Ciw-restr

Hamlet, Tywysog Denmarc

Llinellau gan Rosencrantz (Cyfanswm: 28)

 
(2, 2) 1399 Gallasai eich mawrhydi, eich dau,
(2, 2) 1400 Trwy yr awdurdod goruchelaidd a
(2, 2) 1401 Feddienwch arnom ni, amlygu eich
(2, 2) 1402 Hewyllys chwi 'n fwy mewn gorchymyn nag
(2, 2) 1403 Mewn ymbil.
 
(2, 2) 1656 Duw a'ch cadwo, syr.
 
(2, 2) 1659 Fy anwylaf arglwydd!—
 
(2, 2) 1664 Fel dibwys blant y ddaear.
 
(2, 2) 1669 Yr un o'r ddau, fy arglwydd.
 
(2, 2) 1675 Dim, fy arglwydd, ond fod y byd wedi troi yn onest.
 
(2, 2) 1682 Yna y mae y byd yn un.
 
(2, 2) 1684 Nid ydym ni yn meddwl felly, fy arglwydd.
 
(2, 2) 1686 Yna ynte eich huchelfrydedd sydd yn ei wneuthur yn un: mae yn rhy gyfyng i'ch meddwl.
 
(2, 2) 1690 Gwir, ac yr wyf fi yn dal fod uchelfrydedd o ansawdd mor awyrol ac ysgafn, fel nad yw ond cysgod, cysgod.
 
(2, 2) 1696 Ymweled â chwi, fy arglwydd; dim neges arall.
 
(2, 2) 1706 I ba ddyben, fy arglwydd?
 
(2, 2) 1710 Beth a ddywedwch chwi?
 
(2, 2) 1719 Fy arglwydd, nid oes dim o'r fath sothach yn fy meddyliau i.
 
(2, 2) 1721 Wrth feddwl, fy arglwydd, os nad ydych yn ymhyfrydu mewn dyn, y fath groesaw prin a dderbynia y chwareuwyr genych; ni a'u daliasom hwy ar y ffordd; ac y maent yn dyfod i gynyg i chwi eu gwasanaeth.
 
(2, 2) 1725 Y rhai hyny ag y cymerech y fath ddifyrwch ynddynt—prudd-chwareuwyr y ddinas.
 
(2, 2) 1728 Yr wyf yn meddwl fod y gwaharddiad iddynt wedi tarddu oddiwrth y newydd-ddefod ddiweddar. [25]
 
(2, 2) 1731 Nac ydynt, yn wir nid ydynt.
 
(2, 2) 1734 Na, y mae eu hymgais yn dal yn y lle arferol: ond y mae, syr, y fath nythlwyth o blant, cywion bychain, sydd yn llefain allan hyd eithaf eu hysgyfaint, a hwy a glecir yn dra gormesol am dano: dyna ym y ffasiwn yn awr; a gwnant y fath dwrf a thrwst ar yr
(2, 2) 1735 esgynloriau cyffredin (felly y galwant hwy), fel y mae llawer, sydd yn gwisgo hirgleddyfau, yn ofni cwils gwyddau, a phrin y meiddiant ddyfod yno.
 
(2, 2) 1739 Yn wir, bu llawer i'w wneud o bob tu; ac nid yw y genedl yn ei gyfrif yn bechod i'w hanog yn mlaen i ddadleuaeth: nid oedd, am beth amser, ddim arian yn cael eu cynyg ar ddadl, os na byddai i'r bardd a'r chwareuydd fyned i baffio ar y pwnc.
 
(2, 2) 1743 Ydynt, felly y maent, fy arglwydd, Hercules a'i lwyth hefyd. [26]
 
(2, 2) 1757 Fe ddichon ei fod wedi dyfod iddynt yr ail waith; canys dywedant fod hen ddyn ddwywaith yn blentyn.
 
(2, 2) 1913 Fy arglwydd da!