Ciw-restr

Y Glöyn Byw

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 92)

(1, 0) 1 Amser: Yr oes hon.
(1, 0) 2 Lle: Ty Merfyn Owen yn Nhreweilgi.
(1, 0) 3 Digwydd popeth yn ystod un diwrnod.
(1, 0) 4 ~
(1, 0) 5 Ystafell yn nhy Merfyn Owen.
(1, 0) 6 Lle tân ar ganol y pared, yn wynebu'r gynulleidfa.
(1, 0) 7 Drws i fyned allan ar y chwith; ffenestr rhyngddo â'r pared pellaf.
(1, 0) 8 Piano ar y dde i'r lle tân, a'i chefn at y pared.
(1, 0) 9 Drws arall ar y dde i fynd i'r gegin.
(1, 0) 10 Dwy gadair esmwyth, un o bobtu i'r lle tân.
(1, 0) 11 Bwrdd brecwest ar ganol y llawr.
(1, 0) 12 Lluniau ar y parwydydd.
(1, 0) 13 Papurau a llyfrau ar dop y piano ac ar lawr.
(1, 0) 14 Basged bapur wast rhwng y piano a'r drws i'r gegin, a honno yn fwy na llawn.
(1, 0) 15 Cyfyd y llen gan ddangos Merfyn a Gwladys yn bwyta eu brecwest.
 
(1, 0) 42 Gwladys yn rhoi ysgrech ac yn hel ei dillad at ei gilydd.
 
(1, 0) 45 Curo ar y drws.
 
(1, 0) 49 Marged yn dyfod i mewn, yn dodi bwndel o lythyrau ar y bwrdd yn ymyl Merfyn, ac yna yn myned ymaith.
(1, 0) 50 Rhai o'i phapurau cyrlio gwallt yn syrthio wrth iddi fvnd.
 
(1, 0) 157 Cyfyd y ddau ac ant allan drwy ddrws y gegin.
(1, 0) 158 Daw Marged i mewn gan glirio'r llestri a thaclu'r ystafell.
(1, 0) 159 Y gloch yn canu ar y chwith.
(1, 0) 160 Marged yn rhedeg i'r drws, ac yn dyfod yn ei hol, a Miss Jones i'w chanlyn.
 
(1, 0) 174 Marged yn mynd i'r gegin.
(1, 0) 175 Miss Jones yn tynnu ei phethau, yna yn edrych o'i chwmpas.
(1, 0) 176 Yn mynd at y piano, ac yn canu darn bach o fiwsig arni.
(1, 0) 177 Yna yn codi ac yn edrych ar y dodrefn a'r lluniau ar y parwydydd, a'r papurau hyd y cadeiriau ac ar lawr.
(1, 0) 178 Yn codi ei hysgwyddau ac yn ucheneidio ac ysgwyd ei phen.
(1, 0) 179 Yn eistedd ac yn synfyfyrio a'i llaw dan ei gên.
(1, 0) 180 Yn codi ac yn cerdded o gwmpas drachefn, ac yn eistedd eilwaith.
(1, 0) 181 Marged yn dyfod â the a bara ac ymenyn i mewn, ac yn eu dodi ar y bwrdd.
(1, 0) 182 Miss Jones fel pe heb sylwi bod Marged yno o gwbl, yn dal i synfyfyrio.
 
(1, 0) 190 Marged yn cychwyn i fwrdd.
 
(1, 0) 237 Marged yn mynd allan, a Miss Jones yn synfyfyrio ac yn sipian y te yn araf.
(1, 0) 238 Y drws yn agor yn ddistaw, a rhywun yn edrych i mewn, yna yn oilio yn ei ôl yn sydyn, heb i Miss Jones ei weled.
(1, 0) 239 Miss Jones yn cyfodi ac yn cychwyn at y drws.
(1, 0) 240 Marged yn dyfod i mewn yn sydyn i'w chyfarfod, ac yn cau'r drws ar ei hôl.
 
(1, 0) 253 Marged yn myned ymaith.
(1, 0) 254 Miss Jones yn myned ac yn edrych ar y piano, yn enwedig ar enw'r gwneuthurwyr, yna yn mynd ac yn eistedd i lawr, gan godi ei hysgwyddau ac ucheneidio.
(1, 0) 255 Y drws yn agor, a Morgan yn dyfod i mewn.
(1, 0) 256 Miss Jones yn cyfodi ac yn ei wynebu.
 
(1, 0) 264 Ennyd o ddistawrwydd.
(1, 0) 265 Cyfyd Morgan ac a at y piano.
(1, 0) 266 Rhed ei fysedd hyd-ddi.
(1, 0) 267 Eistedd ar yr ystôl, a chân ryw ychydig farrau o fiwsig yn ysgafn.
(1, 0) 268 Miss Jones: Yr ydych yn hoff o fiwsig syr?
 
(1, 0) 272 Dechreua Morgan ganu'r piano drachefn, yn ysgafn ac yn araf.
(1, 0) 273 Gwrendy Miss Jones yn astud arno, gan guro'r amser â blaen ei throed.
 
(1, 0) 343 Curo ar y drws o'r gegin.
 
(1, 0) 345 Marged yn dyfod i mewn, a golwg cynhyrfus arni.
 
(1, 0) 353 Morgan yn myned allan.
(1, 0) 354 Marged yn cychwyn ar ei ôl.
 
(1, 0) 377 Morgan yn dyfod yn ei ôl.
(1, 0) 378 Miss Jones yn syllu arno.
 
(1, 0) 401 Cyfyd Miss Jones a gwisg ei phethau.
(1, 0) 402 Egyr Morgan y drws iddi, ac ant allan gyda'i gilydd.
(1, 0) 403 Daw Marged i mewn, edrych o'i chwmpas, a at y piano ac edrych arni fel pe bai beth byw; ysgydwa ei phen a chwyd ei dwylaw, gan adael iddynt ddisgyn yn glec ar ei ffedog.
(1, 0) 404 Yna, dechreua glirio'r bwrdd.
(1, 0) 405 Cenir y gloch.
(1, 0) 406 Rhed Marged allan drwy ddrws y gegin.
(1, 0) 407 Daw Merfyn i mewn drwy'r llall.
(1, 0) 408 Saif ar ganol y llawr, gan wthio ei ddwylaw i waelod pocedi ei lodrau.
(1, 0) 409 Rhydd gic i'r fasged bapur oni bo'n rholio ar lawr; teifl ei gap ar ei hôl, ac eistedd i lawr ar gadair wrth y tân, gan godi ei draed ar ymyl y fantell, a thanio sigaret.
(1, 0) 410 Daw Gwladys i mewn o'r gegin, a chwlwm o flodau yn ei llaw.
 
(1, 0) 448 Gwladys yn mynd.
(1, 0) 449 Merfyn yn cerdded o gwmpas yn anesmwyth, yn edrych ar y piano ac ar y naill beth â'r llall yn yr ystafell.
(1, 0) 450 Gwladys yn dyfod yn ei hôl.
 
(1, 0) 493 Estyn ei llaw iddo, a dawnsiant ar ganol y llawr am ennyd.
(1, 0) 494 Safant yn sydyn.
(1, 0) 495 Gollynga Gwladys ei gwallt yn gawod aur dros ei hysgwyddau, cofleidia Merfyn hi.
(1, 0) 496 Yna safant gar edrych ar ei gilydd.
 
(1, 0) 535 Merfyn yn ei chusanu ar ei thalcen, ac yn mynd ac yn eistedd ar y gadair a chuddio ei wyneb â'i ddwylaw.
 
(1, 0) 537 Dyd Gwladys y gadwyn o'i llaw ar y silff, dyd ei het am ei phen, heb edrych ar Merfyn, a rhed allan drwy'r drws ar y chwith heb gofio'r gadwyn.
(1, 0) 538 Gyda'i bod wedi mynd, egyr y drws ar y dde, a daw Miss Jones a John Morgan i mewn yn ddistaw.
(1, 0) 539 Ni chyfyd Merfyn mo'i ben.
(1, 0) 540 Edrych y ddau ano.
(1, 0) 541 A Miss Jones ata yn araf, a dyd ei llaw ar ei ysgwydd.
(1, 0) 542 Ni chwyd yntau mo'i olwg.
 
(1, 0) 555 Tynn ei gadach poced allan, pesycha, a sych ei wefusau unwaith neu ddwy.
(1, 0) 556 Gwelir marciau cochion ary cadach poced.
(1, 0) 557 Eisteddwch, ma'm.
(1, 0) 558 Eisteddwch, syr.
(1, 0) 559 Y mae'n ddrwg gennyf.
 
(1, 0) 577 Safant gan edrych bob un ar ei gilydd am ennyd.
(1, 0) 578 Gwladys yn sychu ei llygaid, a Merfyn yn pesychu.
 
(1, 0) 581 Distawrwydd.
(1, 0) 582 Gwladys a Merfyn yn edrych ar ei gilydd.
 
(1, 0) 596 Gan estyn ei law iddo.
(1, 0) 597 Ysgydwant ddwylaw.
 
(1, 0) 609 Llithra at y piano, dechreua ganu cainc fywiog, gyflym, troella Gwladys a Merfyn o gwmpas ar ganol y llawr, saif Miss Jones i edrych arnynt, gan sychu ei llygaid, a gwelîr Marged yn nrws y gegin yn edrych yn synn.
(1, 0) 610 ~
(1, 0) 611 LLEN