Ciw-restr

Llywelyn, Ein Llyw Olaf

Llinellau gan Elen (Cyfanswm: 48)

 
(1, 4) 197 O Gwen fach! Dyma newydd drwg.
 
(1, 4) 199 Yr wyf newydd gael llythyr oddiwrth fy nhad, yn yr hwn y dywed fod pethau yn tywyllu eto yn Nghymru.
(1, 4) 200 Mae Dafydd, brawd y Tywysog, a phenaeth dylanwadol o'r enw Griffith ap Gwenwynwyn, wedi myned i lys brenin Lloegr, a bydd byddin gref o Saeson yn cychwyn yn fuan i'w cynorthwyo i ymosod ar y Tywysog.
 
(1, 4) 203 Ond mae Meredith ap Owen wedi marw, ac ofna fy nhad y try penaethiaid y Deheudir yn erbyn y Tywysog bellach.
 
(1, 4) 210 Taw!
(1, 4) 211 Tydi yn Gymraes yn son am i mi fod yn anffyddlawn i Llewelyn!
 
(1, 4) 219 Pe credwn ei fod ef yn anffyddlon, torai fy nghalon!
(1, 4) 220 Ond na!
(1, 4) 221 Chredaf fi byth y fath beth am dano—y ffyddlonaf, y dewraf o ddynion!
(1, 4) 222 Ac am ba beth yr wylaf?
(1, 4) 223 Mae y dagrau hyn yn annheilwng o gariadferch Llewelyn!
(1, 4) 224 Estyn y delyn i mi.
 
(1, 4) 227 Os tywyll imi ydyw'r wybren,
(1, 4) 228 Os gwgu arnaf y mae fiawd,
(1, 4) 229 Daw eto'n well, fe wena'r heulwen
(1, 4) 230 A chyfyd calon Elen dlawd.
(1, 4) 231 Ni thal im' grio chwaith na becso,
(1, 4) 232 Nac i wylo dagrau ffol,
(1, 4) 233 Os byw yw ef, os rhwydd-deb gaffo
(1, 4) 234 Fe ddaw Llewelyn eto'n ol.
(1, 4) 235 ~
(1, 4) 236 Beth os lluosog ydyw'r Saeson
(1, 4) 237 Ac os creulawn ydyw'r cleddf
(1, 4) 238 Mi wn am un sy'n ddewr ei galon
(1, 4) 239 Ac a fydd ffyddlon hyd ei fedd.
(1, 4) 240 Ei fraich sydd gref, ei wên sydd lawen,
(1, 4) 241 A llechu eto gaf yn ei gol,
(1, 4) 242 Tra bydd hi byw, fe greda Elen
(1, 4) 243 Y daw Llewelyn eto'n ol!
 
(1, 4) 263 Ust!
(1, 4) 264 Gwen!
(1, 4) 265 Tybiais y clywais swn cerddediad.
(1, 4) 266 A dyna grwth.
(1, 4) 267 Mae rhyw fardd am roi nosgan i ti.
 
(1, 4) 288 Gallwn gymeryd fy llw mai Llewelyn ydyw.
(1, 4) 289 Cawn weled yn y man.
 
(1, 4) 291 Pwy yma sydd yn eofn ei lais
(1, 4) 292 Pa gais sydd genyt grythwr,
(1, 4) 293 Dy fod fel hyn, yn dod yn hyf
(1, 4) 294 At gastell cryf boneddwr?
 
(1, 4) 306 Nis dof er mwyn coronau heirdd,
(1, 4) 307 Na molawd beirdd yn gytun,
(1, 4) 308 Nid ydyw gwychder imi'n swyn─
 
(1, 4) 311 Ond dof er mwyn Llewelyn!
 
(1, 4) 315 Ie, diolch fo i Dduw am ganiatau symud ymaith y cymylau bygythiol.
(1, 4) 316 Pan glywais y newyddion am y trafferthion yn Nghymru, bum yn pryderu am danat, ond yn awr—
 
(1, 4) 343 Mae gan y tywysog newyddion da O Gymru, Gwen.
(1, 4) 344 Mae wedi gwneyd heddwch a'r brenin, ac wedi cael ei sicrhau yn ei Dywysogaeth.