Ciw-restr

Hamlet, Tywysog Denmarc

Llinellau gan Ysbryd (Cyfanswm: 106)

 
(1, 5) 914 Clyw fi.
 
(1, 5) 916 Fy awr sydd bron a d'od,
(1, 5) 917 Pan orfydd im' ddychwelyd eto i
(1, 5) 918 Yr ufel, a'r poenydiol fflamau tân.
 
(1, 5) 920 Na wag dosturia wrthyf, eithr rho
(1, 5) 921 Wrandawiad tra difrifol i'r hyn sydd
(1, 5) 922 I'w draethu genyf.
 
(1, 5) 925 Felly wyt i ddial pan
(1, 5) 926 Y clywi.
 
(1, 5) 928 Ysbryd dy dad wyf fi;
(1, 5) 929 Ddedfrydwyd dros ryw hyd, i rodio 'r nos,
(1, 5) 930 Ac, yn y dydd, rhwym i ymprydio wyf
(1, 5) 931 Mewn eirias dan, nes i'r beïau anfad a
(1, 5) 932 Gyflawnais i yn nyddiau 'm cnawd, oll gael
(1, 5) 933 Eu llosgi a'u glanâu.
(1, 5) 934 Gwaherddir fi ddadguddio pethau cudd
(1, 5) 935 Fy ngharchar caeth, ac onide mi ro'wn
(1, 5) 936 Fath hanes it, y gwnai'r ysgafnaf air
(1, 5) 937 Ddyrwygo 'th enaid; rhewi 'th ieuanc waed,
(1, 5) 938 A gwneud i'th lygaid neidio megys ser,
(1, 5) 939 Dy rwym gudynau i ymddatod, ac
(1, 5) 940 I bob gwalltflewyn sefyll ar dy en
(1, 5) 941 Fel pluen-fonion ar y draenog hyll;
(1, 5) 942 Ond ni cheir gwneud yr erch ddadguddiad hwn,
(1, 5) 943 O'r bythol fyd, i glustiau cig a gwaed:—
(1, 5) 944 Gwna wrando, gwrando, O gwrando! os erioed
(1, 5) 945 Y ceraist ti dy anwyl dad,—
 
(1, 5) 947 Diala 'r mwrddrad annaturiol ac
(1, 5) 948 Erchyllaidd hwn.
 
(1, 5) 950 Mwrddrad erchyll ar
(1, 5) 951 Y goreu; hwn yn fwy echryslon fyth,
(1, 5) 952 Dyeithrol, a thra annaturiol oedd.
 
(1, 5) 956 Mi wela 'th fod yn barod, ac yn wir
(1, 5) 957 Mwy llwrf y byddet nag yw 'r tewion chwyn
(1, 5) 958 Sy'n braenu 'n dawel ar lân Lethe draw
(1, 5) 959 Pe na wneit symud gyda hyn! Yn awr,
(1, 5) 960 Clyw, Hamlet; d'wedir, tra yr hunwn yn
(1, 5) 961 Fy mherllan, i sarph fy ngholynu 'n llym;
(1, 5) 962 Mae holl glust Denmarc felly yn cael cam, [9]
(1, 5) 963 Trwy hanes gau am fy marwolaeth i:
(1, 5) 964 Ond gwel! a gwybydd di, ardderchog lanc,
(1, 5) 965 Y sarph golynodd fywyd d' anwyl dad,
(1, 5) 966 A geir yn awr yn gwisgo 'i goron ef.
 
(1, 5) 968 Ië, y bwystfil godinebus, ac
(1, 5) 969 Ymlosgol hwnw, âg arabaidd swyn,
(1, 5) 970 A rhoddion bradus (O arabedd tra
(1, 5) 971 Drygionus! ac O roddion! feddent y
(1, 5) 972 Galluoedd i hud-dwyllo i'r fath radd!)
(1, 5) 973 Enillodd i'w drachwantau ewyllys fy
(1, 5) 974 Mrenines dra rhinweddol, fel y gwnai
(1, 5) 975 Ymddangos i fy ngolwg i fy hun;
(1, 5) 976 O Hamlet, y fath godwm ydoedd hwn!
(1, 5) 977 Oddiwrthyf fi, yr hwn â'm cariad oedd
(1, 5) 978 O'r urddas hwnw, ag i fyn'd law yn llaw
(1, 5) 979 A'r addunedau wnes wrth uno â hi;
(1, 5) 980 A syrthio ar adyn gwael, nad ydoedd ei
(1, 5) 981 Naturiol ddoniau ond tlawd i'r eiddof fi!
(1, 5) 982 Ond rhinwedd, gan na fyn ei symud er
(1, 5) 983 Ei charu hi gan anniweirdeb mewn
(1, 5) 984 Ffurf nefol, felly chwant, er iddo gael,
(1, 5) 985 Ei rwymo gydag angel claer, a wna
(1, 5) 986 Foddloni 'i hunan mewn nefolaidd wely,
(1, 5) 987 A hir ymborthi ar ysgarthion gwael.
(1, 5) 988 Yn araf! tebyg ydyw hyn i sawr
(1, 5) 989 Y bore wynt, rhaid im' fod yn fyr:—
(1, 5) 990 Tra'n cysgu yn fy mherllan, f' arfer oedd
(1, 5) 991 Ar bob prydnawn, ar fy niogel awr
(1, 5) 992 Fe ddaeth dy ewythr mewn lladradaidd fodd,
(1, 5) 993 A sudd y melldigedig bela [10] mewn
(1, 5) 994 Costrelan fach, ac yna i ddorau 'm clust
(1, 5) 995 Tywalltodd y distylliad mallus; hwnw sydd
(1, 5) 996 A'i effaith mor elynol i waed dyn,
(1, 5) 997 Fel, â chyflymdra arian byw, rhed trwy
(1, 5) 998 Naturiol ddorau a rhodfeydd y corff;
(1, 5) 999 A chyda dirfawr frys yn ebrwydd y
(1, 5) 1000 Posela ac y cawsia, fel y gwna
(1, 5) 1001 Defnyna egr droi y llaeth, y teneu a'r
(1, 5) 1002 Iachusol waed: efelly gwnaeth i mi,
(1, 5) 1003 Ac yn y man daeth clafr i godi mewn
(1, 5) 1004 Modd gwahanglwyfus, gyda drewllyd gên
(1, 5) 1005 Tra ffiaidd, tros fy llyfnaidd gorff i gyd.
(1, 5) 1006 Fel hyn bu i mi, yn cysgu, trwy law brawd,
(1, 5) 1007 O fywyd, coron, a brenines gall,
(1, 5) 1008 Ar unwaith fy nifuddio; a'm tori i lawr
(1, 5) 1009 Yn mlodau 'm pechod, heb gymuno, heb
(1, 5) 1010 Ymbarotoi, na derbyn cyn fy nhranc
(1, 5) 1011 Eneiniad olaf, heb gael ystyried dim,—
(1, 5) 1012 Fy ngyru ge's i'm cyfrif olaf â
(1, 5) 1013 Fy holl anmherffeithderau ar fy mhen:
(1, 5) 1014 O! erchyll! erchyll! tra erchyllaidd! Os
(1, 5) 1015 Oes natur ynot ti, na oddefa hyn;
(1, 5) 1016 Na oddef i deyrnwely Denmarc fod
(1, 5) 1017 Yn lwth trythyllwch, gyda llosgach drwg.
(1, 5) 1018 Ond pa fodd bynag äi trwy 'r weithred hon,
(1, 5) 1019 Na lygra'th feddwl, na âd i'th enaid wneud
(1, 5) 1020 Dim cynllun oll, yn erbyn dy hoff fam;
(1, 5) 1021 Gad hi i'r nefoedd, ac i'r drain sydd yn
(1, 5) 1022 Lletŷa yn ei bron, i'w phigo a'i
(1, 5) 1023 Cholynu hi. Ffarwel ar unwaith it'!
(1, 5) 1024 Mae 'r fagïen yn dangos nesrwydd gwawr,
(1, 5) 1025 A llwydo mae ei aneffeithiol dân:
(1, 5) 1026 Ffarwel, ffarwel, ffarwel! O cofia fi!
 
(1, 5) 1126 Tyngwch.
 
(1, 5) 1137 Tyngwch.
 
(1, 5) 1146 Tyngwch wrth ei gledd.
 
(1, 5) 1174 Tyngwch!