Ciw-restr

Macbeth

Llinellau gan Macbeth (Cyfanswm: 34)

 
(1, 3) 99 Ni welais i erioed ddydd mor arw ac mor deg.
 
(1, 3) 106 Lleferwch, os medrwch, pa beth ydych chwi?
(1, 3) 107 Y Ddewines gyntaf:
(1, 3) 108 Henffych, Macbeth! henffych, bendefig Glamis!
 
(1, 3) 122 Arhoswch, chwi a'r amherffaith lafar, dywedwch i mi ragor.
(1, 3) 123 Drwy farw Sinel (fy nhad), mi wn fy mod yn arglwydd Glamis.
(1, 3) 124 Ond arglwydd Cawdor?
(1, 3) 125 Y mae pendefig Cawdor eto'n fyw, yn wrda ffyniannus; a bod yn frenin, ni saif hynny ddim y tu mewn i gylch crediniaeth, mwy nag y saif fy nyfod yn arglwydd Cawdor.
(1, 3) 126 Dywedwch o ba le y mae'r wybodaeth ryfedd hon i chwi, neu baham, ar y rhos melltigaid hwn, yr ydych yn ein hatal ar ein hynt â'r fath air darogan?
(1, 3) 127 Tynghedaf chwi, llefarwch!
 
(1, 3) 131 I'r awyr, y mae'r hyn oedd megis sylwedd wedi toddi i'r gwynt.
(1, 3) 132 Mynaswn ped arosasent!
 
(1, 3) 134 Bydd eich plant chwi'n frenhinoedd.
 
(1, 3) 136 A phendefig Cawdor hefyd, onid e?
 
(1, 3) 147 Mae Arglwydd Cawdor eto'n fyw, paham yr ydych yn fy ngwisgo â dillad benthyg?
 
(1, 3) 152 Glamis, ac Arglwydd Cawdor!
(1, 3) 153 Y mae'r peth mwyaf eto'n ol.—
(1, 3) 154 Diolch i chwi am eich trafferth.—
(1, 3) 155 Onid ydych yn gobeithio y bydd eich plant chwi'n frenhinoedd, am nad addawyd iddynt lai gan y rhai a roes i mi arglwyddiaeth Cawdor?
 
(1, 3) 160 Dyma ddywedyd dau wir, fel hapus rag-chware i chware mawr yr ymherodrol bwnc.—Diolch i chwi, foneddigion.—
 
(1, 3) 162 Ni ddichon y gwahodd goruchnaturiol hwn, fod yn ddrwg nac yn dda: os drwg, paham y rhoes i mi ernes o lwyddiant, yn dechreu gyda gwir?
(1, 3) 163 Yr wyf yn Arglwydd Cawdor.
(1, 3) 164 Os da, paham yr wyf yn ildio i'r awgrym y mae ei erchyll lun yn codi 'ngwallt, ac yn peri i'm calon guro yn erbyn f'asennau, yn groes i arfer natur?
(1, 3) 165 Y mae ofnau presennol yn llai nag erch ddychmygion;
(1, 3) 166 y mae fy meddwl, nad yw'r mwrdwr ynddo eto namyn rhyw ledrith, yn f'ysgwyd gymaint fel y mae ofer dyb yn mygu gallu gweithred, a dim nid oes namyn nad yw.
 
(1, 3) 169 Os myn siawns fy ngwneuthur i'n frenin, dioer, coroned siawns fi, heb i mi mo'r symud.
 
(1, 3) 172 Doed a ddel.
(1, 3) 173 Y mae'r amser a'r awr yn rhedeg drwy y dydd garwaf.
 
(1, 3) 175 Rhowch i mi eich ffafr, yr oedd pethau anghofiedig yn moedro f'ymennydd dwl.
(1, 3) 176 Garedig foneddigion, y mae eich poenau erof i lawr lle trof y ddalen bob rhyw ddydd i'w ddarllen.
(1, 3) 177 Awn tuagat y Brenin.
(1, 3) 178 Meddyliwch am a ddamweiniodd, a phan gaffom amgen hamdden, wedi y bo i'r ysbaid bwyso'r peth, gadawer ini ymddiddan y naill a'r llall yn galon rydd.
 
(1, 3) 180 Digoned hyn hyd hynny.
(1, 3) 181 Dowch, gyfeillion.