Ciw-restr

Y Gŵr o Gath Heffer

Llinellau gan Jonah (Cyfanswm: 101)

 
(1, 0) 28 Ie, bro fy mebyd, cyn i greithiau Amser hagru ei lechweddau.
(1, 0) 29 'R hen bentref annwyl, 'r wyt ti yn y llwch ers llawer dydd, a'r llwyni'n llenwi dy winllannoedd.
(1, 0) 30 Ni chlywir mwyach sibrwd machlud-haul cariadon, na thuchan toriad-gwawr y camel wrth dy fur.
(1, 0) 31 Cripiodd y sgorpion i nyth y golomen; ymlusgodd yr asp dan garreg y drws.
(1, 0) 32 Distawodd cleber y heolydd; mae dy farchnad lon yn fud.
(1, 0) 33 Lle bu mwmial yr offeiriad, ceir crechwen oer y siacal gyda'r hwyr, ac estyn y blaidd ei wddf yn hir i udo'i salm i'r sêr...
(1, 0) 34 Mor fregus a diflanedig yw gwaith dwylo dynion!
(1, 0) 35 Maluriwyd dy furiau dithau, Gath Heffer; llithraist yn araf i angof y tywod tawel.
(1, 0) 36 Ond mae'r bryniau moel yn aros, a dyma'r clogwyn serth yn dal i wgu ar y dyffryn.
(1, 0) 37 Dringais i'w gopa ganwaith; nes i ddyddiau mebyd ddirwyn i ben, a dod yr amser i roi heibio bethau bachgenaidd...
 
(1, 0) 51 le, ond mam─
 
(1, 0) 58 Na, 'd wy' i ddim yn meddwl.
(1, 0) 59 Mae gen' i ofn mewn storm.
 
(1, 0) 65 Lefiathan?
(1, 0) 66 Be ydy' Lefiathan?
 
(1, 0) 73 Pa ddinas ydy' honno?
 
(1, 0) 90 A dacw'r lleuad yn dwad i'r golwg, Nathan, welwch chi?
 
(1, 0) 96 Mor agos ydy'r sêr, Nathan!
(1, 0) 97 Pe bawn i'n estyn fy llaw mi fedrwn afael mewn dyrnaid ohonyn' nhw, a'u rhoi yn fwclis i mam!...
(1, 0) 98 A dacw linyn arian i'w clymu, draw i'r gorllewin ar y gorwel!
 
(1, 0) 101 Ydw'.
(1, 0) 102 'Wna'i byth adael Gath Heffer.
 
(1, 0) 104 'Fydda'i 'run o'r ddau yna chwaith, Nathan.
(1, 0) 105 'R wy'n gwybod 'rŵan mai Proffwyd yr hoffwn i fod.
 
(1, 0) 110 O mi wn i hynny, ac 'r wy'n teimlo rhywsut y caf i arwydd, cyn bo hir, Ei fod Ef yn cyd-weld.
 
(1, 0) 113 'D oes arna'i ddim eisio bod yn Broffwyd mawr 'run fath ag Elias, cofiwch.
(1, 0) 114 Na, na proffwyd bach i wasanaethu pentref ac ardal Gath Heffer yn unig.
 
(1, 0) 116 'R wy' i'n meddwl Ei fod yn gweld fy ochor i i'r cwestiwn, Nathan.
 
(1, 0) 123 Ble?
 
(1, 0) 125 O dan yr hen gorlan?
 
(1, 0) 129 Mae yna rywbeth yn ci dilyn hi hefyd, welwch chi?
(1, 0) 130 Blaidd, Nathan, blaidd!
(1, 0) 131 Dyna fe'n llithro allan o'r cysgod!
 
(1, 0) 133 Be' wnawn ni?
 
(1, 0) 137 O'r gora', Nathan.
 
(1, 0) 142 'Fydd o byth digon buan!
(1, 0) 143 Mae'r hen flaidd wrth ei chwt hi.
(1, 0) 144 Dos yn ôl, 'rhen flaidd, dos yn ôl!
(1, 0) 145 Ar fôn dy fywyd paid â llarpio gafr Eliasar!...
(1, 0) 146 Os medraf arbed bywyd yr hen afr, mi fyddaf yn gwybod bod yr Arglwydd wrth fy ochr.
(1, 0) 147 Hwnnw fydd yr arwydd Iddo fy newis yn Broffwyd...
(1, 0) 148 Gwranda, flaidd—yr wyf fi, Jonah fab Amitai, yn dy rybuddio: os niweidi di flewyn arni, mi alwaf ar fellten i'th daro'n farw yn y fan.
(1, 0) 149 Yn ôl, yr hen flaidd llwyd, yn ôl, yn ôl...
(1, 0) 150 Mae—mae o'n llithro i'r cysgod ac yn rhedeg i ffwrdd!
(1, 0) 151 Mae o wedi ufuddhau i 'ngorchymyn!
 
(1, 0) 153 Nathan!
(1, 0) 154 Nathan!
(1, 0) 155 Edrychwch!
(1, 0) 156 Mae'r hen flaidd wedi mynd!
(1, 0) 157 Dyna'r arwydd, Nathan, dyna'r arwydd!
(1, 0) 158 Dewisodd yr Arglwydd fi'n Broffwyd yng Ngath Heffer.
(1, 0) 159 'R wy'n broffwyd, yn broffwyd, yn broffwyd...!
 
(1, 0) 179 Ond mewn hanner breuddwyd y tyfais i o fachgendod i oedran pwyll.
(1, 0) 180 Ac yn raddol mi sylweddolais fod cwrs fy mywyd yn wir wedi'i drefnu i ddiben arbennig.
(1, 0) 181 Pa ddiben, ni wyddwn yn iawn ar y pryd, ond disgwyliwn beunydd am weledigaeth glir a phendant fel fflach mellten.
(1, 0) 182 'R wy'n gweld fy ffolindeb yn awr na fuaswn wedi ymollwng yn amyneddgar i'r Ewyllys Ddwyfol.
(1, 0) 183 Yn lle hynny, mi geisiais swcro ffafr Rhagluniaeth drwy gwrs o ympryd, sachlian a lludw.
(1, 0) 184 Ond ymbalfalu yn y tywyllwch yr oeddwn o hyd, er i mi wneud gwaith pur dda o dro i dro, os caf ddweud fy hun.
(1, 0) 185 Ac o dipyn i beth, daeth hyd yn oed hynafgwyr ceidwadol Gath Heffer i gymryd sylw ohonof...
 
(1, 0) 247 Eto gwrandewch, chwi bentrefwyr Gath Heffer, a derbynied eich clust leferydd yr Arglwydd.
(1, 0) 248 Yr hwn sy'n gwneud y corwynt yn gerbyd iddo, ac yn casglu'r mellt fel saethau yn Ei law.
(1, 0) 249 Canys efe a edrychodd i lawr o'r nef ac a welodd eich holl gamweddau.
(1, 0) 250 A'i air a ddaeth ataf yn y diffeithwch gan ddywedyd:
(1, 0) 251 "Jonah, fab Amitai, dos atynt a mynega iddynt gynddaredd fy llid.
(1, 0) 252 Ymlygrasant gan wawdio fy neddfau santaidd; ffieidd-waith a wnaethant gydag eilunod.
(1, 0) 253 Am hynny, rhua arnynt megis llew o'i ffau, ie, fel llew rheibus gyda'i ysglyfaeth."
 
(1, 0) 255 Gochelwch felly, gyfeillion, a chymdogion, rhag i'r llew eich llarpio yn Ei ddigofaint.
(1, 0) 256 Gwrandewch ar un a aned ac a fagwyd yn eich plith.
(1, 0) 257 Un sy'n awr yn sefyll rhyngoch a dialedd yr Arglwydd.
(1, 0) 258 Canys Efe a roddodd Ei fysedd ar linynnau fy nghalon, ac ni allaf atal f'ymadrodd.
(1, 0) 259 Yr wyf fi, Jonah fab Amitai, yn dywedyd wrthych: trowch, a dychwelwch oddi wrth eich eilunod.
(1, 0) 260 Trowch eich wynebau oddi wrth eich holl ffieidd-dra...
 
(1, 0) 274 Do, fe gafodd fy mhregeth gyntaf fwy o effaith nag a freuddwydiais i 'rioed.
(1, 0) 275 Ac wrth gwrs mi fanteisiais ar y cyfle.
(1, 0) 276 A thrwy fygwth tân a brwmstan ar eu pennau mi lwyddais i'w cael yn ôl i well trefn o fywyd.
(1, 0) 277 Ond os bu hynny o les iddyn' nhw, fe wnaeth gryn niwed i mi.
(1, 0) 278 O fod yn greadur swil a diymhongar, dyma fi'n fy nghael fy hun yn brif ddyn y pentref a'r ardal.
(1, 0) 279 Ac mi gefais fwy o awdurdod a dylanwad na lled f'ysgwyddau.
(1, 0) 280 Y canlyniad oedd balchter ac ymffrost a chulni anoddefgar.
(1, 0) 281 Dyna'r cyflwr truenus 'r oeddwn i ynddo y diwrnod mawr hwnnw pan newidiwyd cwrs fy mywyd.
(1, 0) 282 'R oeddwn i'n eistedd yn fy 'stafell, 'r wy'n cofio, pan ddaeth cysgod ar draws y drws, a llais merch yn galw arnaf...
 
(1, 0) 290 Ia—pwy sydd yna?
 
(1, 0) 292 'Wyddost ti ddim fy mod i'n myfyrio yr adeg yma o'r dydd?
 
(1, 0) 294 A 'mod i wedi siarsio nad oes yna neb i aflonyddu arna' i?
 
(1, 0) 296 Ac eto 'r wyt ti'n beiddio anwybyddu fy ngorchymyn!
(1, 0) 297 'Wyt ti ddim yn sylweddoli bod gen' i'r gallu i alw ar fellten i'th barlysu yn y fan?
 
(1, 0) 299 Paid â thorri ar fy nhraws.
(1, 0) 300 'Oes yna ddim dysgu arnoch chi, bentrefwyr gwargaled a gwrthnysig?
(1, 0) 301 Ac edrych arnat dy hun—â'th sandalau coch, dy fwclis a'r modrwyau gwrthun yna yn dy glustiau.
(1, 0) 302 Ia, â'th wallt wedi'i gribo'n ôl fel cynffon llwynog.
(1, 0) 303 'Oes gen' ti ddim cywilydd?
 
(1, 0) 305 Felly wir!
(1, 0) 306 Rhaid rhoi celyn ar ffasiwn sy'n gwneud hoedennod anweddus o ferched Abram.
(1, 0) 307 Paid â gadael imi weld y fath olwg arnat ti eto.
(1, 0) 308 'Fynna' i ddim i strydoedd Gath Heffer fod fel heolydd anfoesol Ninefe.
(1, 0) 309 Ac yn awr, dos cyn i ti drethu mwy ar f'amynedd.
 
(1, 0) 311 Wel?
(1, 0) 312 Beth ydy' o?
 
(1, 0) 314 Pa ddyn?
 
(1, 0) 318 O felly wir!
(1, 0) 319 Fe gaiff gymryd ei dwrn fel pawb arall, pwy bynnag ydy' o.