Ciw-restr

Llywelyn, Ein Llyw Olaf

Llinellau gan Griffith (Cyfanswm: 35)

 
(1, 2) 119 Mae wedi myn'd yn amser rhyfedd iawn yn Nghymru pan droir ffwrdd fel cwn benaethiaid uchaf fedd y wlad o ddrws yr hwn a eilw'i hun yn Dywysog!
(1, 2) 120 Pa beth, ysywaeth, ydyw Llewelyn y rhaid iddo ddiystyru ei gydradd fel hyn?
(1, 2) 121 Ei gydradd?
(1, 2) 122 le, ei well yn wir!
(1, 2) 123 Mae llinach Griffith ap Gwenwynwyn yn bur heb yr un croes, tra nas gall y Llewelyn hwn fyned ddwy âch yn ol heb doriad anghyfreithlawn.
(1, 2) 124 Os gallaf fi caiff eto edifaru am wrthod derbyniad i un o brif benaethiad Cymru.
(1, 2) 125 Os gwrthyd ef, fe dderbyn Brenin LLoegr.
(1, 2) 126 Ust!
(1, 2) 127 Pwy yw hwn?
(1, 2) 128 Ai Dafydd ydyw?
(1, 2) 129 Nid yw'n bosibl!
(1, 2) 130 Eto efe ydyw.
 
(1, 2) 132 Holo!
(1, 2) 133 Y Tywysog Dafydd!
(1, 2) 134 Boreu da.
(1, 2) 135 Maen llon genyf eich cyfarfod a'ch llongyfarch ar eich rhyddhad o'r carchar.
 
(1, 2) 138 Ie.
(1, 2) 139 Griffith ydwyf.
(1, 2) 140 Da genyf weled fod y rhwyg rhyngoch a'r Tywysog wedi ei chyfanu.
(1, 2) 141 Cymerodd chwi i'w fynwes yn gynes fel brawd yn ddiamheu.
 
(1, 2) 144 A yw yn bosibl?
 
(1, 2) 147 Mae'n anhawdd genyf gredu!
(1, 2) 148 A chwithau'n Dywysog nesaf ato ef ei hun mewn hawl, ac uwch nag ef yn serch y wlad!
(1, 2) 149 Mae hyn yn sarhad ar Gymru a'i phenaethiaid!
 
(1, 2) 152 Am ba achos tybed?
(1, 2) 153 Cywilydd!
(1, 2) 154 Iti y dewraf o feibion Cymru!
(1, 2) 155 Tyred gyda mi.
(1, 2) 156 Dyfeisiwn ffordd i ddial arno am y sarhad yma.
 
(1, 2) 158 Brawd yn wir! Gelyn yn hytrach.
(1, 2) 159 Tebygol nad yw ond am gael cyfle i'th osod o'r neilldu yn ddirgel.
(1, 2) 160 Nis beiddiai dy ladd yn y carchar; daethai'r byd i wybod.
(1, 2) 161 Ond yn awr esgusa dy ryddhau, fel gallo o bosibl dy lofruddio yn ddirgel.
(1, 2) 162 Mae dy fywyd mewn perygl!
(1, 2) 163 Tyred gyda mi.