Ciw-restr

Hamlet, Tywysog Denmarc

Llinellau gan Voltimand (Cyfanswm: 29)

 
(2, 2) 1449 Mae'n
(2, 2) 1450 Dychwelyd yn bur deg eich hanerch chwi
(2, 2) 1451 A'ch dymuniadau. Gyrodd gyntaf peth,
(2, 2) 1452 Pan gyrhaeddasom ni, i atal gwaith
(2, 2) 1453 Ei nai yn gosod trethi; y rhai wnaent
(2, 2) 1454 Ymddangos iddo ef fel darpar at
(2, 2) 1455 Ymosod ar y Polack; ond ar ol
(2, 2) 1456 Ymchwiliad gwell, fe gafodd allan mai
(2, 2) 1457 Yn erbyn eich huchelder chwi yr oedd,
(2, 2) 1458 O achos hyn gofidiwyd ef,—am fod
(2, 2) 1459 Ei nai yn cym'ryd mantais ar
(2, 2) 1460 Ei oed, ei glefyd, a'i anellu, er
(2, 2) 1461 Ei dwyllo, ac anfonodd ef ei wys
(2, 2) 1462 I ddala Fortinbras; yr hon, ar fyr,
(2, 2) 1463 A ufuddäodd; yna derbyn wnaeth
(2, 2) 1464 Geryddiad oddiwrth Norway; ac efe
(2, 2) 1465 O'r diwedd addunedai o flaen ei ewythr,
(2, 2) 1466 Na wnai ef godi byth o hyny arf
(2, 2) 1467 Yn erbyn eich mawrhydi. Oherwydd hyn,
(2, 2) 1468 Hen Norway, wedi ei orchfygu gan
(2, 2) 1469 Ei fawr lawenydd, rhoddodd deirmil o
(2, 2) 1470 Goronau, fel ei flwydd-dâl ef, yn nghyd
(2, 2) 1471 A chenad i ddefnyddio 'r milwyr oll
(2, 2) 1472 Godasai ef yn erbyn gwlad y Pwyl,
(2, 2) 1473 Gan ddeisyf arnoch, fel dangosa hwn.—
 
(2, 2) 1475 Foddloni rhoi mynediad tawel trwy
(2, 2) 1476 Eich tiriogaethau, ar yr antur hon:
(2, 2) 1477 Ar yr amodau o ddiogelwch, ac
(2, 2) 1478 O ganiatâd, a nodir yna i lawr.