Ciw-restr

Y Glöyn Byw

Llinellau gan Gwladys (Cyfanswm: 103)

 
(1, 0) 16 Y mae'r postmon yn hwyr iawn heddyw.
 
(1, 0) 19 Wel, beth a wyddoch na ddaw â hanes cwsmer ì chwi?
 
(1, 0) 24 O, rhag cywilydd i chwi, Merfyn─dynwared ych tad fel yna o hyd!
 
(1, 0) 31 O, yn wir?
(1, 0) 32 Beth oedd hwnnw?
 
(1, 0) 35 O, Merfyn, Merfyn!
 
(1, 0) 38 O, Merfyn!
(1, 0) 39 Yr ydych yn rhy gas!
 
(1, 0) 46 Tewch, Merfyn, da chwithau.
 
(1, 0) 48 Dowch i mewn!
 
(1, 0) 53 O twt, lol!
(1, 0) 54 Edrychwch ar y llythyrau, a gadewch lonydd iddi hi a'i gwallt─hi pia fo.
 
(1, 0) 74 H'm!
(1, 0) 75 Y mae fy modryb yn dyfod heddyw─
 
(1, 0) 78 Modryb Elin─hyhi a roes y piano i ni yn hytrach, hyhi a roes ddeugain punt i ni brynu piano, fel y gwyddoch yn dda, Merfyn.
 
(1, 0) 81 O, Merfyn, peidiwch â dywedyd y fath beth!
 
(1, 0) 85 O, wel, wel, beth a wnawn ni bellach?
 
(1, 0) 87 Dyma hi ar ben arnom o'r diwedd!
 
(1, 0) 91 Ond beth a wnawn ni?
(1, 0) 92 Os dont i ymofyn y piano cyn i'm modryb gyrraedd, beth a ddywedwn ni?
(1, 0) 93 A phe baent yn dyfod a hithau yma, dyna hi yn waeth fyth!
(1, 0) 94 Byddai raid i ni gyfaddef y cwbl─ein bod wedi gwario'r deugain punt i fynd am y mis mel, yn lle talu am y piano!
(1, 0) 95 O, beth a wnawn ni?
 
(1, 0) 99 Ond yr wyf i wedi blino ar ddyfeisio a dyfeisio pethau o hyd ac o hyd i'w dywedyd wrth bobl!
 
(1, 0) 102 Yr ydych yn cymryd popeth yn ysgafn, Merfyn!
(1, 0) 103 Fyddwch chwi byth o ddifrif!
 
(1, 0) 107 Ond ni waeth heb siarad fel yna.
(1, 0) 108 Rhaid i ni wneud rhywbeth heb law siarad.
 
(1, 0) 111 Wn i ddim.
 
(1, 0) 113 Pa faint oedd i'w dalu am y piano y mis diweddaf?
 
(1, 0) 116 Pedair punt?
(1, 0) 117 Wel, dylem fedru cael cymaint a hynny rywsut─
 
(1, 0) 119 O, Merfyn, 'does bosibl!─
 
(1, 0) 122 O, drugaredd fawr! dyna ddeuddeg punt.
 
(1, 0) 126 Â pha faint yr ydym wedi eu talu eisoes?
 
(1, 0) 129 Ond ni wiw iddi fynd!
(1, 0) 130 Beth a ddywedwn ni wrth fy modryb?
 
(1, 0) 134 A hithau wedi bod yma ddeufis yn ol, ac wedi gweld hon!
 
(1, 0) 139 O, Merfyn!
 
(1, 0) 147 Wel, mi af at fy nghyfnither i edrych a fedr hi ddim rhoi benthyg deuddeg punt i ni─ni fedraf i feddwl am ddim arall.
 
(1, 0) 152 O'r goreu.
(1, 0) 153 Mi ddywedaf wrth Marged beth i'w wneud.
(1, 0) 154 Rhaid i ni fod yn ein holau cyn canol dydd yn sicr.
 
(1, 0) 156 A bydd fy modryb yma cyn hynny, y mae'n debyg!
 
(1, 0) 413 Yn siop Edwards─dau swllt oeddynt.
(1, 0) 414 Ac mi ddaethoch o'm blaen i.
 
(1, 0) 417 Wel, a gawsoch chwi rywfaint?
 
(1, 0) 420 Pam?
(1, 0) 421 Beth a wnaeth o?
 
(1, 0) 423 Ond, beth a wnai 'r dyn, a chwithau wedi dywedyd pymtheg wrtho?
 
(1, 0) 428 Dowch, yn awr, Merfyn, ni thâl peth fel yna ddim─
 
(1, 0) 431 O, yn ofer, wrth gwrs.
(1, 0) 432 Nid oedd gan fy nghyfnither ddim ond ychydig arian gwynion yn y ty, ac ni ddaw'r gwr adref tan yr wythnos nesaf.
 
(1, 0) 435 Cofio beth?
 
(1, 0) 438 Wel, dylasai yn sicr!
(1, 0) 439 Yr oeddwn innau wedi anghofio.
(1, 0) 440 Tybed a fu hi yma, a mynd i ffwrdd am nad oeddym i mewn?
(1, 0) 441 Un go lew yw'r hen fodryb, calon iawn ganddi─buasai'n ddrwg gennyf─
 
(1, 0) 444 Wn i ddim.
(1, 0) 445 Nid oedd hi yn y gegin pan ddeuthum i i mewn.
(1, 0) 446 Gobeithio nad oedd hi ddim wedi mynd allan a bod fy modryb wedi galw a neb yn ateb.
(1, 0) 447 Mi af i edrych amdani yn awr.
 
(1, 0) 452 Na, 'does dim golwg arni.
 
(1, 0) 454 Popeth o chwith!
 
(1, 0) 457 Merfyn, fy machgen i, pa beth a wnawn ni?
(1, 0) 458 Yr ydym wedi chwarae fel dau löyn byw ddigon o hyd!
 
(1, 0) 461 Mi wn hynny, fy machgen i, bellach─yr wyf yn dechreu deall; ond dylasem fod wedi meddwl am y pethau hyn yn gynt.
 
(1, 0) 466 Am ba beth?
 
(1, 0) 469 Beth yw dy feddwl di?
 
(1, 0) 474 Merfyn!
(1, 0) 475 O, Merfyn!
 
(1, 0) 478 Wyt ti'n deall bellach?
 
(1, 0) 481 Ac eto, y mae'n gas gennyf dy weled ti mor drist.
(1, 0) 482 Ni welais i erioed monot ti fel hyn o'r blaen, Merfyn!
 
(1, 0) 485 O, Merfyn, pe taswn i yn gwybod!
 
(1, 0) 491 Merfyn! un waith, a'r olaf─gresyn na buasai yma rywun wrth y piano!
(1, 0) 492 Yn awr, ynteu!
 
(1, 0) 499 Dyna'r ddau löyn byw wedi darfod!
(1, 0) 500 Yn awr, Merfyn, gwrando!
 
(1, 0) 502 Dos a hon i'w gwerthu─na, ni chei di ddim mynd.
(1, 0) 503 Mi af a hi fy hun─fy lle i ydyw mynd.
(1, 0) 504 Cawn ddeuddeg punt amdani, beth bynnag─y mae hi yn werth mwy na hynny─petae ddim ond y garreg.
 
(1, 0) 510 Merfyn, nid wyf i wedi gwneud dim byd er pan briodwyd ni, dim ond prynu pethau fel hyn, hyd yn oed heddyw ddiwethaf yn y byd!
 
(1, 0) 517 le, druain bach!
(1, 0) 518 Ond, gwrando, nid wyf i wedi gwneud dim, a thithau'n gweithio bob dydd.
(1, 0) 519 Nid wyf yn hoffi ymadael â'r hen gadwyn, y mae'n wir─y mae hi'n dlws, ac yn hen.
(1, 0) 520 Ond y mae un peth gwell gennyf na'r cwbl.
 
(1, 0) 522 Tydi!
(1, 0) 523 Weli di, mi werthaf y mân dlysau yma i gyd, ac mi gawn glirio pethau felly, a dechreu o ddifrif wedyn.
(1, 0) 524 Ac hwyrach y cawn ni hyd i'r ty bychan hwnnw wedi'r cwbl!
(1, 0) 525 Pwy ŵyr?
 
(1, 0) 528 Eistedd di i lawr yn dawel─paid â dywedyd gair─dim un gair!
(1, 0) 529 Yn awr, rhaid i mi gael fy ffordd fy hun y tro yma.
(1, 0) 530 Hwda, tyrd yma!
 
(1, 0) 532 Dyro gusan i mi, neu ynteu i hon.
 
(1, 0) 534 Yn awr, a wyt ti'n deall?
 
(1, 0) 536 Ni byddaf i ddim yn hir, Merfyn!
 
(1, 0) 574 Ble y mae'r gadwyn, Merfyn?
 
(1, 0) 576 O! O! 'modryb!
 
(1, 0) 602 Wel, nid wyf innau yn deall y cwbl yn iawn, ac y mae geiriau yn swnio'n wag, rywfodd!...
(1, 0) 603 Ond, Merfyn, dyma'r haul yn tywynnu ar y glöyn byw eto!
 
(1, 0) 605 Yn awr, ynteu!
(1, 0) 606 Unwaith eto!