Ciw-restr

Y Glöyn Byw

Llinellau gan Merfyn (Cyfanswm: 134)

 
(1, 0) 17 Goreu yn y byd.
(1, 0) 18 Yr wyf i wedi blino ar filiau i frecwest.
 
(1, 0) 20 Cwsmer?
(1, 0) 21 Dim perigl fy nghariad i!
 
(1, 0) 23 Fydd pethau felly ddim yn digwydd yn y byd sy'r awr hon─
 
(1, 0) 25 Ar "y byd sy'r awr hon" yr oedd y bai, fy nghariad i.
(1, 0) 26 Ond dywedyd yr oeddwn i na bydd cwsmeriaid ddim yn─ddim yn dyfod gyda'r post, na chyda dim arall.
(1, 0) 27 Yr wyf i wedi hen roi'r goreu i ddisgwyl am bethau felly.
(1, 0) 28 Yn wir, mi welaf bellach mai fy nhad druan oedd yn iawn.
(1, 0) 29 Mi wneuthum gamgymeriad ofnadwy─
 
(1, 0) 33 Dysgu trin paent─hynny ydyw, paent fel hyn {gan estyn ei fys at un o'r lluniau}.
(1, 0) 34 Ni fedraf i yn fy myw roi paent ar fy ngeiriau, a dyna lle y methais i {mewn ton hwyliog eto} ie, siwr, fy mhobl i, y paent! y paent, fy mhobl i!
 
(1, 0) 36 Digon gwir, fy nghariad i.
(1, 0) 37 Ond pe bawn i wedi dysgu trin paent mewn ffordd haws, buasai yn well i mi─dysgu paentio drysau a ffenestri, llidiardau, certi, a─a gwalltiau merched gweini─
 
(1, 0) 40 Wel, mi sylwais fod gwallt Marged yn rhyw fath o felyn ddoe, cyn belled ag y gwn i rywbeth am liwiau.
(1, 0) 41 Yr wyf yn credu mai lliw llygoden─
 
(1, 0) 43 Yr wyf yn credu mai lliw llygoden ydyw erbyn heddyw.
(1, 0) 44 Ac er nad oes nemor gamp arnaf i fel artist, yr wyf yn ddigon hy i gredu y gallswn baentio 'i gwallt iddi yn wastatach o leiaf am ryw hanner coron─
 
(1, 0) 51 Yn awr ynteu, a welsoch chwi'r lliw?
(1, 0) 52 Rhywbeth rhwng melyn a choch a du a llwyd ydyw, cyn belled ag y gwn i─
 
(1, 0) 55 Ie, diolch am hynny {mewn ton hwyliog} o drugaredd yn yr hen fyd yma!
(1, 0) 56 Ond y llythyrau, ynteu.
(1, 0) 57 O'r goreu.
 
(1, 0) 59 Dyma un i chwi.
 
(1, 0) 61 Bil y teiliwr─dyma'r seithfed tro iddo gymryd y drafferth, druan.
 
(1, 0) 63 Bil y miliner, am y fasged ddillad honno─hynny ydyw, am yr het fach glws honno a gawsoch chwi.
(1, 0) 64 Dyma'r pumed tro iddi hithau ddifetha papur.
(1, 0) 65 Ac inc.
(1, 0) 66 A stamp.
 
(1, 0) 68 Bil y glo.
(1, 0) 69 Rhaid bod ganddynt ddigon o amser i'w golli─dyma'r pedwerydd cynnyg.
 
(1, 0) 71 Bil y groser─yr ail.
(1, 0) 72 Wel y mae hwn ar ddechreu ei yrfa {gyda hwyl} yn y byd helbulus hwn!
 
(1, 0) 76 Fo'n gwarchod!
(1, 0) 77 Pa fodryb?
 
(1, 0) 80 A dyma lythyr oddiwrth bobl y siop fiwsig yn dwedyd bod dyn yn dyfod i fynd â'r piano i ffwrdd heddyw am na thalwyd mo'r arian oedd yn ddyledus ddechreu'r mis diweddaf─
 
(1, 0) 82 Y mae'n ddrwg gennyf orfod dywedyd, ond dyma lythyr y cnafon i chwi, ynteu.
 
(1, 0) 89 Yn awr, Gwladys fach, peidiwch âg wylo fel yna.
(1, 0) 90 Ni fedraf i ddim dioddef eich gweled!
 
(1, 0) 97 Wel, peidiwch âg wylo, beth bynnag.
(1, 0) 98 Mi ddyfeisiwn rywbeth yn union deg.
 
(1, 0) 100 Felly finnau hefyd, mi rof fy ngair i chwi!
(1, 0) 101 Ond gan na fynnant luniau, rhaid iddynt gymryd esgusion!
 
(1, 0) 104 Dim perigl i mi gymryd pobl o ddifrif a hwythau yn fy nghymryd innau o fregedd!
(1, 0) 105 Prynant hwy luniau gennyf i, ac mi dalaf innau eu biliau iddynt hwythau.
(1, 0) 106 Y mae hynny yn deg.
 
(1, 0) 109 Rhaid, y mae'n wir.
(1, 0) 110 Ond pa peth?
 
(1, 0) 112 Na minnau!
 
(1, 0) 115 Pedair punt─
 
(1, 0) 118 Am y mis diweddaf, a phedair am y mis cynt─
 
(1, 0) 120 Feddyliwn fod, fy nghariad i.
(1, 0) 121 A phedair am y mis cyn hynny.
 
(1, 0) 124 Y mae'n gas gennyf ffigyrau fel y gwyddoch.
(1, 0) 125 Ie, deuddeg.
 
(1, 0) 127 Dim ceiniog, gobeithio, gan fod yn rhaid iddi fynd!
 
(1, 0) 131 Wel, arhoswch funud─
 
(1, 0) 133 Dywedyd nad ydym eto wedi trawo ar biano wrth ein bodd─
 
(1, 0) 135 O, fu hi?
(1, 0) 136 Nid oeddwn i yn cofio hynny.
(1, 0) 137 Wel, ni thal y celwydd yna ddim, felly.
(1, 0) 138 Wn i ddim beth a ddywedwch, os na rowch gynnyg ar y gwir am unwaith─
 
(1, 0) 141 Gwladys fach, maddeuwch i mi.
(1, 0) 142 Nid oeddwn yn meddwl dywedyd dim byd cas, nag oeddwn yn wir.
(1, 0) 143 Yr wyf wedi cellwair cymaint i geisio fy mherswadio fy hun na waeth gennyf pa beth a ddigwyddo, fel yr wyf wedi mynd i ddywedyd pethau heb ystyried.
(1, 0) 144 Dowch, dyna eneth dda.
(1, 0) 145 Rhaid i ni wneud rhywbeth, wrth gwrs.
 
(1, 0) 148 le.
(1, 0) 149 Da iawn.
(1, 0) 150 Dyna eneth dda.
(1, 0) 151 Mi af innau at y cebyst gan Smith yna, i edrych a fedraf gael rhywfaint ganddo ar y lluniau hynny a adewais yn ei siop.
 
(1, 0) 155 Rhaid, achos bydd pobl y piano yma yn union ar ol deuddeg o'r gloch.
 
(1, 0) 411 Gwladys! dyna flodau tlysion!
(1, 0) 412 Ble y cawsoch hwy?
 
(1, 0) 415 Do, fy ngeneth i, yr wyf i yn sicr o ddyfod yn f'ôl fel arian drwg!
 
(1, 0) 418 Dim ceiniog goch, wrth gwrs.
(1, 0) 419 A'r catffwl gan Smith yna─mi allwn ei saethu fo!
 
(1, 0) 422 Wel, dim; cafodd gynnyg decpunt am un o'r pictiwrs, a gwrthododd y ffwl gwirion ei werthu am na chai bymtheg amdano, fel yr oeddwn i wedi dywedyd wrtho.
 
(1, 0) 424 O, y penbwl ganddo, dylasai wybod y buaswn yn falch o ddeg─o bump─ie, o bum swllt!
(1, 0) 425 O! mi af yn labrwr, myn f'enaid i!
(1, 0) 426 Yr wyf wedi darfod â'r busnes yma!
(1, 0) 427 Dim chwaneg o baent i mi!
 
(1, 0) 429 Mi dâl yn well na'r busnes sy' gennyf i, beth bynnag!
(1, 0) 430 Sut y daeth hi ymlaen gyda chwi, ynteu?
 
(1, 0) 433 Dyna'r hwch drwy'r siop yma ynteu.
(1, 0) 434 Ond {gan godi ar ei draed ac edrych o'i gwmpas yn syn} ni chofiais i ddym byd─
 
(1, 0) 436 Ond eich modryb!
(1, 0) 437 Dylasai fod yma cyn hyn.
 
(1, 0) 442 Ble mae Marged?
(1, 0) 443 Dylai hi fod yn gwybod, os daeth eich modryb at y drws.
 
(1, 0) 451 Onid yw hi yna?
 
(1, 0) 453 Popeth o chwith!
 
(1, 0) 455 Wel, aed popeth yn yfflon ynteu!
 
(1, 0) 459 Digon gwir, Gwladys fach.
(1, 0) 460 Ond cofiwch,; yr wyf i wedi cymryd arnaf fy mod yn ddidaro ugeiniau o weithiau pan fyddwn i yn llawer parotach i eistedd i lawr a thorri fy nghalon.
 
(1, 0) 462 Dylasem, hwyrach.
(1, 0) 463 Ond beth a wnaem ni?
 
(1, 0) 465 Gwladys, a yw'n edifar gennyt?
 
(1, 0) 467 O! am y cwbl!
(1, 0) 468 Mi ddodais ormod o baent ar y llun, mi wn!
 
(1, 0) 470 O! wyt ti ddim yn cofio am y ty bychan hwnnw yn y wlad, briallu cochion, botwm gwr ifanc, balchder Llundain a chenin Pedr yn tyfu ar y lawnt; coeden ywen o flaen y ty, a mainc yn ei chysgod, dau bren rhosyn, un o bobtu i'r drws, a rhosynnau bach cochion arnynt.
(1, 0) 471 O, Gwladys!
(1, 0) 472 A'r lluniau oedd yn mynd i werthu cyn gynted ag y medrwn i eu paentio, a bywyd yn mynd i fod yn haf ar ei hyd─yr holl wagedd melys y buom yn byw arno gynt?
 
(1, 0) 477 Gwladys!
 
(1, 0) 480 Ydwyf, fy nghariad, yr wyf i yn deall.
 
(1, 0) 483 Naddo.
(1, 0) 484 Pan fyddit ti yn cysgu y byddwn i yn cael rhyw byliau fel hyn─
 
(1, 0) 486 Y mae'n ddrwg gennyf dy fod ti wedi dyfod i wybod.
(1, 0) 487 Yr oeddwn yn gobeithio y gallwn ddal ati fel glöyn byw nes bod yr haul wedi tywynnu arnom.
(1, 0) 488 Ond yn awr, dyma fo yn mynd i lawr heb dywynnu, a'r byd i gyd yn llwyd ac yn oer.
(1, 0) 489 A gwae'r glöyn byw!
 
(1, 0) 497 O, Gwladys!
 
(1, 0) 505 Na, ni chei di ddim mynd, Gwladys.
(1, 0) 506 Melltith ar y byd i gyd! na chei!
(1, 0) 507 Paid, dyro hi am dy wddw yn ôl, Gwladys, Gwladys!
 
(1, 0) 512 Gwladys!
 
(1, 0) 514 O! paid, paid!
(1, 0) 515 Edrych ar liw hwn!
 
(1, 0) 521 Beth yw hynnw?
 
(1, 0) 526 Na chawn byth!
(1, 0) 527 Breuddwyd oedd!
 
(1, 0) 545 O!
 
(1, 0) 550 Wn i ddim.
(1, 0) 551 Na, 'rwy'n well, yn well o lawer─yn iawn, yn wir.
(1, 0) 552 Wedi blino, wedi rhyw hanner cysgu.
(1, 0) 553 Teimlo dipyn yn & hurt...
(1, 0) 554 Maddeuwch i mi.
 
(1, 0) 562 Wedi mynd allan ar neges.
(1, 0) 563 Bydd yn ei hôl yn union deg.
(1, 0) 564 Y mae'n ddrwg gennyf, fy modryb, os buoch wrth y drws a neb yn ateb.
(1, 0) 565 Bu raid ini fynd allan ein dau, ac fel y digwyddodd, cawsom ein cadw yn o hir cyn dyfod yn ôl.
 
(1, 0) 595 Morgan!
 
(1, 0) 598 Gwladys, edrych!
 
(1, 0) 600 Wn i ddim pa beth sydd wedi digwydd, na pha beth i'w ddywedyd!