Ciw-restr

Y Lefiathan

Llinellau gan Nain (Cyfanswm: 112)

 
(0, 1) 91 Jonah!...
(0, 1) 92 Jonah!
(0, 1) 93 Jonah!
 
(0, 1) 95 Ble ar y ddaear fawr yma'n gron mae'r hogyn yma, deudwch?
(0, 1) 96 Fedar o ddim aros yn llonydd am eiliad.
(0, 1) 97 Fel tae yna ryw lyngyr tragwyddol yn ei yrru o.
(0, 1) 98 Wn i ddim be ddaw ohono fo, na wn, tawn i byth o'r fan yma.
(0, 1) 99 Pwy faga hogia —
 
(0, 1) 101 Jonah!...
(0, 1) 102 Jonah!...
(0, 1) 103 Jonah!
 
(0, 1) 132 Jonah!...
(0, 1) 133 Jonah!
 
(0, 1) 141 Jonah...!
 
(0, 1) 143 Dim siw na miw yn unman.
 
(0, 1) 145 Dim golwg ohono fo...
(0, 1) 146 O diar, hen beth cas ydi pryder ynte!
(0, 1) 147 Yn ddigon cas i fam, fel y gŵyr pawb.
(0, 1) 148 Yn gasach fyth i nain, mi fydda i'n deud bob amser.
(0, 1) 149 A mi wn i beth ydi bod yn fam ac yn nain.
 
(0, 1) 151 A waeth imi heb na deud wrthyf fy hun am beidio â phoeni.
(0, 1) 152 Fedra i ddim.
(0, 1) 153 Ac mae hynny'n ddigon naturiol reit siwr, mi fydda i'n deud bob amser.
(0, 1) 154 Sut mae'r hen ddihareb yn mynd "Car gafr ei myn, boed ef ddu, boed ef wyn" —
(0, 1) 155 Digon gwir, er mai ei nain o ydw i ac nid ei fam o.
(0, 1) 156 A dydi Jonah ddim yn hogyn drwg, cofiwch.
(0, 1) 157 Dim o gwbwl.
(0, 1) 158 A deud y gwir yn onast, mi fydda'i well gen i tae o'n fwy direidus.
(0, 1) 159 Peth reit iach mewn hogyn ydi ambell dwll yn ei drowsus o, mi fydda i'n deud bob amser.
(0, 1) 160 A'i grys o'n hongian allan.
(0, 1) 161 Ac ynta'n dwyn fala weithia.
(0, 1) 162 A minnau'n cael ei ddwrdio fo wedyn, â gwên o'r golwg yn fy mrest fel tae!
(0, 1) 163 Yn lle hynny, mae o'n crwydro fel meudwy ar ei ben ei hun.
(0, 1) 164 Ac yn breuddwydio a hel meddylia od.
(0, 1) 165 Mwydro'i ben yn lân.
(0, 1) 166 A finna wedyn yn poeni fy hun i andros o gamdreuliad!...
(0, 1) 167 Tynnu ar ôl ei dad mae o, heddwch i'w lwch.
(0, 1) 168 A phan gollodd ei fam wedyn, wel doedd yna neb ond yfi, ei nain, i fod yn fam ac yn dad iddo fo!...
(0, 1) 169 Ia wel, does gan r'un ohonom ni help i'w natur.
(0, 1) 170 Ac wfft i'r hen fyd yma petaen ni i gyd run fath, mi fydda i'n deud bob amser.
(0, 1) 171 A mae o'n ddigon hoffus a thyner, ngwas annwyl i!
 
(0, 1) 173 Ond y cwestiwn ydi, lle mae o?
 
(0, 1) 175 Jonah!
(0, 1) 176 Jonah!
(0, 1) 177 Jonah!
 
(0, 1) 180 Ia, tawn i flewyn haws.
 
(0, 1) 183 Na, fasa fo ddim efo nhw w'chi.
(0, 1) 184 Rhyw stwna ar ei ben ei hun fydd o fel arfer.
(0, 1) 185 Wyddoch chi, — pendroni ac ati...
(0, 1) 186 Roedd ei dad o'n rhyw dipyn o fardd hefyd...
(0, 1) 187 Fy mab rwy'n ei feddwl, heddwch i'w lwch...ia, wel,... fel yna mae hi.
 
(0, 1) 189 Daw gobeithio.
 
(0, 1) 191 "Ond" by-be?
(0, 1) 192 Dowch, rydach chi'n fy nychryn i'n fwy wrth bethma fel yna!
 
(0, 1) 194 Arswyd y byd!
(0, 1) 195 A minna wedi ei siarsio fo dro ar ôl tro i gadw o'r lle.
 
(0, 1) 197 Na?
 
(0, 1) 216 Ydi, gobeithio'r annwyl!
 
(0, 1) 230 O tewch, tewch, da chi!
(0, 1) 231 Rydach chi fel oracla yn darogan dinistr.
(0, 1) 232 Piga drain?
(0, 1) 233 Mi ydw i'n eistedd ar andros o dwmpath.
(0, 1) 234 A phob un run fath â hoelan-wyth.
(0, 1) 235 Does yna ddim ond un peth amdani, — mynd draw i'r clogwyn...
 
(0, 1) 237 Drapia'r crud-cymala felltith yma...
(0, 1) 238 Mwya'r brys, mwya'r rhwystr, mi fydda i'n deud bob amser...!
 
(0, 1) 715 Be sy'n mynd ymlaen yma?...
(0, 1) 716 Be ydach chi'n 'i wneud?
 
(0, 1) 718 Ydach chi'n clywed y rabscaliwns coman?
(0, 1) 719 Be ydi'ch meddwl chi?
 
(0, 1) 721 Rhowch yr hogyn yna i lawr, y munud yma!
 
(0, 1) 723 Jonah... tyrd yma.
(0, 1) 724 Wrth f'ochr.
 
(0, 1) 726 Beth oeddyn nhw'n 'i wneud iti?
 
(0, 1) 730 Hwyl, by-be!
(0, 1) 731 Dim rhaid iti ddeud gair.
(0, 1) 732 Digon hawdd gweld.
(0, 1) 733 Golwg arnat ti.
(0, 1) 734 Fel taet ti wedi cael dy dynnu drwy ddrain.
(0, 1) 735 Edrych ar dy ddillad!
 
(0, 1) 737 Ydach chi'n gall deudwch?
(0, 1) 738 Yr hwliganiaid digywilydd!
(0, 1) 739 Y cnafon powld!
(0, 1) 740 Giang fawr yn erbyn un!
(0, 1) 741 Llwfrgwn!
 
(0, 1) 743 Cau di dy geg, y gwalch!
 
(0, 1) 745 Dim gwahaniaeth.
(0, 1) 746 Dydw i ddim yn lecio dy wep di.
 
(0, 1) 748 Heglwch hi adre, y rebals, cyn ichi gael blas y ffon yma!
 
(0, 1) 750 O'm golwg i!
(0, 1) 751 Am adre!
(0, 1) 752 Y munud yma.
(0, 1) 753 Gwadnwch hi!
 
(0, 1) 755 Tacla!
(0, 1) 756 Sbwriel!...
(0, 1) 757 Caridyms!
 
(0, 1) 759 Wyt ti'n siwr dy fod ti'n iawn?
 
(0, 1) 762 Hy!...
(0, 1) 763 A pheth arall, ble rwyt ti wedi bod?
(0, 1) 764 Chwilio pob man amdanat.
(0, 1) 765 Ar biga drain ers oria.
(0, 1) 766 Does dim yn waeth na phryder, mi fydda i'n dweud bob amser.
(0, 1) 767 Fuost ti ar ben y Clogwyn yna eto, a minnau wedi rhybuddio gymaint arnat ti?
 
(0, 1) 769 Os ei di'n agos yna eto, mi gei di flas y ffon yma ar dy ben-ôl, wyt ti'n deall?
 
(0, 1) 771 Ia, wel, dyna fo.
(0, 1) 772 Tyrd adre rwan.
(0, 1) 773 Mae'n siwr dy fod ti bron â llwgu.
 
(0, 1) 776 O'r gora...
(0, 1) 777 Paid â thin-droi.
(0, 1) 778 Mae'r tear y bwrdd...
(0, 1) 779 Wyt ti'n clywed?
 
(0, 1) 783 Hy!