Ciw-restr

Y Glöyn Byw

Llinellau gan Morgan (Cyfanswm: 75)

 
(1, 0) 258 Esgusodwch fi ma'm, am aflonyddu arnoch fel hyn─
 
(1, 0) 262 Ie, ma'm.
(1, 0) 263 Yr oedd y forwyn yn dywedyd na byddai 'n hir, ac y mae'n bwysig i mi ei weld rhag blaen.
 
(1, 0) 269 Ydwyf, ma'm, yn hoff iawn.
(1, 0) 270 Ac y mae hon yn biano ardderchog hefyd, onid yw?
 
(1, 0) 276 Wel, na minnau chwaith.
(1, 0) 277 Wn i ddim pa beth a barodd i mi ei gofio, os nad rhyw ddamwain yn y peth a genais gyntaf.
(1, 0) 278 Ac wedi i mi ddechreu wel─
 
(1, 0) 280 Rhaid i chwi f'esgusodi i am chwerthin, ond ni fedrwn i yn fy myw beidio.
 
(1, 0) 283 Pob math.
(1, 0) 284 Mi welaf eich bod chwithau 'n deall miwsig, ma'm.
 
(1, 0) 287 Wel, mi ddylwn esbonio i chwi pam y chwerddais innau.
(1, 0) 288 Pan oeddwn yn hogyn, yr oeddwn innau yn hoff iawn o ganu─o gystadlu, felly.
(1, 0) 289 Un tro, yr oedd côr o honom wedi mynd i Eisteddfod y Glyn, fel y gelwid hi, ac yr oedd cystadleuaeth ar ganu'r ddeuawd yna.
 
(1, 0) 291 Galwyd enwau'r cystadleuwyr, ond nid oedd neb yn ateb dros un cwpl.
(1, 0) 292 Galwodd yr ysgrifennydd yr enwau drachefn.
(1, 0) 293 Neb yn ateb.
(1, 0) 294 "Well i ni gynnyg?" meddwn innau wrth y ferch oedd yn eistedd o'm blaen─y soprano oreu yn ein côr.
(1, 0) 295 "le," meddai hithau, gan chwerthin─un lawen oedd hi.
(1, 0) 296 "Ydi'r cwpl arall yma bellach?" ebe'r ysgrifennydd.
(1, 0) 297 "Yma!" meddwn innau.
(1, 0) 298 Ac felly, i fyny yr aethom, a chanasom a chawsom y wobr.
(1, 0) 299 Ond wedi hynny, dyma'r rhai a gurwyd yn clywed nad oeddym ni wedi danfon ein henwau i mewn, ac yn gwrthdystio yn erbyn rhoi'r wobr i ni.
(1, 0) 300 Wedi cryn helynt barnwyd fod yn rhaid i ni droi'r wobr yn ei hôl, am fod yr amodau yn ein herbyn.
(1, 0) 301 Felly fu, ond yr oedd y gynulleidfa o'n plaid, a rhoes y cadeirydd wobr arbennig i ni.
 
(1, 0) 306 Fo'n gwarchod!
(1, 0) 307 Nid Elin Jones sydd yma?
 
(1, 0) 311 Wel, ar fy ngair─cynt y cyferfydd dau ddyn na dau fynydd.
(1, 0) 312 Ni welais i byth monoch ar ol y diwrnod hwnnw.
 
(1, 0) 314 Euthum i ffwrdd i'r America, fel y gallai eich bod yn cofio, yn union deg wedyn.
 
(1, 0) 316 A dyma chwi─wel, erbyn sylwi, rhaid i mi ddywedyd nad ydych wedi altro cymaint, ond bod eich gwallt wedi troi ei liw, fel fy ngwallt innau.
(1, 0) 317 Wel, y mae'n dda gennyf eich gweled, yn wir.
 
(1, 0) 319 Wel, yn wir, peth rhyfedd yw bywyd!
(1, 0) 320 Nid wyf yn meddwl i mi weled neb o'r hen gartref o'r dydd hwnnw hyd y funud yma.
(1, 0) 321 A pha beth yn y byd a barodd i mi ganu'r dernyn yna ar y piano?
 
(1, 0) 323 le, pwy ŵyr!
(1, 0) 324 Clywais ddarlithiwr yn America yn dywedyd fod greddf dyn yn ateb i filoedd o fân bethau na ŵyr ei ymwybod ddim yn y byd amdanynt.
 
(1, 0) 328 le, pwy ŵyr!...
(1, 0) 329 Ond ym mha le yr ydych yn byw─yn yr hen gartref o hyd?
 
(1, 0) 332 Mrs. Owen─a yw hi yn nith i chwi?
 
(1, 0) 334 Dyn byw!
(1, 0) 335 Dafydd eich brawd─hen gyfaill.
(1, 0) 336 Llawer tro digrif a ddigwyddodd iddo fo a minnau.
(1, 0) 337 A yw Dafydd yn fyw o hyd?─mi garwn ei weled.
 
(1, 0) 339 Felly yn wir, y mae'n chwith gennyf feddwl, Ni chlywswn i ddim o'r hanes.
(1, 0) 340 Wrth gwrs, ychydig amser sydd er pan ddeuthum i adref o'r America, wyddoch.
 
(1, 0) 342 A! yr hen amser gynt!
 
(1, 0) 349 O, myfi yw hwnnw.
(1, 0) 350 Yr wyf yn meddwl y gwn beth yw eu neges─yr oeddwn wedi sôn wrthynt fy mod yn mynd i alw heibio i Mr. Owen.
(1, 0) 351 Esgusodwch fi funud, Miss Jones, mi af atynt.
 
(1, 0) 379 Maddeuwch i mi am eich gadael chwi.
(1, 0) 380 Y mae gennyf ryw ddynion dylach na'r cyffredin yn fy ngwasanaeth.
(1, 0) 381 Daethant yma ar f'ôl i holi, yn lle gwrando pan oeddwn yn dywedyd wrthynt pa beth i'w wneud.
 
(1, 0) 383 Ie, siwr─dyna fy mhethau hyd heddyw, welwch chwi.
 
(1, 0) 385 Ie, siwr, ac un o'r rhai goreu ydyw hefyd.
(1, 0) 386 A chawsant hi yn rhad.
 
(1, 0) 388 Yn wir, Miss Jones, y mae hi yn tynnu at amser cinio, a rhaid bod rhywbeth yn cadw Mr.
(1, 0) 389 a Mrs. Owen.
(1, 0) 390 A roech chwi'r anrhydedd ar eich hen gydymaith gynt o ddyfod i ginio gydag ef?
(1, 0) 391 Y mae acw le gweddol gysurus, digon o fwyd plaen, digon o offer cerdd a miwsig; a phob croeso.
(1, 0) 392 Byddai'n bleser anghyffredin gennyf pe doech, yn wir.
 
(1, 0) 397 Bydd, yn wir.
(1, 0) 398 A!
(1, 0) 399 Yr hen amser gynt!
(1, 0) 400 Eisieu bod yn fawr oedd arnom y pryd hwnnw, onid e, ond erbyn hyn─yr hen amser gynt!
 
(1, 0) 568 Do, yn wir, ac yn cofio hen ganeuon─ni chefais i gymaint o bleser ers blynyddoedd lawer!
 
(1, 0) 584 Eisteddwch Mrs. Owen.
(1, 0) 585 Eisteddwch Mr. Owen.
(1, 0) 586 Eisteddwch chwithau, Miss Jones.
(1, 0) 587 Yr wyf meddwl fy mod yn deall yn awr, ac mai myfi, os caf ddywedyd hynny, yw'r goreu i siarad am y tro.
 
(1, 0) 589 Mr. Owen, mi gredaf fy mod yn gweled drwy'r paent bellach, ac y mae'n ddrwg gennyf na welswn yn gynt.
(1, 0) 590 Sut bynnag, y mae'n dda gennyf ddywedyd wrthych fod Smith wedi gwerthu pump o'ch pictiwrs am bris da y prynhawn yma.
(1, 0) 591 A dyma'r papur hwnnw y buom yn son amdano'r dydd o'r blaen─
 
(1, 0) 593 y mae'n sicr eich bod yn cofio─y mae'n ddrwg gennyf na chawsech ef yn gynt.
 
(1, 0) 608 Campus!