Ciw-restr

Llwyn Brain

Llinellau gan Jonah (Cyfanswm: 220)

 
(1, 1) 9 "Ai dagr yw hon a welaf o'm blaen, a'i charn tuag ataf?
(1, 1) 10 Aros, gad i mi afael ynot!...
(1, 1) 11 Ond methais dy ddal, ac eto rwy'n dy weld o hyd.
(1, 1) 12 Hunlle farwol─a wyt ti'n bod i'r llygaid yn unig, ac ni ellir dy deimlo?
(1, 1) 13 Ai dagr y dychymyg wyt, rhyw ffug-wrthrych, yn tarddu o'r ymennydd claf?
(1, 1) 14 'Rwy'n dy weld eto, mor eglur dy ffurf â'r ddagr hon a dynnaf o fy wain...
(1, 1) 15 Nid oes beth o'r fath!
(1, 1) 16 Y gorchwyl gwaedlyd sy'n ymrithio hyn o flaen fy ngolwg..."
 
(1, 1) 23 O helo, Mam, wyddwn i ddim eich bod chi yna.
 
(1, 1) 27 Na, mynd drwy fy mhart yn y ddrama roeddwn i.
 
(1, 1) 31 Wel honno ma' cwmni'r pentra'n mynd i berfformio nesa.
(1, 1) 32 Roeddwn i'n meddwl eich bod yn gwybod.
 
(1, 1) 37 Twt, dim o'r fath beth─
 
(1, 1) 40 Y!
 
(1, 1) 44 Dyn annwyl, Mam, am be rydach chi'n siarad, deudwch?
 
(1, 1) 50 Ar fengoch i!
 
(1, 1) 52 Dim ond─
 
(1, 1) 57 Na─o ddifri?
 
(1, 1) 62 Macbeth.
 
(1, 1) 64 Macbeth─wyddoch chi─
 
(1, 1) 66 Un o ddramâu mawr y byd, 'rhen wraig!
 
(1, 1) 68 Pregethwr?
(1, 1) 69 Nac oes debyg iawn─
 
(1, 1) 74 'Rydach chi'n hen ffasiwn, Mam.
(1, 1) 75 Mae'r cymeriadau yna ar lwyfannau Cymru ers oes y coga'.
(1, 1) 76 Ac wedi colli pob ystyr bellach.
(1, 1) 77 Pypedau yn dawnsio ar ben llinyn heb rithyn o fywyd─
 
(1, 1) 79 Ond 'dydach chi ddim yn sylweddoli.
(1, 1) 80 Yr anfarwol William Shakespeare 'sgrifennodd hon!
(1, 1) 81 Y dramodydd mwya' welodd y byd erioed.
(1, 1) 82 Mi dreiddiodd yn ddyfnach i mewn i'r natur ddynol na neb o'i flaen nac ar ei ôl.
 
(1, 1) 84 Roedd calon ac enaid dyn fel llyfr agored o'i flaen.
(1, 1) 85 Gwelodd y drygioni a'r pechod sy'n gymysg â'r rhinweddau ym mhob un ohonom.
(1, 1) 86 Ac yr oedd barddoniaeth yn byrlymu ohono fel ffynnon ddihysbydd.
(1, 1) 87 Mi ydw i'n dweud wrthych chi, Mam, mae'r cymeriadau sydd yn ei waith yn gig a gwaed fel chi a finna.
 
(1, 1) 89 Dyna'r hen ragfarn sy' wedi bod fel mwgwd am ein llygaid ni, Mam.
(1, 1) 90 Mae'n hen bryd ei daflu o i ffwrdd.
(1, 1) 91 Dyna pam 'rydw i am fentro rhoi Macbeth ar y llwyfan─yn Gymraeg deallwch chi.
(1, 1) 92 A doed a ddelo, mi ddalia i ati efo 'nghwmni bach.
 
(1, 1) 95 Mi gewch chi weld peth arall!
 
(1, 1) 99 Mam bach, does yna ddim symud arnoch chi!
 
(1, 1) 105 Be sy'n bod, Margiad?
 
(1, 1) 107 Naddo 'neno'r tad!
 
(1, 1) 110 Diogi?
(1, 1) 111 Ha!
(1, 1) 112 Mi ydw i wedi chwysu mwy dros y ddrama yma nag a wnes i 'rioed.
(1, 1) 113 Cofia 'mod i wedi ei chyfieithu hi hefyd─
 
(1, 1) 122 Yli, Margiad, paid â thafodi gymaint da chdi.
(1, 1) 123 'Rwyt ti'n gwastraffu dy egni wrth siarad.
(1, 1) 124 Dim ond dau air sydd eisio, "Jonah─siop." a dyna'r cwbwl drosodd.
(1, 1) 125 Wn i ddim pam mae eisio gwneud consart o bob mymrun lleia.
 
(1, 1) 127 Twt, dydach chi ddim yn fy neall i.
(1, 1) 128 Does yna neb yn fy neall i.
(1, 1) 129 Dyna drasiedi pob llenor ac artist erioed─cael ei fygu gan bethau dibwys, materol.
 
(1, 1) 131 O wel, dyna'r drefn!
(1, 1) 132 Rhaid mynd at y cwsmar.
 
(1, 1) 135 O wel, dyna fo felly...
(1, 1) 136 Pwy oedd o?
 
(1, 1) 140 Margiad bach, be ydi crys gwlanan wrth ochor Macbeth?
 
(1, 1) 143 Ia, ond "nid ar fara'n unig"─ac yn y blaen, cofiwch chi, Mam!
 
(1, 1) 150 Ond hanner munud, Mam─
 
(1, 1) 166 Debyg iawn.
(1, 1) 167 Mae o'n beth hollol naturiol!
(1, 1) 168 Run fath â chael dannedd.
(1, 1) 169 Rhan o'i dyfiant o.
 
(1, 1) 176 Yli, Margiad, dydi hynna ddim yn wir.
(1, 1) 177 Chymera' i ddim pob cyhuddiad ar draws fy nannedd chwaith.
(1, 1) 178 Y ddrama ydi fy myd i, 'rwyn cyfadda.
(1, 1) 179 A does gen i ddim cywilydd o hynny chwaith.
(1, 1) 180 Ma' hi wedi mynd os na chaiff dyn ymddiddori mewn llenyddiaeth ar ei gora, heb gael ei gyhuddo o fod yn ddihiryn calon galed.
 
(1, 1) 185 O paid â rwdlian yn wirion da chdi!
(1, 1) 186 Mae busnas yn mynd yn llai bob blwyddyn yr amser yma.
(1, 1) 187 Dim ond cyfnod rhwng dau dymor ydi o.
(1, 1) 188 Mi fyddwn yn dechra pigo i fyny eto gyda hyn.
(1, 1) 189 Aros i'r hen Ddoctor Parry ddwad i mewn i brynu trôns hir.
(1, 1) 190 Hwnnw ydi'r arwydd bod y Gaea wedi landio.
(1, 1) 191 Mi fyddwn yn gwerthu fel slecs wedyn.
 
(1, 1) 193 O, dyna hi eto!
(1, 1) 194 Ffaith amdani, Margiad, 'dwyt ti ddim yn hapus os nad oes gen ti wyneb hir.
(1, 1) 195 Os nad ydio'r peth yma mae o'r peth arall.
(1, 1) 196 Mae yna rai pobol felly─fedra' nhw yn eu byw beidio cwyno.
 
(1, 1) 203 Yli, dos i nôl dillad i chdi dy hun o dy gorun i dy sowdwl.
(1, 1) 204 A dos i gyrlio dy wallt hefyd i'r fargan.
(1, 1) 205 Gwna fel fyd a fynnot ti ond da chdi, tria sirioli dipyn!
(1, 1) 206 Ma' hi fel cynhebrwng parhaus yma.
 
(1, 1) 208 Wel fi, debyg iawn.
 
(1, 1) 210 Nefoedd fawr─hanner cant?
 
(1, 1) 212 O'r gora, dyna fo!
(1, 1) 213 Os oes rhaid eu cael nhw 'does yma ddim diben mewn dadla.
 
(1, 1) 215 Wel be?
 
(1, 1) 217 Dos i ordro be sydd arnat ti eisio.
(1, 1) 218 Dwad wrth Lloyd am ei roi o i lawr ar fy nghownt i.
 
(1, 1) 223 Wel be aflwydd sydd o'i le ynddo fo?
(1, 1) 224 Dyn busnas ydi Lloyd fel finna.
(1, 1) 225 Mi fydd o'n siwr o'i arian cyn diwedd y flwyddyn.
 
(1, 1) 230 Wel tawn i'n glem!
 
(1, 1) 255 Wyddost ti be', Margiad, 'rwyt ti'n swnio fel 'tae ti'n wraig weddw wedi brwydro'i hunan bach dros ei phlant!
(1, 1) 256 Ple 'rydw i'n dwad i mewn?
(1, 1) 257 Paid â chymryd y clod i gyd da chdi!
 
(1, 1) 262 Myn diain, dyna'r ora eto!
(1, 1) 263 Gan bwy gafodd Dilys ei dychymyg byw, a'i chariad at lenyddiaeth a diddordebau'r meddwl?
 
(1, 1) 265 'Does dim rhaid iddi fod cywilydd o hynny.
(1, 1) 266 O freuddwydion mae petha' gora'r byd yma wedi tarddu.
 
(1, 1) 268 Mae'n rhaid i ddyn godi ei olwg i'r bryniau a'r cymylau.
(1, 1) 269 Yno mae'r gwir brydferthwch, nid yn y llwch sydd odan ei draed.
(1, 1) 270 Rhaid ymestyn allan tuag at y sêr, ac ymysgwyd yn rhydd oddi wrth faglau'r byd a'i bethau.
(1, 1) 271 Y sêr, ia!
(1, 1) 272 Fedar dyn byth ymaflyd ynddyn nhw─ma' nhw bob amser y tu hwnt i'w gyrraedd.
(1, 1) 273 Ond mi fedar ymestyn─mae'n rhaid iddo fo ymestyn ne wywo fel deilen grin.
(1, 1) 274 Ac yn yr ymdrech yna y mae antur bywyd─dyna sydd yn gwneud bywyd yn werth ei fyw!
 
(1, 1) 277 Wel!
 
(1, 1) 280 Am fyd y dychymyg, Mam.
(1, 1) 281 Hwyrach nad ydach chi ddim yn fy neall i.
(1, 1) 282 Ond mae Dilys yn deall, o ydi!
(1, 1) 283 Ac i mi ma' hi i ddiolch am hynny.
(1, 1) 284 Gyda phob parchedig barch, Margiad annwyl, does gen ti ddim mwy o ddychymyg na chwningan!
 
(1, 1) 286 Mae o'n wir, Margiad.
(1, 1) 287 Paid â meddwl mod i'n gweld bai arnat ti.
(1, 1) 288 Does gen ti ddim help.
(1, 1) 289 Mae'n rhaid cael pobol 'run fath â chdi, hefyd, i fynd â'r byd yn ei flaen.
(1, 1) 290 Pobol sy'n gofalu am betha bach bob dydd.
(1, 1) 291 A ma' rheiny'n anrhaethol bwysig wrth gwrs.
(1, 1) 292 Ond da chdi, paid â hawlio'r clod i gyd.
 
(1, 1) 298 Y!
(1, 1) 299 Am be 'rydach chi'n sôn?
 
(1, 1) 301 Wel?
 
(1, 1) 303 Mi fydd gen i glec bach reit ddel erbyn hynny, rhen wraig, peidiwch â phoeni.
 
(1, 1) 305 Ia, Margiad, 'rwyt ti'n edrach yn syn!
(1, 1) 306 A newydd ddweud nad ydi fy nau droed i byth ar y ddaear!
 
(1, 1) 308 Hidia di befo, 'rhen chwaer.
(1, 1) 309 Mi gei di weld gyda hyn.
(1, 1) 310 Dydi'r ffaith bod dyn yn ymddiddori mewn drama ddim yn ei nadu o gadw'i lygaid ar y geiniog.
(1, 1) 311 'Roedd William Shakespeare yn ddyn busnas llwyddiannus a 'run pryd y bardd mwya' welodd y byd erioed.
 
(1, 1) 314 Yn f'amser fy hun, Margiad bach, dim cynt.
(1, 1) 315 Ond mi fydd hi'n reit daclus arno ni cyn bo hir, mi fedra i dy sicrhau di o hynny.
(1, 1) 316 A fydd gen ti ddim achos cwyno am brinder dillad chwaith!
 
(1, 1) 333 Y?
 
(1, 1) 336 O ia,reit.
 
(1, 1) 338 "Dwbwl, dwbwl boen a thrwbwl, llosged tân i ferwi'r cwbwl."
 
(1, 1) 341 O! helo, Dicw, chdi sydd yna?
(1, 1) 342 Tyrd drwodd am funud...
(1, 1) 343 Na, does yna neb yma ond rhen wraig fy mam... mae gen i eisio gair efo ti.
 
(1, 1) 346 Dim o gwbwl, tyrd i mewn.
 
(1, 1) 351 Eistedd i lawr am funud, Dicw.
 
(1, 1) 354 Twt, mi fedri sbario eiliad ne' ddau.
 
(1, 1) 356 Wel oes gen ti ryw newydd?
 
(1, 1) 363 Oes arnat ti eisio fy ngweld i'n brifat, Dicw?
 
(1, 1) 375 Popeth yn iawn, 'rhen wraig, popeth yn iawn.
 
(1, 1) 379 Merchaid!
(1, 1) 380 Merchaid!
(1, 1) 381 Ma' nhw'n achos mwy o loes i ddyn na holl bwysa'r byd yn gyfan.
 
(1, 1) 383 Dydi hynna fawr o gysur i mi rwan.
 
(1, 1) 387 Ia, 'rwyt ti'n llygad dy le.
(1, 1) 388 Ond tyrd, beth oedd gen ti i ddweud?
 
(1, 1) 390 Be!
(1, 1) 391 Ar fengoch i, un peth ar ôl y llall!
(1, 1) 392 A'r ddrama wedi mynd mor bell.
(1, 1) 393 Be' ar y ddaear fawr wnawn ni rwan?
 
(1, 1) 396 Tria fod dipyn mwy calonnog, da chdi!
(1, 1) 397 Beth ydi'r mater arno fo?
 
(1, 1) 399 O wel, dydi hynny ddim mor ddrwg.
(1, 1) 400 Ma' nhw ar eu traed ymhen rhyw dri diwrnod ar ôl y gyllell.
(1, 1) 401 A does ganddo fo ddim part mawr iawn.
(1, 1) 402 Ond fedar neb actio'r Porthor yn Macbeth yn debyg i Harri.
(1, 1) 403 Na, dydi hi ddim mor ddrwg wedi'r cyfan.
(1, 1) 404 Ond mi roist ti andros o sioc i mi am funud─do 'tawn i'n glem!
 
(1, 1) 406 Yr arswyd fawr, 'rwyt ti'n waeth na chysurwyr Job!
(1, 1) 407 Pam na fuaset ti'n dweud y cwbwl y tro cyntaf?
 
(1, 1) 409 A throi'r gyllel yn y briw bob tro!
(1, 1) 410 Dyna ddiwedd arni felly.
(1, 1) 411 Mi ydw i wedi ofni peth fel hyn ar hyd y bedlan!...
(1, 1) 412 Niwmonia─wyt ti'n siwr?
 
(1, 1) 416 Harri druan─y mwyaf eiddgar o'r cwmni bach i gyd!
(1, 1) 417 Ac wedi edrych ymlaen gymaint ar y perfformiad.
(1, 1) 418 Mi fuasa'n cropian o'r 'sbyty tae o'n medru rhywsut─i'n helpu ni.
(1, 1) 419 Wn i ddim beth i wneud rwan.
(1, 1) 420 Fedra i feddwl am neb i gymryd ei le fo.
 
(1, 1) 422 Pwy aflwydd sydd yna rwan tybed?
 
(1, 1) 425 O helo, Alun,─chdi sydd yna?
(1, 1) 426 Tyrd i mewn.
 
(1, 1) 428 Na na, dim o gwbwl.
(1, 1) 429 Eistedd i lawr.
 
(1, 1) 431 O ia.
(1, 1) 432 Heb gyrraedd o'r ysgol ma' hi.
(1, 1) 433 Fydd hi ddim yn hir...
(1, 1) 434 Wn i ddim ydach chi'n nabod eich gilydd?
(1, 1) 435 Alun Morus, hen ffrind i Dilys yma...
(1, 1) 436 Dicw, saer-llwyfan y cwmni─
 
(1, 1) 454 Na, 'r wyt ti wedi gwneud yn o dda'n barod 'laswn i feddwl!
 
(1, 1) 460 P'nawn da, Dicw.
 
(1, 1) 465 Fedra petha fod dim gwaeth, Alun.
(1, 1) 466 Newydd glywed fod Harri Huws wedi cael ei daro'n wael.
 
(1, 1) 470 Go brin, mae arna i ofn.
(1, 1) 471 Mi ydw i'n methu dyfalu be'i wneud.
(1, 1) 472 A 'does ganddo ni fawr o amser.
 
(1, 1) 477 Nac ydi─ond ei fod o'n hanfodol bwysig.
(1, 1) 478 Y Porthor wyddost ti.
 
(1, 1) 480 Ei dorri o allan!
(1, 1) 481 Dim posib.
(1, 1) 482 Macbeth heb y porthor?
(1, 1) 483 Mi fuasa'n halogiad o un o gampweithia' llenyddiaeth y byd!
 
(1, 1) 485 Dyna i ti gyffyrddiad y Meistr.
(1, 1) 486 Y Porthor yn baldorddi'n wamal wrth y drws, yng nghanol yr awyrgylch du, trychinebus.
(1, 1) 487 Cyferbyniad, wyt ti'n gweld─rhyw ias o ddoniolwch yng nghanol trasiedi, i ddwyshau'r trallod a'r galar.
(1, 1) 488 Na, mae'r Porthor yn rhan hanfodol o wead y Ddrama.
(1, 1) 489 Fedrir mo'i hepgor o byth.
 
(1, 1) 491 Ydi, Alun.
(1, 1) 492 Ar ôl y llafurio caled a'r brwdfrydedd i gyd.
(1, 1) 493 Mae o'n siomiant chwerw iawn i mi.
 
(1, 1) 495 Pendics a niwmonia 'rydw i'n deall.
 
(1, 1) 497 Ymhen rhyw 'chydig dros dair wythnos.
 
(1, 1) 500 Be'─wyt ti'n meddwl?
 
(1, 1) 505 Wyddost ti be, rydw i'n credu dy fod ti'n iawn!
(1, 1) 506 A mi wnaiff Harri ei ora i wella, mi ydw i'n gwybod hynny.
(1, 1) 507 'Rwyt ti wedi rhoi gobaith newydd i mi, Alun!
(1, 1) 508 Goleuni yng nghanol y tywyllwch, megis.
(1, 1) 509 A finna wedi digalonni'n lân.
(1, 1) 510 Ond ar ôl ein hymdrechion i gyd, ma' hi'n anodd credu y buasa Ffawd yn gwneud tric mor sâl â hynna efo ni, yn tydi?
(1, 1) 511 I fyny fo'r nod felly, a phob llwyddiant, gobeithio!
 
(1, 1) 518 Be!