Ciw-restr

Buchedd Garmon

Llinellau gan Garmon (Cyfanswm: 42)

 
(1, 0) 84 Yr Arglwydd a fo gyda chwi.
 
(1, 0) 87 Frodyr a phellenigion, mawr yw eich croeso;
(1, 0) 88 Daethoch o wlad nad yw ddieithr nac anenwog
(1, 0) 89 Yng nghronig saint a merthyron. Chwithau, yn wir,
(1, 0) 90 Ar awr o orfoledd y trawsoch; tadau y Ffydd yng Ngâl
(1, 0) 91 Sydd yma i'ch derbyn, a rhoi i chwi ran o'u gwynfyd
(1, 0) 92 A chyfran o'u gwledd. Cans heddiw codasom i'w orsedd
(1, 0) 93 Esgob newydd i'r Ffrainc, tywysog i eglwys Troyes.
(1, 0) 94 Deuwch, eisteddwch gan hynny rhwng f'arglwydd Lupus a minnau,
(1, 0) 95 Bwytewch gyda ni ac yfwch. Ac yna, pan weloch yn dda,
(1, 0) 96 Holaf eich neges a'ch helynt, ac ymddiddanwn dro.
 
(1, 0) 100 Ai dan adduned yr ydych, fy mrodyr?
 
(1, 0) 103 Bendigedig fo Duw yn ei ferthyron:
(1, 0) 104 A ellir gwybod y llw?
 
(1, 0) 109 Llefared fy arglwydd Lupus.
 
(1, 0) 119 Brawdol a duwiol y dywaid esgob Troyes;
(1, 0) 120 Ac ef piau'r wledd; ymgrymwn felly i'w air.
(1, 0) 121 Fy mrodyr, yn enw'r Drindod fendigaid, traethwch eich neges.
 
(1, 0) 159 Bendigedig fo Duw yn ei feudwyaid a'i saint.
 
(1, 0) 171 Adwaenwn ef, Paulinus,
(1, 0) 172 Meistr y gloyw ymadrodd.
(1, 0) 173 Na thybiwch, fy mrodyr, i'r enaid crwca erioed
(1, 0) 174 Lithio'r ffyddloniaid. Gwŷr mawr,
(1, 0) 175 Heuliau'n pelydru grym, a greodd yr heresïau;
(1, 0) 176 Rhyfeddwn ddwyfoldeb athrylith, a gweddïwn dros yr enaid.
 
(1, 0) 227 O Paulinus,
(1, 0) 228 Dduwiol weinidog y ffydd a ffyddlon wlatgarwr,
(1, 0) 229 Llosgai'n calonnau ynom tra lleferaist.
(1, 0) 230 Nid ofer y teithiasoch, fy mrodyr, yma.
(1, 0) 231 A lanwodd y newynog â phethau da,
(1, 0) 232 Cennad ei wlad a'i eglwys ni ad yn waglaw.
(1, 0) 233 Teulu yw gwledydd y ffydd,
(1, 0) 234 Dinas a gydgysylltiwyd ynddi ei hun,
(1, 0) 235 Ac er eich mwyn, fy nghyfeillion, dywedaf yn awr,
(1, 0) 236 Heddwch a fyddo i chwi,
(1, 0) 237 Ac er mwyn tŷ yr Arglwydd ein Duw, ceisiaf i chwi ddaioni.
(1, 0) 238 Ond y mae yma'r awron
(1, 0) 239 Yn gwrando'ch llith
(1, 0) 240 Un na chrwydrodd ei galon
(1, 0) 241 Erioed o'ch plith:
(1, 0) 242 Padrig, garcharor Iwerddon,
(1, 0) 243 Rho groeso i'th gyd-Frython.