Ciw-restr

Hamlet, Tywysog Denmarc

Llinellau gan Hamlet (Cyfanswm: 562)

 
(1, 2) 334 Ychydig mwy na châr, a llai na mab. [1]
 
(1, 2) 337 Nid felly mae,
(1, 2) 338 Fy Arglwydd, ond wyf ormod yn yr haul. [2]
 
(1, 2) 346 Ië, 'mam, cyffredin yw.
 
(1, 2) 349 Ymddangos, 'mam! na, mae 'n rhy wir i mi.
(1, 2) 350 Pa beth yw ymddangosiad, nis gwn ddim.
(1, 2) 351 Ah! nid fy mantell ddu, sy' fel yr inc
(1, 2) 352 Yn unig ydyw, fy naionus fam,
(1, 2) 353 Y galarwisgoedd arferedig, na
(1, 2) 354 Hir anadliadau wedi eu gwasgu o fewn—
(1, 2) 355 Nagê, na chwaith yr afon ffrydlawn sy'n
(1, 2) 356 Dylifo o'r llygaid—na, ac nid ychwaith,
(1, 2) 357 Yr ymddangosiad tristlawn ar y rudd,
(1, 2) 358 Yn nghyd a phob ffurf, modd, a dull a geir
(1, 2) 359 O dristwch, a'm dynodant i yn iawn:
(1, 2) 360 Ymddangos mae 'r rhai hyn, mae'n wir can's maent
(1, 2) 361 Yn bethau y gall dyn eu ffugio hwy:
(1, 2) 362 Ond mwy nag ymddangosiad sydd o'm mewn;
(1, 2) 363 Nid ydyw y rhai hyn, ond treciau a
(1, 2) 364 Gwisgiadau tristwch.
 
(1, 2) 406 Gwnaf ufuddâu fy ngoreu i chwi, 'mam.
 
(1, 2) 418 O na wnai 'r cnawd rhy galed, caled hwn
(1, 2) 419 Ymdoddi, dadmer, ac ymffurfio 'n wlith!
(1, 2) 420 Neu, na pheidiasai y Tragwyddol Fôd
(1, 2) 421 Yn erbyn hunan-laddiad, roi ei ddeddf!
(1, 2) 422 O Dduw! O Dduw! mor flin, mor egraidd, mor
(1, 2) 423 Ddi-flas, ac mor ddielw, ydyw 'r holl
(1, 2) 424 Wag ddefnydd ellir wneud o bethau 'r byd!
(1, 2) 425 Ffei arno! ffei! gardd hollol wyllt yw'r hon
(1, 2) 426 A rêd i hâd, drygsawrus bethau, ac
(1, 2) 427 O natur groes, sydd yn ei llenwi oll.
(1, 2) 428 O ofid! fod i bethau dd'od i hyn!
(1, 2) 429 Dau fis yn farw! na nid yw'n ddau fìs!
(1, 2) 430 A'r fath ardderchog frenin ydoedd ef!
(1, 2) 431 Hyperion [3] oedd, a hwn yn ellyll gwael.
(1, 2) 432 Efe oedd mor gariadus wrth fy mam,
(1, 2) 433 Fel na oddefai i awelon nef
(1, 2) 434 Byth ddisgyn ar ei gwyneb yn rhy lym.
(1, 2) 435 O nef a daear! a raid im' gofio hyn?
(1, 2) 436 Hyhi a bwysai ar ei fynwes ef,
(1, 2) 437 Fel pe buasai blys yn tyfu wrth
(1, 2) 438 Ymborthi; ac er hyny, o fewn mis—
(1, 2) 439 Na fydded i mi feddwl yn ei gylch:—
(1, 2) 440 O! Anwadalwch; d' enw di yw—merch!
(1, 2) 441 Bur fis! cyn baeddu yr esgidiau teg
(1, 2) 442 A'r rhai canlynodd gorff fy anwyl dad,
(1, 2) 443 Fel Niobê, yn ddagrau trosti oll,—
(1, 2) 444 Ac wele hi, ïe, hyhi,—O nef!
(1, 2) 445 Fe wnaethai bwystfil heb ddim rheswm oll,
(1, 2) 446 Alaru 'n hŵy,—priododd fy ewythr,
(1, 2) 447 Sef brawd fy nhad; ond dim mwy tebyg i
(1, 2) 448 Fy nhad, nag ydwyf fì i Hercules:
(1, 2) 449 O fewn un mis: a chyn ì helltni ei
(1, 2) 450 Rhagrithiol ddagrau, roi i'r cochni fyn'd
(1, 2) 451 O'i llygaid clwyfus, fe briododd hi!
(1, 2) 452 O frys drygionus, yn ymruthro i
(1, 2) 453 Gynfasau llosgach, â'r fath ddirfawr ffrwst.
(1, 2) 454 Nid yw, ac nis gall, dd'od i ddiwedd da,—
(1, 2) 455 Tor fy nghalon; tewi raid i mi.
 
(1, 2) 458 Tra llawen wyf
(1, 2) 459 Dy weled di yn iach: Horatio,
(1, 2) 460 Neu 'rwyf yn colli arnaf fi fy hun.
 
(1, 2) 463 Syr, a fy nghyfaill da: newidio wnaf
(1, 2) 464 Yr enw yna gyda thi. Ond beth
(1, 2) 465 A'ch dygodd chwi yn awr o Wittenberg,
(1, 2) 466 Horatio?—Marcellus?
 
(1, 2) 468 Wyf hynod falch o'ch gwel'd; prydnawn da, syr.
(1, 2) 469 Ond beth, a ddaeth a chwi o Wittenberg?
 
(1, 2) 471 Ni wrand'wn ar eich gelyn yn dweud hyn;
(1, 2) 472 Ac ni chewch chwithau dreisio ar fy nghlust,
(1, 2) 473 Na'm dwyn i gredu un cyhuddiad fo'n
(1, 2) 474 Milwrio yn eich erbyn chwi eich hun:
(1, 2) 475 Gwn nad rhyw grwydriaid segur ydych chwi.
(1, 2) 476 Ond beth yw 'ch neges yma'n Elsinore?
(1, 2) 477 Wel, dysgwn chwi i yfed yn bur drwin
(1, 2) 478 Cyn myn'd i ffordd.
 
(1, 2) 480 Atolwg iti, gydefrydydd, paid
(1, 2) 481 A'm gwatwar; meddwl 'rwyf mai d'od a wneist
(1, 2) 482 I wel'd priodi'm mam.
 
(1, 2) 485 Ffrwst, ffrwst, [4] Horatio! y bwyd pobedig at
(1, 2) 486 Y claddedigaeth [5] lanwai mewn modd oer
(1, 2) 487 Y neithior-fyrddau. O na chawswn i
(1, 2) 488 Gyfarfod fy mhrif elyn yn y nef
(1, 2) 489 Yn gynt, Horatio! na chael gwel'd y dydd!—
(1, 2) 490 Fy nhad,—yr wyf yn tybio gwel'd fy nhad.
 
(1, 2) 492 Yn ngolygon fy
(1, 2) 493 Meddylfryd dwfn, Horatio.
 
(1, 2) 495 Dyn oedd,
(1, 2) 496 Ag i ni ei gymeryd oll yn oll,
(1, 2) 497 Na welwn byth ei debyg yma mwy.
 
(1, 2) 500 Gweled, meddwch! pwy?
 
(1, 2) 502 Y brenin fy nhad i!
 
(1, 2) 507 Er cariad Duw! gadewch ei glywed oll.
 
(1, 2) 528 Ond yn mha le bu hyn?
 
(1, 2) 531 Ond ai ni siaradasoch gydag ef?
 
(1, 2) 539 Mae hyn yn hynod iawn.
 
(1, 2) 544 Yn wir, yn wir, syrs, hyn a'm blina i,
(1, 2) 545 A fyddwch chwi yn gwylio'r noson hon?
 
(1, 2) 547 Yn arfog, meddwch chwi?
 
(1, 2) 549 O'r top i'r gwaelod oll?
 
(1, 2) 551 Nis gwelsoch chwi, gan hyny, ei wyneb ef?
 
(1, 2) 553 Beth! a oedd ef yn edrych gyda gwg?
 
(1, 2) 555 Ai gwelw a'i coch?
 
(1, 2) 557 Ac a sefydlai 'i lygaid arnoch chwi?
 
(1, 2) 559 O! na fuaswn yno gyda chwi.
 
(1, 2) 561 Pur debyg, tra thebygol, a wnaeth ef
(1, 2) 562 Arosiad hir?
 
(1, 2) 567 Oedd ei farf
(1, 2) 568 Yn llwyd? Nac oedd?
 
(1, 2) 571 Myfi a wyliaf heno; gallai daw
(1, 2) 572 I rodio eto.
 
(1, 2) 574 Os gwisga berson fy ardderchog dad,
(1, 2) 575 Siaradaf gydag ef, pe uffern ddofn
(1, 2) 576 Ymrythai a pheri i mi dewi a son.
(1, 2) 577 Atolwg 'rwyf, os gwnaethoch guddio hyd
(1, 2) 578 Yn awr yr ymddangosiad hwn, boed e
(1, 2) 579 Yn eich dystawrwydd eto 'n para yn nghudd;
(1, 2) 580 A pha beth bynag heno gymer le,
(1, 2) 581 Deallwch ef, ond na fynegwch ddim;
(1, 2) 582 Eich cymwynasau a wobrwyaf fì,
(1, 2) 583 Am hyny'n awr, yniach i chwi: ar yr
(1, 2) 584 Esgynlawr, rhwng un-ar-ddeg a haner nos,
(1, 2) 585 Ymwelaf â chwychwi.
 
(1, 2) 588 Eich cariad, fel myfi i chwi: yn iach.
 
(1, 2) 590 Ysbryd fy nhad dan arfau! Yn wir nid yw
(1, 2) 591 Pob peth yn dda. 'Rwy 'n anmheu rh ddrwg-waith:
(1, 2) 592 O na ddoi 'r nos! Hyd hyny, f' enaid, gwna
(1, 2) 593 Yn llonydd eistedd: daw gweithredoedd drwg
(1, 2) 594 I fyny 'n hyf, ger bron i lygaid dyn,
(1, 2) 595 Er i'r holl ddaear geisio 'u cuddio hwynt.
 
(1, 4) 782 Yr awyr fratha 'n dost; mae 'n erwin oer.
 
(1, 4) 784 Pa awr yw hi?
 
(1, 4) 793 Mae'r brenin heno'n effro, ac y mae'n
(1, 4) 794 Cymeryd llymaid llawen; meddw yw,
(1, 4) 795 Y corach rhwysgfawr, ac yn dawnsio mae;
(1, 4) 796 A phan yr yf ei lwnc o win y Rhine,
(1, 4) 797 Mae 'r tabwrdd pres a'r udgorn croch fel hyn
(1, 4) 798 Yn brefu allan werth ei yfair ef.
 
(1, 4) 800 Yn wir, y mae:
(1, 4) 801 Ond i fy meddwl i—er i mi fod
(1, 4) 802 Yn enedigol yma, ac felly yn
(1, 4) 803 Anedig i'r arferiad—arfer i
(1, 4) 804 A berchir wrth ei thori 'n llawer mwy
(1, 4) 805 Nag wrth ei chadw. Mae y gloddest tra
(1, 4) 806 Pendrymaidd hwn yn dwyn i ni sarâd
(1, 4) 807 A drygedliwiad gan genedloedd sydd
(1, 4) 808 I'r dwyrain a'r gorllewin: galwant ni
(1, 4) 809 Yn feddwon, ac âg ymadroddion tra
(1, 4) 810 Mochynaidd gwnant, ddirmygu 'n cynydd ni;
(1, 4) 811 A hyn yn ddïau a isela ein
(1, 4) 812 Holl orchfygiadau, er mor uchel y'nt,
(1, 4) 813 A grym a mêr ein priodoledd ni.
(1, 4) 814 Efelly dygwydd gydag aml ddyn,
(1, 4) 815 Rhai am ryw ddiffyg gafwyd yn y tro
(1, 4) 816 Na all'sant wrtho (am nad oes gan ddyn
(1, 4) 817 Un llais yn ffurfiad cynta 'i natur wan)
(1, 4) 818 Trwy dyfiant math o duedd, dora 'n aml
(1, 4) 819 Amgaerau a chastellydd rheswm pur.—
(1, 4) 820 Trwy ryw arferiad, orlefeinia ffurf
(1, 4) 821 Defodau mwyaf teg—y dynion hyn,—
(1, 4) 822 Gan gario arnynt, meddaf, argraff rhyw
(1, 4) 823 Un diffyg—nodwisg natur, seren ffawd,—
(1, 4) 824 Eu holl rinweddau eraill yn mhob peth
(1, 4) 825 (Boent hwy mor bur a gras, a'u meddu mewn
(1, 4) 826 Cyflawnder mor ddiderfyn ag all gael),
(1, 4) 827 A lygrir, gan y farn gyffredin, am
(1, 4) 828 Yr un bai hwnw; gwna un gronyn o
(1, 4) 829 Ddrygioni 'n fynych, weithio allan y
(1, 4) 830 Rhagoraf nodwedd, er difrïad dyn.
 
(1, 4) 833 Angelion a holl weinidogion gras
(1, 4) 834 A'n cadwo ni!—ai ysbryd iechyd wyt
(1, 4) 835 Neu ellyll damniol? a wyt ti yn dwyn
(1, 4) 836 I'th ganlyn rai o fwyn awelon nef
(1, 4) 837 Neu ryw fflachiadau o'r diwaelod bwll,
(1, 4) 838 A yw dy amcan yn ddrygionus ai
(1, 4) 839 Carnaidd? ti a ddeui mewn fath ddull
(1, 4) 840 Ymgomgar, [8] fel gwnaf siarad gyda thi;
(1, 4) 841 Mi'th alwaf di yn Hamlet, brenin, tad,
(1, 4) 842 Breninol Ddaniad. O! ateba fi:
(1, 4) 843 Na âd i mi, ymdori ar fy nhraws
(1, 4) 844 Mewn anwybodaeth! ond mynega im'
(1, 4) 845 Paham mae 'th esgyrn cysegredig di,
(1, 4) 846 A rwymwyd mewn marwolaeth, erbyn hyn
(1, 4) 847 Yn tori 'u cŵyr-lïeiniau! A phaham
(1, 4) 848 Mae 'r beddrod yn yr hwn y gwelsom di
(1, 4) 849 Yn cael dy roi yn dawel yn dy fedd,
(1, 4) 850 Yn agor ei rwth fynor-enau i -
(1, 4) 851 Dy fwrw allan! Beth arwydda hyn,
(1, 4) 852 Tydi, gorff marw, eto 'n arfog oll,
(1, 4) 853 Yn ail ymweled â th'wyniadau 'r lloer,
(1, 4) 854 Gan wneud y nos yn echrys; a nyni,
(1, 4) 855 Ynfydion natur, gawn ein dychryn i'r
(1, 4) 856 Fath raddau nes cael llwyr wanychu 'n ffydd,
(1, 4) 857 A'n llenwi â dychmygion uwch ein bryd?
(1, 4) 858 D'wed, p'odd mae hyn? paham? beth ddylem wneud?
 
(1, 4) 866 Ni sieryd; felly gwnaf ei ddilyn ef,
 
(1, 4) 868 Pa'm, pa beth a raid
(1, 4) 869 Ei ofni? nid wyf fi yn gosod pris
(1, 4) 870 Fy mywyd, mwy na phin; am f' enaid, beth
(1, 4) 871 A all ef wneud i hwnw ag sydd yn
(1, 4) 872 Anfarwol fel ei hunan? y mae yn
(1, 4) 873 Fy ngalw eto;—âf, dilynaf ef.
 
(1, 4) 885 Mae'n galw eto:— dos, dilynaf di.
 
(1, 4) 887 Hwnt â'ch dwylaw oll.
 
(1, 4) 889 Mae'm tynged i yn galw i mi fyn'd,
(1, 4) 890 Nes gwneud pob mânwythïen yn fy nghorff
(1, 4) 891 Mor gryfion a gewynau dur y llew.
 
(1, 4) 893 Fe 'm gelwir eto; foneddigion, gwnewch
(1, 4) 894 Fy ngollwng i:—
 
(1, 4) 896 Myn nef, gwnaf ysbryd o'r
(1, 4) 897 Hwn wna fy rhwystro:—meddaf, ewch i ffordd:—
(1, 4) 898 Yn mlaen yn awr, mi a'th ddilynaf di.
 
(1, 5) 912 Pa le y myni di fy arwain i?
(1, 5) 913 Siarada; nid af fi yn mhellach gam.
 
(1, 5) 915 Mi wnaf.
 
(1, 5) 919 O, druan ysbryd wyt!
 
(1, 5) 923 Siarad, ydwyf rwym
(1, 5) 924 O wrandaw.
 
(1, 5) 927 Beth?
 
(1, 5) 946 O'r nefoedd fawr!
 
(1, 5) 949 Mwrddrad?
 
(1, 5) 953 Prysura, d'wed, fel gallwyf fyned ar
(1, 5) 954 Chwim edyn myfyr, neu feddyliau serch
(1, 5) 955 I ddial hyn.
 
(1, 5) 967 O fy mhrophwydol enaid! f' ewythr oedd?
 
(1, 5) 1028 O chwi, holl luoedd nef! O ddaear! A
(1, 5) 1029 Pheth arall? Gaf fi gyplu uffern ddofn?—
(1, 5) 1030 O ffei!—Dal, dal, fy nghalon, a chywchwi,
(1, 5) 1031 Fy holl ewynau, peidiwch myn'd yn hen
(1, 5) 1032 Mewn munyd, deliwch fi i fyny 'n gryf!
(1, 5) 1033 Dy gofio di? Gwnaf, ysbryd truan, tra
(1, 5) 1034 Y dalio cof eisteddle oddifewn
(1, 5) 1035 I'r belen wallgof hon. [11] Dy gofio di?
(1, 5) 1036 Gwnaf; canys oddiar lech fy nghof yn awr
(1, 5) 1037 Y sychaf ymaith bob cofnodion hoff,
(1, 5) 1038 Pob llyfr-ymadrodd, pob rhyw ffurfiau, a
(1, 5) 1039 Blaenorol argraffiadau gawsant eu
(1, 5) 1040 Copïo yno; a'th orchymyn di
(1, 5) 1041 Gaiff fyw o fewn i lyfr a chyfrol fy
(1, 5) 1042 Ymenydd, heb gymysgu â gwaelach beth:
(1, 5) 1043 Caiff, myn y Nef! O dra drygionus wraig!
(1, 5) 1044 O ti ddyhiryn! O ddyhiryn! O!
(1, 5) 1045 Tydi ddamniedig a gwenieithus ddyn!
(1, 5) 1046 "Fy nghoflyfr,"— gweddus yw ei roi i lawr,
(1, 5) 1047 Y gall un wenu, gwenu, a bod 'run pryd
(1, 5) 1048 Yn ellyll llwyr, o leiaf, sicr wyf
(1, 5) 1049 Y gall fod felly yn Denmarc.
 
(1, 5) 1051 Efelly, f' ewythr, dyna chwi. 'N awr at fy ngair;
(1, 5) 1052 Hyn yw,—|Ffarwel, ffarwel! O cofia fi!|
(1, 5) 1053 Myfi a'i tyngais.
 
(1, 5) 1064 Holo, ho,
(1, 5) 1065 Ho, lanc! de'wch, de'wch, aderyn, de'wch. [12]
 
(1, 5) 1069 O rhyfeddol iawn!
 
(1, 5) 1071 Na, na;
(1, 5) 1072 Chwi a'i dadguddiwch.
 
(1, 5) 1076 Pa fodd, atolwg, y dywedwch chwi?
(1, 5) 1077 A goeliai calon dyn, y peth ofnadwy?
(1, 5) 1078 Ond—mi gedwch oll yn gudd?—
 
(1, 5) 1080 Nid oes ddyhiryn o fewn Denmarc oll,
(1, 5) 1081 Nad ydyw yn garn cnaf.
 
(1, 5) 1085 Pur iawn; yr y'ch yn iawn;
(1, 5) 1086 Ac felly, heb amgylchu eto fwy,
(1, 5) 1087 Yr wyf yn cyfrif mai peth gweddaidd yw
(1, 5) 1088 I'n ysgwyd dwylaw, ac ymadael; chwi
(1, 5) 1089 Fel y gwna eich gorchwylion, neu yntê
(1, 5) 1090 Eich dymuniadau 'ch troi—mae gan bob dyn
(1, 5) 1091 Ryw orchwyl a dymuniad, o'r fath yw,—
(1, 5) 1092 Ac o fy rhan fy hunan, gwelwch, âf—
(1, 5) 1093 Atolwg.
 
(1, 5) 1096 Gofidus wyf
(1, 5) 1097 O ddyfnder calon bur, eu bod yn dramgwydd;
(1, 5) 1098 O'm calon gwir ofidus wyf.
 
(1, 5) 1101 Oes y mae,
(1, 5) 1102 Myn Padrig Sant, Horatio, tramgwydd mawr.
(1, 5) 1103 Yn nghylch y weledigaeth hon, y mae
(1, 5) 1104 Yn ysbryd gonest iawn, gwybyddwch hyn;
(1, 5) 1105 Am eich dymuniad i gael gwybod beth
(1, 5) 1106 Fu rhyngom ni, meistrolwch hwnw, fel
(1, 5) 1107 Y mynoch. Ac yn awr, gyfeillion da,
(1, 5) 1108 Cyfeillion. ysgoleigion, milwyr y'ch,
(1, 5) 1109 Ac fel y cyfryw caniatewch i mi
(1, 5) 1110 Gael un dymuniad bach.
 
(1, 5) 1113 Na wneloch byth
(1, 5) 1114 Yn hysbys beth a welsoch y nos hon.
 
(1, 5) 1116 Na; ond tyngwch hyn.
 
(1, 5) 1120 Ar fy ngeledd.
 
(1, 5) 1123 Yn wir, ac ar fy nghledd,
(1, 5) 1124 Yn wir.
 
(1, 5) 1127 Ha, ha. 'rhen fachgen! a
(1, 5) 1128 Ddywedi dithau felly? a wyt ti
(1, 5) 1129 Fan yna, gywir un? De'wch, de'wch,—chwychwi
(1, 5) 1130 A glywch hwnyna yn y seler,—de'wch
(1, 5) 1131 Gydsyniwch dyngu.
 
(1, 5) 1134 Na wnewch byth son yn nghylch
(1, 5) 1135 Yr hyn a welsoch, tyngwch wrth fy nghledd.
 
(1, 5) 1138 Hic et ubique? [13] — Am hyny, bydded i'n
(1, 5) 1139 Yn wir, ac ar fy nghledd,
(1, 5) 1140 I newid tir:—De'wch chwi yn mlaen hyd i'r
(1, 5) 1141 Fan yma, foneddigion, a gwnewch ro'i
(1, 5) 1142 Eich dwylaw wrth fy nghleddyf, tyngwch wrth
(1, 5) 1143 Fy nghledd, na wneloch yngan gair yn nghylch
(1, 5) 1144 Yr hyn a glywsoch yma, y pryd hwn.
 
(1, 5) 1147 Da d'wedaist ti, hen dwrch! A elli di
(1, 5) 1148 Mor gyflym weithio yn y ddaear? Hen
(1, 5) 1149 Ragredegydd teilwng yw! eto gwnawn
(1, 5) 1150 Ymsymud unwaith, fy nghyfeillion da.
 
(1, 5) 1152 Ac felly fel dyeithrbeth dyro di
(1, 5) 1153 Groesawiad iddo. Y mae, Horatio, fwy
(1, 5) 1154 O bethau yn y nef a'r ddaear hon
(1, 5) 1155 Nag a freuddwydiodd eich hathroniaeth chwi.
(1, 5) 1156 Ond de'wch;—
(1, 5) 1157 Ac eto yma, fel o'r blaen, byth, byth—
(1, 5) 1158 Trugaredd rad a'ch cynorthwyo chwi!
(1, 5) 1159 Pa mor ddyeithr ac ôd bynag yr
(1, 5) 1160 Wyf fi yn ymddwyn, ac y gwelaf raid
(1, 5) 1161 I mi ymddangos mewn munudiol fodd
(1, 5) 1162 Rhyw amser pwysig eto sydd o'm blaen,
(1, 5) 1163 Ar y fath amser, na foed i chwi byth,
(1, 5) 1164 A breichiau llwythog wneud fel hyn, a'r llall,
(1, 5) 1165 Neu benysgydwad doeth, o'r fath a'r fath,
(1, 5) 1166 Neu trwy ro'i allan ymadroddion mwys—
(1, 5) 1167 Fel hyn, |Wel, wel, fe wyddom ni|;—neu, |Ni a allem, a phe mynem|;
(1, 5) 1168 Neu, |Pe mynem ni siarad|;—neu, |Y mae, a phe gallent|;—
(1, 5) 1169 Neu siarad dwbl ystyr o'r fath hyn;
(1, 5) 1170 I ddangos dim cy'byddiaeth â myfi:—
(1, 5) 1171 Hyn dyngwch chwi! a boed i fythol ras
(1, 5) 1172 A hael drugaredd, ro'i pob cymhorth i'ch.
 
(1, 5) 1175 Wel, gorphwys, gorphwys bellach O tydi,
(1, 5) 1176 Derfysglyd ysbryd! Foneddigion, â'm
(1, 5) 1177 Holl gariad y cyflwynaf fi fy hun;
(1, 5) 1178 I chwi, a'r hyn all tlawd fel Hamlet, wneud
(1, 5) 1179 I ddangos cariad a chyfeillach wir,
(1, 5) 1180 Mewn dim ni phallaf, os fy Nuw a'i myn.
(1, 5) 1181 Gadewch i ni gydfyn'd i fewn, a chwi
(1, 5) 1182 A'ch bysedd ar eich gwefus, erfyn wyf.
(1, 5) 1183 Y mae yr amser yn annhrefnus; O
(1, 5) 1184 Ddygasedd melldigedig! I mi gael
(1, 5) 1185 Fy ngeni 'rioed i ddwyn y peth i drefn!
(1, 5) 1186 Na, deuwch, awn ein tri yn nghyd.
 
(2, 2) 1612 Iach, trugarâed Duw.
 
(2, 2) 1615 Wyf yn hynod dda; chwychwi
(2, 2) 1616 Sydd werthwr pysgod.
 
(2, 2) 1618 Wel, dymunaswn eich bod yn ddyn
(2, 2) 1619 Mor onest.
 
(2, 2) 1621 Iê, syr; bod yn onest, fel y mae y byd hwn yn myned, yw bod yn un wedi ei bigo allan o ddeng mil.
 
(2, 2) 1623 Canys os yw yr haul yn magu cynrhon mewn ci marw, gan fod yn dduw yn cusanu burgyn,—
(2, 2) 1624 A oes genych ferch?
 
(2, 2) 1626 Na adewch iddi rodio yn yr haul: mae amgyffred [20] yn fendith; ond gan y gall eich merch feichiogi, [20] gyfaill, edrychwch ati.
 
(2, 2) 1633 Geiriau, geiriau, geiriau!
 
(2, 2) 1635 Rhwng pwy?
 
(2, 2) 1637 Enllibiau, syr;
(2, 2) 1638 canys y mae y gwalch tuchanus hwn yn dywedyd yma, fod gan hen wŷr farfau llwydion; fod eu hwynebau yn rhychog; eu llygaid yn dyferu ambr tew, a glud pren eiryn; a bod ganddynt ddiffyg mawr o synwyr, yn nghyd a garau gweiniaid:
(2, 2) 1639 yr oll o'r hyn, syr, er fy mod yn ei gredu yn dra chryf, a chadarn, eto nid wyf yn ystyried ei fod yn onestrwydd i'w roddi fel hyn arlawr;
(2, 2) 1640 canys chwychwi eich hun, syr, a fyddech mor hen ag wyf finau, pe gallech, fel y môrgranc, ond myned tuag yn ôl.
 
(2, 2) 1644 I fy medd?
 
(2, 2) 1649 Nis gellwch, syr, gymeryd oddiarnaf unpeth y byddaf mor ewyllysgar i ymadael âg ef; oddieithr fy mywyd, dieithr fy mywyd, oddieithr fy mywyd.
 
(2, 2) 1651 Yr hen ffyliaid blinderus hyn!
 
(2, 2) 1660 Fy nghyfeillion da godidog!
(2, 2) 1661 Pa sut yr ydwyt, Guildenstern?
(2, 2) 1662 Ah, Rosencrantz!
(2, 2) 1663 Lanciau da, pa sut yr ydych eich dau?
 
(2, 2) 1668 Na gwadnau ei hesgid chwaith?
 
(2, 2) 1670 Yna yr ydych yn byw o gylch ei gwasg, neu yn nghanol ei ffafrau?
 
(2, 2) 1672 Yn nghuddranau ffawd?
(2, 2) 1673 O, pur wir; dyhiren ydyw hi.
(2, 2) 1674 Pa newydd.
 
(2, 2) 1676 Yna mae dydd brawd yn agos: ond nid yw eich newydd yn wir.
(2, 2) 1677 Gadewch i mi holi yn fwy manwl:
(2, 2) 1678 Pa beth a fu eich trosedd chwi, fy nghyfeillion, yn erbyn ffawd, fel ag iddi eich gyru i gar-
(2, 2) 1679 char yma.
 
(2, 2) 1681 Carchar yw Denmarc.
 
(2, 2) 1683 Un rhagorol; yn yr hwn y mae caethgelloedd, gwarchodgelloedd, a daeardai: a Denmarc yn un o'r rhai gwaethaf.
 
(2, 2) 1685 Ai ê, yna nid yw felly i chwi: canys nid oes dim nac yn dda nac yn ddrwg, nad ydyw meddwl yn ei wneud felly: i mi y mae yn garchar.
 
(2, 2) 1687 O Dduw! mi a allwn gael fy nghyfyngu mewn plisgyn cneuen, a chyfrif fy hunan yn frenin ar eangder diderfyn; pe na buasai fy mod wedi cael breuddwydion drwg.
 
(2, 2) 1689 Nid yw breuddwyd ei hun ond cysgod.
 
(2, 2) 1691 Yna y mae ein cardotwyr yn fodau; a'n unbeniaid ni, a'n harwyr mawrion, [21] yn gardotwyr cysgod.
(2, 2) 1692 A gawn ni fyn'd i'r llys? canys, myn fy ffydd, nid allaf ymresymu.
 
(2, 2) 1694 Dim cymaint o bwys: nis gosodaf chwi gyda'r gweddill o'm gweision; canys, i ddywedyd wrthych fel dyn gonest, yr wyf yn cael gweinyddu arnaf yn dra dychrynllyd. [22]
(2, 2) 1695 Ond, yn llwybr cyffredin cyfeillgarwch, beth ydych chwi 'n ei wneud yn Elsinore?
 
(2, 2) 1697 Cardotyn fel yr wyf, yr wyf yn dlawd, hyd yn nod mewn diolchgarwch; ond yr wyf yn diolch i chwi: ac yn sicr, gyfeillion anwyl, y mae fy niolchgarwch yn rhy ddrud am ddimai. Ai nis danfonwyd am danoch?
(2, 2) 1698 Ai eich tueddiad chwi eich hunain ydoedd?
(2, 2) 1699 A ydyw yn ymweliad rhyddfryd?
(2, 2) 1700 De'wch, de'wch, ymddygwch yn gyfiawn tuag ataf; de'wch, de'wch, siaredwch.
 
(2, 2) 1702 Unrhyw beth, ond ei fod i'r pwrpas.
(2, 2) 1703 Fe ddanfonwyd am danoch; ac y mae math o gyffesiad yn eich golygon, y rhai nad oes
(2, 2) 1704 gan eich gwyleidd-dra ddigon o fedrusrwydd i'w lliwio.
(2, 2) 1705 Mi a wn mae 'r brenin a'r frenines a anfonodd am donoch.
 
(2, 2) 1707 Fel y gallech fy nysgu i.
(2, 2) 1708 Ond gadewch i mi eich tyngedu trwy hawliau ein cyfeillgarwch, trwy gydweddiad ein hieuenctyd, trwy rwymedigaeth ein cariad, a gadwyd rhyngom yn wastadol, a thrwy ba beth bynag mwy anwyl y gallai cynygydd gwell eich herchi, byddwch wastad ac uniongyrch gyda mi,—pa un a anfonwyd am danoch, ai naddo?
 
(2, 2) 1711 Na, yna y mae genyf olwg arnoch; {wrtho ei hun}—os ydych yn fy ngharu i, nac ateliwch.
 
(2, 2) 1713 Mi a ddywedaf i chwi paham: felly bydd fy ngwaith i yn achub y blaen yn rhwystro eich darganfyddiad chwi, [23] ac ni bydd i'ch cyfrinach i'r brenin a'r frenines fwrw un bluen.
(2, 2) 1714 Yr wyf yn ddiweddar (ond paham, nis gwn), wedi colli fy holl lawenydd, ac ymwrthod â holl ddefodau ymarferion; ac yn wir, y mae yn dygymod mor drymaidd gyda'm tueddfryd, fel y mae yr holl adeilad dda hon, y ddaear, yn ymddangos i mi fel penrhyn anffrwythlawn; y gortho godidog hwn, yr awyr, sylwch—y ffurfafen hardd a chrogedig hon—y tô mawreddog hwn sydd wedi ei orchuddio â thân euraidd, wele, nid yw yn ymddangos i mi yn ddim amgen na chynulliad ffiaidd a heintus o darthion.
(2, 2) 1715 Y fath ddarn o waith yw dyn!
(2, 2) 1716 Mor ardderchog mewn rheswm! mor annherfynol mewn cyneddfau! mewn ffurf, a symudiad, mor fynegiadol a rhyfedd!
(2, 2) 1717 Mewn gweithred, mor debyg i'r angel! mewn amgyffred, mor debyg i dduw! prydferthwch y byd! un digymhar yn mhlith pob anifail!
(2, 2) 1718 Ac eto, i mi, beth yw y sylwedd llwch hwn! nid yw dyn yn fy nifyru i, na dynes chwaith; er, wrth eich cilchwerthiniad chwi, yr ymddangoswch fel yn dweud felly.
 
(2, 2) 1720 Paham y chwarddasoch, ynte, pan y dywedais, |Nid yw dyn yn fy nifyru i|?
 
(2, 2) 1722 Yr hwn a chwareua y brenin, a fydd iddo groesaw; ei fawrhydi a gaiff deyrnged genyf fi: caiff y marchog anturus ddefnyddio ei gledd a'i darged: ni chaiff y carwr ocheneidio am ddim: caiff y dyn digrifol orphen ei ddarn mewn tangnefedd: y drelyn [24] a gaiff
(2, 2) 1723 wneud i'r rhai hyny ag y mae eu hysgyfaint wedi eu goglais gan wywdra, chwerthin: a chaiff y foneddiges ddweud ei meddwl yn rhydd, neu caiff y gân ddiawdl aros am dani.
(2, 2) 1724 Pa chwareuwyr ydynt hwy?
 
(2, 2) 1726 Pa fodd y dygwydd eu bod yn crwydro?
(2, 2) 1727 Yr oedd eu trigiad sefydlog yn well iddynt bob ffordd, mewn parch ac elw.
 
(2, 2) 1729 A ydynt hwy yn dal mor enwog ag oeddynt pan oeddwn i yn y ddinas?
(2, 2) 1730 A ddilynir hwy gymaint?
 
(2, 2) 1732 Pa fodd y mae hyny yn bod?
(2, 2) 1733 A ydynt hwy yn myned yn rhydlyd?
 
(2, 2) 1736 Beth, ai plant ydynt? pwy sydd yn eu cynal? pa sut y telir iddynt?
(2, 2) 1737 Ai nid ânt yn mlaen gyda'r alwedigaeth yn hŵy nag y gallant ganu?
(2, 2) 1738 Ai ni ddywedant drachefn, os tyfant i fyny yn chwareuwyr cyffredin eu hunain (fel y bydd yn bur debyg, oni bydd eu moddion yn well), fod eu hysgrifenwyr yn gwneud cam â hwynt, fel ag i wneud iddynt waeddi yn erbyn eu holynwyr?
 
(2, 2) 1740 A ydyw hyny yn bosibl?
 
(2, 2) 1742 A ydyw y bechgyn yn cario y dydd?
 
(2, 2) 1744 Onid yw yn bur hynod: canys y mae fy ewythr yn frenin Denmarc, a'r rhai, tra yr oedd fy nhad yn fyw, a wnaent wynebau arno, a roddant ugain, deugain, haner cant, a chan |ducat|, [27] am ei arlun mewn bychandra. [28]
(2, 2) 1745 Yn siŵr, y mae rhywbeth mwy na naturiol yn hyn, pe gallai athroniaeth ei gael allan.
 
(2, 2) 1748 Foneddigion, croesaw i chwi i Elsinore.
(2, 2) 1749 Rhoddwch eich dwylaw i mi. [29]
(2, 2) 1750 De'wch ynte: perthynolion croesaw yw dullwedd a defod: gadewch i mi eich moesgyfarch yn y modd hwn; rhag ofn y bydd i fy helaethder gyda'r chwareuwyr—yr hwn, meddaf wrthych, a raid edrych yn deg oddiallan—ymddangos yn fwy fel croesaw na'r eiddoch chwi.
(2, 2) 1751 Y mae i chwi groesaw: ond fy ewythr-dad, a'm modryb-fam, a gawsant eu twyllo.
 
(2, 2) 1753 Nid wyf yn orphwyllog ond i'r gogledd-ogledd-orllewin: pan fyddo y gwynt yn ddeheuol, mi adwaen hebog oddiwrth lawlif.
 
(2, 2) 1756 Gwrandewch, Guildenstern; a chwithau hefyd;—wrth bob clust boed gwrandawydd: y babi mawr hwna, a welwch yna, nid yw eto allan o'i gawiau.
 
(2, 2) 1758 Mi a brophwydaf, mai wedi dyfod i ddweud wrthyf yn nghylch y chwareuwyr; sylwch chwi.—
(2, 2) 1759 Yr ydych yn dweud yn gywir, syr: ar ddydd Llun y bore; y pryd hwnw yr oedd, yn wir.
 
(2, 2) 1761 Fy arglwydd, mae genyf newydd i'w ddweud wrthych chwi.
(2, 2) 1762 Pan oedd Rocius yn chwareuydd yn Rhufain,—
 
(2, 2) 1764 Pw, pw!
 
(2, 2) 1766 Yna daeth pob chwareuydd ar ei ful,—
 
(2, 2) 1769 O Jephthah, farnwr Israel!—y fath drysor oedd genyt ti!
 
(2, 2) 1771 Beth—
(2, 2) 1772 Un ferch deg, dim mwy, yr hon
(2, 2) 1773 A garai yn rhagorol.
 
(2, 2) 1776 Ai nid wyf yn iawn, yr hen Jephthah?
 
(2, 2) 1778 Na, nid yw hyna yn canlyn.
 
(2, 2) 1780 Wel, |Fel dygwyddai, Duw a wyddai|, ac yna, chwi wyddoch, |Dygwydd wnaeth y rhod, Fel yn debyg 'r oedd yn bod|,—
(2, 2) 1781 Y rhes gyntaf o'r gân dduwiolaidd [30] a ddengys i chwi ychwaneg; canys gwelwch, mae fy myrhâd yn dyfod.
 
(2, 2) 1783 Croesaw i chwi, feistri; croesaw oll:—
(2, 2) 1784 Mae yn dda genyf dy weled yn iach:—
(2, 2) 1785 Croesaw gyfeillion da.—
(2, 2) 1786 O hen ffrynd!
(2, 2) 1787 Beth, y mae dy wyneb yn sitrachog, er pan y gwelais di ddiweddaf; a wyt ti yn dyfod i fy marfu [31] yn Denmarc? —
(2, 2) 1788 Beth, fy arglwyddes a'm meistres ieuanc!
(2, 2) 1789 Myn eich rhïan, mae eich harglwyddesiaeth yn nês i'r nefoedd na phan eich gwelais ddiweddaf, o uchder clogsen.
(2, 2) 1790 Duw a baro nad yw eich llais, fel darn o aur didrain, wedi colli ei swn.—
(2, 2) 1791 Feistriaid, y mae i chwi groesaw bob un.
(2, 2) 1792 Ni a redwn iddi fel hebogiaid Frengig, ehedeg at unrhyw beth a welwn; ni a fynwn araeth yn union; de'wch, rho'wch i mi brawf o'ch medr: dewch araeth gyffrous.
 
(2, 2) 1794 Mi a'th glywais yn traddodi araeth unwaith, —ond ni chafodd ei chwareu erioed; neu, os cafodd, ddim mwy nag unwaith: canys nid oedd y chwareuaeth, yr wyf yn cofio, yn boddio y miliwn; dysglaid anhyfryd [32] oedd i'r lluaws: ond yr oedd (fel y derbyniais i hi, ac eraill, y rhai yr oedd eu barn, ar y cyfryw bynciau, yn gwaeddi yn uwch na'r eiddof finau), yn chwareuaeth ragorol; wedi ei ddosbarthu yn dda yn y golygfeydd, ei gosod i lawr gyda chymaint o wylder ag o gallineb.
(2, 2) 1795 Yr wyf yn cofio clywed un yn dweud nad oedd dim deiliach yn y llinellau, i wneud y mater yn flasus; na dim mater yn yr ymadroddion, a allai gyhuddo yr awdwr o fursendod; ond galwent ef yn ddull gonest, mor iachusol ag oedd o felus, ac yn llawer mwy prydferth na choeth.
(2, 2) 1796 Un araeth ynddi yr oeddwn yn ei hoffi yn benaf: ystori Aeneas wrth Dido ydoedd; ac yn y fan hono o honi yn neillduol, lle y mae yn son am laddiad Priam: os ydyw yn fyw yn eich cof, dechreuwch yn y llinell hon; gadewch i mi weled, gadewch i mi weled;—
(2, 2) 1797 ~
(2, 2) 1798 "Y gerwin Pyrrhus, fel Hyrcanaidd fwyst,"—
(2, 2) 1799 Nage, nid felly y mae; dechreua gyda Pyrrhus.
(2, 2) 1800 ~
(2, 2) 1801 "Y gerwin Pyrrhus,—ef, yr hwn yr oedd
(2, 2) 1802 Ei arfau duon, llawn mor dywyll a'i
(2, 2) 1803 Amcanion, a thra thebyg oedd i'r nos,—
(2, 2) 1804 Fan y gorweddai, ar ei frochus farch,—
(2, 2) 1805 Yn n awr ddiwynodd y gwynebpryd du,
(2, 2) 1806 Ofnadwy hwn, âg arfbaus fil mwy erch;
(2, 2) 1807 O'i ben i'w draed y mae yn hollol goch;
(2, 2) 1808 Ac wedi 'i ddwbio yn ddychrynllyd â
(2, 2) 1809 Gwaed tadau, mamau, merched, meibion; rhai
(2, 2) 1810 A bobwyd ac a doeswyd gyda yr
(2, 2) 1811 Heolydd deifiol, roddant fenthyg gwawl
(2, 2) 1812 Ormesol a damnedig, tuag at
(2, 2) 1813 Lofruddio'u harglwydd. Wedi 'i rostio mewn
(2, 2) 1814 Llid, tân, a'i ludio drosodd gyda gwaed
(2, 2) 1815 Ceuledig, ac â llygaid megys y
(2, 2) 1816 Carbuncl, yr uffernol Pyrrhus oedd
(2, 2) 1817 Yn ceisio 'r hen daid Priam;"—
(2, 2) 1818 Felly ewch yn mlaen.
 
(2, 2) 1861 Caiff fyned at yr eilliwr, gyda'th farf di.—
(2, 2) 1862 Atolwg, ewch yn mlaen:—
(2, 2) 1863 Mae efe am lamddawns, neu ystori anllad, onide y mae yn cysgu:—
(2, 2) 1864 Ewch chwi yn mlaen, deuwch at Hecuba.
 
(2, 2) 1867 Y frenines gudd?
 
(2, 2) 1890 Pob peth yn dda; mi a fynaf genyt lefaru y gweddill o hyn yn fuan.—
(2, 2) 1891 Fy arglwydd da, a wnewch chwi edrych fod y chwareuwyr yn cael pob cysur?
(2, 2) 1892 A ydych chwi yn clywed, ymddyger yn dda tuag atynt; canys hwynt-hwy ydynt grynodeb a byr groniclau o'r amser.
(2, 2) 1893 Byddai yn well i chwi gael beddargraff drwg ar ol marw, na chael eu hanair hwynt tra y byddoch byw.
 
(2, 2) 1895 Gwarchod pawb, ddyn, yn llawer gwell na hyny.
(2, 2) 1896 Ymddyger at bob dyn yn ol ei haeddiant, a phwy a ddianc heb ei fflangellu?
(2, 2) 1897 Ymddygwch tuag atynt yn ol eich hanrhydedd a'ch hurddas: po leiaf a haeddant, mwyaf o deilyngdod sydd yn eich caredigrwydd.
(2, 2) 1898 Cymerwch hwynt i fewn.
 
(2, 2) 1901 Dilynwch ef, gyfeillion; ni a wrandawn ar chwareuaeth yfory.—
(2, 2) 1902 A wyt ti yn clywed, hen gyfaill; a fedri di chwareu llofraddiaeth Gonzago?
 
(2, 2) 1904 Ni a'i mynwn nos yfory.
(2, 2) 1905 Chwi a allech, mewn angen, astudio araeth o ryw ddwsin neu un ar bymtheg o linellau, y rhai a roddwn i lawr, i'w gosod ynddi?
(2, 2) 1906 Onid allech?
 
(2, 2) 1908 O'r goreu.—
(2, 2) 1909 Canlynwch yr arglwydd hwna; a gwelwch na watwaroch ef.
 
(2, 2) 1912 Fy nghyfeillion da, mi a'ch gadawaf hyd y nos: croesaw i chwi i Elsinore.
 
(2, 2) 1915 Ië, felly, Duw a fyddo gyda chwi:—
(2, 2) 1916 Yn awr yr wyf yn unig. O y fath
(2, 2) 1917 Anfadyn a gwerinol gaethwas wyf!
(2, 2) 1918 Ai nid yw yn wrthuni, y gall y
(2, 2) 1919 Chwareuwr hwn, yn unig mewn rhyw ffug,
(2, 2) 1920 Neu freuddwyd nwyd, gyffroi ei enaid fel
(2, 2) 1921 Y myno ei fryd, fel, oddiwrth ei waith,
(2, 2) 1922 Y gwelwa 'i holl wynebpryd, dagrau yn
(2, 2) 1923 Ei lygaid ef, gorphwylledd yn ei drem,
(2, 2) 1924 Llais wedi troi, a'i holl deithi yn
(2, 2) 1925 Agweddu gyda ffurfiau 'n ol ei fryd.
(2, 2) 1926 A'r oll am ddim! Am Hecuba!
(2, 2) 1927 Beth yw Hecuba iddo, neu efe
(2, 2) 1928 I Hecuba, fel yr wylai yn ei chylch?
(2, 2) 1929 Beth a wnai ef pe b'ai yn meddu y
(2, 2) 1930 Cymelliad a'r anogaeth feddaf fi
(2, 2) 1931 I nwyd? Fe foddai yr esgynlawr â
(2, 2) 1932 Heillt ddagrau, ac fe holltai glust y bobl
(2, 2) 1933 Ag echrys araeth; gwnai 'n orphwyllog yr
(2, 2) 1934 Euogion, synai 'r dynion rhydd, a gwnai
(2, 2) 1935 Ddyrysu 'r anwybodus; ac yn wir
(2, 2) 1936 Brawychai gyneddf clust a llygaid pawb.
(2, 2) 1937 Eto myfi,
(2, 2) 1938 Rhyw ddwl a lleidiog-feddwl adyn wyf
(2, 2) 1939 Yn nychu, fel rhyw Ioan fyddo yn
(2, 2) 1940 Breuddwydio, heb ofalu am f' achos i,
(2, 2) 1941 Heb allu dweud un dim; dim, hyd yn nôd
(2, 2) 1942 Dros frenin, 'r hwn ar ei feddianau ac
(2, 2) 1943 Ei anwyl fywyd gwnaed dinystriad mawr
(2, 2) 1944 Melldigus. A wyf fi yn llwfrddyn, wys?
(2, 2) 1945 Pwy a'm geilw i'n ddyhiryn? hollta'm pen?
(2, 2) 1946 A dỳn fy marf, a'i daflu i'm gwyneb i?
(2, 2) 1947 A'm gwasga yn fy nhrwyn, neu roi i mi
(2, 2) 1948 Y celwydd yn fy ngwddf, mor ddwfn ag i
(2, 2) 1949 Fy ymysgaroedd? Pwy wna i mi hyn?
(2, 2) 1950 Ha!
(2, 2) 1951 Mi a'i cymerwn; canys nis gall fod
(2, 2) 1952 Nad wyf yn dyner, ac yn fyr o fustl
(2, 2) 1953 I wneuthur trais yn chwerw; neu, cyn hyn,
(2, 2) 1954 Pesgwn i holl farcutanod gwlad
(2, 2) 1955 A syrth y caethddyn hwn: O waedlyd, ac
(2, 2) 1956 Anlladaidd adyn! O ddideimlad, a
(2, 2) 1957 Thwyllodrus, trythyll, annaturiol adyn!
(2, 2) 1958 O! 'r fath ful ydwyf! Y mae hyn yn ddewr,
(2, 2) 1959 I mi, mab anwyl dad lofruddiwyd, ac
(2, 2) 1960 Sy 'n cael fy anog i ddialedd gan
(2, 2) 1961 Y nef ac uffern, orfod megys rhyw
(2, 2) 1962 Garnbutain, i ddilwytho 'm calon lawn
(2, 2) 1963 A geiriau, gyda syrthio i regu, fel
(2, 2) 1964 Budrogyn neu geginwas!
(2, 2) 1965 Ffei arno! pw! Yn nghylch fy menydd i!
(2, 2) 1966 Ymff! Wele, mi a glywais cyn hyn fod
(2, 2) 1967 Y creaduriaid euog hyn, wrth eistedd mewn
(2, 2) 1968 Chwareuaeth, wedi cael trwy gallder yr
(2, 2) 1969 Olygfa eu taro hyd yr enaid, fel
(2, 2) 1970 Yn union gwnaethant oddef eu dryg-waith;
(2, 2) 1971 Can's gwna llofruddiaeth, er nas medda ar
(2, 2) 1972 Un tafod, siarad mewn rhyw wyrthiol fodd.
(2, 2) 1973 Mi fynaf gael gan y chwareuwyr hyn
(2, 2) 1974 I chwareu rhywbeth fyddo'n debyg i
(2, 2) 1975 Lofruddiad fy hoff dad, o flaen fy ewythr:
(2, 2) 1976 Mi sylwaf ar ei wedd; a chwiliaf i'w
(2, 2) 1977 Archollion hyd y byw; os cilia 'n ôl,
(2, 2) 1978 Neu neidio, mi a wn fy llwybr i.
(2, 2) 1979 Yr ysbryd welais, gall mai'r diafol oedd:
(2, 2) 1980 Y diafol fedda allu i wisgo mwyn-
(2, 2) 1981 Agweddiad. Ïe, ac fe ddichon, o
(2, 2) 1982 Fy ngwendid, a fy mhrudd-glwyf (gan ei fod
(2, 2) 1983 Yn dra galluog âg ysbrydion o'r
(2, 2) 1984 Fath hyn),—ei fod yn ceisio 'm blino, er
(2, 2) 1985 Fy namnio; mi a fynaf dir fo gwell
(2, 2) 1986 Na hyn: y chwareu ydyw 'r peth; trwy hwn
(2, 2) 1987 Y caf gydwybod ddrwg y brenin, gwn.