnnw?
 
(1, 0) 371 O ia, nawr ma hwnnw yn yng nghot ddwetydd-i.
 
(1, 0) 375 Ma rhyw scêm ar drod gita chi heno.
 
(1, 0) 377 Wel, 'naf-fi'r tro?
(1, 0) 378 'Dwy |i| ddim yn newid 'y nghrys na gwishgo |blouse| glân chwaith.
 
(1, 0) 382 Yn weddol iefa?
(1, 0) 383 Fe ddylswn fod, 'rwy wedi bod o dan y driniath am rai blynydda nawr.
 
(1, 0) 389 Wel─er─wn i yn y byd.
(1, 0) 390 Falla nag on-i ddim yn erfyn ych gweld chi yn y shôl 'na.
(1, 0) 391 Pam ych-chi'n gwishgo honna heno?
 
(1, 0) 403 Dyna fe, well i ti scwto ryw sothach fel 'na i ben dy fam!
 
(1, 0) 406 Hy!─fydd yn bwnc i ti gâl gafal ar 'i thepyg hi!
 
(1, 0) 414 Martha, 'dych chi ddim yn teimlo'n rhy dda heno.
(1, 0) 415 Dim ond hannar gair, ym merch-i, a fe arhosa i yn y tŷ gita chi.
 
(1, 0) 421 Wel, ma'r cwbwl gen i nawr.
 
(1, 0) 423 Wn-i beth wetan-nhw yn y seiat pan welan-nhw fi yn y nillad gora acha nos Iou.
 
(1, 0) 443 Fe wyddwn-i fod 'na bapur arall!
(1, 0) 444 Beth am gyfrifon yr Ysgol Sul, ma nhw─
 
(1, 0) 446 Ffrois!
(1, 0) 447 O'n i'n meddwl fod rhyw felltith neu gilydd gita chi.
(1, 0) 448 Pwy sy'n câl 'i ben blwydd heddy?
 
(1, 0) 450 Fe ddylswn fod yn gwpod hefyd.
(1, 0) 451 Nid John, na ma John ym mish Hytra.
 
(1, 0) 453 Annie ym mish Mehefin a Miriam─Miriam?
 
(1, 0) 455 Gomar ym mish bach, a chitha─chitha ym mish Eprill.
 
(1, 0) 458 'Rarswd mawr!
(1, 0) 459 Nid 'men blwydd i yw-a, iefa?
(1, 0) 460 Nace,─nace─'r wy i ym mish─mish Awst ond wy-i?
 
(1, 0) 463 Wel, 'dos 'ma neb arall.
(1, 0) 464 Penblwydd pwy yw-a?
 
(1, 0) 470 A dyma'n─dyma'n |silver wedding| ni, iefa?
 
(1, 0) 475 Fysa dim llawar─fysa dim llawar─i chi─i chi─
 
(1, 0) 477 Na, nid felna chwaith.
(1, 0) 478 Fysa ddim llawar i fi─{yn gryg iawn} i fi gofio─i fi feddwl rwpath.
 
(1, 0) 483 Na, fysa'n fawr i fi gofio!
 
(1, 0) 486 Pum mlynadd ar ucian─{yn codi ei ben}─a shwrna itha galad 'rych chi wedi gâl.
 
(1, 0) 488 Odd John yn itha iawn; dodd dim glanach crotan na chi yn y cymdogaetha.
(1, 0) 489 A fe ddetho-i â chi o genol y wlad, oddiwrth y dolydd a'r caea, i fwg a lluwch du y cwm hyn.
 
(1, 0) 491 Ia, pum mlynadd ar ucian.
(1, 0) 492 'Rwy'n ych gweld chi nawr; dress wlanan odd am danoch-chi, patrwn mân coch a du─
 
(1, 0) 494 A dyna hi!
 
(1, 0) 496 'Rodd ych bocha chi'n llawnach prynny Martha, ych llyced chi fel sêr, a'ch gwallt fel yr aur melyn─na, fysa'n fawr i fi gofio.
 
(1, 0) 498 Tswn i wedi meddwl, fe fysa gen-i ryw bresant bach i chi.
 
(1, 0) 501 Fe rows Robert lestri arian i Ellen.
 
(1, 0) 503 Nagyn, 'dyn ni ddim yr un peth.
(1, 0) 504 Ma arno i lawar fwy o ddylad i chi nag sy ar Robert i Ellen.
(1, 0) 505 Ma'ch bocha chi'n welw nawr, ych gwallt yn britho, ych llyced chi'n pylu, a welwch chi'r rhygna 'na sy ar ych gruddia chi─dyna ôl y ddylad sy arnon-ni i chi, y fi a'r plant.
 
(1, 0) 518 Fe wn-i beth sy'n ych meddwl chi.
(1, 0) 519 Fe geso i start ym hunan.
(1, 0) 520 Ond yw hi'n depyg iddi!
 
(1, 0) 523 Dyna fe, lwchi, am wn i nag yw'r Brenin Mawr yn gofalu am restar o fama da, o genhedlath i genhedlath, a ma nhw i gyd yn ryfadd o depyg.
 
(1, 0) 527 Wel, dewch ymlan.
(1, 0) 528 Ble ma'r llestri?
(1, 0) 529 'Dos dim llawar o whant bwyd arno-i, ond fe 'llwn-i fyta ffroisan.
 
(1, 0) 532 Gadewch nhw fod tu cefan i'r cloc.
(1, 0) 533 A─h, ma'r tecil yn berwi.
(1, 0) 534 Desc
(1, 0) 535 Tynn WILLIAM y tegell oddiar y tân ac ymgymerant oll â gosod y bwrdd.
(1, 0) 536 Daw MIRIAM â llestri tê glas a gwyn i'r golwg.
 
(1, 0) 542 Dewch ymlan, dewch ymlan.
 
(1, 0) 571 Beth! ych mam i ishta lawr, dim byth!
 
(1, 0) 580 Ishteddwch lawr, ishteddwch lawr.
 
(1, 0) 588 Nawr!
 
(1, 0) 595 Gadewch iddi; mae wedi torri'r |record|.
(1, 0) 596 Fe ishteddws man'na yn secur am funad lawn a phawb arall yn gwitho.
 
(1, 0) 603 la, fe ishtedda inna man hyn, Martha man'na, John a Miriam fan'na.
 
(1, 0) 605 Os 'na rwpath yn isha?
 
(1, 0) 608 Ag i bwy ma rheina?
 
(1, 0) 612 Wel?
 
(1, 0) 615 Os merch-i, ond ma hi miwn gwlad well, uwchlaw pob gofid a thrallod.
 
(1, 0) 620 Wel, gadewch i ni ddechra.
(1, 0) 621 'Dos dim isha i ni bito bod yn llawan heno.
(1, 0) 622 Ellen, fynnwch-chi ffroisan?
 
(1, 0) 626 Beth sy'n─
(1, 0) 627 O ia, ia, fe anghofias.
 
(1, 0) 631 Diolch i Ti am Dy drugaredda, ond y drugaradd fwya i gyd, diolch i Ti─diolch i Ti─am Martha.