Ciw-restr

Glyndwr, Tywysog Cymru

Llinellau gan Grey (Cyfanswm: 18)

 
(1, 2) 294 Mor barod ag yw'r ci i ddod i wyneb ei ysglyfaeth.
 
(1, 2) 304 Fy Arglwydd Frenin.
(1, 2) 305 Parch iti yn unig a wnaeth imi ymatal pan gododd y bocsachwr hwn ei lais mor groch yngwydd ei well.
 
(1, 2) 308 Tywysogion Cymru'n wir! Tywysogion geifr!
 
(1, 2) 328 Dymunaf ofyn cwestiwn teg i'r gwr difoes a saif mor haerllug yma o flaen ei deyrn.
 
(1, 2) 332 Ai Cymro ynte Sais wyt ti?
 
(1, 2) 335 Ni fynnet felly hawlio bod yn Sais?
 
(1, 2) 337 Sais ydwyf fi o waed a chalon.
 
(1, 2) 340 Wel, felly yn fyr.
(1, 2) 341 'Rwyf fi yn hawlio'r Croesau ar fy llw, fel Sais.
(1, 2) 342 Syr Owen, yntau hawlia'r Croesau ar ei lw fel Cymro.
(1, 2) 343 Gwnaed hynny'n hollol glir.
(1, 2) 344 'Nol deddfau Lloegr ni all amheuaeth fod.
(1, 2) 345 Ni ellir derbyn llw'r un Cymro byth yn erbyn llw Sais.
 
(1, 2) 362 A yw Syr Edmund Mortimer yntau'n troi yn dwrnai?
 
(1, 2) 388 Ond nid anghofiaf fi!
 
(1, 2) 396 Apelio 'rwyf am ddedfryd o fy mhlaid.
 
(1, 2) 398 Mae deddf yn ddeddf er hyn i gyd, ac ar y ddeddf, a thrwy y ddeddf, 'rwyf eto'n hawlio'r tir.