Ciw-restr

Buchedd Garmon

Llinellau gan Lupus (Cyfanswm: 9)

 
(1, 0) 110 Fy nhirion dad,
(1, 0) 111 Diogel yw gennyf i mai Ceidwad y Teulu Santaidd
(1, 0) 112 A ddug y cenhadon hyn tros gors ac afon a diffaith
(1, 0) 113 A thrwy enbydrwydd fforestydd a'r di-feudwy fôr,
(1, 0) 114 A'u glanio yma'n brydlon yng nghanol preladiaid Gâl!
(1, 0) 115 Er mwyn eu gollwng hwy heddiw mewn hedd o'u duwiol ddiofryd
(1, 0) 116 A pheri gogoniant i'w anwylyd, Alban sant.
(1, 0) 117 Atolwg, felly, oedwn ychydig ein bwyd a'n diod,
(1, 0) 118 A gwrando'n gyntaf mewn cariad ar y gwroniaid hyn.