Ciw-restr

Hamlet, Tywysog Denmarc

Llinellau gan Polonius (Cyfanswm: 363)

 
(1, 2) 324 Oes, fy arglwydd; gwnaeth
(1, 2) 325 Ddirwasgu cenad o fy ngenau i
(1, 2) 326 Trwy grefu caled; ac, o'r diwedd, rho'is
(1, 2) 327 Ar ei ewyllys ef, fy sêl fy hun;
(1, 2) 328 Anfoddog fu 'r cydsyniad, ond yn awr,
(1, 2) 329 Atolwg wyf, rho'wch genad iddo i fyn'd.
 
(1, 3) 671 Ai yma fyth, Laertes? Dos i'r llong,
(1, 3) 672 I'r llong, rhag c'wilydd; canys mae y gwynt
(1, 3) 673 Yn eistedd ar ysgwyddau 'ch hwyl, a gwneir
(1, 3) 674 Am danat aros; bendith gyda thi;
 
(1, 3) 676 A'r 'chydig eiriau hyn gwna yn dy gof
(1, 3) 677 Eu hysgrifenu. I'th feddyliau di
(1, 3) 678 Na ddyro iaith, ac hefyd paid a throi
(1, 3) 679 Un meddwl cas i fod yn weithred byth.
(1, 3) 680 Bydd yn gyfeillgar, nid yn isel chwaith.
(1, 3) 681 Cyfeillion fyddo genyt, ag y gwneist
(1, 3) 682 Eu cariad brofi, ymafael ynddyut wrth
(1, 3) 683 Dy enaid gyda bachau dur, ond na
(1, 3) 684 Ddiwyna'th law trwy roddi croesaw i
(1, 3) 685 Bob 'deryn newydd-ddeor a di-blyf.
(1, 3) 686 Ymochel rhag myn'd i ymryson; ond,
(1, 3) 687 Os byddi mewn un, ymddwyn fel y bo
(1, 3) 688 Dy wrthwynebydd yn dy ofni di.
(1, 3) 689 Rho i bob un dy glust, dy lais i neb,
(1, 3) 690 Derbynia gerydd pawb, ond cadw 'th farn.
(1, 3) 691 Boed gwerth dy wisg, yn ol a bryno 'th bwrs,
(1, 3) 692 Ond nid yn ol dychymyg; gwerthfawr, nid
(1, 3) 693 Yn goeg; can's mynych dengys gwisg y dyn;
(1, 3) 694 A hwy yn Ffrainc, o oreu ystad a gradd,
(1, 3) 695 Ynt dra dewisol a godidog—yn
(1, 3) 696 Hynyma, maent yn wir yn benaf dim.
(1, 3) 697 Nac arfer echwyn, na ddod fenthyg chwaith;
(1, 3) 698 Gwna'r benthyg [7] fynych golli ei hun a'r ffrynd,.
(1, 3) 699 Ac echwyn byla fin cynildeb doeth.
(1, 3) 700 Uwchlaw pob dim,—bydd ffyddlawn it' dy hun,
(1, 3) 701 Dilynir hyn, fel nos yn dilyn dydd,
(1, 3) 702 Nas gelli fod yn ffals i unrhyw ddyn.
(1, 3) 703 Ffarwel! fy mendith wreiddio hyn o'th fewn.
 
(1, 3) 706 Yr amser eilw, dos.
(1, 3) 707 Mae 'th weision bellach yn dy ddysgwyl di.
 
(1, 3) 714 Pa beth, Ophelia, a ddwedodd wrthych chwi?
 
(1, 3) 717 Pur feddylgar yw
(1, 3) 718 Y peth, yn wir: dywedwyd wrthyf fi
(1, 3) 719 Ei fod ef yn ddiweddar yn bur aml
(1, 3) 720 Yn treulio amser gyda chwi; a'ch bod
(1, 3) 721 O'ch clustwrandawiad yn dra rhydd a hael:
(1, 3) 722 Os felly, (fel y d'wedir wrthyf fi,
(1, 3) 723 Mewn ffordd o rybudd,) rhaid im' ddweud nad y'ch
(1, 3) 724 Yn deall mo eich hunan yn rhy glir,
(1, 3) 725 Fel gweddai i fy merch, a'ch henw da:
(1, 3) 726 Pa beth sydd rhyngoch? rho'wch i mi y gwir.
 
(1, 3) 729 Serch? pw! siaradwch fel genethig ffol,
(1, 3) 730 Ddibrofiad yn y fath amgylchiad dwys:
(1, 3) 731 A y'ch chwi yn credu ei gynygion ef,
(1, 3) 732 Fel gelwch hwynt?
 
(1, 3) 735 Ha! felly 'n siwr! mi'ch dysgaf chwi:
(1, 3) 736 Meddyliwch mai rhyw faban ydych, am
(1, 3) 737 Ich' dderbyn y cynygion fel aur da,
(1, 3) 738 A hwythau ddim yn fathol.. Wele gwnewch
(1, 3) 739 Gynygiaw eich hunan dipyn yn fwy drud;
(1, 3) 740 Ac onidê (heb dori gwynt 'r hen air,
(1, 3) 741 Trwy im' ei gamddefnyddio ef fel hyn),
(1, 3) 742 Chwychwi a wnewch gynygiaw, i mi ffŵl.
 
(1, 3) 745 A "dull" y gelwch ef, i ffordd, i ffordd.
 
(1, 3) 748 O ïe, maglau i ddal ceiliogod coed.
(1, 3) 749 Gwn, pan fo'r gwaed yn boeth, mor barod yw
(1, 3) 750 Yr enaid i roi addunedau i
(1, 3) 751 Y tafod: am y ffaglau hyn, fy merch,
(1, 3) 752 Sy 'n rhoddi mwy o oleu, nag o wres,—
(1, 3) 753 Ac a ddiffoddant hyd yn nod yn yr
(1, 3) 754 Addewid, cystal ag mewn gweithred,—ni
(1, 3) 755 Wna 'r tro i chwi eu derbyn yn lle tân.
(1, 3) 756 O'r adeg yma byddwch yn fwy prin
(1, 3) 757 O'ch presenoldeb gwiw-wyryfaidd, a
(1, 3) 758 Rho'wch bris fo uwch ar eich cwmnïaeth na
(1, 3) 759 Dymuniad i ymgomio gyda'r gŵr.
(1, 3) 760 Am f' arglwydd Hamlet, credwch yn ei gylch,
(1, 3) 761 Hynyma, sel, Ei fod yn ieuanc, ac
(1, 3) 762 Y gall ef rodio gyda thenyn hŵy
(1, 3) 763 Nag â gewch chwi; yn fyn Ophelia, na
(1, 3) 764 Ro'wch gred i un o'i addewidion ef:
(1, 3) 765 Llateïon ydynt hwy, heb fod o'r fath.
(1, 3) 766 Ddangosir gan eu gwisgiad, dim ond rhyw
(1, 3) 767 Ymbilwyr drygiawn, am anniwair gais,
(1, 3) 768 Anadlant ffug-adduned santaidd a
(1, 3) 769 Duwiolaidd, fel y gallont dwyllo yn well.
(1, 3) 770 Hynyma am y cwbl,—Ni fynwn i,
(1, 3) 771 Mewn geiriau plaen, i chwi o'r amser hwn,
(1, 3) 772 Warthruddo un hamddenol foment i
(1, 3) 773 Roi un ymddyddan na chael geiriau â
(1, 3) 774 Fy arglwydd Hamlet; gofalwch chwi am hyn,
(1, 3) 775 'R wyf fi yn eich tyngedu; de'wch i ffordd.
 
(2, 1) 1193 Rho'wch iddo 'r arian a'r llythyrau hyn,
(2, 1) 1194 Reynaldo.
 
(2, 1) 1196 Chwi wnaech
(2, 1) 1197 Yn hynod ddoeth, Reynaldo, cyn ei wel'd,
(2, 1) 1198 I holi am ei ddull.
 
(2, 1) 1201 Yn wir, da yr y'ch
(2, 1) 1202 Yn d'wedyd: pur dda dywedwch chwi.
(2, 1) 1203 Edrychwch, syr, ymholwch gyntaf oll
(2, 1) 1204 Pa Ddaniaid sydd yn Paris; a pha ddull
(2, 1) 1205 A phwy, pa foddion, p' le y maent yn byw,
(2, 1) 1206 Pa gwmni, a pheth yw eu treulion; a
(2, 1) 1207 Chan gael, trwy 'r pethau amgylchynog hyn,
(2, 1) 1208 Eu bod mewn cydnabyddiaeth â fy mab,—
(2, 1) 1209 De'wch felly yn agosach nag y gwna
(2, 1) 1210 Eich neges benaf oddef, i chwi dd'od.
(2, 1) 1211 Gwnewch ffugio, megys, ryw wybodaeth bell
(2, 1) 1212 Am dano, megys, |Adwaen i ei dad,
(2, 1) 1213 Ei berthynasau, ac ei hun mewn rhan|;—
(2, 1) 1214 A ydych chwi, Reynaldo, 'n gweled hyn?
 
(2, 1) 1216 |"Ac ef mewn rhan;"— ond|, chwi a ellwch ddweud,
(2, 1) 1217 |Ond os yw ef yr un a dybiaf fi|,
(2, 1) 1218 |Mae'n hynod wyllt, a gwna fel hyn a'r llall|;—
(2, 1) 1219 A rhoddwch arno y fath ffugion ag
(2, 1) 1220 A fynoch, ond er hyny, dim mor ddrwg
(2, 1) 1221 Ac i'w anmharchu;—hyn gochelwch chwi;
(2, 1) 1222 Awgrymwch, syr, y fath lithriadau ffol,
(2, 1) 1223 Masweddol, ac arferol i ieuenctyd a
(2, 1) 1224 Phenrhyddid.
 
(2, 1) 1226 Ië,
(2, 1) 1227 Neu yfed, ymgleddyfu, tyngu, neu
(2, 1) 1228 Gweryla, neu ymlochi â phuteiniaid, hyd
(2, 1) 1229 Hynyna gellwch fyn'd.
 
(2, 1) 1232 Na wnai'n wir:
(2, 1) 1233 Chwi ellwch ei dymheru pan yn gwneud
(2, 1) 1234 Y cyhuddiadau. Ni raid i chwi ro'i
(2, 1) 1235 Difrïad arall arno, nac ei fod
(2, 1) 1236 Yn arfer anniweirdeb; hyn nid yw
(2, 1) 1237 Fr meddwl: ond anedlwch chwi ei fai
(2, 1) 1238 Mor goeg, ag yr ymddengys pob rhyw beth
(2, 1) 1239 Yn fwy fel rhyddid gwyllt, ac megys fflam
(2, 1) 1240 Neu doriad allan meddwl llawn o dân;
(2, 1) 1241 Gwylltineb gwaed heb gael ei ddofi âg
(2, 1) 1242 Ymruthrad cyffredinol.
 
(2, 1) 1244 Paham y gwnelech hyn?
 
(2, 1) 1247 Yn wir, syr,
(2, 1) 1248 Dyma 'm hamcan; a gwir gredu 'r wyf ei fod
(2, 1) 1249 Yn dwyll a gyfiawneir; chwychwi yn rho'i
(2, 1) 1250 Y brychau ysgeifn hyny ar fy mab,
(2, 1) 1251 Fel peth a fo'n llychwino yn eí waith.
(2, 1) 1252 Ac hefyd manwl sylwch ar y gŵr
(2, 1) 1253 Yr hwn a fynech blymio, welodd ef
(2, 1) 1254 Y llanc a nodwch yn y beiau hyn?
(2, 1) 1255 Ac os yn euog, sicr y gellwch fod
(2, 1) 1256 Y cewch eich hanerch yn y geiriau hyn, —
(2, 1) 1257 |Wych syr|, neu |gyfaill|, neu |foneddwr gwiw|,
(2, 1) 1258 Fd yr arferir d'weud nen odid â
(2, 1) 1259 |Gŵr da|, neu ynte, |fy nghydwladwr gwych|.
 
(2, 1) 1261 Ac yna, syr, efe a wna hyn,—
(2, 1) 1262 Efe a wna.—
(2, 1) 1263 Beth yr oeddwn yn myned i'w ddweud?
(2, 1) 1264 Myn yr offeren, yr oeddwn yn myned i ddweud rhywbeth.
(2, 1) 1265 Ymha le y gadewais?
 
(2, 1) 1267 Eich hanerch yn y geiriau hyn,—Ië 'n siŵr;
(2, 1) 1268 Anercha chwi fel hyn ,— |Mi adwaen y|
(2, 1) 1269 |Boneddwr, doe neu echdoe gwelais ef|,
(2, 1) 1270 |Neu'r pryd a'r pryd, neu'r amser hwn neu'r llall|,
(2, 1) 1271 |A chyda hwn a hwn a'r lle a'r lle|;
(2, 1) 1272 |Hapchwareu 'r oedd; neu yn y fan a'r fan|
(2, 1) 1273 |Yn feddw fawr; neu yn ymgecru yn nghylch|
(2, 1) 1274 |Y tennis; neu, fel dichon fod, myfi|
(2, 1) 1275 |A'i gwelais ef yn myn'd i dŷ amheus|
(2, 1) 1276 (Hyn ydyw putein-dŷ), |neu felly ymlaen|.
(2, 1) 1277 A welwch chwi yn awr; mae 'ch abwyd ffug
(2, 1) 1278 Yn gwisgo nodwedd yr abwydyn gwir.
(2, 1) 1279 Fel hyn trwy gynllwyn a doethineb dwfn,
(2, 1) 1280 A dyrwynlathau, [14] ac â phrofion [15] gŵyr,
(2, 1) 1281 Unochrog, trwy anuniongyrchedd cawn
(2, 1) 1282 Yr uniongyrchol allan; felly, trwy
(2, 1) 1283 Fy araeth i a'm cyngor hwn a gewch
(2, 1) 1284 Fy mab i'r goleu: 'n awr yr ydych yn
(2, 1) 1285 Fy neall, onid ydych?
 
(2, 1) 1287 Duw fyddo gyda chwi, a byddwch wych.
 
(2, 1) 1289 A chofiwch sylwi ar
(2, 1) 1290 Ei dueddiadau drosoch chwi eich hun.
 
(2, 1) 1292 A bydded iddo ef ei hun
(2, 1) 1293 I ffurfio 'r miwsic [16] gyda geiriau 'r gân.
 
(2, 1) 1297 Dydd da!—pa fodd y mae Opheli»? beth
(2, 1) 1298 Yw 'r mater?
 
(2, 1) 1301 A pha beth,
(2, 1) 1302 Yn enw'r nef?
 
(2, 1) 1314 Yn ynfyd am dy serch?
 
(2, 1) 1317 Pa beth a dd'wedodd ef?
 
(2, 1) 1336 Tyrd gyda mi; myfi a geisiaf wel'd
(2, 1) 1337 Y brenin; dyma wir berlewyg serch;
(2, 1) 1338 Yr hwn y mae ei duedd ffyrnig ef
(2, 1) 1339 Yn llwyr ddyfetha ei hun; gan arwain yr
(2, 1) 1340 Ewyllys i'r eithafion mwyaf erch,
(2, 1) 1341 Mor fynych ag un nwyd o dan y nef,
(2, 1) 1342 A flina 'n natur ni. Drwg genyf hyn,—
(2, 1) 1343 Pa beth, a roisoch iddo eiriau cas,
(2, 1) 1344 Ei fod yn ymddwyn atoch chwi fel hyn?
 
(2, 1) 1348 Hynyna a'r gwnaeth yn ynfyd. Drwg yn wir
(2, 1) 1349 Yw genyf fi, na wnaethom â gwell pwyll
(2, 1) 1350 A barn, ei ddeall ef, ond ofni wnes
(2, 1) 1351 Nad oodd ond chwareu, ac yn meddwl dy
(2, 1) 1352 Andwyo; ond, rheg i'm drwgdybiaeth! mae 'n
(2, 1) 1353 Ymddangos ei fod mor dueddol i'm hoed ni,
(2, 1) 1354 I fyned yn ein tybiau yn rhy bell,
(2, 1) 1355 Ag yw 'n gyffredin i ieuengaidd rai
(2, 1) 1356 I fod heb bwyll. Tyr'd, ni a gerddwn at
(2, 1) 1357 Y brenin, rhaid hysbysu hyn; can's os
(2, 1) 1358 Ei gelu wnawn, gall beri mwy o ddrwg
(2, 1) 1359 Nac yw y casedd o amlygu serch.
(2, 1) 1360 Tyred.
 
(2, 2) 1421 Mae 'n negesyddion ni, fy arglwydd da,
(2, 2) 1422 O Norway 'n llawen, wedi d'od yn ôl.
 
(2, 2) 1424 A fum i, f' arglwydd? 'R wyf yn sicrâu
(2, 2) 1425 I chwi, benadur da, fy mod i yn
(2, 2) 1426 Dal fy nyledswydd, fel y daliaf fi
(2, 2) 1427 Fy enaid, sef i'm Duw a'm grasol deyrn;
(2, 2) 1428 A meddwl 'rwyf (os nad yw 'r menydd hwn
(2, 2) 1429 Yn dilyn ôl achosion mor ddiffael;
(2, 2) 1430 Ag yr arferai) fy mod wedi cael
(2, 2) 1431 Yr achos o orphwyllder Hamlet y pryd hwn.
 
(2, 2) 1434 Rhoddwch chwi yn gyntaf oll
(2, 2) 1435 Dderbyniad i'r cenadau; a'm newydd i
(2, 2) 1436 Gaiff fod yn ffrwyth [17] ar ol eu gorwledd hwynt
 
(2, 2) 1488 Y gorchwyl hwn ga'dd ei ddiweddu 'n dda.
(2, 2) 1489 Benadur, a rhïanes, byddai myn'd
(2, 2) 1490 I ymresymu beth a ddylai fod
(2, 2) 1491 Breniniaeth, beth yw dyledswyddau, pa'm
(2, 2) 1492 Mae dydd yn ddydd, a nos yn nos, ac amser
(2, 2) 1493 Yn amser yn gwastraffu nos, a dydd,
(2, 2) 1494 Ac amser. Felly, gan mai byrder yw
(2, 2) 1495 Enaid arabedd, nid yw meithder ond
(2, 2) 1496 Cangenau ac allanol wisg,—myfi
(2, 2) 1497 A fyddaf fyr: eich mab ardderchog sydd
(2, 2) 1498 Orphwyllog: ïe gorphwyllog galwaf ef;
(2, 2) 1499 Can's i egluro gwir orphwylledd, beth
(2, 2) 1500 Yw hyny yn amgenach na bod yn
(2, 2) 1501 Orphwyllog; ond gadawn i hyny fod.
 
(2, 2) 1503 Fy rhïan, tyngaf nad wy 'n arfer dim
(2, 2) 1504 Celfyddyd; ei fod yn ynfyd sydd
(2, 2) 1505 Yn wir, mae 'n wir, a gwir gresynus yw,
(2, 2) 1506 A gwir resynus yw ei fod yn wir.
(2, 2) 1507 Mae hwn yn ffigur ffol; Ffarwel, dim twyll.
(2, 2) 1508 Ei fod yn ynfyd, ynte, caniatâwn;
(2, 2) 1509 Yn awr, mae 'n aros i ni allan gael
(2, 2) 1510 Yr achos gwir, i'r effaith [18] hynod hwn,
(2, 2) 1511 Neu'n hytrach, d'wedwch chwi, yr achos o
(2, 2) 1512 Y diffyg [18] hwn; can's mae yr effaith, gan
(2, 2) 1513 Ei fod yn ddiffyg, wedi tarddu o ryw
(2, 2) 1514 Wir achos: dyma fel yr erys, a
(2, 2) 1515 Hyn ydyw 'r gweddill.
(2, 2) 1516 Ystyriwch hyn yn ddwys:
(2, 2) 1517 Mae genyf ferch; mae genyf, tra y bo
(2, 2) 1518 Yn eiddof fi; yr hon, o'i dyled a'i
(2, 2) 1519 Hufudd-dod, sylwch, roddodd i mi hwn:
(2, 2) 1520 Yn awr gwnewch gasglu a dyfalu 'n deg.
(2, 2) 1521 |At y nefolaidd, ac eilun fy enaid, y brydferthedig Ophelia|,
(2, 2) 1522 Dyna ymadrodd drwg, ymadrodd gwael; |prydferthedig| sydd ymadrodd gwael; ond chwi gewch glywed:—
(2, 2) 1523 Fel hyn, —
(2, 2) 1524 |Yn ei godidog fynwes wên, y pethau hyn, etc
 
(2, 2) 1526 Aroswch beth, fy rhïan; byddaf fi
(2, 2) 1527 Yn gywir.
 
(2, 2) 1529 |Amau fod y ser yn dân|,
(2, 2) 1530 |Amau dori'r wylaidd wawr|,
(2, 2) 1531 |Amau'r gwir, fel celwydd glân|,
(2, 2) 1532 |Byth nac amau 'm cariad mawr|.
(2, 2) 1533 |O Ophelia anwyl! yr wyf yn syfrdanllyd gyda'r penillton hyn; nid oes genyf fedr i gyfrif fy ocheneidiau; ond fy mod yn dy garu yn oreu, O yn dra goreu, cred|.
(2, 2) 1534 |Ffarwel|.
(2, 2) 1535 |Yr eiddot am byth, foneddiges dra anwyl, tra y mae y peiriant hwn yn eiddo, HAMLET|.
(2, 2) 1536 ~
(2, 2) 1537 Hyn, mewn ufudd-dod, ddarfu i fy merch
(2, 2) 1538 Ei ddangos imi, a llawer mwy na hyn;
(2, 2) 1539 Bu i'w ymbiliau, fel y delent hwy
(2, 2) 1540 I'r golwg trwy amserau, moddion, lle,
(2, 2) 1541 Cyn hyn, fel ffrwd ymdywallt i fy nghlust.
 
(2, 2) 1543 Pa fodd meddyliwch chwi am danaf fi?
 
(2, 2) 1545 Mi fynwn felly fod. Er hyn pa beth
(2, 2) 1546 Feddyliech, pan y gwelais i 'r serch twymn
(2, 2) 1547 Ar chwim adenydd (fel y gwelais i
(2, 2) 1548 Cyn i mi gael ei glywed gan fy merch;
(2, 2) 1549 Mae 'n hollol iawn, hysbysu hyn i chwi), —
(2, 2) 1550 Beth feddyliasech chwi, neu ynte ei
(2, 2) 1551 Mawrhydi y frenines anwyl, pe
(2, 2) 1552 Buaswn i, yn chwareu yna yr
(2, 2) 1553 Ysgrifgist neu y tabl-lyfr; [19] neu roi
(2, 2) 1554 Fy nghalon ar lawn waith, yn fud, ddi-glyw;
(2, 2) 1555 Neu wel'd â golwg swrth y cariad hwn;—
(2, 2) 1556 Beth feddyliasech? Na, fe aethum i
(2, 2) 1557 Ar fyr i'r gwaith, ac â'r feistresan fach,
(2, 2) 1558 Ieuengaidd, y siaredais i fel hyn,—
(2, 2) 1559 "Mae arglwydd Hamlet yn dywysog, sydd
(2, 2) 1560 O radd uwchlaw dy gylch; ni chaiff hyn fod:"
(2, 2) 1561 Ac yna rhois orchmynion iddi hi,
(2, 2) 1562 Am gloi ei hun, rhag iddo dd'od i'w gwydd,
(2, 2) 1563 Heb dderbyn un negesydd, nac ychwaith
(2, 2) 1564 Anrhegion. Hyn, pan roddais iddi, a
(2, 2) 1565 Gymerodd ffrwyth fy nghyngor; ynteu wrth
(2, 2) 1566 Wel'd gael ei wrthod (i wneud 'stori fêr),
(2, 2) 1567 A syrthodd gyntaf oll i dristwch; yna i
(2, 2) 1568 Ymprydio; ac i wylio; wedi hyn
(2, 2) 1569 I wendid; wed'yn i ysgafnder gwag;
(2, 2) 1570 A thrwy y treigliad hwn, fe gwympodd i'r
(2, 2) 1571 Gorphwylledd yn yr hwn y mae yn awr,
(2, 2) 1572 A'r hwn o'i herwydd y galarwn ni.
 
(2, 2) 1575 A fu rhyw dro
(2, 2) 1576 (Dymunwn wybod hyn) pan dd'wedais i,
(2, 2) 1577 "Efelly mae," na fu yn ol fy ngair?
 
(2, 2) 1579 Gymerwch hwn oddiwrth
(2, 2) 1580 Hwn yma, os fel arall mae yn bod.
 
(2, 2) 1582 Os bydd i amgylchiadau f' arwain i,
(2, 2) 1583 Myfi a ddeuaf hyd i'r lle y bo
(2, 2) 1584 Gwirionedd wedi 'i gelu, er iddo 'n wir
(2, 2) 1585 Fod yn geledig yn y dyfnder cudd.
 
(2, 2) 1588 Chwi a wyddoch, ambell dro
(2, 2) 1589 Ei fod yn rhodio am bedair awr yn nghyd,
(2, 2) 1590 O fewn y cyntedd hwn.
 
(2, 2) 1593 Ac ar yr adeg hon fe gaiff fy merch
(2, 2) 1594 Ollyngdod ato; byddwch chwi a mi 'n
(2, 2) 1595 Ymguddio tan y groglen eang hon,
(2, 2) 1596 A sylwn ar eu cyfarfyddiad hwynt,
(2, 2) 1597 Os nad yw yn ei charu, ac nad hyn
(2, 2) 1598 Fu'r achos iddo gwympo odd ei bwyll,
(2, 2) 1599 Na foed im' byth gael llais yn ngwaith y llys,
(2, 2) 1600 Ond cadw fferm, a chyda certwyr fod.
 
(2, 2) 1606 I ffordd, dymunaf ichwi; ewch eich dau
(2, 2) 1607 I ffordd, mi a'i cyfarchaf ef cyn hir,
(2, 2) 1608 O rhowch im' ganiatâd.
 
(2, 2) 1610 Pa fodd y mae
(2, 2) 1611 Fy Arglwydd Hamlet?
 
(2, 2) 1613 A ydych chwi yn fy adnabod i,
(2, 2) 1614 Fy arglwydd?
 
(2, 2) 1617 F' arglwydd, nac wyf fi.
 
(2, 2) 1620 Gonest, fy arglwydd?
 
(2, 2) 1622 Mae hyna yn bur wir, fy arglwydd.
 
(2, 2) 1625 Oes, fy arglwydd.
 
(2, 2) 1627 Beth a ddywedaf fi am hyn?
 
(2, 2) 1629 O hyd yn siarad am fy merch.
(2, 2) 1630 Eto nid adwaenodd fi ar y cyntaf; dywedodd mai gwerthwr pysgod oeddwn: mae wedi myned yn bur bell, yn bur bell: ac mewn gwirionedd, yn fy ieuenctyd dyoddefais inau lawer o galedi er mwyn cariad: yn bur agos gymaint a hyn.
(2, 2) 1631 Mi a siaradaf âg ef eto.—
(2, 2) 1632 Beth yr ydych yn ei ddarllen, fy arglwydd?
 
(2, 2) 1634 Beth yw y mater, fy arglwydd?
 
(2, 2) 1636 Dyna yr wyf yn feddwl, y mater yr ydych yn ei ddarllen, fy arglwydd.
 
(2, 2) 1641 Er fod hyn yn orphwylledd, eto mae trefn yn perthyn iddo.
 
(2, 2) 1643 A ddeuwch chwi o'r gwynt, fy arglwydd?
 
(2, 2) 1645 Yn wir, byddai hyny o'r gwynt.—
(2, 2) 1646 Mor lawn o ystyr yw ei atebion weithiau! yr hapusrwydd y mae gorbwylledd, yn fynych, yn taro arno! tra nas gallai rheswm ac iawn bwyll fod yn alluog i lefaru mor lwyddianus.
(2, 2) 1647 Mi a'i gadawaf, ac a ymdrechaf yn union i gael moddion i gyfarfod rhyngddo ef a fy merch.—
(2, 2) 1648 Fy arglwydd anrhydeddus, mi a wnaf, yn ostyngedig, ganu'n iach a chwi.
 
(2, 2) 1650 Byddwch wych, fy arglwydd.
 
(2, 2) 1653 A ydych chwi yn myn'd i chwilio am
(2, 2) 1654 Yr arglwydd Hamlet? wele, dyna fe.
 
(2, 2) 1755 Boed yn dda gyda chwi, foneddigion.
 
(2, 2) 1760 Fy arglwydd, mae genyf newydd i'w ddweud wrthych.
 
(2, 2) 1763 Mae y chwareuwyr wedi dyfod yma, fy arglwydd,
 
(2, 2) 1765 Ar fy anrhydedd,—
 
(2, 2) 1767 Y chwareuwyr goreu yn y byd, naill ai am bruddchwareu, gwawdchwareu, hanesiaeth, bugeilgerdd, bugeilgerddol-gwawd-chwareuol, hanesiol-bugeilgerddol, pruddchwareuol- hanesiol, pruddchwareuol-gwawdchwareuol-hanesiol-bugeilgerddol, golygfa anrhanadwy, neu gân ddiderfyn: nis gall Seneca fod yn rhy drwm, na Plautus yn rhy ysgafn.
(2, 2) 1768 Am gyfraith ysgrifen, ac am y rhyddid. dyma yr unig ddynion.
 
(2, 2) 1770 Pa drysor oedd ganddo, fy arglwydd?
 
(2, 2) 1775 Fyth yn nghylch fy merch.
 
(2, 2) 1777 Os ydych yn fy ngalw i yn Jephthah, fy arglwydd, y mae genyf fi ferch, yr wyf yn ei charu yn anwyl.
 
(2, 2) 1779 Beth sydd yn canlyn ynte, fy arglwydd?
 
(2, 2) 1819 Ger bron fy Nuw, fy arglwydd, dyna siarad yn rhagorol; âg aceniad a phwyll da.
 
(2, 2) 1860 Mae hwn yn rhy hir.
 
(2, 2) 1868 Mae hyna yn dda; Brenines gudd, sydd dda.
 
(2, 2) 1888 Sylwch, os nad yw wedi troi ei liw, ac â dagrau yn ei lygaid.—
(2, 2) 1889 Atolwg i ti, dim ychwaneg.
 
(2, 2) 1894 Fy arglwydd, mi a'u triniaf hwynt yn ol eu haeddiant.
 
(2, 2) 1899 De'wch syrs.