Ciw-restr

Owain Glyndwr

Llinellau gan Glyndwr (Cyfanswm: 108)

 
(1, 1) 7 Pa beth a glywaist?
 
(1, 1) 19 Myn bedd fy nhad!
(1, 1) 20 Mae hyn yn ormod i fy natur ddal!
(1, 1) 21 Yr wyf yn teimlo fod pob dafn o'm gwaed
(1, 1) 22 Yn berwi yn fy ngwythienau 'n awr,
(1, 1) 23 A bod pob curiad o fy nghalon drist
(1, 1) 24 Yn galw arnaf roddi dyrnod drom
(1, 1) 25 I'r Sais ffroenuchel, elwir Arglwydd Grey,
(1, 1) 26 Yr hwn ysywaeth farna'r Cymro tlawd
(1, 1) 27 Yn deilwng wrthddrych i'w ddirmygus lid!
(1, 1) 28 Ti wyddost ddarfod i'r pendefig hwn
(1, 1) 29 Flynyddau maith yn ol, wneyd eofn hawl
(1, 1) 30 I'r un darn tir. Ei lwyr orchfygu wnes
(1, 1) 31 A throais iddo ef ei hawl yn wawd
(1, 1) 32 Gan brofi'n glir, mewn teg gyfreithlawn lys,
(1, 1) 33 Fy hawl i'r tir: ac am y Croesau hyn
(1, 1) 34 Treftadaeth oedd i'th dad a'th deidiau di,
(1, 1) 35 Ac i'th gyndeidiau, faith ganrifoedd cyn
(1, 1) 36 Fod son am Arglwydd Grey mewn byd yn bod.
(1, 1) 37 Yn awr, diamheu genyf, tybio mae,
(1, 1) 38 Gan ddyfod Harri Henffordd i'r deyrn-sedd,
(1, 1) 39 Y ca yn awr yn lle cyfiawnder ffafr,
(1, 1) 40 Ac arnaf fi trwy drais y ca ei wyn.
(1, 1) 41 Ond ysbryd Bleddyn, dewr Dywysog Powys,
(1, 1) 42 Cyndaid fy nhad, sydd ynof fi yn fyw,
(1, 1) 43 A chochwaed ein Llewelyn, enwog Lyw,
(1, 1) 44 Cyndaid fy mam, yn fy ngwythienau sydd.
(1, 1) 45 Ca Grey, a'i deyrn, a phob Normaniad wel'd
(1, 1) 46 Fod ysbryd yr hen Gymry eto'n fyw.
(1, 1) 47 A chyn yr ymostyngaf i'w sarhad,
(1, 1) 48 Gwnaf Gymru'n wenfflam, a'i chyffiniau'n waed
(1, 1) 49 A mynaf ryddid, neu enillaf fedd!
 
(1, 1) 109 Plant annwn! rhoddwch le! Pob arf i lawr!
 
(1, 1) 113 Pa beth yw'r cynhwrf annghyfreithlawn hwn?
(1, 1) 114 A wyddoch Saeson eich bod chwi 'n troseddu?
(1, 1) 115 Pa hawl sydd genych osod troed i lawr
(1, 1) 116 Ar dir y Croesau?
 
(1, 1) 120 Ei wir berchenog! — Dywed eto air,
(1, 1) 121 'A thynu wnaf o'r gwraidd dy dafod brwnt,
(1, 1) 122 A'i daflu ef i'r cwn,—os bwytu'r cwn
(1, 1) 123 Fath furgyn drewllyd!—Ymaith! ffwrdd a chwi.
(1, 1) 124 Os beiddia eto un o honoch byth,
(1, 1) 125 Neu'ch Meistr ciaidd chwaith ro'i troed i lawr
(1, 1) 126 Ar dir y Croesau, eich ffrewyllu wnaf
(1, 1) 127 Fel cwn yn ol i'ch ffau.
 
(1, 1) 129 'N awr Gymry dewch.
(1, 1) 130 Awn ninau adref oll, Dyoddef byth
(1, 1) 131 Un cam ni cha y Cymro dewr, nac un
(1, 1) 132 Gymraes, tra grym yn mraich Glyndwr!
 
(1, 2) 253 Fy Arglwydd Frenin! a chwi arglwyddi oll!
(1, 2) 254 Mae'r gwir a'r anwir yn anerchiad Grey,
(1, 2) 255 Fel gwenith da yn gymysg gydâg us;
(1, 2) 256 A rhaid eu nithio'n llwyr cyn gellir cael
(1, 2) 257 Y llafur pur,—A cheisiaf finau'n fyr
(1, 2) 258 Eu dethol:—Gwir ddywedodd ddarfod i
(1, 2) 259 Gyfreithiol lys sicrhau imi fy hawl,
(1, 2) 260 Dan deg deyrnasiad Risiart, frenin da.
(1, 2) 261 Ond anwir noeth oedd d'weyd y gwyrwyd barn.
(1, 2) 262 Gwir ddarfod imi fygwth un o'i gwn,
(1, 2) 263 Ar agwedd dyn, er's 'chydig amser 'nol,
(1, 2) 264 Am geisio treisio merch i un o'm deiliaid.
(1, 2) 265 Pob ci a'm cyfarth, fe ga driniaeth ci;
(1, 2) 266 Pob dyn a'm parcha, parchaf finau ef.
(1, 2) 267 Dewised Reginald Grey pa un o'r ddau,
(1, 2) 268 A'i ci, a'i dyn anfona ataf fi,
(1, 2) 269 A phrofed felly p'run a'i ci a'i dyn
(1, 2) 270 Fydd yntau.
(1, 2) 271 Treftadaeth teulu, er's canrifoedd maith,
(1, 2) 272 Yw tir y Croesau, ddaliwyd genyf fi,
(1, 2) 273 A chan fy nhad, a'm taid, a'm teidiau gynt.
(1, 2) 274 A byth nis gellir, ond trwy drais ei ddwyn
(1, 2) 275 Oddi arnaf.
 
(1, 2) 285 Fy nghledd o'r wain a dynais lawer tro
(1, 2) 286 O blaid Plantagenet.
 
(1, 2) 290 Fy Arglwydd Frenin;
(1, 2) 291 Nid oes arnaf gywilydd arddel yma
(1, 2) 292 Yr unrhyw weithred wneuthum yn fy oes!
(1, 2) 293 Ond gwir fy mod er hyn yn ddyogel.
 
(1, 2) 303 Mae genyf eto'i wel'd
(1, 2) 304 Neb gwell o waed, na bôn, na'r un a all
(1, 2) 305 Ei linach olrhain i Dywysogion Cymru!
 
(1, 2) 308 Myn bedd fy nhad,
(1, 2) 309 Cei lyncu 'th air, neu lyncu'm miniog gledd!
(1, 2) 310 Rhof her i ti! a dyna'm maneg lawr!
 
(1, 2) 314 Mi welais un a elwid y Duc Henffordd,
(1, 2) 315 Yn herio Norfolk gynt yn ngwydd ei deyrn!
 
(1, 2) 318 Nid oes un rhwym a rwym fy ysbryd i.
 
(1, 2) 339 'Rwyf eisioes wedi dyweyd fy mod yn disgyn
(1, 2) 340 O uchel fon Tywysogion Gwalia wen,
(1, 2) 341 Nid yw etifedd dewr Llewelyn Lyw
(1, 2) 342 Yn myn'd i wadu ei wlad! Ie, Cymro wyf!
 
(1, 2) 344 A'i Sais wyt ti?
 
(1, 2) 346 Tra bo ti'n Sais, ni fyddaf byth yn Sais!
 
(1, 2) 370 Diolch ganwaith sydd,
(1, 2) 371 O eigion calon Owain Glyndowrdy,
(1, 2) 372 I'r doeth Brif Farnwr, am ei eiriau mwyn;
(1, 2) 373 Ond os na chaf gyfiawnder teg fel Cymro,
(1, 2) 374 Ni fyn etifedd Bleddyn Fawr o Powys,
(1, 2) 375 Ni fyn orwyr Llewelyn, Tywysog Cymru;
(1, 2) 376 Ni fyn olynydd union Arthur Frenin;
(1, 2) 377 Ni fyn y tri, yn Owain Glyndowrdy,
(1, 2) 378 Gyfiawnder fel pendefig Lloegr byth,
(1, 2) 379 Pe'r Groesau'n Gymru, a phe Cymru'n fyd!
(1, 2) 380 Ond gwae y wlad a wnelo gam mewn llys;
(1, 2) 381 A gwae y teyrn ar sedd. a wyro farn!
 
(1, 2) 388 Fy maneg gwel,
(1, 2) 389 Mae eto ar y llawr o'th flaen: os wyt
(1, 2) 390 Yn meddu gradd o ysbryd dyn i'w chodi.