Ciw-restr

Buchedd Garmon

Llinellau gan Padrig (Cyfanswm: 28)

 
(1, 0) 244 Fy arglwydd a'm tad,
(1, 0) 245 Gwir yw y gair ac nis gwadaf─
(1, 0) 246 Yn alltud a digysylltiad
(1, 0) 247 Yr af ar y ddaear hon
(1, 0) 248 Nes dychwelyd i dud fy nghaethglud
(1, 0) 249 A'm hurddo yn rhwymau Iwerddon.
(1, 0) 250 A heddiw llaw angel a welaf
(1, 0) 251 Yn tywys y rhain dy westeion
(1, 0) 252 I'n clas ac i'n côr:
(1, 0) 253 A thithau a Lupus y bugail
(1, 0) 254 Yn gryf o'r cysegru hwn
(1, 0) 255 A ddenir i wlad y Brythoniaid
(1, 0) 256 I'w gwisgo â tharian y ffydd ac â chleddyf yr Ysbryd
(1, 0) 257 Ac i amgylchwregysu ei lwynau hi â gwirionedd
(1, 0) 258 Fel y safo yn y dydd drwg,
(1, 0) 259 Yn nydd y di-ffydd a diffoddwyr gwareiddiad.
(1, 0) 260 Minnau, fy arglwydd, a ddof yn was gweini i chwi,
(1, 0) 261 Ac wedi heddychu fy ngwlad,
(1, 0) 262 Yna, yn Nyfed fwyn, yr olaf tro,
(1, 0) 263 Ffarwelio â'r pridd a garaf
(1, 0) 264 A'th fendith dithau a gaf
(1, 0) 265 l'm bwrw eto i'r môr,
(1, 0) 266 I gyrchu tir fy nghaethiwed
(1, 0) 267 A marw yng ngwlad fy mabwysiad,
(1, 0) 268 Fel mai rhwym y bydd f'enw fyth wrth ynys Iwerddon,
(1, 0) 269 A hithau a Chymru am byth yn rhwym wrth Grist.
(1, 0) 270 Illtud, Paulinus, ymunwch â mi ar ein gliniau:
(1, 0) 271 Doed Garmon i wlad y Brythoniaid.