Ciw-restr

Y Lefiathan

Llinellau gan Desc (Cyfanswm: 54)

(0, 1) 1 Rostra a lefelau yn ôl yr angen.
(0, 1) 2 Ar ddechrau'r ddrama, bydd rhai o'r rostra hyn yn cynrychioli clogwyn; sleid o fynyddoedd, awyr a rhimyn o fôr ar y seiclorama.
(0, 1) 3 ~
(0, 1) 4 Miwsig.
(0, 1) 5 ~
(0, 1) 6 Mae Jonah yn eistedd yn fyfyriol ar y clogwyn, ar ôl ennyd neu ddau, daw'r Dieithryn heibio iddo.
(0, 1) 7 Miwsig yn distewi.
 
(0, 1) 10 Y Dieithryn yn edrych o'i amgylch.
 
(0, 1) 81 Gostyngir y goleuadau ar Jonah a'r Dieithryn a daw llais Jonah yn awr ar dâp drwy'r corn-siarad.
(0, 1) 82 Miwsig ysgafn, addas, yn y cefndir i gyfleu atgof.
(0, 1) 83 Goleuer rhannau o'r llwyfan yn ôl yr angen.
(0, 1) 84 Daw y cymeriadau i'r golwg fel y cyfeirir atynt a mynd yn grŵp at un o'r rostra i sgwrsio mewn meim.
(0, 1) 85 Mae'r Capten yn gwisgo cap pig-gloyw, siersi las ac esgidiau uchel.
(0, 1) 86 Mae Prothero yn gwisgo het-galed a dillad sydd braidd yn rhy fawr iddo; Prydderch yn gwisgo cap a dillad sydd braidd yn rhy fychan iddo.
(0, 1) 87 Mae gan Prys gap wedi'i weu â thasel arno.
 
(0, 1) 178 Daw Cymdoges 1 a Chymdoges 2 i mewn.
 
(0, 1) 239 Mae'n mynd allan dan fwmian.
(0, 1) 240 Mae'r ddwy Gymdoges yn mynd y ffordd arall.
 
(0, 1) 254 Mae Prydderch yn tynnu cerdyn bychan o'i boced a'i astudio'n fanwl a myfyrgar gan ei droi drosodd a throsodd.
(0, 1) 255 Bydd yn gwneud hyn o bryd i'w gilydd drwy'r olygfa.
 
(0, 1) 273 Mae'r Capten yn meidio'n ddramatig ar un o'r rostra ac efelychu'r wraig dan sylw.
 
(0, 1) 283 Daw Jonah, fel bachgen, ymlaen ar y llwyfan ac eistedd yn ymyl y grŵp i wrando'n astud ar eu sgwrs, heb iddyn nhw fod yn ymwybodol ohono ar y cyntaf.
 
(0, 1) 321 Mae Prys yn hanner-troi a gweld y bachgen $onah am y tro cyntaf.
 
(0, 1) 335 Mae'r Capten yn neidio am Jonah yn sydyn a chogio'i lindagu.
 
(0, 1) 405 Mae Prothero yn dod at Prydderch, y ddau yn sefyll yn glôs wyneb yn wyneb fel dau geiliog.
(0, 1) 406 Daw'r Dieithryn i'r golwg ond erys yng nghefn y llwyfan, ac nid oes neb yn ymwybodol ohono.
 
(0, 1) 420 Mae Prothero yn gafael yn Prydderch yn sydyn, ac mewn chwinciad, yn ei roi'n ddeheuig ar ei hyd ar lawr ac eistedd arno.
 
(0, 1) 424 Mae Prothero yn gafael ym mraich Prydderch a rhoi tro bach iddi.
 
(0, 1) 429 Mae'r Capten a Prys yn cyrcydu i edrych.
 
(0, 1) 451 Rhydd Prothero un tro arall i fraich Prydderch yna cyfyd y ddau ar eu traed.
(0, 1) 452 Mae hyn i gyd, wrth gwrs, wedi bod rhwng chwarae a difri, ond i Jonah, a fwn eu gwylio'n syn — mae'n llawn arwyddocâd o bwys.
 
(0, 1) 463 Mae'r Capten, Prys a Prothero yn cychwyn i ffwrdd, ond saif Prydderch yn yr unfan fel petai'n chwilio am rywbeth.
 
(0, 1) 471 Rhydd Prydderch y cerdyn yn ofalus yn ei boced a mynd at y lleill.
 
(0, 1) 478 Mae'r pedwar yn mynd allan heb roi mwy o sylw i fonah.
(0, 1) 479 Daw'r Dieithryn ymlaen.
 
(0, 1) 508 Saib ennyd.
 
(0, 1) 516 Mae'r Dieithryn yn troi i fynd oddi ar y llwyfan.
(0, 1) 517 Saif am ennyd i gyffwrdd â'r ysgubell.
(0, 1) 518 Cyn mynd o'r golwg, try at Jonah.
 
(0, 1) 521 Mae'r Dieithryn yn mynd allan, a gadael Jonah mewn cryn benbleth.
(0, 1) 522 Eistedd ar un o'r rostra i fyfyrio.
(0, 1) 523 Rhed rhai o'r pentrefwyr ar y llwyfan, a sefyll yn syn wrth weld Jonah.
 
(0, 1) 550 Mae Jonah yn neidio ar ben y rostrwm.
 
(0, 1) 642 Mae'r Pentrefwyr yn symud yn ffug-fygythiol at Jonah a'i bwnio o'r naill i'r llall.
 
(0, 1) 665 Mae Jonah yn edrych o'i amgylch a gweld yr ysgubell.
(0, 1) 666 Daw syniad iddo, ac fe'i gwelir yn cau ei ddyrnau a meddwl yn ddyfal.
 
(0, 1) 696 Y Pentrefwyr yn ffurfio cylch.
 
(0, 1) 713 Maen nhw'n gafael yn Jonah, ei godi i fyny a'i gario o amgylch y llwyfan, yna ymddengys ei nain, ond nid oes neb yn ei gweld ar y cychwyn.
 
(0, 1) 784 Mae'r hen wraig yn mynd oddi ar y llwyfan.
(0, 1) 785 Eistedd onah yn fyfyrgar am ennyd neu ddau.
(0, 1) 786 Yna, mae rhywbeth yn peri iddo droi.
(0, 1) 787 Mae'n neidio i fyny pan wêl yr ysgubell yn codi a dechrau dawnsio.
 
(0, 1) 792 Tywyllwch.
(0, 1) 793 Miwsig.