Ciw-restr

Golff

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 139)

(1, 0) 1 YR ACT GYNTAF
(1, 0) 2 ~
(1, 0) 3 Y tu allan i ffermdy ym Môn.
(1, 0) 4 Mae'r tŷ fferm wedi ei foderneiddio'n raenus ond yn ddi-chwaeth.
(1, 0) 5 Gwelwn ddrws yn arwain i'r tŷ ac o'i flaen gwelir patio ac arno gadeiriau plastig, tybiau plastig a'r rheini'n llawn o flodau tymhorol.
(1, 0) 6 Ar ongl, yn wynebu'r tŷ a'r patio y mae'r beuddi; eto wedi eu moderneiddio.
(1, 0) 7 Ffenestri gwynion UPVC sydd iddynt.
(1, 0) 8 O'u blaenau mae ambell i hen beiriant fferm.
(1, 0) 9 Mae gwŷdd yn un ohonynt.
(1, 0) 10 Mae'r rhain wedi cael eu peintio.
(1, 0) 11 Gwelir hen bwmp dŵr wedi ei beintio hefyd.
(1, 0) 12 Mae talcen y beuddi yn wynebu'r gynulleidfa.
(1, 0) 13 Wrth ochr y talcen y mae cilbost a hen giât, eto wedi cael ei pheintio, yn arwain i'r caeau.
(1, 0) 14 Rhwng v ffermdy a'r beuddi mae cowt tarmac.
(1, 0) 15 Mae'r cyfan yn wynebu caeau a maes golff (range) dychmygol.
(1, 0) 16 ~
(1, 0) 17 Clywir peli golff yn yr awditoriwm yn cael eu taro gydag undonedd hunllefus.
(1, 0) 18 Yn araf, cyfyd y golau a gwelwn gadair olwyn wag ac wrth ei hochr ar y llawr y mae GWYNETH.
(1, 0) 19 O'i chwmpas mae blodau gwylltion ar lawr yn flêr.
(1, 0) 20 Mae JOYCE, sydd â llwyth o flodau gwylltion yn ei hafflau, yn sefyll o olwg GWYNETH wrth y porth sy'n arwain at y caeau.
(1, 0) 21 Mae'n amlwg fod GWYNETH mewn poen.
(1, 0) 22 Nid yw JOYCE yn ymateb am ennyd, dim ond gwrando arni yn hunanfeddiannol yr olwg.
 
(1, 0) 25 Mae JOYCE yn ei thynnu ei hun at ei gilydd a rhedeg at GWYNETH a dechrau rhoi help llaw iddi godi.
 
(1, 0) 33 Mae JOYCE yn ei helpu'n ôl i'w chadair gan osod ei choesau'n ofalus ar waelod y gadair.
 
(1, 0) 42 Mae JOYCE yn gwneud yn ddiamynedd.
(1, 0) 43 Ma'r cloddie 'na'n pwyso ohonyn nhw.
 
(1, 0) 63 Mae JOYCE yn edrych ar y blodau y mae hi ei hun wedi eu casglu.
 
(1, 0) 84 Mae JOYCE yn ufuddhau.
 
(1, 0) 108 Mae JOYCE yn edrych ar ei horiawr.
 
(1, 0) 111 Mae JOYCE yn mynd at GWYNETH a pharatoi i'w rowlio.
 
(1, 0) 146 Dim ymateb gan JOYCE.
 
(1, 0) 185 Nid yw JOYCE yn ymateb.
 
(1, 0) 189 Mae JOYCE yn dechrau rowlio GWYNETH yn ei chadair i'r tŷ.
 
(1, 0) 191 Â'r ddwy i mewn.
(1, 0) 192 Ymddengys GRUFF yn hynod flin yr olwg.
(1, 0) 193 Mae'n cario belt peiriant yn ei law.
(1, 0) 194 Mae'n edrych i gyfeiriad y maes golff a dechrau gweiddi.
 
(1, 0) 201 Ymddengys JOYCE efo 'bunting' yn ei dwylo.
(1, 0) 202 Mae GRUFF yn ei gweld.
 
(1, 0) 261 Mae JOYCE yn dal i glymu'r 'bunting'.
 
(1, 0) 315 Saib.
(1, 0) 316 Edrychant ar ei gilydd.
(1, 0) 317 Mae JOYCE yn edrych ar y 'bunting'.
 
(1, 0) 343 Mae GRUFF yn edrych i fyw ei llygaid.
(1, 0) 344 Clywir sŵn car yn cyrraedd.
 
(1, 0) 353 Mae JOYCE yn edrych allan.
 
(1, 0) 356 Mae JOYCE yn aros am ennyd.
 
(1, 0) 358 Mae JOYCE yn mynd allan.
(1, 0) 359 Ymddengys MORRIS ac ARWYN.
 
(1, 0) 375 Exit ARWYN a daw wyneb yn wyneb â GRUFF.
(1, 0) 376 Rhythant ar ei gilydd am ennyd.
 
(1, 0) 382 Gwna MORRIS ystum i'w dewi.
 
(1, 0) 399 Mae'n dangos yr olwyn i MORRIS.
 
(1, 0) 441 Exit GRUFF.
 
(1, 0) 443 Mae'r ffôn symudol yn canu eto.
(1, 0) 444 Mae MORRIS yn ei ateb yn hynod flin.
 
(1, 0) 457 Ymddengys JOYCE yn llawn ei ffwdan gyda'r blodau.
(1, 0) 458 Nid yw wedi gweld MORRIS am ennyd.
 
(1, 0) 485 Mae JOYCE yn cychwyn am y tŷ.
 
(1, 0) 515 Clywir llais GWYNETH o'r tŷ yn gweiddi 'Joyce! Joyce!'.
(1, 0) 516 Mae JOYCE yn cychwyn am y tŷ.
(1, 0) 517 Mae MORRIS yn gafael yn ei braich.
 
(1, 0) 521 Clywir GWYNETH yn gweiddi 'Joyce! Joyce!' eto.
 
(1, 0) 528 Clywir GWYNETH yn gweiddi 'Joyce! Joyce!' eto.
 
(1, 0) 532 Nid yw JOYCE yn ymateb.
(1, 0) 533 Mae Morris yn flin.
(1, 0) 534 Mae ARWYN yn ymddangos.
(1, 0) 535 Mae JOYCE yn rhuthro i'r tŷ.
 
(1, 0) 590 Mae MORRIS yn agor y cynlluniau.
 
(1, 0) 637 Mae MORRIS yn dechrau anesmwytho a cherdded o gwmpas y cowt yn nerfus.
(1, 0) 638 Mae'n gweld rhyw chwynnyn yn tyfu yn y tarmac.
(1, 0) 639 Mae'n gwylltio a dechrau crafu'r chwynnyn allan o'r tarmac efo'i esgid.
 
(1, 0) 654 Ymddengys JOYCE a GWYNETH.
 
(1, 0) 708 Exit MORRIS.
 
(1, 0) 729 Exit ARWYN.
(1, 0) 730 Mae GWYNETH ar ei phen ei hun.
(1, 0) 731 Mae'n rhythu i gyfeiriad y caeau.
(1, 0) 732 Mae fel petai ar dorri í lawr ond y mae'n gallu ei rheoli ei hun.
(1, 0) 733 Daw Morris drwy'r porth yn y cefn yn cario bocs o siampaen a bag yn llawn o boteli.
 
(1, 0) 739 Mae MORRIS fel pe bai'n chwilio am chwyn yn y tarmac.
 
(1, 0) 767 Mae GWYNETH yn gweld bag arall.
 
(1, 0) 791 Mae MORRIS yn tynnu un o'r poteli wisgi o'r bag ac edrych arni.
 
(1, 0) 827 Mae MORRIS yn bwrw mlaen heb gymryd sylw ohoni.
 
(1, 0) 843 Daw JOYCE i mewn.
 
(1, 0) 845 Mae MORRIS yn ei hanwybyddu a throi at GRUFF sydd newydd gyrraedd.
 
(1, 0) 847 Mae MORRIS yn troi at GRUFF.
 
(1, 0) 874 Wrth fynd allan, mae GRUFF yn troi at GWYNETH.
 
(1, 0) 897 Mae GRUFF ar fin cychwyn.
 
(1, 0) 905 Exit GRUFF i gyfeiriad y range.
 
(1, 0) 916 Daw ARWYN i mewn.
 
(1, 0) 926 Mae GWYNETH a JOYCE yn mynd i'r tŷ gan adael MORRIS ac ARWYN ar eu pennau eu hunain.
(1, 0) 927 Mae ARWYN yn edrych ar y 'gwpan denau'.
 
(1, 0) 960 Mae ARWYN yn edrych ar y botel.
 
(1, 0) 1014 Ymddengys JOYCE.
 
(1, 0) 1017 Â ARWYN allan gan adael MORRIS a JOYCE ar eu pennau eu hunain.
 
(1, 0) 1022 Exit JOYCE ac, ar ôl ennyd, â MORRIS ar ôl ARWYN.
(1, 0) 1023 Ymddengys GRUFF gydag olwyn yn ei law.
(1, 0) 1024 Mae'n sylweddoli nad oes neb o gwmpas.
(1, 0) 1025 Mae'n syllu ar y range.
(1, 0) 1026 Mae'n anesmwytho fel petai'n ffieiddio wrtho'i hun.
(1, 0) 1027 Mae'n dechrau crynu trwyddo.
(1, 0) 1028 Clywir clecian peli golff.
(1, 0) 1029 Graddol dawela'r clecian.
(1, 0) 1030 Mae car yn cyrraedd.
(1, 0) 1031 Clywir sŵn chwerthin.
(1, 0) 1032 Ymddengys CEINWEN yn y porth.
(1, 0) 1033 Y mae'n cario bag a thusw o flodau.)
 
(1, 0) 1036 Mae CEINWEN yn gweld GRUFF.
(1, 0) 1037 Mae'r ddau'n edrych ar ei gilydd am ennyd.
 
(1, 0) 1043 Dim ymateb gan GRUFF.
 
(1, 0) 1061 Mae GRUFF yn cychwyn mynd.
 
(1, 0) 1065 Mae GRUFF yn ysgwyd ei ben a mynd allan gan adael CEINWEN.
(1, 0) 1066 Ymddengys JOYCE.
(1, 0) 1067 Mae'n gweld CEINWEN.
(1, 0) 1068 Mae'r ddwy'n rhythu ar ei gilydd am ennyd.
 
(1, 0) 1076 Mae CEINWEN yn cychwyn mynd i mewn i'r tŷ.
 
(1, 0) 1081 Clywir llais GWYNETH yn gweiddi 'Joyce! Joyce!'.
(1, 0) 1082 Â'r ddwy i mewn.
(1, 0) 1083 Ymddengys MORRIS ac ARWYN yn cario bwrdd.
 
(1, 0) 1100 Mae ARWYN yn bustachu efo'r bwrdd.
 
(1, 0) 1137 Ymddengys CEINWEN a'r tu ôl iddi GWYNETH a JOYCE.
(1, 0) 1138 Mae JOYCE yn cario llieiniau.
 
(1, 0) 1141 Mae CEINWEN yn rhedeg i'w freichiau.
(1, 0) 1142 Cofleidiant a chusanant.
 
(1, 0) 1145 Mae JOYCE yn dechrau rhoi'r lliain ar y bwrdd.
 
(1, 0) 1154 Mae CEINWEN yn rhoi cusan i ARWYN.
 
(1, 0) 1157 Mae MORRIS yn mynd at y bocs a thynnu potel o siampaen allan.
 
(1, 0) 1162 Mae JOYCE yn rhuthro i'r tŷ.
 
(1, 0) 1166 Mae MORRIS yn ymbalfalu yn y bocs.
 
(1, 0) 1173 Mae ARWYN yn anesmwytho.
 
(1, 0) 1188 Ymddengys JOYCE efo gwydrau.
 
(1, 0) 1191 Ymddengys EUROS wrth y porth yn cario bocs o lyfrau.
 
(1, 0) 1197 Mae MORRIS yn ei weld.
 
(1, 0) 1206 Mae'n rhoi'r bocs i lawr wrth ymyl MORRIS.
(1, 0) 1207 Mae pawb yn rhythu arno.
 
(1, 0) 1211 Daw GRUFF i mewn.
 
(1, 0) 1214 Tywyllwch a sŵn peli golff yn cael eu taro.
(1, 0) 1215 ~
(1, 0) 1216 DIWEDD YR ACT GYNTAF