Ciw-restr

Y Tu Hwnt i'r Llenni

Llinellau gan Sam (Cyfanswm: 49)

 
(1, 0) 23 Sori... fe slipes.
(1, 0) 24 Daio'r dressing gown yma... dyna'r ail waith heno.
 
(1, 0) 75 Beth gaf i wneud â'r rhaglenni?
(1, 0) 76 Mae lot o rai sbâr heb 'u gwerthu.
 
(1, 0) 89 Mae'r boi 'na am wybod shwd gyrten ŷch chi'n mo'yn, Mr. James.
 
(1, 0) 143 'Dŷm ni damed gwell o goethan nawr.
(1, 0) 144 Mae'r peth wedi digwydd, a fe all ddigwydd eto.
(1, 0) 145 Petawn i yn y'ch lle chi, Mr. James, fe newidiwn y lighter 'na am focs o fatshus... fe ellwch ddibynnu ar y rheini.
 
(1, 0) 178 Wel, os ŷch chi'n meddwl parhau gyda'n cwmni ni, Mr. James, 'rwy'n credu y byddai'n llawer gwell i chi ysgrifennu Comedi─mae deunydd Comedi reit dda ynom ni.
 
(1, 0) 195 Beth am y rhaglenni, Mr. James?─mae Miss Puw yn aros.
 
(1, 0) 199 Fe garwn i gael mynd mâs o'r pethach fflimsi hyn ta p'un.
(1, 0) 200 Brr... 'rwy bron â sythu.
(1, 0) 201 Mae'r lle 'ma fel sgubor.
 
(1, 0) 217 Pam oedd eisiau iti son am Gwilym, nawr o bob amser?
(1, 0) 218 Dyna ti wedi 'i chwpla hi am y nos.
 
(1, 0) 227 A Siân yn eilo.
 
(1, 0) 234 Fe wnaf fy ngorau, Marged, ond cofia, mae gen' ti dipyn o gystadleuaeth rhwng Neli a Gwen... a Siân.
 
(1, 0) 272 Fan hyn ŷch chi o hyd, y tacle?
 
(1, 0) 274 'Dwy' ddim yn rhy siŵr o 'mhart.
 
(1, 0) 276 'Dwy'ddim yn mynd i ollwng gafael ar hwn nawr ta' p'un.
 
(1, 0) 278 Cer iddi nôl 'e dy hunan.
 
(1, 0) 282 Fe fyddai'n llawer mwy gweddus i ti fynd i ofalu am rywbeth bach fel 'na dy hunan yn lle taflu'r gwaith i gyd ar ysgwyddau'r hen foi.
(1, 0) 283 'Dwyt ti, Gwen, ddim wedi newid dy wisg?
 
(1, 0) 285 O wel, ddweda'i ddim rhagor.
(1, 0) 286 Oes un ohonoch chi'n gwybod ble mae'r copi oedd gan Neli?
 
(1, 0) 307 'Wela'i ddim byd o'i le yn hynny, ag mae'n rhaid cael rhywun i lanw'r bwlch.
 
(1, 0) 325 Mae dy lond di o wenwyn, Siân.
 
(1, 0) 331 Dyma fe fan hyn, Mr. Price.
(1, 0) 332 Y Parchedig Artemus Price—mae am gael gair â chi, Mr. James.
 
(1, 0) 400 Hm... y tu hwnt i'r llenni y mae'r ddrama i fod, Neli.
 
(1, 0) 402 Ble yn y byd wyt ti wedi bod?
 
(1, 0) 404 Mae pris pert ar dy groen di 'merch i.
(1, 0) 405 Paid gadael iddo dy weld di nes bo'r act nesa wedi dechrau.
(1, 0) 406 Diflannwch i rywle.
 
(1, 0) 413 Llongyfarchiadau, Gwen—fe genaist yn ardderchog.
 
(1, 0) 423 Ble mae bocs y "make up," Mr. James?
 
(1, 0) 425 Gelwch chi 'e beth fynnoch chi.
 
(1, 0) 428 Fe ddaeth rhywun o'r cefn a dweud bod angen tipyn bach o ddu dan fy llygaid i.
 
(1, 0) 434 'Does gen' i ddim amser nawr.
(1, 0) 435 Gofyn i John.
 
(1, 0) 439 Wyt ti'n gwybod pwy fu yma gynneu, Sian?
 
(1, 0) 441 Fe gei di dri chynnig.
 
(1, 0) 443 'Roedd e'n holi amdanat ti, ond fe ddaeth Neli o rywle a'i ddwyn e' bant.
(1, 0) 444 Roedd 'i llygaid hi'n disglerio fel dwy seren fach.
 
(1, 0) 584 Beth sy'n dy gorddi di?
 
(1, 0) 587 Pam?
(1, 0) 588 Dim ond tipyn bach o ddu iddi dangos nhw lan.
 
(1, 0) 744 O daro'r blwmin dressing gown 'ma.
 
(1, 0) 746 O nghoes fach i, 'rwy wedi 'i thorri hi, ydw reit i wala, a finne fodi fynd mewn nawr hefyd!