Ciw-restr

Y Tu Hwnt i'r Llenni

Llinellau gan John (Cyfanswm: 81)

 
(1, 0) 82 Cue! Cue!
 
(1, 0) 84 Cue! Cue!
 
(1, 0) 98 Ydym,
 
(1, 0) 100 Mae ar ben am heno, ta beth.
 
(1, 0) 102 Fe neidiodd Siân dudalen gyfan yn rywle...
 
(1, 0) 104 A ble mae Neli?
(1, 0) 105 Fe fum i'n crwydro rownd i'r llwyfan gan weiddi, "Cue, Cue" a ches i ddim cue eto.
(1, 0) 106 'Rown i'n meddwl y'ch bod chi a hi yn promto, Mr. James?
 
(1, 0) 109 Fe ddaeth y cyrten i lawr o rywle, a fe'i diweddwyd hi felly.
 
(1, 0) 111 Ddim ar 'i chanol hi'n hollol.
(1, 0) 112 'Dwy' ddim yn credu bod rhagor na dwy dudalen ar ôl... a'r gân, wrth gwrs.
 
(1, 0) 115 'Rown i ymhobman.
(1, 0) 116 Fe es i rownd i'r llwyfau i geisio cael "cue" o ryw le ond...
 
(1, 0) 119 Wel, rown i wedi cyrraedd y man yna lle'r wy'n mynd at y lle tân i danio sigaret, a dyma Siân yn torri ar 'y nhraws i cyn imi gael amser i ddweud dim.
 
(1, 0) 121 'Roedd y "lighter " yn gwrthod cynneu, a mae'n rhaid cael tân ynddo cyn y galla' i ddweud y llinell nesa' "mae fflam y 'lighter' hwn ges i gennyt ar fy mhenblwydd, Eluned, fel fflam ein cariad ni'n dau."
(1, 0) 122 Allwn i ddim dweud hynny'n hawdd iawn, 'allwn i, a dim tân ynddo o gwbwl?
 
(1, 0) 126 Ond y mae'n rhaid i'r dorf weld y fflam cyn y credan' hw.
 
(1, 0) 128 Wel, doedd genny' ddim awgrymo o fflam, 'ta' beth.
 
(1, 0) 130 Fe dorrodd Siân i mewn, a wyddwn i ddim ble ar y ddaear oeddwn i.
 
(1, 0) 132 Pam na fuaset ti'n dweud rhyw linell o'r ddrama 'te?
(1, 0) 133 Chlywais i erioed mo'r geiriau yna o'r blaen.
 
(1, 0) 155 'Wn i ddim, os nad y dyn sy'n gofalu amdano.
(1, 0) 156 'Dyw e'n deall dim o'r ddrama─Sais yw 'e...
(1, 0) 157 'Ches i ddim mwy o ollyngdod erioed na'i weld e'n dod lawr, 'ta beth,
 
(1, 0) 205 Trueni hefyd, a thithau wedi mynd i'r holl drafferth!
 
(1, 0) 207 Efallai nad â dy waith di'n ofer i gyd.
(1, 0) 208 Wrth gwrs, 'fyddi di ddim yn edrych cystal yn y llwyd olau ag o flaen y footlights," yn enwedig pan fo "make-up" yn gymaint o help.
(1, 0) 209 Ond, dere di, fe gei di ddeng munud fach gydag 'e cyn inni fynd 'nôl, os nad yw Neli wedi cael gafael arno.
 
(1, 0) 211 'Synnwn i fawr, Gwen fach.
(1, 0) 212 Mae tipyn o ben ar honna... trip bach am ddim...
(1, 0) 213 Gwen a'i dwylo ynghlwm gyda'r ddrama...
(1, 0) 214 Doedd y gwaith promto yn ddim ond esgus.
 
(1, 0) 220 Ie, ie.
 
(1, 0) 222 Dyna fe.
 
(1, 0) 224 Ydyn' oddi ar pan oedden' hw yn y Col. yn Aber. gyda'i gilydd.
 
(1, 0) 231 Efallai taw dyna'n union beth mae Gwilym yn mo'yn─mae Neli'n damaid bach reit smart.
 
(1, 0) 237 Oes copi o'r ddrama gen' ti, Marged?
 
(1, 0) 239 Paid gadael i'r Capten wybod neu fe fydd hynny'n sen arall arno.
 
(1, 0) 241 'Bwdodd 'e?
 
(1, 0) 246 O, dyw hi ddim cynddrwg, yn enwedig petai hi'n cael chwarae teg, a mae Cwmni Aelwyd Rhyd Wen wedi dechrau arni'n barod─dyna un arwydd dda.
(1, 0) 247 Y peth gwanna' ynddi yw'r olygfa garu rhyngom ni'n dau yn yr ail act.
 
(1, 0) 253 Ble mae dy gopi o'r ddrama, Gwen?
 
(1, 0) 255 Mae'n mynd â'r cwbwl oddi arnat ti heno─cer i chwilio amdano i fì.
 
(1, 0) 258 Dere nawr─falle y bydd yn help i ti ddod o hyd i Gwilym hefyd.
 
(1, 0) 260 O Marged, wyt ti'n mynd i'r llwyfan?
 
(1, 0) 262 Mae 'nghopi i yn y bocs wrth y drws─dere â fe i fi, dyna ferch dda.
 
(1, 0) 265 Wel dyna beth mawr!
(1, 0) 266 Aiff neb i nôl 'y nghopi drama i, a dwy ddim yn rhy siŵr o'r drydedd act chwaith.
 
(1, 0) 268 'Fydda 'i damaid gwell o ofyn i ti te?
 
(1, 0) 273 O Sam, ga'i fenthyg dy gopi di o'r ddrama?
 
(1, 0) 275 Dere bach'an, 'does gen'ti ddim ond rhyw ddwy linell i gyd.
 
(1, 0) 277 Wel, mae nghopi |i| yn bocs wrth y...
 
(1, 0) 279 On'd oes pobol ddilês yn y byd!
 
(1, 0) 288 Os cei di afael ar Gwilym, synnwn i fawr na chei di afael ar y copi hefyd.
 
(1, 0) 291 Clymwch hi.
 
(1, 0) 314 Mr. James bach!
(1, 0) 315 Petaech chi'n gwybod y cyfan, fe wnai blot drama heb 'i ail i chi.
 
(1, 0) 317 Fe 'allan' hw'u dwy egluro'n llawer gwell na mi.
 
(1, 0) 450 Mae nhw'n hoffi rhywbeth fel 'na lawer yn well na'r ddrama 'i hunan.
 
(1, 0) 455 Mae'n gallu bod yn eitha' hen sgram fach pan fynn hi.
 
(1, 0) 505 'Fu dim galw am air Cymraeg amdano yn ein cwmni ni.
(1, 0) 506 'Doedd neb yn barod i gymryd y gwaith a dim pwrpas bathu un wedyn.
 
(1, 0) 531 Wrth gwrs mae Mr. James wedi gwneud patent o'r syniad neu fe fydd yn torri mâs fel y frech ymhlith yr hen awduron.
 
(1, 0) 543 Ydy' e wedi gostwng rhywfaint ar y draul neu'n gwneud y gwaith am ddim?
 
(1, 0) 574 Os yw hwnna'n mynd i glebran yn hir fe gollwn ni'r tram ola' o'r dre.
 
(1, 0) 592 Trueni na chawsai fynd ar y llwyfan fel 'na.
 
(1, 0) 594 Helo!
(1, 0) 595 Dyma meiledi wedi dod nôl.
 
(1, 0) 597 'Dŷm ni ddim wedi cwpla'r ail eto.
 
(1, 0) 599 Yn glanhau Sam.
(1, 0) 600 Gwell i ti fynd i dy le ar unwaith cyn y daw e'n ôl.
 
(1, 0) 616 Gadewch iddi nawr—mae hi wrth 'i gwaith.
 
(1, 0) 620 Peidiwch chi ag ordro ffilm star amboitu.
 
(1, 0) 624 Mae hen ddigon o amser.
 
(1, 0) 630 Dowch ar unwaith, Mr. James—maen' hw am i chi roi pip ar y golau.
 
(1, 0) 668 Dere' mlaen, Gwen.
 
(1, 0) 671 Dere 'mlaen, mae'n hen bryd i ni fynd i mewn!
 
(1, 0) 724 Ble mae Neli?
(1, 0) 725 Pam nad yw hi'n promto?
(1, 0) 726 Mae rhywun i fynd ar y llwyfan.
 
(1, 0) 741 Dewch 'mlan Capten—aros am y'ch entri chi maen' hw.