Ciw-restr

Y Glöyn Byw

Llinellau gan Marged (Cyfanswm: 56)

 
(1, 0) 162 le, ma'm.
(1, 0) 163 Mi aeth allan yn gynarach nag arfer heddyw, ac mi ddywedodd wrthyf y byddai yn ei hol yn union deg.
(1, 0) 164 Fydd hi ddim yn arfer mynd allan mor gynnar.
 
(1, 0) 167 Yr ydw i yn credu mai allan yr aeth yntau hefyd.
(1, 0) 168 Ni ddywedodd o ddim wrthyf i ble'r oedd o yn mynd, dim ond peri i mi, os doe yma ryw wr bonheddig i holi amdano, ofyn i hwnnw fod mor garedig a galw eilwaith, neu ynte aros hyd nes y doe o yn ei ôl.
 
(1, 0) 173 Ar unwaith, ma'm, wrth gwrs.
 
(1, 0) 183 Dyna'r te, ma'm, os gwelwch yn dda.
(1, 0) 184 Miss Joues
 
(1, 0) 186 : O, diolch i chwi!
 
(1, 0) 188 Dacw'r gloch, os bydd arnoch eisiau rhywbeth arall, ma'm.
 
(1, 0) 193 Do, ma'm.
(1, 0) 194 Rydw i hefo Mrs. Owen er pan ddaethon nhw i fyw i'r ty yma gyntaf.
 
(1, 0) 198 O, ydw, ma'm, yn ddigon bodlon ar fy lle.
(1, 0) 199 Mae Mrs. Owen yn garedig dros ben, yn gadael i mi fynd allan pan fynnwyf.
(1, 0) 200 Ac y mae Mr. Owen mor garedig, mor ddigri a llawen bob amser─ni chefais i erioed air croes ganddo.
(1, 0) 201 Wyddwn i ddim cyn dwad yma fod pobl 'run fath a nhw i'w cael.
 
(1, 0) 204 Yn galed iawn ma'm.
(1, 0) 205 Mae ganddo le i weithio, yn nhop y ty, stiwdio y mae o yn i alw.
(1, 0) 206 Welsoch chi 'rioed y fath le─yn llawn o bob math o bethau.
(1, 0) 207 Mae yno sgerbwd dyn─digon i roi braw i chi!─a lluniau o bob math; hen gleddyfau a dillad a llestri─fedra i ddim deyd wrthych, ma'm, gymaint o bethau sydd yno.
(1, 0) 208 A dyna lle bydd o drwy'r dydd.
(1, 0) 209 Mae o wedi paentio cannoedd o luniau o Mrs. Owen, mi gymraf fy llw, mewn pob math o ddillad, ac heb ddillad o gwbl, weithiau a'i gwallt i lawr, fel aur o'i chwmpas hi.
(1, 0) 210 O! mae hi'n glws hefyd!
(1, 0) 211 Ac y mae o wedi paentio fy llun innau yn fy nillad gwaith─'dydw i ddim yn deyd bod hwnnw yn glws, ond mae o yr un ffunud, welsoch chi 'rioed beth mor fyw ydi o─mi fasech yn disgwyl iddo siarad a chi.
(1, 0) 212 Mae Mr. Owen yn deyd y ca i hunnw pan fydda i yn mynd i 'mhriodi, a'i fod o am wneud un arall i mi yn fy nillad goreu hefyd, ma'm.
(1, 0) 213 Yn wir, mae o wedi dechreu eisoes, mi fyddaf yn gorfod eistedd iddo fo.
 
(1, 0) 217 Deyd y bydd o, ma'm, y base'n llawer gwell iddo fod yn labrwr nag yn baentiwr.
(1, 0) 218 Nid yw pobl yn leicio 'i baent o, medde fo─ond ni welais i ddim byd clysach erioed.
 
(1, 0) 220 Wn i ddim, ond mi clywais o'n deyd y base fo'n gwneud yn llawer gwell 'tase fo wedi dysgu paentio â'i dafod.
(1, 0) 221 Roeddwn i wedi synnu, achos wyddwn i ddim fod neb yn medru paentio â'u tafodau, ac mi ddywedais hynny wrtho.
(1, 0) 222 "O, oes, Marged," medde fo, "mae'r paent yn fwy llyfn felly, a phobol yn ei leicio fo yn well, Ond, dda gen i ddim blas paent ar fy nhafod, dyna'r drwg,"
(1, 0) 223 Ac wedyn, dyma fo yn chwerthin, ac yn cydio am ganol Mrs. Owen, a gwneud iddi ddawnsio ar ganol y llawr yma.
(1, 0) 224 O! un digri ydi o!
 
(1, 0) 228 Wel, ma'm, y cytundeb oedd fy mod i gael y peth ofynnais i, ond, welwch chi, ma'm, o achos nad ydi pobol─y ffyliaid gwirion iddyn nhw─ddim yn leicio paent Mr. Owen, mae'n anodd iddo fo bob amser dalu yn i bryd.
(1, 0) 229 Ond waeth gen i am hynny.
(1, 0) 230 'Rydw i yn cael pob peth fel hwythe yn union, ac os bydd arnaf eisie ychydig arian i rywbeth, mi caf nhw, ac ni fydd Mrs, Owen byth yn son amdanyn nhw wedyn, nac yn eu tynnu nhw o'r cyflog pan fydda i yn cael hwnnw chwaith.
(1, 0) 231 Ac 'rydech chi'n gweld, ma'm, yr ydw inne yn leicio'r ffordd y mae nhw yn byw, a'r canu a'r dawnsio a'r chwerthin a'r pethe digri a'r pethe clws.
(1, 0) 232 Hwyrach fy mod i yn wirion, ond mi fydde'n well gen i fod yma am ddim na chael cyflog mawr mewn rhai lleoedd y gwn i amdanynt, lle na chaiff rhywun barch mwy na phe tae o gi ac na welwch chi ddim byd clws ddydd mewn blwyddyn!
 
(1, 0) 241 Wn i ar y ddaear beth i'w wneud ma'm, os maddeuwch i mi am ddwad atoch chi fel hyn.
 
(1, 0) 243 Wel, mi ddaeth rhyw ddyn dieithr at y drws, a holi am Mr. Owen.
(1, 0) 244 Dywedais innau nad oedd i mewn, a'i fod wedi peri i mi ofyn i rywun a allai alw i holi amdano fod cystal a galw eilwaith, neu ynte aros hyd nes doe o yn ei ôl.
(1, 0) 245 Dyma'r dyn gofyn i mi a oedd yma biano yn y ty.
(1, 0) 246 Dywedais innau fod, yn y rwm yma.
(1, 0) 247 Daeth yntau at y drws yn syth, ond caeodd ef yn sydyn drachefn.
(1, 0) 248 Ac y mae o yrwan yn sefyll yn y lobi, ac ni wn i ar y ddaear beth i'w wneud ag o, ma'm.
 
(1, 0) 250 Wel, oes, ma'm, ond, nid oes─'rydym ar ganol glanhau, fel tae, ac y maent yn o annhrefnus, felly, i gyd ond hon, ma'm.
 
(1, 0) 252 Diolch yn fawr i chi, ma'm.
 
(1, 0) 346 Maddeuwch i mi ma'm.
(1, 0) 347 Mae rhyw ddynion wrth y drws yn holi am─am─am ryw Mr. Morgan─
 
(1, 0) 356 Wel, ma'm.
 
(1, 0) 359 le ma'm, wrth gwrs─debyg iawn─mewn ffordd o siarad─fel tae─
 
(1, 0) 362 Do, ma'm─o leiaf, felly y deallais i─
 
(1, 0) 364 Dau ddyn, ma'm, yn holi am Mr. Morgan.
 
(1, 0) 367 Wel, ma'm, fel tae─mi welwch─hynny ydi, ma'm─mae'n rhaid i mi ddeyd, mae'n debyg.
(1, 0) 368 Deyd yr oedden nhw, ma'm, eu bod wedi dwad, ma'm, i nôl y piano, ma'm, os gwelwch yn dda.
 
(1, 0) 372 Diolch i chi, ma'm.