Ciw-restr

Ffrwd Ceinwen

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 151)

(1, 1) 1 Yr Olygfa: Parlwr moethus mewn plasdy bychan ar arfordir de-orllewinol Môn.
(1, 1) 2 Mae wedi'i ddodrefnu'n chwaethus — hen ddodrefn da.
(1, 1) 3 Mae ynddo silffoedd llyfrau a'r rheini'n or-daclus.
(1, 1) 4 Ar y muriau mae lluniau haniaethol eu naws yn crogi.
(1, 1) 5 Yn un pen i'r parlwr y mae piano grande agored a darnau o gerddoriaeth arni.
(1, 1) 6 Mae yma hefyd hi-fi drudfawr ac wrth ei ymyl nifer o grynoddisgiau a thapiau caset.
(1, 1) 7 Mae yna gitâr yn y parlwr hefyd.
(1, 1) 8 Hwnt ac yma mae teganau plentyn ifanc iawn.
(1, 1) 9 ~
(1, 1) 10 Mae'r stafell yn arwain allan i batio sy'n arwain i lawr grisiau gerrig at lawnt.
(1, 1) 11 Yng ngwaelod y lawnt hon y mae llyn ond ni all y gynulleidfa ei weld.
(1, 1) 12 ~
(1, 1) 13 Tywyllwch.
(1, 1) 14 Fel y cyfyd y golau, clywn 'Ffrwd Ceinwen' yn cael ei chanu gan driawd piano.
 
(1, 1) 16 Yn araf mae'r gerddoriaeth yn distewi.
(1, 1) 17 Yn y pellter, clywir sŵn injian gref JCB yn nesáu at y tŷ.
(1, 1) 18 Mae'r sŵn yn cryfhau ac yna'n peidio.
(1, 1) 19 Y tu allan clywir llais.
(1, 1) 20 DEI yn gweiddi: 'Mrs Davies? Mrs Davies?'.
(1, 1) 21 Mae DEI yn ymddangos wrth y grisiau gerrig.
(1, 1) 22 Mae'n ŵr ifanc tua 27 oed mewn dillad gwaith ac yn bur flêr yr olwg.
(1, 1) 23 Mae'n edrych o'i gwmpas, diffodd ei sigarét a cherdded yn llechwraidd braidd i'r parlwr.
(1, 1) 24 Unwaith eto, mae'n gweiddi 'Mrs Davies?', ac yna 'Dona?' ond ni chaiff ymateb.
(1, 1) 25 Mae'n ymlacio rhywfaint gan gerdded o gwmpas.
(1, 1) 26 Mae'n edrych ar y llyfrau, yna'r recordiau a'r crynoddisgiau.
(1, 1) 27 Mae'n eistedd wrth y piano ac yn ceisio chwarae alaw o'i gof (un o eiddo Islwyn Davies, y cyfansoddwr, yn seiliedig ar 'Os Torrith Cob Malltraeth') ond mae'n cael cryn drafferth i fwrw ymlaen.
(1, 1) 28 Mae hyn yn ei gordeddu a'i wneud yn hynod flin a rhwystredig.
(1, 1) 29 Mae'n codi'n sydyn fel petai mewn siom a cherdded at yr hi-fi a'i droi ymlaen.
(1, 1) 30 Mae'n tiwnio radio'r hi-fi i orsaf arbennig a chlywir un o ganeuon 'John ac Alun' yn cael ei chwarae ar y radio.
(1, 1) 31 Mae'n ymateb i'r gân yn hynod flin.
(1, 1) 32 "Blydi hel!" a throi y sain i lawr ychydig.
(1, 1) 33 Mae'n tynnu ffôn symudol o'i boced a phwyso'i fotymau.
 
(1, 1) 42 Daw record John ac Alun' i ben.
 
(1, 1) 54 Mae DEI yn cynhyrfu.
 
(1, 1) 111 Mae DEI yn rhoi'r ffôn i lawr yn hynod flin.
 
(1, 1) 121 Mae'r gân i'w chlywed am ychydig ac yna, yn ei dymer, mae Dei yn diffodd y radio.
(1, 1) 122 Mae'n cerdded eto at y piano a cheisio chwarae, heb fawr o lwyddiant, y darn 'Cob Malltraeth'.
(1, 1) 123 Tra mae'n gwneud hyn ymddengys DONA ar y grisiau gerrig.
(1, 1) 124 Pan glyw'r gerddoriaeth, mae'n aros am ennyd.
(1, 1) 125 Mae mewn penbleth.
(1, 1) 126 Yna, mae'n cerdded i mewn.
(1, 1) 127 Am ennyd, nid yw DEI yn sylweddoli ei bod yno.
 
(1, 1) 147 Mae DONA yn chwilio am rywbeth yn y silff lyfrau.
 
(1, 1) 160 Mae Dona yn codi ei hysgwyddau.
 
(1, 1) 179 Mae Dona yn codi ei hysgwyddau eto.
 
(1, 1) 194 Mae DONA yn tynnu darn o bapur allan, gafael yn y gitâr a dechrau rhyw fwmial cân Saesneg.
(1, 1) 195 Mae DEI yn rhythu arni.
 
(1, 1) 202 Yn ei thymer, y mae DONA yn codi, taflu'r gitâr ar y soffa a rhuthro i fyny'r grisia.
(1, 1) 203 Mae DEI wedi synnu at ei hymddygiad.
 
(1, 1) 206 Mae DEI ar ei ben ei hun eto.
(1, 1) 207 Mae'n cerdded at y piano a cheisio, unwaith eto, chwarae'r un darn.
(1, 1) 208 Y tro hwn y mae'n cael gwell hwyl arni.
(1, 1) 209 Tra mae'n gwneud hyn mae MEILIR yn ymddangos.
(1, 1) 210 Mae wedi gwisgo'n drwsiadus mewn siwt a chôt ddu laes.
(1, 1) 211 Yn un llaw mae ganddo gês teithio ac yn y llaw arall gyfrifiadur symudol bychan.
(1, 1) 212 Mae'n edrych o'i gwmpas, yn arbennig i gyfeiriad y llyn.
(1, 1) 213 Mae'n syllu ar yr hyn a wêl gyda syndod.
(1, 1) 214 Yna, mae'n cymryd sylw o'r gerddoriaeth a cherdded i mewn.
(1, 1) 215 Y tro hwn y mae DEI yn ei weld.
 
(1, 1) 249 Maent yn edrych allan.
 
(1, 1) 283 Wrth fynd allan, mae DEI yn bwrw golwg ar y piano.
(1, 1) 284 Mae'n aros ennyd.
 
(1, 1) 330 Mae DEI yn mynd allan.
(1, 1) 331 Pan â allan drwy ddrws y patio mae'n aros am ennyd ac edrych i gyfeiriad y llyn.
(1, 1) 332 Ymddengys fel petai'n ffieiddio ato'i hun.
(1, 1) 333 Mae'n magu plwc a cherdded i gyfeiriad y llyn gan adael MEILIR ar ei ben ei hun yn y stafell.
(1, 1) 334 Mae MEILIR yn edrych o'i gwmpas a thynnu ei ffôn symudol allan a phwyso'i fotymau.
(1, 1) 335 Mae rhywun, y pen arall, yn ateb yr alwad.
 
(1, 1) 357 Daw Dona i mewn fel pe bai ar frys gwyllt.
(1, 1) 358 Mae MEILIR yn ddiplomataidd yn dirwyn y sgwrs ffôn i ben.
 
(1, 1) 442 Mae DONA, mewn tymer, yn rhuthro allan i'r patio.
 
(1, 1) 461 Maent yn symud i mewn.
 
(1, 1) 561 Mae MEILIR yn anesmwytho.
(1, 1) 562 Mae'n edrych allan at y lawnt.
 
(1, 1) 569 Mae'r ffôn yn canu.
(1, 1) 570 Mae Dona yn mynd i mewn a'i godi.
 
(1, 1) 582 Mae'n dod yn ôl at MEILIR.
 
(1, 1) 586 Ymddengys DEI.
 
(1, 1) 602 Mae DONA yn mynd allan.
(1, 1) 603 Mae MEILIR yn cerdded at y piano ac eistedd i lawr yn rhythu ar y nodau.
(1, 1) 604 Mae DEI yn tanio sigarét.
 
(1, 1) 611 Mae MEILIR yn ceisio chwarae nodau 'Ffrwd Ceinwen' ar y piano.
 
(1, 1) 623 Mae MEILIR yn rhoi'r gorau i chwarae.
 
(1, 1) 637 Mae DEI yn chwerthin.
 
(1, 1) 695 Mae DEI yn mynd allan wedi cynhyrfu, i'r lawnt.
(1, 1) 696 Mae MEILIR yn mynd yn ôl i'r parlwr.
(1, 1) 697 Mae'n cerdded o gwmpas fel petai mewn penbleth.
(1, 1) 698 Daw DONA i mewn gyda'r coffi.
(1, 1) 699 Mae'n rhoi un i MEILIR.
 
(1, 1) 766 Mae DONA yn mynd at y patio a thaflu'r coffi allan ar y lawnt.
(1, 1) 767 Yn y cyfamser mae MEILIR wedi estyn ei gyfrifiadur ac yn dechrau gweithio arno.
(1, 1) 768 Daw DONA yn ôl i mewn.
(1, 1) 769 Mae'n edrych ar MEILIR am ennyd.
 
(1, 1) 771 Mae MEILIR yn ei fyd bach ei hun.
 
(1, 1) 793 Mae MEILIR yn llawn rhwystredigaeth yn gwrando ar hyn.
 
(1, 1) 799 Mae DONA yn cerdded at y silffoedd wrth ymyl yr hi-fi, tynnu crynoddisg allan, a'i roi i mewn yn y chwaraeydd.
(1, 1) 800 Mae miwsig pop yn diasbedain yn y stafell.
(1, 1) 801 Mae'n disgwyl ymateb gan MEILIR.
(1, 1) 802 Ni chaiff.
(1, 1) 803 Mae'n troi'r sain yn uwch.)
 
(1, 1) 819 Mae MEILIR yn ei dymer yn mynd at yr hi-fi a throi'r sain i lawr.
(1, 1) 820 Mae DONA unwaith yn rhagor yn troi'r sain yn uwch.
(1, 1) 821 Mae MEILIR yn ei droi i lawr.
(1, 1) 822 Mae DONA yn ei droi'n uwch.
(1, 1) 823 Dechreuant ymladd, bron.
 
(1, 1) 828 Trwy'r drws cefn ymddengys DWYNWEN a BARRY.
(1, 1) 829 Mae'r ddau'n cario bagiau siopa.
(1, 1) 830 Mae gan Barry un bag neilltuol o fawr.
 
(1, 1) 833 Mae DWYNWEN yn rhoi'r bagiau ar lawr ac yn cerdded at yr hi-fi a'i ddiffodd.
 
(1, 1) 844 Mae BARRY yn codi bag coch.
 
(1, 1) 847 Mae DONA yn cymryd y bag.
 
(1, 1) 849 Mae DONA yn agor y bag a thynnu ffrog ddigon hyll allan.
(1, 1) 850 Nid yw'n siŵr beth i'w ddweud.
 
(1, 1) 862 Mae'n tynnu cwch model allan o'r bag ynghyd â radio i'w reoli.
 
(1, 1) 866 Mae DONA yn mynd allan.
 
(1, 1) 953 Mae BARRY yn lluchio goriad at MEILIR.
(1, 1) 954 Mae MEILIR yn ei ddal.
(1, 1) 955 Mae MEILIR ar fin mynd pan wêl BARRY y cyfrifiadur.
 
(1, 1) 963 Mae BARRY ar fin rhoi ei fysedd arno.
(1, 1) 964 Mae MEILIR yn cynhyrfu.
 
(1, 1) 969 Â MEILIR allan.
 
(1, 1) 993 Mae DWYNWEN yn rhoi'r gôt amdani.
(1, 1) 994 Mae DEI yn rhoi ei ben i mewn drwy ddrws y patio.
 
(1, 1) 1026 Mae DEI yn cymryd y cwch.
 
(1, 1) 1034 Diflanna DEI a BARRY i gyfeiriad y llyn.
(1, 1) 1035 Ymddengys DONA mewn ffrog erchyll o hyll.
(1, 1) 1036 Mae DWYNWEN yn edrych arni.
 
(1, 1) 1050 Ymddengys MEILIR gyda bocs yn cynnwys taflenni yn ei law.
 
(1, 1) 1058 Mae MEILIR yn mynd at y bwrdd ac wedyn yn mynd at y cyfrifiadur.
 
(1, 1) 1076 Mae MEILIR yn rhuthro i gyfeiriad y patio ac edrych allan.
 
(1, 1) 1085 Daw MEILIR i mewn yn ysgwyd ei ben mewn anghredinedd.
(1, 1) 1086 Mae DWYNWEN yn mynd at y bocs taflenni sydd ar y bwrdd a thynnu taflen allan.
 
(1, 1) 1090 Mae'n rhoi taflen yn llaw MEILIR.
(1, 1) 1091 Mae yntau'n edrych arni.
 
(1, 1) 1117 Mae DWYNWEN yn tynnu ei chôt.
 
(1, 1) 1128 Mae BARRY yn dod i mewn yn flin gyda'r rheolydd radio yn ei law.
 
(1, 1) 1149 Mae'r ffôn yn canu.
(1, 1) 1150 Mae DWYNWEN yn codi'r ffôn.
 
(1, 1) 1162 Mae MEILIR yn edrych ar y gôt.
 
(1, 1) 1171 Mae BARRY yn gweld y daflen yn llaw MEILIR.
 
(1, 1) 1182 Mae MEILIR yn cael ei gordeddu.
 
(1, 1) 1197 Mae MEILIR yn troi at y patio yn barod i fynd allan.
(1, 1) 1198 Ymddengys RHYS.
(1, 1) 1199 Mae mewn dillad cyffredin.
(1, 1) 1200 Nid yw'n gwisgo coler gron offeiriad.
(1, 1) 1201 Mae MEILIR yn ei weld.
 
(1, 1) 1208 Mae RHYS yn mynd i mewn gan adael MEILIR ar y patio.
(1, 1) 1209 Mae DWYNWEN yn rhuthro ato a'i gofleidio'n dynn.
(1, 1) 1210 Mae'r golau'n diffodd a chlywir "Ffrwd Ceinwen" yn cael ei chwarae gan driawd.
(1, 1) 1211 ~
(1, 1) 1212 DIWEDD YR OLYGFA GYNTAF