Ciw-restr

Hamlet, Tywysog Denmarc

Llinellau gan Horatio (Cyfanswm: 234)

 
(1, 1) 25 Cyfeillion i'r tir hwn.
 
(1, 1) 36 O hono ddarn.
 
(1, 1) 38 A ymddangosodd heno eto 'r peth?
 
(1, 1) 48 Ust! ust! nid ymddangosa.
 
(1, 1) 53 Wel, eistedd wnawn i lawr, a chlywn pa beth
(1, 1) 54 Sydd gan Bernardo i'w ddyweyd am hyn.
 
(1, 1) 69 Yn debyg iawn:—
(1, 1) 70 Fy llenwi mae â braw a syndod erch.
 
(1, 1) 73 Beth ydwyt ti
(1, 1) 74 Ormesa ar yr amser hwn o'r nos
(1, 1) 75 Ac hefyd wisga 'r deg ryfelgar ffurf
(1, 1) 76 A wisgid gan Fawrhydi Denmarc gynt?
(1, 1) 77 Trwy nef tyngedaf di, ymddyddan gwna.
 
(1, 1) 80 Arosa, siarad: siarad, 'r wyf yn awr
(1, 1) 81 Yn dy dyngedu eto i siarad, gwna..
 
(1, 1) 88 Ger bron fy Nuw, nis gall'swn gredu hyn,
(1, 1) 89 Cyn i mi dderbyn y dystiolaeth wir,
(1, 1) 90 Deimladwy, gan fy llygad i fy hun.
 
(1, 1) 92 Y mae gan
(1, 1) 93 Debyced ag y ti, iti dy hun;
(1, 1) 94 Y cyfryw oedd yr arfau wisgai pan
(1, 1) 95 Ymladdai â'r ymgeisiol Norway gynt;
(1, 1) 96 'R un fath y gwgai, pan mewn rhysedd dig
(1, 1) 97 Ac gmledd dewr, y darfu daraw y
(1, 1) 98 Carllusgaidd Polack ar y rhew ys talm.
(1, 1) 99 Mae 'n rhyfedd.
 
(1, 1) 103 Pa fodd i feddwl am y peth, nis gwn;
(1, 1) 104 Ond fel tuedda 'm barn fy hun, mae hyn
(1, 1) 105 Yn rhagargoeli rhyw drychineb mawr.
 
(1, 1) 120 Hyn a allaf fi;
(1, 1) 121 O leiaf, felly dywed siffrwd. Ein
(1, 1) 122 Diwedda frenin, delw 'r hwn a ddaeth
(1, 1) 123 O fewn y fynud hon i'n gwydd, oedd, fel
(1, 1) 124 Y gwyddoch, wedi ei symbylu gan
(1, 1) 125 Y balch Fortinbras, o dir Norway draw—
(1, 1) 126 Yr hwn i frwydr roddes iddo her;
(1, 1) 127 Pan ddarfu Hamlet ddewr (canys felly gwneir,
(1, 1) 128 Yr ochr hon i'n byd, ei gyfrif ef,)
(1, 1) 129 Ladd Fortinbras, a hwnw, hefyd, trwy
(1, 1) 130 Seliedig amod. cadarnâol gan
(1, 1) 131 Ddeddf a herodraeth, a fforffediodd gyd-
(1, 1) 132 A'i fywyd, ei holl diroedd y rhai oedd
(1, 1) 133 Yn d'od yn feddiant i'r gorchfygwr dewr:
(1, 1) 134 Ar gyfer hyn, gosodwyd haner llawn
(1, 1) 135 Gan ein mwyn frenin; yr hwn haner i
(1, 1) 136 I etifeddiaeth Fortinbras, pe buasai ef
(1, 1) 137 Orchfygwr; fel wrth yr un amod a.
(1, 1) 138 Chytundeb i ei chadarnâu, y daeth
(1, 1) 139 Ei gyfran ef, i ddwylaw Hamlet; ac
(1, 1) 140 Yn awr, wych syr, mae yn ymddangos fod
(1, 1) 141 Yr ieuanc Fortinbras, yr hwn y sydd
(1, 1) 142 O ddewrder heb ei brofi, yn llawn o dân
(1, 1) 143 o fewn cyffiniau Norway, yma a thraw, '
(1, 1) 144 Yn codi rhestrau o wrolion heb
(1, 1) 145 « Berch'nogi tir, am fwyd a diod, äi
(1, 1) 146 Ryw ymgyrch benderfynol: yr hon sydd
(1, 1) 147 (Fel yr ymddengys i ein teyrnas ni,)
(1, 1) 148 I ddim ond adfeddianu, â llaw gref,
(1, 1) 149 A rhyw orfodaeth anorchfygol fawr
(1, 1) 150 Y tiroedd hyny gollwyd gau ei dad:
(1, 1) 151 A hyn, fel yr wyf fi yn tybied, yw
(1, 1) 152 Y prif resymau dros y cwbl oll,
(1, 1) 153 O'n darpariadau ni; a'r achos o
(1, 1) 154 Ein dyfal wyliadwriaeth; a phrif bwnc
(1, 1) 155 Y dirfawr frys, a'r cynwrf sy'n y tir.
 
(1, 1) 162 Brycheuyn yw, i gyffro ein meddwl ni.
(1, 1) 163 Yn nghyflwr uchaf, mwyaf pâlmaidd yr
(1, 1) 164 Hen Rufain, rywfaint cyn y cwympodd y
(1, 1) 165 Galluog Julius yr oedd beddau oll
(1, 1) 166 Yn prysur ymwagâu, a'r meirw geid
(1, 1) 167 Yn ysgrech ac oernadu 'n erch, o fewn
(1, 1) 168 Heolydd Rhufain, mewn amdoau oll,
(1, 1) 169 Fel rhagarwyddion o'r hyn oedd i dd'od.
(1, 1) 170 Pan yr oedd ser gyda llosgyrnau tân,
(1, 1) 171 A gwlith o waed, yn duo gwedd yr haul;
(1, 1) 172 A'r seren laith, ar bwys yr hon y saif
(1, 1) 173 Holl ymherodraeth Neifion ar ei hynt,
(1, 1) 174 Yn glaf fel pe buasai'n ddiwedd byd.
(1, 1) 175 Ac felly tebyg ragarwyddion o
(1, 1) 176 Erch ddygwyddiadau,—fel blaenredwyr yn
(1, 1) 177 Rhagflaenu tynged, ac yn hyfion dd'od
(1, 1) 178 Fel dechreu 'r ffawd ofnadwy sydd i fod,
(1, 1) 179 A ydyw'r nef a'r ddaear yn cyd-ddweud
(1, 1) 180 Wrth yr hinsoddau, a'n cydwladwyr ni.—
 
(1, 1) 182 Yn araf; gwelwch! eto mae yn d'od!
(1, 1) 183 Af draws ei lwybr, pe dinystriai fi,—
(1, 1) 184 Saf, ti ddrychiolaeth! os oes genyt lais,
(1, 1) 185 Neu lafar oll, ymddyddan â myfi:
(1, 1) 186 Os oes rhyw beth fo da, ag eisieu ei wneud
(1, 1) 187 Rydd it esmwythder, ac i minau hedd,
(1, 1) 188 Ymddyddan â mi:
(1, 1) 189 Os wyt yn gwybod tynged fawr dy wlad,
(1, 1) 190 Yr hyn, trwy ei ragwybod, elli ei
(1, 1) 191 Ragatal, O! ymddyddau di â mi.
(1, 1) 192 Neu, os wyt wedi claddu yn dy oes
(1, 1) 193 Ryw drysor yspeiliedig o fewn croth
(1, 1) 194 Y ddaear, am yr hyn y d'wedant hwy
(1, 1) 195 Y crwydrwch chwi ysbrydion wedi tranc,
 
(1, 1) 197 Mynega yn ei gylch:—gwna aros a
(1, 1) 198 Siarada.—Atal ef, Marcellus.
 
(1, 1) 200 Gwna, os na erys.
 
(1, 1) 202 Mae yma!
 
(1, 1) 211 Ac yna hedodd, fel rhyw euog beth
(1, 1) 212 Ar wys ddychrynllyd. Mi a glywais fod
(1, 1) 213 Y ceiliog, yr hwn sydd yn udgorn gwawr
(1, 1) 214 A'i uchel wddf a'i gân hirseiniog yn
(1, 1) 215 Deffroi duw 'r dydd, ac ar ei rybudd ef,
(1, 1) 216 Pa un ai yn y môr neu ynte'r tân,
(1, 1) 217 Neu 'r ddaear, neu yr awyr, cyfyd pob
(1, 1) 218 Rhyw ysbryd crwydrol a didrefn ì fyn'd
(1, 1) 219 I'w le ei hun: ac o wirionedd hyn
(1, 1) 220 Mae 'r gwrthddrych yma wedi rhoddi prawf.
 
(1, 1) 232 Mi glywais felly; coeliaf ef mewn rhan.
(1, 1) 233 Ond gwel, mae 'r bore yn ei ruddgoch wisg
(1, 1) 234 Yn rhodio dros y gwlith sydd ar y bryn
(1, 1) 235 I'r dwyrain draw: ein gwylfa torwn; ac,
(1, 1) 236 Yn ol fy nghyngor i, mynegwn beth
(1, 1) 237 A welsom ni y nos nodedig hon.
(1, 1) 238 I Hamlet ieuanc; canys mentrwn roi
(1, 1) 239 Fy mywyd, y gwna'r ysbryd hwn ag sydd
(1, 1) 240 Fud wrthym ni, lefaru wrtho ef:
(1, 1) 241 A ydych chwi 'n cydsynio î mi dd'weud
(1, 1) 242 Y cyfan wrtho, fel peth iawn i'n swydd,
(1, 1) 243 Ac angenrheidiol gan ein cariad ni?
 
(1, 2) 457 Henffych i'ch Arglwyddiaeth.
 
(1, 2) 461 Yr un, wyf fì
(1, 2) 462 Fy arglwydd, ac am byth eich ufudd was.
 
(1, 2) 470 Rhyw duedd grwydrol oedd, fy arglwydd da.
 
(1, 2) 479 Fy arglwydd, daethum i wel'd claddu 'ch tad.
 
(1, 2) 483 Aiê, fy arglwydd, yna rhaid ei bod
(1, 2) 484 Yn siŵr, yn dilyn gyda gradd o ffrwst.
 
(1, 2) 491 Yn mha le, f" arglwydd?
 
(1, 2) 494 Unwaith mi 'i gwelais— 'r oedd yn frenin da.
 
(1, 2) 498 Fy arglwydd, yr wyf fi yn meddwl im'
(1, 2) 499 Ei weled neithiwr.
 
(1, 2) 501 Fy arglwydd, gwel'd y brenin eich tad chwi.
 
(1, 2) 503 Eich syndod cymedrolwch, rhoddwch glust
(1, 2) 504 Wrandawgar, nes im' ddweud yr oll i chwi
(1, 2) 505 O'r mawr ddieithrwch hwn, o'r hyn y mae'r
(1, 2) 506 Boneddwyr hyn yn llygaid dyst.
 
(1, 2) 508 Dwy nos ynghyd, y boneddigion hyn,
(1, 2) 509 Marcellus a Bernardo, tra yr o'ent
(1, 2) 510 Ar wyliadwriaeth, pan yn nhrymder, ac
(1, 2) 511 Yn nghanol nos, a welsant yr un peth.
(1, 2) 512 Rhyw wrthddrych fel eich tad, yn arfog oll,
(1, 2) 513 O'r pen i'r traed, a ddenai ger eu bron,
(1, 2) 514 Ac â difrifol rodiad, araf a
(1, 2) 515 Breninol, elai heibio iddynt hwy;
(1, 2) 516 O flaen eu llygaid dychrynedig a
(1, 2) 517 Synedig-ofnus, cerddai ef dair gwaith,
(1, 2) 518 O fewn i hŷd ei ddulffon; [6] hwythau yn
(1, 2) 519 Ymdoddi bron i geulfa gan eu hofn,
(1, 2) 520 Mud-safent, heb ymddyddan dim âg ef.
(1, 2) 521 Hyn yma i mi, oedd yn ddieithrol iawn,
(1, 2) 522 A mynegasant im'; a minau eis
(1, 2) 523 Y drydedd nos, i wylio gyda hwynt.
(1, 2) 524 Fel y dywedent am yr amser bu
(1, 2) 525 A ffurf y peth, pob gair a ddaeth yn wir.
(1, 2) 526 Yr yspryd ddaeth;—eich tad adwaenwn i,
(1, 2) 527 Ac nid mwy tebyg yw y dwylaw hyn.
 
(1, 2) 529 Fy arglwydd, draw
(1, 2) 530 Ar yr esgynlawr, lle y gwyliem ni.
 
(1, 2) 532 Fy arglwydd, do; ond nid atebodd ddim;
(1, 2) 533 Ond unwaith, tybiais iddo godi ei ben,
(1, 2) 534 A pharotoi i symud, fel pe am
(1, 2) 535 Ymddyddan; ond pryd hwnw 'r ceiliog a
(1, 2) 536 Grochganodd; ar y sain ymgilio wnaeth
(1, 2) 537 Ar frys ì ffordd, a llwyr ddiflanodd hwnt
(1, 2) 538 O'n golwg ni.
 
(1, 2) 540 Fy anrhydeddus arglwydd, fel wy 'n fyw
(1, 2) 541 Mae 'n wir; a meddyliasom ei bod yn
(1, 2) 542 Ysgrifenedig yn ein dyled-swydd,
(1, 2) 543 I adael i chwi wybod hyn.
 
(1, 2) 552 Fy arglwydd, do; ei het i fyny oedd.
 
(1, 2) 554 Gwynebpryd mwy mewn gofid, nac mewn dig.
 
(1, 2) 556 Na, hynod welw oedd.
 
(1, 2) 558 Gwnai yn ddidor.
 
(1, 2) 560 Synasai chwi yn fawr.
 
(1, 2) 563 Tra y gallasai un
(1, 2) 564 A brys cymedrol gyfrif cant.
 
(1, 2) 566 Nid tra y gwelais i ef.
 
(1, 2) 569 Yr oedd, fel gwelais i
(1, 2) 570 Hi yn ei fywyd, yn arianaidd ddu.
 
(1, 2) 573 Mi ro'wn fy ngair y gwna.
 
(1, 4) 783 Y mae y gwynt yn ddeifiol a thra llym.
 
(1, 4) 785 Meddyliwyf fi;
(1, 4) 786 Ei bod yn fyr o haner nos.
 
(1, 4) 788 Yn wir? ni chlywais i, mae'n tynu at
(1, 4) 789 Yr amser pan y gwna yr ysbryd dd'od
(1, 4) 790 I rodio 'n ol ei arfer yn y lle.
 
(1, 4) 792 Pa beth, fy arglwydd, ydyw ystyr hyn?
 
(1, 4) 799 A ydyw yn arferiad.
 
(1, 4) 832 Fy arglwydd, gwelwch, y mae ef yn d'od.
 
(1, 4) 859 Amneidia i chwi fyned gydag ef,
(1, 4) 860 Fel pe b'ai ganddo ryw ddadguddiad i'w
(1, 4) 861 Fynegu ichwi, ar eich pen eich hun.
 
(1, 4) 865 Na, peidiwch myn'd, ar gyfrif yn y byd.
 
(1, 4) 867 Na, peidiwch, arglwydd.
 
(1, 4) 874 Beth os arweinia chwi tuag at y llif,
(1, 4) 875 Fy arglwydd, ynte i echryslawn ben
(1, 4) 876 Y clogwyn â fargoda at y môr?
(1, 4) 877 Ac yno wisgo rhyw ofnadwy ffurf,
(1, 4) 878 A'ch difeddiano o lywodraeth ar
(1, 4) 879 Eich reswm, nes eich hyrddio 'n gwbl i
(1, 4) 880 Orphwyllder. F' arglwydd, O! ystyriwch hyn.
(1, 4) 881 Mae 'r lle ei hun, yn rho'i dych'mygion o
(1, 4) 882 Anobaith yn mhob menydd, heb ddim mwy,
(1, 4) 883 Tra 'n edrych o'r fath uchder ar y môr,
(1, 4) 884 A chlywed ei ruadau yn mhell i lawr.
 
(1, 4) 888 Cyngorer chwi, nis cewch ddim myn'd yn wir.
 
(1, 4) 900 Mae 'n myn'd yn ffyrnyg, trwy ddychymyg certh.
 
(1, 4) 903 Canlynwn:—i ba ddiwedd y daw hyn?
 
(1, 4) 905 Y Nefoedd fawr a'i gesyd oll yn iawn.
 
(1, 5) 1055 Fy arglwydd, fy arglwydd,—
 
(1, 5) 1059 Y Nef a'i amddiffyno!
 
(1, 5) 1063 Holo, ho, ho, fy arglwydd!
 
(1, 5) 1068 Pa newydd, f' arglwydd?
 
(1, 5) 1070 Fy arglwydd da, mynegwch ef.
 
(1, 5) 1073 Yn enw 'r Nef, ni wnaf.
(1, 5) 1074 Fy arglwydd da.
 
(1, 5) 1082 Nid ydoedd raid.
(1, 5) 1083 I ysbryd godi f' arglwydd, o ei fedd,
(1, 5) 1084 I dd'wedyd hyn.
 
(1, 5) 1094 Rhyw eiriau gwylltion digysylltiad yw
(1, 5) 1095 Y rhai 'n, fy arglwydd.
 
(1, 5) 1099 Nid oes,
(1, 5) 1100 Fy arglwydd, ynddynt unrhyw dramgwydd.
 
(1, 5) 1111 Beth yw,
(1, 5) 1112 Fy arglwydd, gwnawn.
 
(1, 5) 1117 Yn wir, fy arglwydd, nis
(1, 5) 1118 Gwnaf fi.
 
(1, 5) 1132 Cynygiwch ffurf y llw,
(1, 5) 1133 Fy arglwydd.
 
(1, 5) 1151 O ddydd a nos! mae hyn yn ddyeithr iawn!